Ein hegwyddorion cydraddoldeb
Rydym wedi datblygu’r egwyddorion cydraddoldeb hyn ac yn disgwyl i bawb yr ydym yn gweithio â nhw i’w dilyn:
Hyrwyddo hygyrchedd
Mae hygyrchedd yn ymwneud â darparu gwasanaethau:
• y gall pobl eu defnyddio, heb dreulio gormod o amser na gwario gormod o arian
• sy'n sensitif i ddiwylliannau gwahanol y bobl sy'n eu defnyddio.
Gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol
Mae gan bobl anghenion, credoau, gwerthoedd a galluoedd gwahanol, ac mae angen parchu a hyrwyddo'r gwahaniaethau hynny. Gall meddu ar ddelwedd gyhoeddus amrywiol ein helpu i adeiladu ymddiriedaeth a hyder ymysg y cymunedau amrywiol rydym am eu hariannu, ac mae gweithlu amrywiol yn cynhyrchu cymysgedd mwy cyfoethog o syniadau a doniau. Credwn hefyd ein bod yn fwy effeithlon ac yn effeithiol pan fydd ein strwythurau gwneud penderfyniadau'n adlewyrchu safbwyntiau amrywiol cymdeithas.
Hyrwyddo cymryd rhan
Mae'n rhaid datblygu ein polisïau, prosesau a rhaglenni newydd ar sail gwir angen. Mae hyn yn golygu y dylai'r bobl a fydd yn cael eu heffeithio ganddynt gymryd rhan wrth eu datblygu. Gwyddom fod grwpiau'n bodoli sydd yn draddodiadol wedi cael eu tangynrychioli, felly mae angen i ni gydweithio â'r grwpiau hynny i sefydlu strwythurau a darparu rôl fwy gweithredol ar eu cyfer wrth lunio'r gwaith a wnawn. Trwy hyn bydd modd i ni annog cyfranogiad, naws agored a gonestrwydd.
Hyrwyddo cyfle cyfartal
Rydym yn cydnabod fod gan rai grwpiau brofiadau cyffredin o fynediad gwaeth i gyflogaeth, llai o gyfleoedd hyfforddi a thangynrychiolaeth yn y gweithlu, yn enwedig ar lefel uwch. Ar ben hynny, gwyddwn nad oes gan bob grŵp yr un mynediad i wasanaethau ac y gall eu profiadau o dderbyn gwasanaethau fod yn waeth. Er mwyn i bawb gael cyfle cyfartal, credwn y gall fod angen i ni drin pobl yn wahanol i'w helpu i gael yr un cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd cyflogaeth a gwasanaeth.
Hyrwyddo cymunedau cynhwysol
Mae cymuned gydlynol yn un y mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn iddi, lle maent yn teimlo bod eu bywydau'n cael eu gwerthfawrogi a lle mae pobl sydd â chyfleoedd bywyd tebyg yn datblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol gyda phobl o gefndiroedd gwahanol.
Lleihau anfantais ac eithrio
Rydym yn ariannu mentrau sy'n ymdrin ag achosion anfantais ac eithrio, ac yn targedu ein harian at brosiectau sy'n helpu cynnwys y grwpiau hynny sy’n wynebu'r risg mwyaf. Mae ein dealltwriaeth o'r hyn y mae 'anfantais' ac 'eithrio' yn ei olygu yn ystyried ffactorau megis profiadau pobl o wahaniaethu.