Mae’r DU wedi colli llawer o’i hamgylchedd naturiol i weithgarwch dynol – mwy na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn y byd. Mae hyn yn wir yn benodol ar gyfer rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae adfer a gwella’r amgylchedd naturiol, a’n cysylltiad â byd natur, yn helpu datrys nifer o broblemau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd.
Felly rydyn ni’n chwilio am geisiadau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad eglur rhwng natur a hinsawdd.
Hoffem ariannu prosiectau sy’n defnyddio natur i annog rhagor o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Rydyn ni’n disgwyl i’r prosiectau hyn ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig eraill hefyd, fel creu cymunedau cryf, gwydn ac iach, a datblygu sgiliau a swyddi “gwyrdd”.
Beth fyddwn ni’n gofyn amdano yn eich cais
Byddwn ni’n gofyn i chi am eich syniad a sut mae’n addas ar gyfer y meysydd rydyn ni’n canolbwyntio arnynt. Hoffem wybod:
1. Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?
Dylech ddweud wrthym:
- ynghylch eich prosiect
- yr hyn rydych chi’n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a’r hirdymor
- sut rydych chi’n gwybod bod angen eich prosiect
- sut mae cymunedau wedi bod ynghlwm â datblygiad y syniad
- pam mai dyma’r amser cywir ar gyfer eich prosiect
- am y pethau a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant eich prosiect – er enghraifft, mae cefnogaeth gennych gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.
2. Sut fydd eich partneriaeth yn gweithio?
Dylech ddweud wrthym:
- am eich sefydliad
- pa brofiad neu ddysgu sydd wedi arwain atoch chi’n ymgeisio
- am y sefydliadau a’r grwpiau rydych chi’n gweithio â nhw ar hyn o bryd (neu’r rhai yr ydych chi’n gobeithio gweithio â nhw)
- pam bod eich partneriaeth arfaethedig yn y sefyllfa orau i gyflawni’r gwaith hwn
- sut fydd y partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal y prosiect hwn
- sut fyddwch chi’n rhannu dysgu ymysg eich partneriaid a grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.
3. Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i lwyddo a ffynnu?
Dylech ddweud wrthym:
- sut fydd eich prosiect yn effeithio ar gymunedau’n gadarnhaol – yn y tymor byr a’r hirdymor
- sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
- sut fyddwch chi’n mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi ar gyfer pobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli - er enghraifft, y rhai hynny sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol, pobl anabl, pobl LHDTQ+, pobl sy’n ceisio lloches neu ffoaduriaid.
Ein ffocws ar gyfer ariannu – natur a hinsawdd
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am geisiadau sy’n dangos o leiaf un o’r canlynol:
- bydd creu cysylltiad dyfnach â natur yn arwain at newid ymddygiad pobl a mwy o ofal dros yr amgylchedd
- trwy ddod â natur nôl i’r llefydd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio, gallwn ni helpu cymunedau i leihau neu addasu i effeithiau newid hinsawdd.
Hoffem glywed hefyd sut y gallai eich prosiect:
- hyrwyddo iechyd a lles
- cefnogi datblygiad sgiliau a swyddi gwyrdd
- adeiladu cymunedau cryf
Mathau o brosiectau y gallem eu hariannu
Mae diddordeb gennym mewn ariannu amrywiaeth eang o wahanol brosiectau. Gallai’r rhain gynnwys prosiectau sy’n dod â chymunedau ynghyd i:
- creu mannau naturiol newydd sy’n fwy hygyrch ac o ansawdd gwell, lle mae’r amgylchedd naturiol wedi cael ei ddisodli gan weithgarwch dynol – megis ardaloedd trefol
- annog ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy gynyddu cyfleoedd dysgu awyr agored
- defnyddio natur i fynd i’r afael â phroblemau hinsawdd cynyddol – fel y tymheredd yn codi neu’r perygl o lifogydd mewn mannau trefol
- defnyddio straeon neu ddulliau creadigol i ymgysylltu cymunedau â’r her hinsawdd trwy natur
- archwilio systemau cynhyrchu bwyd sy’n llai niweidiol i natur, yn fwy hunangynhaliol, neu sy’n lleihau’r pellter yr ydym ni’n cludo bwyd
Gallwch ddarllen ein blog i weld enghreifftiau o brosiectau yr ydym ni’n debygol o’u hariannu.
Dylai pob prosiect allu dangos:
- sut maen nhw’n ymateb yn eglur i flaenoriaethau cymunedol ac yn rhoi cymunedau’n – gyntaf darllen blog am ein hamcan i roi cymunedau’n gyntaf
- sut maen nhw’n dod â rhanddeiliaid amrywiol ynghyd
- cynlluniau eglur am sut fyddan nhw’n ymgysylltu’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt yn gweithredu yn erbyn newid hinsawdd yn barod. Mae diddordeb penodol gennym mewn clywed gan brosiectau sy’n bwriadu lleihau rhwystrau cyfranogi ar gyfer grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
- sut fyddan nhw’n mesur ac yn profi eu heffaith amgylcheddol – er enghraifft, gallech chi fesur lleihad carbon
- yr hyn fydd yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect
- eu bod yn gallu dod ag arbenigedd i helpu datgloi cyfleoedd a rhwystrau y gallai cymunedau eu hwynebu wrth weithredu yn erbyn newid hinsawdd
- eu bod yn gallu defnyddio pŵer adrodd straeon i rannu eu llwyddiannau ac ysbrydoli cymunedau i ddysgu am yr hinsawdd a gweithredu.
Mae diddordeb penodol gennym i glywed gan brosiectau sy’n fodlon cysylltu â mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill i gael ysbrydoliaeth, cyfnewid dysgu a chynyddu eu heffaith. Byddwn ni’n cynnig cyfleoedd datblygu a chyd-ddysgu strwythuredig i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu. Byddwn ni’n trafod y mathau o gefnogaeth yr ydym ni’n eu cynnig gyda phrosiectau sy’n cyrraedd cam 2 yr asesiad.
Hoffem gefnogi cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli
Mae diddordeb penodol gennym mewn prosiectau sy’n cael eu harwain, neu sy’n cefnogi, pobl a chymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol, pobl anabl, pobl LHDTQ+, pobl sy’n ceisio lloches neu ffoaduriaid. Hoffem weld rhagor o bobl yn y cymunedau hyn yn cael eu cynrychioli yn ein hariannu.
Rydym yn awyddus i glywed am brosiectau sy’n:
- angerddol dros gyfiawnder hinsawdd
- mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol
- cael eu harwain gan bobl a chymunedau sy’n cael eu heffeithio’n fwy niweidiol gan newid hinsawdd – er enghraifft, cymunedau sy’n byw mewn ardaloedd mewn perygl o lifogydd.
Y prosiectau rydym ni’n annhebygol o’u hariannu
Rydym ni’n annhebygol o ariannu:
- prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r byd naturiol yn unig – mae angen i brosiectau gynnwys pobl a chymunedau
- ceisiadau na allant ddangos sut y mae’r gymuned wedi cyfrannu at ddyluniad a datblygiad y prosiect
- ceisiadau gan sefydliadau unigol
- ceisiadau sy’n hyrwyddo agenda sefydliad neu grŵp unigol
- ceisiadau am weithgareddau statudol
- ceisiadau sydd ond yn chwilio am gyllid cyfalaf
- sefydliadau sy’n ymgeisio am lawer mwy o gyllid nag y mae ganddynt brofiad o’i reoli, neu sy’n cynyddu eu trosiant blynyddol yn arwyddocaol
- prosiectau amgylcheddol neu natur ehangach nad ydynt yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar newid hinsawdd.
Cefndir y Gronfa Gweithredu Hinsawdd
Lansiwyd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd gennym yn 2019, fel rhaglen £100 miliwn 10 mlynedd. Ei bwriad yw dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd pobl a chymunedau’n arwain wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gyda chyllid y Loteri Genedlaethol, bydd cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i rannu dysgu a bod yn gyfranogwyr gweithredol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwydn.
Rydym eisoes wedi dyfarnu £36.7 miliwn mewn grantiau i 48 o bartneriaethau a arweinir gan y gymuned ledled y DU. Gallwch ddysgu rhagor am yr hyn yr ydym wedi’i wneud yn barod yn ein blog am y rownd ariannu gyntaf. A’n blog o’r ail rownd ariannu.
Os nad ydych chi’n sicr a ddylech chi ymgeisio
Gallwch chi: