Dros oes y rhaglen, mae Cronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau o amryw o sectorau gan gynnwys pysgodfeydd, cynhyrchiant, bwyd a diod, a thwristiaeth. Bydd prosiectau llwyddiannus fel arfer yn medru arddangos y canlynol:
- Tystiolaeth o allbynnau prosiect clir, a chreu swyddi yn benodol
- Gallu i gyflwyno o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt
- Cynaladwyedd y gweithgaredd a'r effaith yn y tymor hwy.
Mae prosiectau a ariannwyd gan Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru mewn rowndiau blaenorol yn cynnwys
Derbyniodd Halen Môn grant o £298,608 er mwyn amrywiaethu'r busnes trwy gynhyrchu cynnyrch halen môr newydd ac ehangu eu hamrediadau cynnyrch wrth fygu, cynyddu capasiti teithiau tywysiedig ‘Y tu ôl i’r Llen’, a chreu ardal gweini bwyd awyr agored a chynnig bwyd y môr a diod leol.
Gwobrwywyd £139,568 i Milford Haven Port Authority er mwyn gosod gwesty pedair ystafell arnofiol hygyrch – “cabanau arnofiol” – yn eu marina. Mae’r cabanau wedi cynhyrchu o bren gydag esthetig morol traddodiadol ac yn cynnwys ystafell wely, ystafell ymolchi, ardal fyw, a theras allanol sy’n medru lletya hyd at bedwar person.
Gwnaeth prosiect £251,280 Vale of Rheidol Railway hyfforddi dau berson ifanc gyda sgiliau i adnewyddu cerbydau trên stem adfeiliedig, gan ddod â cherbydau mynediad anabl a cherbydau dosbarth cyntaf nol mewn i ddefnydd. Mae’r cerbydau newydd wedi galluogi’r busnes i ymestyn eu profiadau teithiau trên i bobl ag anableddau, cynyddu eu partneriaeth gyda busnesau lleol, a chynnal teithiau trên wedi’u thema newydd.
Mae prosiect Colwyn Bay Watersports CIC yn cyflwyno gwersi hwylio, syrffio gwynt, a bad modur yn ogystal â hurio canwod a chaiacau. Galluogodd y grant yma o £100,000 i’r mudiad fodloni galw trwy gynyddu niferoedd staff a phrynu offer ychwanegol a badau hwylio.
Derbyniodd Cwrw Llyn £64,400 i ddatblygu ac ehangu eu menter ficro fragdy. Gwnaeth y grant yma brynu offer a dyblu capasiti bragu’r cwmni, a rhan-ariannu fan newydd i gludo a marchnata’r cynnyrch ar draws ardal ehangach yng ngogledd a chanolbarth Cymru.