Sut i ymgeisio
Gallwch ymgeisio ar-lein
Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad a sut mae'n cyd-fynd â’r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu.
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych anghenion cyfathrebu neu os yw’n anodd i chi gwblhau’r ffurflen. Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad, fel:
- Fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ffurflen gais a'r canllawiau
- Fersiwn PDF o'r ffurflen gais
- Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau.
Gwyliwch recordiad o'n gweminar o 27 Mawrth (yn Saesneg gydag is-deitlau Cymraeg)
Gallwch hefyd lawrlwytho cyflwyniad y gweminar yn Gymraeg a Saesneg (PowerPoint, 1 MB).
Os nad ydych yn siŵr a ddylech ymgeisio
Gwiriwch fod eich prosiect yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn gobeithio ei ariannu. Os na, dylech ystyried ein rhaglenni ariannu eraill.
Gallwch chi hefyd:
- ffonio 0345 4 10 20 30 – mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb tan 5yp
- anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio
Fel arfer mae'n cymryd o leiaf chwe mis o'r adeg y byddwch yn anfon eich cais cam cyntaf atom i weld a ydych wedi llwyddo.
Dyma beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich cais cam cyntaf atom:
- Byddwn yn ystyried eich cais
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael mwy o wybodaeth. - Byddwn yn ceisio dweud wrthych a ydych wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn 10 wythnos
Rydym yn disgwyl y bydd galw mawr am yr arian hwn. Felly byddwn ond yn eich gwahodd i'r cam nesaf os yw eich cais yn cyd-fynd yn gryf â'r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu.
Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam. Ond ni fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i chi.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi anfon cynnig llawn atom. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w gynnwys ynddo. - Byddwch yn anfon eich cynnig llawn atom o fewn 6 wythnos
Darllenwch ba wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn.
Bydd aelod o'n tîm yn darllen eich cynnig. Byddant yn gweithio gyda chi i ddarganfod mwy am eich prosiect. Fel arfer byddwn yn ffonio neu’n e-bostio chi a'ch partneriaid. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn a allwn ymweld â'ch prosiect. - Byddwn yn dweud ein penderfyniad terfynol wrthych tua 4 mis ar ôl i ni gael eich cynnig
Bydd ein panel Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn penderfynu a ddylid cynnig grant i chi.
Os na fyddwn yn cynnig grant i chi, byddwn yn rhoi adborth i chi i egluro pam. Byddwn hefyd yn ceisio eich cefnogi. Er enghraifft, rhoi awgrymiadau i chi am sut i wella unrhyw geisiadau rydych chi'n eu hysgrifennu yn y dyfodol. Neu roi gwybod i chi am grwpiau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg. - Os yw eich cais yn llwyddiannus
Dyma beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n derbyn grant. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich helpu i wneud y canlynol:- dathlu a hyrwyddo eich grant
- rhannu eich dysgu a chydweithio ag eraill.
Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano yn eich cais
Byddwn yn gofyn i chi am eich prosiect a sut mae'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym am ei ariannu.
Hoffem wybod:
1. Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?
Dylech ddweud wrthym:
- ynglŷn â'ch prosiect
- sut mae eich prosiect yn cyflawni ein blaenoriaethau
- syniad o sut y byddwch yn dyrannu'r arian i gyflawni eich prosiect
- beth rydych chi'n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a'r hirdymor
- sut rydych chi'n gwybod bod ei angen
- sut mae'r gymuned wedi bod yn rhan o lunio'ch syniad
- pam mai dyma'r amser gorau ar gyfer eich prosiect
- am y pethau a fydd yn cynyddu'r siawns y bydd eich prosiect yn llwyddiannus, er enghraifft, mae gennych gefnogaeth gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.
Sut byddwch chi'n gweithio gydag eraill i gyflawni eich prosiect?
Dylech ddweud wrthym:
- ynglŷn â'ch sefydliad
- pa brofiad neu ddysgu sydd wedi eich arwain i ymgeisio
- am y cymunedau, y sefydliadau neu'r grwpiau rydych chi'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd (neu'r rhai rydych chi'n gobeithio gweithio gyda nhw)
- pam mai eich partneriaeth chi sydd orau i gyflawni'r gwaith hwn
- beth fydd y partneriaid yn ei wneud yn eich prosiect?
- sut y byddwch yn rhannu dysgu ymhlith eich partneriaid a gyda grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.
Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd?
Gallwch weld beth rydym yn ei olygu drwy 'weithredu hinsawdd'.
Dylech ddweud wrthym:
- sut y bydd eich prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau – yn y tymor byr a'r hirdymor
- sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
- sut y byddwch yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer pobl a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol - er enghraifft, pobl sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTC+, a phobl sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n defnyddio llai.
Ein telerau ac amodau
Darllenwch ein telerau ac amodau ariannu.
Sut rydym yn defnyddio'r data personol rydych chi'n ei roi i ni
Darllenwch ein datganiad diogelu data.
Rydym yn gwirio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni
Fel sefydliad sy'n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal gwiriadau ar y wybodaeth a roddwch i ni. Dysgwch ragor am ein gwiriadau.