Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl dros fynediad i chi i wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae unrhyw wybodaeth a ddelir gennym yn gymwys i gael ei rhyddhau, ond mae angen cadw rhai darnau o wybodaeth yn gyfrinachol. Gallwn wrthod cais dim ond os:
- nad oes gennym yr wybodaeth
- daw'r wybodaeth o dan un o'r eithriadau a ddisgrifir yn y Ddeddf, ac os felly byddwn yn esbonio yn ein hymateb pa eithriad sy'n berthnasol yn ein barn ni
- bydd yn costio mwy na £450 i ddod o hyd i, a chael gafael ar, yr wybodaeth rydych wedi gofyn amdani
- yw'r cais yn afresymol iawn o fewn set o feini prawf a ddefnyddiwn i ddiffinio hyn.
Mae mwy o wybodaeth am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gan gynnwys i bwy mae'r Ddeddf yn berthnasol, pa wybodaeth y gallwch ofyn amdani, sut y gallwch ofyn amdani a sut y caiff eich cais ei drin, ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth a gwefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Sut i ofyn am wybodaeth gennym ni
Mae llawer o'r wybodaeth a ddelir gennym eisoes ar gael i chi. Cyn i chi wneud cais swyddogol dylech:
- chwilio ein gwefan am yr wybodaeth
- gwirio cynllun cyhoeddiadau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Os hoffech ofyn am wybodaeth, anfonwch e-bost i ymholiadau.cymru@cronfagymunedolylg.org.uk. Mae'n rhaid i'ch cais ddatgan eich enw llawn, a byddai'n ddefnyddiol iawn petai modd i chi roi cymaint o fanylder â phosib am yr wybodaeth rydych yn chwilio amdani. Os nad ydych yn siŵr pa wybodaeth a ddelir gennym ar bwnc penodol, byddwn yn falch o gynnig cyngor a chymorth pellach i chi. Byddwn yn cydnabod eich cais ac mae'n rhaid i ni ddarparu ateb cyflawn o fewn 20 niwrnod gwaith.
Os ydych wedi gofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â thrydydd parti mae'n bosib y bydd angen i ni ymgynghori â'r cyfryw bartïon i benderfynu p'un a ellir rhyddhau'r wybodaeth ai beidio. Wrth ymgynghori â thrydydd partïon, bydd hunaniaeth y sawl sy'n gofyn am wybodaeth yn parhau'n gyfrinachol ac ni chaiff ei datgelu.
Y Cynllun Cyhoeddiadau
Mae'r Ddeddf yn mynnu ein bod yn cynhyrchu. Trwy 'cyhoeddiad', rydym yn golygu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd mewn amrywiaeth o fformatau, er enghraifft adroddiadau ar bapur neu dudalennau gwe.
Mae'r cynllun cyhoeddiadau yn ddogfen sy'n disgrifio'r wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi fel mater o drefn, ble y gallwch ddod o hyd iddi a p'un a ydym yn codi tâl amdani ai beidio. Nid yw'n rhestr o'n cyhoeddiadau: mae'n disgrifio'r mathau o wybodaeth a gyhoeddwn. Mae rhestr lawn o'n cyhoeddiadau ar gael yn adran cyhoeddiadau y wefan hon.
Mae ein cyhoeddiadau ar gael ar gais yn Braille, print bras, tâp sain, Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd cymunedol.
Mae ein cyhoeddiadau ar gael ar gais mewn Braille a phrint bras, ar dâp sain ac mewn ieithoedd cymunedol.
Prosiect Tryloywder
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gweithio'n rhagweithiol
i ddarparu peth gwybodaeth efallai y bydd gennych ddiddordeb ynddi.
- Rhestr o daliadau dros £5000 nad ydynt ar gyfer grantiau a wnaed i gyflenwyr ar gyfer y cyfnod rhwng 01/04/2018 a 31/03/2019
- Rhestr o daliadau dros £5000 nad ydynt ar gyfer grantiau a wnaed i gyflenwyr ar gyfer y cyfnod rhwng 01/04/2017 a 31/03/2018
- Rhestr o daliadau dros £5000 nad ydynt ar gyfer grantiau a wnaed i gyflenwyr ar gyfer y cyfnod rhwng 01/04/2016 a 31/03/2017
- Rhestr o daliadau dros £5000 nad ydynt ar gyfer grantiau a wnaed i gyflenwyr ar gyfer y cyfnod rhwng 01/04/2015 a 31/03/2016
- Set ddata staff lefel uwch Mawrth 2018
- Set ddata staff lefel iau Mawrth 2018
Mwy am Ddiogelu data