Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni

North East Young Dads and Lads

Y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yw ein hymrwymiad i helpu cymunedau i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.

Gyda'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni, hoffem gynnwys mwy o bobl mewn gweithredu hinsawdd. A hoffem ysbrydoli newid mentrus a chyffrous.

Dim ond prosiectau a ddatblygwyd mewn partneriaeth ffurfiol â sefydliadau eraill y byddwn yn eu hariannu.

Rydym yn chwilio am brosiectau partneriaeth sy’n cyrraedd mwy o bobl trwy un ai:

  • cysylltu gweithredu hinsawdd â bywydau a diddordebau bob dydd cymunedau lleol. A’u hysbrydoli i weithredu.
  • dylanwadu ar gymunedau ar lefel ranbarthol neu genedlaethol. Fel cysylltu grwpiau ar draws lleoliadau. Neu ymgyrch sy'n ysbrydoli newid ar draws un wlad, neu'r DU gyfan.

Nid oes rhaid i chi fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd neu'r amgylchedd i ymgeisio

Hoffem gyrraedd pobl sy'n newydd i weithredu hinsawdd drwy ariannu mathau eraill o sefydliadau hefyd. A thrwy ddefnyddio gweithgareddau bob dydd pobl fel man cychwyn ar gyfer gweithredu hinsawdd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cynnwys pobl, llefydd a chymunedau sy'n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau ffurfiol, gan weithio ar draws sectorau. Dan arweiniad sefydliadau cymunedol a gwirfoddol neu sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Maint yr ariannu
Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £500,000. Rydym yn disgwyl ariannu'r rhan fwyaf o brosiectau am rhwng £1 miliwn ac £1.5 miliwn dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd. Efallai y byddwn yn ariannu nifer fach o brosiectau mwy neu hirach. Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn. Rydym yn anelu at ariannu hyd at 25 o brosiectau.
Cyfanswm ar gael
£30 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Byddwch yn gallu gwneud cais hyd at y Gwanwyn 2025. Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad cau terfynol yn nes at yr amser.

Ymgeisio

Sut i ymgeisio

Gallwch ymgeisio ar-lein

Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad a sut mae'n cyd-fynd â’r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu.

Ymgeisio ar-lein

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych anghenion cyfathrebu neu os yw’n anodd i chi gwblhau’r ffurflen. Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad, fel:

  • Fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ffurflen gais a'r canllawiau
  • Fersiwn PDF o'r ffurflen gais
  • Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau.

Gwyliwch recordiad o'n gweminar o 27 Mawrth (yn Saesneg gydag is-deitlau Cymraeg)

Gallwch hefyd lawrlwytho cyflwyniad y gweminar yn Gymraeg a Saesneg (PowerPoint, 1 MB).

Os nad ydych yn siŵr a ddylech ymgeisio

Gwiriwch fod eich prosiect yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn gobeithio ei ariannu. Os na, dylech ystyried ein rhaglenni ariannu eraill.

Gallwch chi hefyd:

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

Fel arfer mae'n cymryd o leiaf chwe mis o'r adeg y byddwch yn anfon eich cais cam cyntaf atom i weld a ydych wedi llwyddo.

Dyma beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich cais cam cyntaf atom:

  1. Byddwn yn ystyried eich cais

    Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael mwy o wybodaeth.

  2. Byddwn yn ceisio dweud wrthych a ydych wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn 10 wythnos

    Rydym yn disgwyl y bydd galw mawr am yr arian hwn. Felly byddwn ond yn eich gwahodd i'r cam nesaf os yw eich cais yn cyd-fynd yn gryf â'r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu.

    Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam. Ond ni fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i chi.

    Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi anfon cynnig llawn atom. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w gynnwys ynddo.

  3. Byddwch yn anfon eich cynnig llawn atom o fewn 6 wythnos

    Darllenwch ba wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn.

    Bydd aelod o'n tîm yn darllen eich cynnig. Byddant yn gweithio gyda chi i ddarganfod mwy am eich prosiect. Fel arfer byddwn yn ffonio neu’n e-bostio chi a'ch partneriaid. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn a allwn ymweld â'ch prosiect.

  4. Byddwn yn dweud ein penderfyniad terfynol wrthych tua 4 mis ar ôl i ni gael eich cynnig

    Bydd ein panel Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn penderfynu a ddylid cynnig grant i chi.

    Os na fyddwn yn cynnig grant i chi, byddwn yn rhoi adborth i chi i egluro pam. Byddwn hefyd yn ceisio eich cefnogi. Er enghraifft, rhoi awgrymiadau i chi am sut i wella unrhyw geisiadau rydych chi'n eu hysgrifennu yn y dyfodol. Neu roi gwybod i chi am grwpiau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.

  5. Os yw eich cais yn llwyddiannus

    Dyma beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n derbyn grant. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
    • dathlu a hyrwyddo eich grant
    • rhannu eich dysgu a chydweithio ag eraill.

Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano yn eich cais

Byddwn yn gofyn i chi am eich prosiect a sut mae'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym am ei ariannu.

Hoffem wybod:

1. Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?

Dylech ddweud wrthym:

  • ynglŷn â'ch prosiect
  • sut mae eich prosiect yn cyflawni ein blaenoriaethau
  • syniad o sut y byddwch yn dyrannu'r arian i gyflawni eich prosiect
  • beth rydych chi'n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut rydych chi'n gwybod bod ei angen
  • sut mae'r gymuned wedi bod yn rhan o lunio'ch syniad
  • pam mai dyma'r amser gorau ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu'r siawns y bydd eich prosiect yn llwyddiannus, er enghraifft, mae gennych gefnogaeth gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.

Sut byddwch chi'n gweithio gydag eraill i gyflawni eich prosiect?

Dylech ddweud wrthym:

  • ynglŷn â'ch sefydliad
  • pa brofiad neu ddysgu sydd wedi eich arwain i ymgeisio
  • am y cymunedau, y sefydliadau neu'r grwpiau rydych chi'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd (neu'r rhai rydych chi'n gobeithio gweithio gyda nhw)
  • pam mai eich partneriaeth chi sydd orau i gyflawni'r gwaith hwn
  • beth fydd y partneriaid yn ei wneud yn eich prosiect?
  • sut y byddwch yn rhannu dysgu ymhlith eich partneriaid a gyda grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.

Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd?

Gallwch weld beth rydym yn ei olygu drwy 'weithredu hinsawdd'.

Dylech ddweud wrthym:

  • sut y bydd eich prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
  • sut y byddwch yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer pobl a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol - er enghraifft, pobl sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTC+, a phobl sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.

Ein telerau ac amodau

Darllenwch ein telerau ac amodau ariannu.

Sut rydym yn defnyddio'r data personol rydych chi'n ei roi i ni

Darllenwch ein datganiad diogelu data.

Rydym yn gwirio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni

Fel sefydliad sy'n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal gwiriadau ar y wybodaeth a roddwch i ni. Dysgwch ragor am ein gwiriadau.