I gefnogi pobl o gefndir Du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn Fforymau Dinasyddion, i ganiatáu iddynt roi barn am eu hanghenion ac i gymryd rhan yn y trefniadau democrataidd sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r grant dros 3 blynedd ar gyfer 2 Swyddog datblygu llawn amser, un swyddog gweinyddol llawn amser, costau recriwtio, rhent, cynhyrchu gwybodaeth, hyfforddiant, teithio, rheoli llinell a chostau cyffredinol y prosiect.