Caru’n Cynefin – rhannu eich stori
Rhannu eich stori
Llongyfarchiadau ar eich arian Caru’n Cynefin gan IKEA UK a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae'n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am eich prosiect, pa weithgareddau yr ydych yn eu cynllunio a'i fod wedi'i wneud yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac IKEA UK.
Rydym am ysbrydoli, galluogi a chael pobl i fuddsoddi yn eu cymuned leol fel estyniad i'w cartref, gan adeiladu ar egni a chreadigrwydd cymunedau sy'n dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng i gefnogi ei gilydd.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn rhoi rhai awgrymiadau ar sut y gallwch chi, a'ch prosiect, wneud hynny.
Sut i ddefnyddio'r pecyn cymorth hwn
Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i rannu eich stori am eich grant, rhoi gwybod i bobl leol am eich cynlluniau a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac IKEA UK am eu cefnogaeth.
Gallwch wneud hyn unrhyw bryd o ddydd Dydd Iau 14 Hydref 2021 pan fyddwn yn cyhoeddi ein holl grantiau Caru’n Cynefin yn gyhoeddus.
Rydym yn annog pawb i ymuno â ni ar y diwrnod hwnnw a rhannu eich newyddion da. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud hyn.
Logo a brandio
Mae'n bwysig bod pobl sy'n ymwneud â'ch prosiect yn deall ei fod wedi cael ei gefnogi a'i ariannu gan IKEA UK a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Defnyddiwch y logo Caru’n Cynefin ar yr holl ddeunyddiau sy'n wynebu'r cyhoedd gan gynnwys:
- datganiadau i'r wasg
- posteri
- taflenni
- cyflwyniadau
- eich gwefan.
Lawrlwytho logo Caru'n Cynefin
Defnyddiwch y logo hwn ar bob deunydd sy'n wynebu'r cyhoedd (er enghraifft, datganiad i'r wasg). Gellir lawrlwytho hwn drwy glicio ar y ddolen berthnasol:
Gofynion maint lleiaf
Bydd angen i chi fodloni ein gofynion maint gofynnol p'un a ydych yn defnyddio'r logo ar-lein neu mewn fformat printiedig:
- argraffedig ydy 44mm o led x 14mm o uchder
- sgrin ydy 125px o led x 40px o uchder.
Defnyddiwch y logo a gyflenwir drwy sianeli swyddogol bob amser a pheidiwch byth â’i addasu na'i ail-greu.
Angen help i rannu eich stori?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi cyhoeddusrwydd i'ch grant anfonwch e-bost atom ar brandio@cronfagymunedolylg.org.uk.
Rhannwch eich newyddion da yn y cyfryngau
Lawrlwythwch y templed datganiad i'r wasg i gyhoeddi eich grant newydd a hyrwyddo eich prosiect i'ch cyfryngau lleol.
Darllenwch ein cyngor ar sut y gallwch gysylltu â'ch cyfryngau lleol a rhannu eich datganiad i'r wasg.
Rhowch wybod i'ch cynrychiolydd etholedig lleol
Os ydych am roi gwybod i'ch cynrychiolydd etholedig lleol y newyddion gwych am eich grant newydd - fel eich:
- Aelod Seneddol (AS)
- Aelod o Senedd yr Alban (MSP)
- Aelod o'r Senedd (MS) yng Nghymru
- Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol (MLA) yng Ngogledd Iwerddon
Gallwch ysgrifennu atynt gan ddefnyddio'r e-bost/llythyr templed.
Gallwch ddefnyddio'r gwefannau canlynol i ddod o hyd i'ch cynrychiolwyr etholedig:
Defnyddiwch luniau i ddweud eich stori
Mae lluniau trawiadol ac ysbrydoledig o'ch prosiect a phobl yn dod â'ch stori'n fyw, ar-lein, yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Dilyn arferion gorau:
- cael caniatâd i ddefnyddio'r lluniau
- sicrhau eu bod o ansawdd da
- defnyddio lluniau sy'n dangos pobl sy'n rhan o'ch prosiect
- cynnwys logo Caru’n Cynefin os yn bosibl.
Cyfryngau cymdeithasol
Rydym wrth ein bodd yn gweld eich postiadau a'ch lluniau yn dathlu eich grant a'r gwaith y mae eich prosiect yn ei wneud.
Lledaenwch y gair ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #PlacesCalledHome a #LoteriGenedlaethol a'r tagiau canlynol wrth wneud cyhoeddiadau, rhannu sylw yn y wasg neu straeon:
- Twitter: @IKEAUK / @TNLCommunityFund
- Facebook: @IKEA / @TNLCommunityFund
Gallai eich post ar y cyfryngau cymdeithasol gynnwys:
"Diolch @IKEAUK a @TNLCommunityFund am ein £[swm grant] grant #PlacesCalledHome i [enw'r prosiect]. [Cynnwys gwybodaeth am yr hyn y bydd y prosiect yn ei wneud gyda'r grant a chynnwys lluniau, a dolen i'ch gwefan os oes gennych un]"
Gallwch hefyd lawrlwytho llun rydym wedi'i greu i chi ei bostio ar eich cyfryngau cymdeithasol.
Sut i wneud post ar Twitter a Facebook
Ar ffôn symudol:
1. Mewngofnodi i Twitter.
2. Clicio ar eich llun proffil ar ochr chwith uchaf eich ffrwd Twitter.
3. Clicio proffil. Yma fe welwch fotwm glas gyda beiro gwyn.
4. Clicio hwn i ddechrau eich trydar.
Ar y we o gyfrifiadur
1. Mewngofnodi i Twitter eich prosiect.
2. Ar eich tudalen gartref, fe welwch y maes i ysgrifennu trydar ar y brig.
Isod ceir golygfa o'r blwch ar Twitter o gyfrifiadur.
3. Ar ôl i chi gael eich blwch i drydar yn barod.
4. Teipiwch eich trydar yn y blwch testun lle mae'n dweud ‘What’s happening?’.
5. I gynnwys ein tag a'n hashnodau, teipiwch yn y blwch testun hwnnw mewn man o'ch dewis: #PlacesCalledHome a @IKEAUK @TNLComFund.
Byddwch yn ymwybodol bod gennych derfyn o 280 nod, felly cadwch eich trydar yn fyr.
6. I ychwanegu llun/fideo, cliciwch yr eicon llun ar waelod y blwch trydar. Unwaith y byddwch chi'n hapus gyda'ch trydar, pwyswch tweet.
Facebook
1. Mewngofnodi i Facebook ar ffôn symudol neu’r we.
2. Ewch i dudalen Facebook eich prosiect.
3. Cliciwch y botwm create post. Dylai hyn ymddangos yn agos at frig y dudalen, uwchben eich postiadau eraill.
Pan fyddwch yn clicio create post, byddwch yn gallu ychwanegu testun i gorff y blwch.
4. Unwaith y byddwch chi'n hapus gyda'ch testun, tagiwch ni drwy ysgrifennu @TNLCommunityFund.
5. Bydd blwch opsiwn newydd yn ymddangos gyda'n tudalen ar y brig.
6. Cliciwch enw ein tudalen i ychwanegu'r tag. Ar gyfer y tag Ikea, rydych chi'n teipio @IKEA ac yn dilyn yr un camau.
7. I gynnwys ein hashnod, ysgrifennwch #PlacesCalledHome.
8. Unwaith y bydd eich tag yn cael ei ychwanegu dylai ymddangos yn las.
Sut i ychwanegu lluniau neu fideos i'ch post Facebook
1. Cliciwch yr eicon lluniau o dan y maes testun.
2. Bydd hyn yn mynd â chi i'ch ffolderi personol.
3. Ychwanegwch eich cyfryngau dewisol.
4. Ar ôl i chi gael eich post yn barod, cliciwch ar y post.