Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd - Crynodeb o’r Cais
Yr hyn y byddwn ni’n gofyn amdano yn eich ffurflen mynegi diddordeb
Dyma’r holl gwestiynau y gofynnwn yn y ffurflen gais ar gyfer Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd. Mae’r canllawiau’n rhoi mwy o fanylion i chi am yr hyn fydd angen i chi ei ddweud wrthym yn eich atebion.
Eich prosiect
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
Beth yw enw eich prosiect? | Dylai enw'r prosiect fod yn syml ac i'r pwynt. |
Dywedwch wrthym yr holl leoliadau y bydd y prosiect yn cael ei gynnal | Yng ngeiriau eich hun, disgrifiwch yr holl leoliadau lle y byddwch chi’n cynnal eich prosiect. Er enghraifft, ‘Bangor’, ‘Ceredigion’ neu ‘Cardiff’. |
Beth yw cod post ble bydd eich prosiect yn digwydd? | Os bydd eich prosiect yn digwydd ar draws gwahanol leoliadau, defnyddiwch god post yr adeilad neu gyfeiriad lle bydd y rhan fwyaf o'r prosiect yn digwydd. Rhaid i chi ddarparu'r cod post llawn. Os nad ydych yn gwybod y cod post, gallwch ddefnyddio'r Royal Mail Postcode Finder i geisio dod o hyd iddo. |
Dywedwch wrthym faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer grant datblygu? | Gallwch wneud cais o £300 hyd at £25,000 i ddatblygu eich syniad, cyn i chi ymgeisio ar gyfer y cam nesaf. |
Dywedwch wrthym pryd yr hoffech gael yr arian os dyfernir grant datblygu i chi. | Rhaid i chi wario'r arian erbyn 14 Ionawr 2025. Peidiwch â phoeni, gall hwn fod yn amcangyfrif. |
Beth hoffech chi ei wneud? | Hoffem wybod: Beth yw eich syniad prosiect? Dylech gynnwys sut mae eich prosiect yn bodloni’r canlyniadau rydym yn anelu atynt. Dylech ddilyn y fformat ar gyfer ysgrifennu canlyniadau a dangosyddion a ddisgrifir yn ein canllawiau. Mae'r canlyniadau ar gyfer y prosiect hwn fel a ganlyn:
Dylech hefyd ddweud wrthym:
Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1500 o eiriau ar gyfer yr adran hon. |
Sut mae eich syniad yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill? | Hoffem wybod:
Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1000 o eiriau ar gyfer yr adran hon. |
Sut mae eich prosiect yn cynnwys pobl ifanc o’ch cynulleidfa darged, cyflogwyr, hyfforddwyr a rhanddeiliaid eraill? | Dywedwch wrthym am y canlynol:
Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1000 o eiriau ar gyfer yr adran hon. |
Dywedwch wrthym am eich partneriaeth a pham dyma’r un iawn i reoli'r prosiect hwn | Dywedwch wrthym am:
Os bydd un neu’n fwy o bartneriaid yn rhannu'r grant datblygu, mae’n rhaid i chi ddarparu cytundeb partneriaeth drafft. Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1,000 o eiriau yn yr adran hon. |
Eich sefydliad
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
Beth yw enw cyfreithiol llawn eich mudiad? | Mae’n rhaid i hwn fod fel y mae ar eich dogfen lywodraethu. Gall eich dogfen lywodraethu fod wedi’i enwi’n un o sawl peth, yn dibynnu ar y math o sefydliad rydych yn ymgeisio ar ei ran. Gallai fod wedi’i enwi’n gyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu rywbeth arall yn hollol. Gallech ddod o hyd iddo ar wefan gofrestru – er enghraifft Tŷ'r Cwmnïau neu Gofrestr Elusennau. |
Ydy eich mudiad yn defnyddio enw gwahanol yn eich gwaith bob dydd?
| Dyma sut allech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod gan eich enw cyfreithiol yn unig (mae’r enw cyfreithiol ar eich dogfen lywodraethu neu wefan gofrestru). |
Beth yw'r enw y mae eich mudiad yn ei ddefnyddio yn ei gwaith o ddydd i ddydd? | Dyma sut y gallech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod fel yn unig. |
What is the main or registered address of your organisation? | Enter the postcode and search for the address, or enter it manually |
Pryd sefydlwyd eich mudiad? | Dyma'r dyddiad y cychwynnodd statws cyfreithiol cyfredol eich mudiad. Dylai hwn fod ar eich dogfen lywodraethu. Os nad ydych yn gwybod yr union ddyddiad, gall fod yn ddyddiad bras. |
Pa fath o sefydliad ydych chi? | Os ydych chi’n elusen ac yn gwmni—dewiswch ‘Cwmni nid-er-elw’ isod.
|
Beth yw dyddiad diwedd eich blwyddyn ariannol? | Er enghraifft, 31 03 |
Beth yw cyfanswm eich incwm am y flwyddyn? | Defnyddiwch rifau cyfan yn unig, fel 12000. |
Rôl yr uwch gyswllt
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
Rôl yr uwch gyswllt | Rhowch fanylion eich uwch gyswllt. Byddan nhw’n gyfreithiol gyfrifol am y cyllid. Ni allant fod yn briod, mewn partneriaeth sifil, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda, neu’n perthyn i’r prif gyswllt neu drwy bartner hirdymor. |
Beth yw rôl yr uwch gyswllt? |
|
Enw cyntaf (yn llawn) Cyfenw | Ni all hwn fod yn enw byr, yn flaenlythrennau nac yn llysenw. |
Beth yw dyddiad geni yr uwch gyswllt? | Rydym angen eu dyddiad geni i wneud gwiriad hunaniaeth. Os yw'n cael ei nodi'n anghywir, fe allai oedi eich cais. Er enghraifft, 30 03 1980 |
Uwch gyswllt: Cyfeiriad cartref | Ydyn nhw wedi byw yn eu cyfeiriad cartref am y tair blynedd diwethaf? |
Cyfeiriad e-bost yr uwch gyswllt | Byddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â yr uwch gyswllt am y prosiect. |
Rhif ffôn yr uwch gyswllt | Byddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â yr uwch gyswllt am y prosiect. |
Uwch gyswllt: Dywedwch wrthym am unrhyw anghenion cyfathrebu penodol sydd gan y cyswllt hwn, gan gynnwys pa iaith y dylem ei defnyddio i gysylltu â nhw. | Er enghraifft, os dylem gysylltu â nhw’n Saesneg neu’n Gymraeg. |
Prif Gyswllt
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
Prif Gyswllt | Rhowch fanylion ar gyfer eich prif gyswllt. Dyma'r person cyntaf y byddwn yn cysylltu ag ef os bydd angen i ni drafod eich prosiect. |
Enw cyntaf (yn llawn) Cyfenw | Ni all hwn fod yn enw byr, yn flaenlythrennau nac yn llysenw. |
Beth yw dyddiad geni y prif gyswllt? | Rydym angen eu dyddiad geni i wneud gwiriad hunaniaeth. Os yw'n cael ei nodi'n anghywir, fe allai oedi eich cais. Er enghraifft, 30 03 1980 |
Prif gyswllt: Cyfeiriad cartref | Ydyn nhw wedi byw yn eu cyfeiriad cartref am y tair blynedd diwethaf? |
Cyfeiriad e-bost y prif gyswllt | Byddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â y prif gyswllt am y prosiect. |
Rhif ffôn y prif gyswllt | |
Prif gyswllt: Dywedwch wrthym am unrhyw anghenion cyfathrebu penodol sydd gan y cyswllt hwn, gan gynnwys pa iaith y dylem ei defnyddio i gysylltu â nhw. | Er enghraifft, os dylem gysylltu â nhw’n Saesneg neu’n Gymraeg. |
Section 5 - Dogfennau cefnogol
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
Uwchlwythwch gytundeb(au) partneriaeth drafft os bydd unrhyw un o'ch partneriaid yn rhannu'r grant datblygu (Dewisol) | Rhaid i'r ffeil fod yn PDF, PNG neu JPEG a llai na 20MB. |
Uwchlwythwch gopi o'ch cyfrifon ariannol diweddaraf | Rhaid i'r ffeil fod yn PDF, PNG neu JPEG a llai na 20MB. |
Datganiad
Cwestiwn | Canllawiau |
---|---|
A yw'ch prosiect ar agor i bawb neu a yw wedi'i anelu at grŵp penodol o bobl?
| Os yw o leiaf 75% o'r bobl yr ydych yn eu cefnogi yn rhannu nodweddion, yna mae eich prosiect ar gyfer grŵp penodol. Mae'n bosibl y bydd eich grŵp penodol yn rhannu un neu fwy o nodweddion. Er enghraifft, os yw 80% o'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw yn ffoaduriaid benywaidd, mae hyn yn golygu eich bod yn cefnogi grŵp penodol o bobl. Yn yr enghraifft hon, maent yn rhannu dwy nodwedd — menywod a ffoaduriaid. Gwyddom mai amcangyfrif yn unig yw hwn. Byddai'n rhy anodd gweithio allan yn union, yn enwedig os yw hwn yn brosiect newydd. |
Ar gyfer pwy mae eich prosiect?
| Os oedd 75% neu fwy o'r bobl a oedd yn cael eu cefnogi gan eich prosiect neu yn elwa ohono yn dod o un grŵp penodol, dywedwch wrthym pwy ydyn nhw. Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw. |
A yw'r rhan fwyaf o'ch tîm arwain yn hunan-uniaethu eu bod yn perthyn i grŵp penodol o bobl?
| Dywedwch wrthym i ba grŵp penodol y maent yn perthyn os yw o leiaf:
Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw. |