
Gwaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Arian y Loteri Genedlaethol
Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer achosion da.
Mae pobl yn defnyddio'r arian hwn i wneud pethau anhygoel, gan arwain ar wella'u bywydau a'u cymunedau. Rydych yn gwneud i hwn ddigwydd bob tro y byddwch yn prynu tocyn Loteri Genedlaethol.
Daw cymunedau mewn pob math a maint, ac mae arian gan y Loteri Genedlaethol ar gael i bawb.
Mae 12 corff sy'n dosbarthu'r arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n ariannu prosiectau a gweithgareddau sy'n trawsnewid cymunedau, diogelu ein treftadaeth, ac yn cyfoethogi bywydau trwy'r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant.

Yn 2023/24, fe ddyfarnom dros £686 miliwn.

Yn 2023/2024 fe wnaethom ariannu prosiect cymunedol bob 8 munud