Cymorth rheoli’ch grant
Llongyfarchiadau am gael arian gan y Loteri Genedlaethol
Mae hynny’n newyddion gwych – llongyfarchiadau. Diolch am bopeth a wnewch i helpu eich cymuned i ffynnu. Rydym mor hapus i fod yn ariannu prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i bobl ledled y DU.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am reoli eich arian grant, hyrwyddo eich grant neu ddysg o’ch gwaith – rydych yn y lle cywir.
Gwybodaeth i ddeiliaid grant cyfredol
Rydym yn ymddiried ynoch chi i wybod yr hyn sydd orau i’ch cymuned. Felly os ydych wedi cael eich effeithio gan ddigwyddiadau diweddar, byddwn yn hyblyg am newidiadau i’ch prosiect a byddwn yn eich cefnogi chi a’ch timau i ymateb i anghenion eich buddiolwyr a’ch cymuned yn y ffordd fwyaf priodol.
Cysylltwch â ni os oes angen i chi addasu eich grant neu os hoffech siarad am sut allwch chi ddefnyddio eich arian yn wahanol i gefnogi eich cymuned.
Gwybodaeth i ddeiliaid grant presennol yn ystod COVID-19
Hyderwn eich bod yn gwybod beth sydd orau i'ch cymuned. Felly byddwn yn hyblyg ynglŷn â newidiadau i'ch prosiect, a byddwn yn eich cefnogi chi a'ch timau trwy'r argyfwng. Darganfyddwch fwy am y gefnogaeth rydyn ni'n ei rhoi i grwpiau sydd â grantiau presennol gennym ni.
Ein cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr ar gyfer y diweddaraf ar grantiau, digwyddiadau a straeon o'ch gwlad.