Ffocws ein grantiau fydd cefnogi prosiectau ei harwain gan y gymuned sy'n mynd i'r afael â gwastraff a defnydd. Bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol gymunedau, ond mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn cydnabod bod angen i bob un ohonom symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw.
Grantiau ar gael
Bydd swm y grant sydd ar gael fesul cais yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen ar bob partneriaeth ar hyn o bryd:
- gall ymgeiswyr sydd angen mwy o amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu'n eang neu brofi eu dulliau gweithredu wneud cais am grant datblygu cychwynnol (isafswm maint y grant yw £100,000, hyd at uchafswm o £150,000 - yr isafswm hyd yw 12 mis). Efallai y cewch gyfle i wneud cais am grant tymor hwy yn ddiweddarach.
- gall ymgeiswyr sydd â chynigion prosiect mwy datblygedig ac a allai ddechrau cynlluniau tymor hir yn gynharach, wneud cais am ddyfarniadau mwy, tymor hir (isafswm maint y grant yw £500,000, hyd at uchafswm o £1.5 miliwn. Disgwyliwn i hyd y dyfarniadau llawn fod rhwng tair a phum mlynedd). Nid oes angen i chi fod wedi cael grant datblygu'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn gyntaf i wneud cais am ddyfarniad llawn.
Pam gwastraff a defnydd?
Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu fwyaf i newid yn yr hinsawdd a wnaed gan ddynolryw yw ein bod yn defnyddio mwy a mwy o 'bethau' ac yn ei daflu i ffwrdd yn gyflymach byth. Caiff cymdeithasau modern eu nodweddu gan lefelau cynyddol o ddefnydd ac, yn dilyn hynny, gwastraff. Y traul cynyddol hwn - mae bwyd cyflym, ffasiwn cyflym a chynhyrchion 'un defnydd' - wedi cyfrannu'n helaeth at y cynnydd cyflym mewn allyriadau carbon dros y degawdau diwethaf.
Mae gan gymunedau rôl ganolog i'w chwarae. Gallant hyrwyddo a chefnogi'r newid mewn ymddygiad a'r newidiadau agwedd sydd eu hangen i leihau gwastraff diangen, ac annog pobl i newid i ffyrdd mwy meddylgar o fwyta. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal pob defnydd ond meddwl mwy am yr hyn a ddefnyddiwn a sut rydym yn ei ddefnyddio. Bydd torri gwastraff diangen, a chefnogi datblygiad economi gylchol, yn allweddol i'n symud i gymdeithas carbon isel.
I gael rhagor o wybodaeth am pam mae gwastraff a defnydd yn ffocws pwysig i ni, a sut y gallai hynny edrych fel prosiect a arweinir gan y gymuned, darllenwch ein blog.
Beth rydym yn gobeithio ei ariannu
Mae ein ffocws ar wastraff a defnydd yn ymdrin â themâu fel yr is-gategorïau canlynol a restrir isod:
- gwastraff bwyd
- trwsio ac ailddefnyddio
- manwerthu prynwrïaeth
- ffrydiau gwastraff.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am ddulliau prosiect eraill ac nid ydym yn chwilio am brosiectau i fynd i'r afael â'r holl is-gategorïau hyn o reidrwydd.
Galw mawr am y grantiau hyn
Disgwyliwn y bydd y galw am y grantiau hyn yn uchel. Yn rownd un, cawsom dros 630 o geisiadau am syniadau cychwynnol a gwnaethom 23 o ddyfarniadau ariannu. Felly, os ydych chi'n gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano.
Yn rownd un, er enghraifft, cawsom lawer o geisiadau eithaf tebyg i brosiectau lleol ddechrau neu ddatblygu caffis trwsio a llyfrgelloedd adnoddau. Rydym yn cefnogi'r mathau hyn o brosiectau, ond ni allwn gefnogi llawer o brosiectau neu ddulliau tebyg iawn drwy'r grant penodol hwn. Felly, mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld sut y gall prosiectau o'r fath adeiladu ar yr hyn a wnânt drwy gynyddu eu cwmpas a nifer y bobl y maent yn eu cyrraedd.
Rydym am sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy'n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a lleoedd o bob rhan o'r DU.
Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae sut mae prosiectau'n ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eu gwaith yn hanfodol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, a'r rhai sy'n cael eu harwain gan bobl a chymunedau y mae newid hinsawdd yn effeithio'n fwy waethaf arnynt.
Rhaid i'r prosiectau rydym yn eu hariannu hefyd allu dangos:
- sut y cânt eu harwain gan y gymuned - bydd y prosiect yn cael ei arwain a'i yrru gan grwpiau lleol sydd â dealltwriaeth ddofn o anghenion lleol, a bydd y syniad wedi'i gynllunio a'i ddatblygu drwy gynnwys y bobl a fydd yn elwa. Rydym am weld bod y prosiect wedi siarad â phobl yn y gymuned ac wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, beth maen nhw ei eisiau, pam mae'n bwysig iddyn nhw, a sut y bydd pobl yn cymryd rhan.
- eu bod yn gweithio mewn partneriaeth - bydd prosiectau’n bartneriaethau sy’n seiliedig mewn lleoliad ac a gaiff ei harwain gan y gymuned. Bydd y bartneriaeth yn dod ag ystod eang o bobl a sefydliadau sydd â gweledigaeth gyffredin o sut ddylai gweithredu lleol ar yr hinsawdd edrych. Gwyddom fod newid yn cynnwys pob rhan o gymdeithas ac rydym yn disgwyl i chi fod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid o sectorau gwahanol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn partneriaethau sy'n cynnwys iechyd a'r GIG, awdurdodau lleol a/neu gymdeithasau tai. Ni allwn ariannu sefydliadau sydd â'r nod o gynhyrchu elw ar gyfer dosbarthu preifat, ond byddem yn annog partneriaethau i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'r sector preifat. Os dyfernir grant, bydd disgwyl i bartneriaethau roi cytundeb partneriaeth ar waith (os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes), gan nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd.
- eu cynlluniau ar gyfer sut y bydd y prosiect yn cael effaith barhaol - er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r hinsawdd, mae'n bwysig bod y newidiadau a wneir yn gynaliadwy ar ôl i’n grant ni ddod i ben. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gallu dangos sut y bydd eu gwaith yn cefnogi newidiadau mewn ymddygiad a ffordd o fyw ar draws eu cymuned, ac o bosibl newidiadau mewn agweddau tymor hir. P'un a yw hyn yn adeiladu ar waith yr ydych wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, neu'n mabwysiadu dull cwbl newydd, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau a all ddangos sut y bydd eu gwaith yn cyfeirio at newid systemig ehangach.
- sut y byddant yn cyrraedd mwy o bobl - mae angen i brosiectau ymgysylltu â phobl y tu allan i'r rhai sydd eisoes yn gweithredu yn yr hinsawdd a byddant yn gallu dangos cynlluniau clir ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymrwymo iddynt.
- eu dull o ddysgu a rhannu - bydd gan brosiectau gynlluniau ynghylch sut y byddant yn mesur newid ac yn dangos y gwahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud, gan gynnwys sut y byddant yn rhannu eu dysgu i alluogi ac ysbrydoli eraill i weithredu.
Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan grwpiau sy'n ystyried gwahanol ffyrdd o ariannu eu prosiectau, gan gynnwys datblygu'r potensial ar gyfer cynhyrchu incwm o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau grant.
Lleihau eich effaith amgylcheddol
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys y cymunedau a'r prosiectau rydym yn eu cefnogi. Dysgwch fwy am sut i leihau eich effaith amgylcheddol ar wefan GOV.UK ac ar ein gwefan.
Byddwn yn disgwyl i sefydliadau arweiniol a'r holl bartneriaid ystyried eu heffaith amgylcheddol a chael polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith.
Beth rydym yn annhebygol o'i ariannu
Rydym yn annhebygol o ariannu:
- ceisiadau na allant ddangos sut mae'r gymuned leol ehangach wedi cyfrannu at ddylunio a datblygu'r prosiect
- ceisiadau sydd am gyflwyno prosiect cenedlaethol
- ceisiadau gan sefydliadau sengl
- ceisiadau sy'n ymwneud â hyrwyddo agenda un sefydliad - neu grŵp
- ceisiadau am weithgareddau statudol, mae cymaint o brosiectau ailgylchu a gwastraff domestig yn annhebygol o fod yn gymwys i gael grant
- ceisiadau sydd ond yn chwilio am grant cyfalaf
- sefydliadau sy'n gwneud cais am lawer mwy o arian nag y mae ganddynt brofiad o'i reoli, neu sy'n cynyddu eu trosiant blynyddol yn sylweddol.
Grantiau posibl arall ar gyfer gweithredu hinsawdd
Os nad yw'r rhaglen hon yn iawn i chi, neu os ydych wedi bod yn aflwyddiannus wrth wneud cais, dysgwch am grantiau posibl arall ar gyfer gweithredu hinsawdd.
Darparu eich prosiect yn Gymraeg
Os byddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.