Mae'r Gronfa hon bellach ar gau.
Os oes syniad gennych am helpu cymunedau i ddod ynghyd, mae Cronfa'r Deyrnas Unedig bellach ar agor i geisiadau.
Os oes cais Mewn Undod Mae Nerth gennych ar y gweill
Os oes gennych chi gais ar y gweill ar hyn o bryd, byddwn ni'n anfon e-bost atoch.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y rhaglen Mewn Undod Mae Nerth neu os hoffech chi drafod unrhyw gyfleoedd ariannu eraill, anfonwch e-bost at ymholiadau.cyffredinol@cronfagymunedolylg.org.uk
Gallwch chi ymgeisio ar-lein
Byddwn ni’n gofyn i chi am eich syniad a sut mae’n berthnasol i’r meysydd yr ydym yn canolbwyntio arnynt. Hoffem wybod:
- sut fydd eich prosiect yn gweithio ar draws dwy wlad yn y DU neu’n fwy
- yr hyn rydych chi’n gobeithio ei newid
- sut byddwch chi’n cefnogi cymunedau i wneud newid hirdymor
- sut mae eich syniad yn cefnogi cymunedau cysylltiedig sy’n ffynnu.
Gallwch weld rhestr lawn o’r cwestiynau y byddwn ni’n eu gofyn i chi.
Byddwn ni’n cysylltu â chi am unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai fod ei hangen arnom i wneud penderfyniad cynnar am eich cais.
Os wnaethoch chi ddechrau cais cyn 13 Medi 2022
Gallwch gyrchu eich cais yn yr hen system.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn
Gallwch fynychu digwyddiad rhithiol amdano. Rydym ni’n cynnal digwyddiadau ar-lein ar:
- 29 Tachwedd 2022 – 2-3pm
- 14 Rhagfyr 2022 – 10-11am.
Byddwn ni’n anfon gwahoddiad Microsoft Teams atoch wythnos cyn y digwyddiadau.
Os oes unrhyw ofynion hygyrchedd gennych, gallwch anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi ymgeisio
Gallwch chi:
- ffoniwch ni ar 0345 4102 030 – mae’r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-5pm
- cysylltwch â ni dros e-bost ar cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
- gwiriwch os yw cronfa arall yn fwy addas i’ch prosiect – er enghraifft, os yw eich prosiect yn ymwneud â dod â chymuned leol ynghyd, dylech chi edrych ar gwybodaeth am fathau eraill o ariannu.
Os yw’n anodd neu’n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein
- fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r ffurflen gais a’r canllawiau
- fersiwn PDF o’r ffurflen gais
- fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r ffurflen gais a’r canllawiau.
Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Sut i ymgeisio
Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'sut i ymgeisio' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):
Sut i rannu’ch syniadau trwy ddefnyddio fideo
Pan fyddwn ni’n gofyn am eich prosiect neu syniad, gallwch chi rannu fideo yn hytrach na’i ddisgrifio mewn geiriau.
Mae rhai cwestiynau y bydd rhaid i chi eu hateb mewn geiriau.
Mae canllawiau am sut i rannu eich fideo yn y ffurflen gais, ond os oes unrhyw gwestiynau gennych, anfonwch e-bost at
cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio
1. Byddwn ni’n asesu eich cais – mae’r galw am gyllid yn uchel, felly dim ond ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf gryfaf fydd yn mynd i’r cam nesaf.
2. Byddwn ni’n gwneud rhai penderfyniadau cynnar – byddwn ni’n bwriadu dweud wrthych os ydych chi wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn wyth wythnos.
3. Os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn ni hefyd yn gofyn am ragor o fanylion am eich sefydliad ac am brif gysylltiadau’r prosiect. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth yn y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chynnal [gwiriadau diogelwch]. Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi am eich cyllideb arfaethedig. Os ydych chi’n ansicr faint rydych am ymgeisio amdano, gallwn drafod hyn â chi. Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw ein penderfyniad terfynol o fewn tua phedwar mis o gael eich gwahodd i'r ail gam.
4. Byddwn ni’n gwneud penderfyniad terfynol – ystyrir eich cais gan un o’n pwyllgorau ariannu.
5. Os yw eich cais yn llwyddiannus – byddwn ni’n cysylltu â chi gyda’r newyddion da! Dyma fydd yn digwydd pan fydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i chi. Byddwn ni hefyd yn trafod sut allwn ni eich helpu:
- i ddathlu a hyrwyddo eich grant
- rhannu eich dysgu ag eraill gan gynnwys deiliaid grant eraill ac ymgeiswyr y dyfodol i gyfrannu at gydweithrediadau ehangach yn y meysydd hyn.