Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Cymuned yw’r man cychwyn
Rydym yn ariannu prosiectau cymunedol sy’n helpu pobl i gysylltu, tyfu ac adeiladu dyfodol gwell. Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sy’n wynebu tlodi, anfantais neu wahaniaethu. Erbyn 2030, byddwn yn rhannu dros £4 biliwn i greu cymunedau cryfach a thecach ledled y DU.
Darllen ein strategaeth.
Ein 4 nod a arweinir gan y gymuned
Mae cymunedau cryfach yn creu dyfodol mwy disglair, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiectau gwych a arweinir gan bobl leol. Dyma’r nodau a arweinir gan y gymuned a fydd yn ein helpu ni i adeiladu cymdeithas fwy caredig ac iach.
Cymunedau yn dod ynghyd
Dysgwch am y manteision y gobeithiwn eu gweld pan fydd cymunedau yn meithrin cysylltiadau, yn lleihau unigrwydd ac yn creu gofodau lle mae croeso i bawb.
Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
Edrychwch ar y newidiadau cadarnhaol rydym am i brosiectau eu cyflawni i fabanod, plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu, cysylltu ac adeiladu dyfodol mwy disglair.
Cymunedau yn iachach
Dysgwch am y gwelliannau rydym am eu gweld mewn lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, a sut y gall prosiectau helpu cymunedau i fyw bywydau iachach.
Mae cymunedau'n gynaliadwy o ran yr amgylchedd
Archwiliwch y canlyniadau rydym am eu gweld gan brosiectau sy’n diogelu natur, lleihau niwed i’r amgylchedd ac yn helpu cymunedau i ymateb i newid hinsawdd.
Eich taith ariannu
O’ch syniad i’ch ffurflen gais, i ddechrau ar eich prosiect sy’n cael ei ariannu.
Paratoi i wneud cais
Dewch o hyd i ganllawiau clir ac ymarferol i’ch helpu i gael cymorth ac i gwblhau ceisiadau am gyllid yn hyderus. Cael yr help sydd ei angen arnoch i wneud cais yn llwyddiannus.
Rhaglenni ariannu
Pori drwy ein holl raglenni ariannu mewn un lle. Hidlo’r rhestr yn ôl meini prawf allweddol i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi.
Rheoli eich grant
Am gymorth manwl i’ch helpu chi i reoli eich grant. Dysgwch sut i adrodd ar gynnydd, hyrwyddo eich gwaith, a gwneud y mwyaf o’ch grant.