Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau.
Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu'r rhaglen ariannu Tyfu Syniadau Gwych a'r ceisiadau a gawsom, a gall hyn olygu newidiadau i'n cynnig am gyllid yn y dyfodol.
Pa wybodaeth sydd angen i chi wneud cais
Gofynnwn am fanylion cyswllt y prif gyswllt ar gyfer eich cais
Dylai hyn fod yn rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich menter.
Gofynnwn am enw cyfreithiol eich sefydliad a'i gyfeiriad
Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfoes ac yn cyd-fynd ag unrhyw ddogfennau gwybodaeth neu hunaniaeth y gallwn ofyn amdanynt.
Gofynnwn i chi hefyd ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau
Darllenwch ein telerau ac amodau.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais?
- Byddwch yn anfon eich cais atom – byddwn yn asesu eich cais. Mae'r galw am grantiau yn uchel, felly dim ond os ydynt yn bodloni ein meini prawf a'n disgwyliadau y byddwn yn mynd â cheisiadau i'r cam nesaf.
- Byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau cynnar am y ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf orau yn yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu. Ein nod fydd rhoi gwybod ichi am ein penderfyniad o fewn chwe wythnos o dderbyn eich cynnig.
- Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais yn fanwl. Byddwn hefyd yn anfon ffurflen fer atoch gyda mwy o fanylion am eich sefydliad a phrif gontractau'r fenter. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chwblhau rhai gwiriadau diogelwch (Dysgwch fwy am y gwiriadau a wnawn.) Byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich cyllideb arfaethedig. Os nad ydych yn siŵr faint rydych am wneud cais amdano, gallwn drafod hyn gyda chi.
- Byddwn yn gwneud penderfyniad – yn dibynnu ar faint o arian rydych yn gwneud cais amdano, bydd eich cais naill ai'n cael ei ystyried gan Banel Ariannu’r DU neu Bwyllgor Ariannu’r DU.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Unwaith y byddwch wedi derbyn grant gennym ni, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.