Ariannu yn ystod COVID-19
Rydym yn agored i bob cais sy'n bodloni ein meini prawf, gan gynnwys cymorth yn ystod COVID-19
Gyda pandemig COVID-19 yn dal i fod gyda ni, byddwn yn parhau i gefnogi pobl a chymunedau sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan COVID-19.
Ymgeisio am grantiau o dan £10,000 Ymgeisio am grantiau dros £10,000
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid arbenigol i gyrraedd grwpiau penodol mor sydyn â phosibl. Ac mae gennym wybodaeth i'n deiliaid grant presennol yn ystod COVID-19 hefyd.
Pa fathau o brosiectau gallwn ei ariannu
Gallwn eich cefnogi i:
- barhau i gyflawni gweithgarwch, p'un a ydych yn ymateb i'r argyfwng uniongyrchol neu'n cefnogi gweithgarwch adfer
- newid ac addasu, dod yn fwy gwydn er mwyn ymateb i heriau newydd a heriau'r dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu'r bobl sy'n elwa o'n grantiau
Rydym yn gyfrifol am hyrwyddo lles pob grŵp, a gweithio i'w cadw'n ddiogel. Mae unrhyw un sy'n gwneud cais am ein hanghenion ariannu yn deall ein polisi diogelu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch swyddog ariannu.
Dysg a mewnwelediad ynghylch COVID-19
Rydym yn dwyn ynghyd yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu gan ein deiliaid grant am eu hymateb i bandemig COVID-19.
Ewch i'r dysg a mewnwelediad ynghylch COVID-19 Ewch i'n blog