Telerau ac amodau cyfalaf ar gyfer Camau Cynaliadwy Cymru: Grantiau Gweithredu
Telerau ac amodau safonol ar gyfer grantiau’n ymwneud ag eiddo, cerbydau a/neu offer
Mae “ni” ac “ein” yn golygu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn cynnwys ein gweithwyr a’r rhai hynny sy’n gweithredu ar ein rhan.
Mae “chi” ac “eich” yn cyfeirio at y sefydliad sy’n derbyn y Grant Cyfalaf.
Gweler ystyr “Cyfnod Atebolrwydd Asedau” ym mharagraff 11.
Mae “Grant Cyfalaf” yn golygu’r grant a ddyfarnwyd i chi gennym ni ar gyfer y Prosiect fel y nodir yn y Cytundeb Grant.
Mae “Cytundeb Grant” yn golygu’r llythyr cynnig grant sydd wedi’i gyfeirio atoch chi gennym ni yr ydych wedi’i lofnodi a’i dderbyn ac sy’n ymgorffori’r telerau ac amodau hyn (gydag unrhyw amodau arbennig yr ydym wedi’u cytuno arnynt).
Gweler ystyr “Prosiect” yn y Cytundeb Grant.
Mae “Cwblhad Ymarferol” yn golygu’r hwyraf o’r i) dyddiad y rhoddir tystysgrif cwblhad ymarferol (neu gyfwerth) ar gyfer unrhyw waith adeiladu neu ii) y dyddiad y mae’r Eiddo’n barod ar gyfer y defnydd a ddisgrifir yn y Cytundeb Grant. Os yw’r prosiect yn ymdrin â mwy nag un dystysgrif cwblhad ymarferol, dyddiad y dystysgrif derfynol fydd hynny.
Mae “Eiddo” yn golygu’r tir a/neu’r adeiladau sydd i’w caffael neu eu datblygu fel rhan o’r Prosiect.
1. Os yw unrhyw ran o’r Grant Cyfalaf i brynu neu adeiladu, adnewyddu, ehangu neu addasu Eiddo, bydd y telerau ac amodau safonol hyn yn berthnasol i’ch Grant yn ogystal â’r holl amodau eraill sy’n ofynnol i chi gennym.
2. Mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar fuddiant rhydd-ddaliadol neu les-ddaliadol yn yr Eiddo cyn i ni ryddhau mwy na 5% o’r Grant Cyfalaf.
3. Rydych chi’n deall ac yn derbyn y byddwn yn gofyn am sicrwydd dros yr Eiddo i sicrhau ad-daliad o’r Grant Cyfalaf mewn amgylchiadau priodol. Fel arfer, bydd hyn yn:
3.1. bridiant cyfreithiol yn ein ffurflen safonol; neu’n
3.2. weithred gyflwyno yn ein ffurflen safonol, i gynnwys: i) os yw’r Eiddo wedi’i gofrestru, cyfyngiad ar deitl i’w gofrestru ar y Gofrestrfa Tir, neu ii) os nad yw’r Eiddo wedi’i gofrestru, pridiant tir yn yr Adran Pridiannau Tir.
Os ydym wedi gofyn am sicrwydd, rydych chi’n deall na fyddwn ni’n talu mwy nag uchafswm o 5% o’r Grant Cyfalaf tan y byddwn wedi derbyn tystiolaeth foddhaol o berchnogaeth a bod y dogfennau sicrwydd wedi cael eu cwblhau i’n boddhad.
4. Rydych chi’n cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw fenthyciadau heb eu datgelu yn erbyn yr Eiddo ac na fyddwch chi’n gwneud unrhyw fenthyciadau yn erbyn yr Eiddo oni bai ein bod ni’n cytuno’n ysgrifenedig yn gyntaf.
5. Os yw unrhyw ran o’r Prosiect yn cynnwys caffael, adnewyddu neu adeiladu ar Eiddo (gan gynnwys ehangu neu addasu adeilad(au)), byddwch chi’n anfon y dogfennau canlynol atom:
5.1. adroddiad syrfëwr ar gyflwr yr Eiddo, ei werth ac a yw’n addas ar gyfer y Prosiect;
5.2. cadarnhad gan eich cyfreithiwr bod yr holl ganiatadau angenrheidiol ar gyfer datblygu a/neu ddefnyddio’r Eiddo at ddibenion y Prosiect wedi cael eu derbyn a bod tystiolaeth foddhaol bod pob amod cyn-cychwyn (a roddir gan yr Awdurdod Cynllunio perthnasol) wedi cael eu diwallu’n llawn;
5.3. os yw’r Grant Cyfalaf ar gyfer £50,000 neu’n fwy am bryniant neu os yw’n £100,000 neu’n fwy am adnewyddiad neu ddatblygiad, tystysgrif deitl foddhaol a gwblhawyd gan eich cyfreithwyr (ar y ffurf y byddwn ni’n ei chyflenwi);
5.4. os yw’r Grant Cyfalaf ar gyfer £100,000 neu’n fwy, yn weithred gyflwyno ac os yw’r Eiddo wedi’i gofrestru, bydd angen i’ch cyfreithwyr gofrestru cyfyngiad ar deitl yn y Gofrestrfa Tir, neu os nad yw wedi’i gofrestru, pridiant tir yn yr Adran Pridiannau Tir;
5.5. os yw’r Grant Cyfalaf ar gyfer £500,000 neu’n fwy ac nad ydych chi’n gorff statudol (y mae eich cyfansoddiad yn eich atal i roi sicrwydd), pridiant cyfreithiol wedi’i lofnodi a bydd angen i’ch cyfreithwyr ei gofrestru yn y Gofrestrfa Tir neu’r Gofrestr Tir ac yn
Nhŷ'r Cwmnïau, (fel y bo’n briodol); ac
5.6. os yw’r Grant Cyfalaf ar gyfer £500,000 neu’n fwy ac nad ydych chi’n gorff statudol (y mae eich cyfansoddiad yn eich atal i roi sicrwydd), cadarnhad (trwy gyfrwng barn gyfreithiol ar y ffurf y byddwn ni’n ei rhoi) gan eich cyfreithwyr, bod gennych y pwerau cyfreithiol angenrheidiol i lofnodi’r dogfennau ac y bydd y rhwymedigaethau’n gyfystyr â rhwymedigaethau cyfreithiol a rhwymol yn orfodadwy yn eich erbyn yn unol â’u telerau.
6. Os yw unrhyw ran o’r Prosiect yn ymwneud â chaffael, adnewyddu neu adeiladu (gan gynnwys ehangu neu addasiad(au)) ar Eiddo rhydd-ddaliadol, byddwch chi’n sicrhau y bydd y les am yr isafswm canlynol o flynyddoedd o ddyddiad y Cwblhad Ymarferol:
6.1. Ar gyfer Grant Cyfalaf hyd at £100,000: les am o leiaf 5 mlynedd heb gymal torri;
6.2. Ar gyfer Grant Cyfalaf hyd at £500,000: les cofrestredig a neilltuadwy am o leiaf 5 mlynedd heb gymal torri;
6.3. Ar gyfer Grant Cyfalaf o £500,000 neu’n fwy ond yn llai nag £1 miliwn: les cofrestredig a neilltuadwy am o leiaf 10 mlynedd heb gymal torri;
6.4. Ar gyfer Grant Cyfalaf o £1 miliwn neu’n fwy ond yn llai na £5 miliwn; les cofrestredig a neilltuadwy am o leiaf 15 mlynedd heb gymal torri;
6.5. Ar gyfer Grant Cyfalaf o £5 miliwn neu’n fwy: les cofrestredig a neilltuadwy am o leiaf 20 mlynedd heb gymal torri; a
byddwch chi’n anfon copi o’r les atom i’w chymeradwyo, sy’n rhaid ein bodloni ei bod yn sicrwydd addas ar gyfer y grant.
Pan fo’r Grant Cyfalaf dros £100,000, ni all les yr Eiddo fod yn ddarostyngedig i fforffedu ar ddarpariaethau ansolfedd.
7. Yn ogystal â chymalau 5 a 6, os yw eich Grant Cyfalaf cyfan, neu ran ohono (gan ystyried yr holl gostau Cyfalaf gyda’i gilydd) i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw waith adeiladu, rydych chi’n deall ac yn derbyn:
7.1. y byddwn ni’n cadw 95% o’r Grant Cyfalaf tan i chi ddarparu’r canlynol ar ffurf sydd wedi’i chwblhau i’n boddhad:
- 7.1.1. tystiolaeth yr ydych wedi derbyn unrhyw ganiatâd adeiladu, cydsyniad adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth a chydsyniad rheoliadau adeiladu (neu gydsyniad neu reoliadau perthnasol eraill) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith adeiladu; a
- 7.1.2. tystiolaeth bod proses tendr cystadleuol wedi cael ei gynnal gydag o leiaf tri amcanbris gan adeiladwyr annibynnol i sicrhau gwerth am arian gan gynnwys trefniadau cyn-dendro, tystiolaeth o’r broses tendro’n adnabod contractwyr sydd eisoes yn bodoli a manylion unrhyw gystadleuaeth fach rhwng contractwyr adeiladu wedi’u penodi’n flaenorol ac, ym mhob achos, tystiolaeth o broses deg, eglur, wedi’i dogfennu (gan gydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol sy’n berthnasol i’r gwaith adeiladu).
7.2. y byddwn ni’n gwneud taliadau mewn camau pan fyddwch chi’n derbyn anfonebau adeiladwyr neu’n erbyn ein tystysgrifau dros dro a gwblheir ar y ffurflen RIBA (Royal Institute of British Architects) neu anfonebau a/neu dystysgrifau priodol mewn telerau a gymeradwyir gennym ni’n gyntaf;
7.3. y byddwn ni’n cadw 5% o’r Grant Cyfalaf tan i ni dderbyn y dystysgrif Cwblhad Ymarferol. Byddwch yn anfon y dystysgrif cywiro diffygion atom, cadarnhad eich bod wedi derbyn y dystysgrif cwblhau rheoliadau adeiladu, a chadarnhad eich bod wedi derbyn y dystysgrif yswiriant adeiladau ac unrhyw yswiriant diffygion a gwarantau; ac
7.4. os ydych chi am wneud newidiadau arwyddocaol i gwmpas y gwaith adeiladu, rhaid i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf.
8. Yn ogystal â chymalau 5 a 6, os yw eich Grant Cyfalaf (gan ystyried yr holl gostau Cyfalaf gyda’i gilydd) ar gyfer mwy £100,000 ac i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw waith adeiladu rydych chi’n deall ac yn derbyn:
8.1. y byddwn ni’n cadw 95% o’r Grant Cyfalaf tan i chi ddarparu’r canlynol ar ffurf i’n boddhad:
- 8.1.1. copi o’r adroddiad adolygu tendrau ar gyfer trefniadau cyn-dendro, tystiolaeth sy’n dangos bod costau wedi cael eu profi ar y farchnad i gadarnhau gwerth am arian;
- 8.1.2. crynodeb costau prosiect cyfalaf, llif arian parod a rhaglen sy’n ddiweddaredig;
- 8.1.3. tystiolaeth eich bod wedi sicrhau’r holl gyllid partneriaeth ar gyfer y Prosiect; a’r
- 8.1.4. holl ddogfennau cyfreithiol sy’n ofynnol gennym ni.
8.2. mae’n rhaid i chi gyflogi gweithiwr adeiladu arweiniol i reoli’r broses tendro ac i ardystio bod y gwaith adeiladu wedi cael eu cynnal yn gywir;
8.3. os oes angen gwneud gwaith strwythurol, mae’n rhaid i chi gyflogi peiriannydd strwythurol;
8.4. byddwch chi’n defnyddio gweithwyr adeiladu proffesiynol sy’n aelodau cwbl gymwys â’r profiad a’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer y Prosiect ac yn sicrhau bod ganddynt yr holl yswiriant indemniad proffesiynol gyda chyfyngiadau indemniad sy’n briodol i natur y Prosiect ac wedi’u cymeradwyo gennym ni;
8.5. os yw gwaith adeiladu yn dod o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 (fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd), byddwch chi’n cadarnhau eich bod wedi penodi goruchwyliwr cynllunio ac fel arall wedi cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau.
9. Rydych chi’n deall os nad ydych chi’n gwneud hawliadau talu ar gyfer Grant Cyfalaf o fewn tri mis o gael y gwariant cyfalaf perthnasol, byddwn ni’n lleihau eich Grant Cyfalaf yn gymesur yn unol â’r gwariant cyfalaf gwirioneddol a geir yn ystod y cyfnod hawlio.
10. Ni fyddwch chi’n gwerthu, prydlesu, gosod, isosod neu waredu neu newid defnydd yr Eiddo fel arall heb ofyn am ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf, a all gynnwys amodau y bydd angen i chi eu bodloni. Os ydych chi’n gwerthu neu’n gwaredu Eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi ad-dalu’r holl arian yr ydych wedi’i dderbyn gennym, neu ran ohono. Bydd y swm o arian yr ydych yn ei ad-dalu i ni mewn cyfrannedd uniongyrchol â chyfran cost y Prosiect a ddaeth ohonom ni. Os ydych chi’n gwerthu’r Eiddo gyda’n caniatâd, mae’n rhaid iddo fod ar ei werth marchnad llawn yr ydych wedi dangos hynny i ni i’n boddhad.
11. Byddwn ni’n parhau i gael buddiant yn yr Eiddo a byddwch chi’n rhoi gwybodaeth ac yn ein caniatáu i fonitro ac archwilio’r Eiddo am y cyfnodau canlynol yn dechrau o ddyddiad derbyn y llythyr cynnig grant (ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw):
11.1. ar gyfer Grantiau Cyfalaf hyd at £499,999, i’r dyddiad 5 mlynedd ar ôl dyddiad y Cwblhad Ymarferol (gan gynnwys y dyddiad hwnnw);
11.2. ar gyfer Grantiau Cyfalaf o £500,000 neu’n fwy ond yn llai nag £1 miliwn, i’r dyddiad 10 mlynedd ar ôl dyddiad y Cwblhad Ymarferol (gan gynnwys y dyddiad hwnnw);
11.3. ar gyfer Grantiau Cyfalaf rhwng £1 miliwn a £4,999,999 (yn gynhwysol), i’r dyddiad 15 mlynedd ar ôl dyddiad y Cwblhad Ymarferol (gan gynnwys y dyddiad hwnnw);
11.4. ar gyfer Grantiau Cyfalaf £5 miliwn neu’n fwy, i’r dyddiad 20 mlynedd ar ôl dyddiad y Cwblhad Ymarferol (gan gynnwys y dyddiad hwnnw),
a ddiffinnir fel ein “Cyfnod Atebolrwydd Asedau”.
CYHYD AG os yw’r Grant Cyfalaf i gyd, neu ran ohono, wedi dod yn ad-daladwy, neu mae unrhyw swm arall wedi dod yn ddyledus i chi gennym ni, ac nad yw’r swm perthnasol wedi cael ei dalu ar y dyddiad y byddai’r Cyfnod Atebolrwydd Asedau yn dod i ben fel arall yn unol â chymal 11, bydd y Cyfnod Atebolrwydd Asedau’n parhau tan y dyddiad y mae’r holl symiau sy’n ddyledus i ni wedi cael eu talu’n llawn.
12. Wrth gynnal unrhyw waith adeiladu, byddwch chi’n caffael y bydd y contractwr/wyr bob amser yn:
12.1. cynnal polisi yswiriant “pob risg” sy’n cynnwys y risgiau arferol o ran y gwaith adeiladu, ei gynnal a’r holl nwyddau a deunyddiau ansefydlog sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu ar gyfer y costau adfer neu ddisodli llawn, a hynny ym mhob achos;
12.2. os yw’n ofynnol, rhoi tystiolaeth i ni o’r polisi yswiriant;
12.3. os oes unrhyw ran o’r gwaith adeiladu neu unrhyw ddeunydd neu nwyddau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn cael eu dinistrio neu eu difrodi, gwneud cais o dan y polisi yswiriant a defnyddio unrhyw arian i ailadeiladu, adfer neu ddisodli’r gwaith; a
12.4. peidio â gwneud na chaniatáu unrhyw beth a all wneud y polisi yswiriant yn ddi-rym neu’n ddirymadwy.
13. Byddwch chi’n talu ac yn indemnio ac yn ein cadw wedi ein hindemnio rhag ac yn erbyn pob hawliad costau difrod colled ac unrhyw atebolrwydd a chostau o ran unrhyw anaf neu farwolaeth unrhyw berson, difrod i unrhyw eiddo symudadwy neu ansymudadwy, llygredd neu arwyddion o lygredd tebygol neu aflonyddwch neu ddinistriad unrhyw hawddfraint neu fraint hawliau neu fel arall oherwydd neu o ganlyniad i godi neu gwblhau unrhyw waith adeiladu neu fodolaeth yr amod neu ddefnyddiwr y gwaith.
14. Byddwch chi’n ein caniatáu i fynd i mewn i’r Eiddo i weld cyflwr a chynnydd y gwaith adeiladu cyhyd â’n bod yng nghwmni eich cynrychiolydd neu gontractwr, ni fyddwn yn amharu ar gynnydd y gwaith adeiladu a byddwn yn gwneud unrhyw gyfathrebiadau a chynrychiolaethau i chi’n unig ac nid yn uniongyrchol i’ch contractwr.
15. Os yw eich Grant Cyfalaf i brynu neu wella cerbydau neu offer, dim ond yr amodau canlynol fydd yn berthnasol;
15.1. Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni fod y cerbydau neu’r offer yn berchen i chi’n ddilys;
15.2. Mae’n rhaid i chi gadw’r cerbydau neu’r offer am hyd y Prosiect a’u defnyddio ar gyfer y Prosiect yn unig;
15.3. Ni allwch chi werthu na waredu’r cerbydau neu’r offer yn ystod y cyfnod hwnnw heb gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf ac os yw’n ofynnol, mae’n rhaid i chi dalu cyfran yr elw o unrhyw warediad; ac
15.4. Mae’n rhaid i chi gadw’r cerbydau neu’r offer yn ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi’u hyswirio’n ddigonol am hyd y Prosiect.