Swyddi
Pa fuddion sydd ar gael?
Cydnabyddwn fod cadw ein pobl yn hapus ac yn iach yn ein galluogi i fod yn fudiad mwy effeithiol ac yn gwneud Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lle gwell i weithio. Mae'r buddion yn cynnwys:
- Cynllun pensiwn Gwasanaeth Sifil hael
- Gweithio hyblyg
- Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth â thâl
- Absenoldeb gwirfoddoli â thâl
- Benthyciad tocyn tymor
Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym eisiau i bob cymuned gael ei grymuso i ffynnu. Fel cyllidwr cymunedol mwyaf y DU, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol ar gael i bawb, beth bynnag eu cefndir neu brofiad.
Rydym yn cymhwyso egwyddorion Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth ddyfarnu grantiau, ac ar draws y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw, gan anelu at leihau rhwystrau diangen yn ystod pob cam.
Er mwyn bod yn ariannwr credadwy ac effeithiol, mae angen i'n sefydliad gynrychioli ein cymunedau, ein cwsmeriaid a chymdeithas y DU heddiw. Yn ogystal, rydym yn gwerthfawrogi manteision busnes cyflogi pobl dalentog o amrywiaeth o gefndiroedd.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle teg, cydradd a chynhwysol i weithio, lle mae pob cydweithiwr yn cael ymdeimlad o gysylltiad a pherthyn. Mae ein polisïau a’n prosesau yn y gweithle yn canolbwyntio ar bobl, ac rydym yn cynnig arferion gweithio hyblyg, ynghyd ag amrywiaeth o fuddion o’r radd flaenaf.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi llofnodi Siarter ‘Race at Work’ Busnes yn y Gymuned, ac rydym yn cymryd camau ymarferol i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â rhwystrau wrth recriwtio ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Os ydych o gefndir ethnig lleiafrifol, rydym yn croesawu eich cais yn gadarnhaol.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd i bobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog, ac rydym yn rhagweithiol wrth wneud addasiadau rhesymol lle bo angen yn ystod y broses recriwtio. Rydym yn gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer rôl. Cwblhewch y cwestiynau anabledd ar y ffurflen gais i roi gwybod i ni am unrhyw addasiad sydd ei angen arnoch, (er enghraifft, mwy o amser i wneud tasg, trafnidiaeth, offer hygyrch). Os oes angen i ni ddarparu addasiad neu opsiwn arall yn lle’r ffurflen gais ar-lein, cysylltwch â Thîm Pobl, ar 0121 345 8884 neu e-bostiwch TimPobl@cronfagymunedolylg.org.uk, a byddwn yn hapus i helpu. Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirsefydlog, rydym yn croesawu eich cais yn gadarnhaol.
Rydym yn aelodau o gynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall a’n nod yw bod yn lle gwych i weithio i staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac anneuaidd (LHDT+). Os ydych yn LHDT+, rydym yn croesawu eich cais yn gadarnhaol.
Yn ddiweddar, rydym wedi ymuno ag ‘Addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar o ran Oed’ y Ganolfan Heneiddio’n Well oherwydd ein bod yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithwyr hŷn fel rhan o weithlu aml-genhedlaeth. Os ydych yn eich 50au neu 60au, rydym yn croesawu eich cais yn gadarnhaol.
Yn ogystal, mae gennym rwydweithiau staff sefydledig i gefnogi ein cydweithwyr, yn ogystal â Fforwm Cydweithwyr EDI gweithredol i drafod materion yn ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Os ydych yn teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn deg ac yr hoffech wneud cwyn, dylech chi gysylltu yn y lle cyntaf â’r Timpobl@cronfagymunedolylg.org.uk