Taclo Digartrefedd - Gwledig

Roundabout Sheffield
Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol, sefydliadau sector cyhoeddus a sefydliadau sector preifat sy’n gweithio mewn partneriaethau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Mae’n rhaid i bartneriaethau gynnwys yr awdurdod/awdurdodau lleol sy’n ymdrin â’r ardal. Byddwn ni ond yn derbyn un cais ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Ceisiadau gan bartneriaethau sy’n ymdrin â digartrefedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Powys neu Sir Benfro.
Cyfanswm ar gael
£3 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Terfyn amser ymgeisio: Y terfyn amser i ddanfon ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb oedd 3pm ar Ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022. Mae'r rhaglen nawr wedi cau i geisiadau.

Os yw eich syniad Mynegiant o Ddiddordeb yn cael ei dderbyn, byddwn yn anfon ffurflen gais hirach atoch yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect a sefydliad, ac yn gofyn i chi ddatblygu cynllun prosiect. Mae’n rhaid i chi ddychwelyd y rhain atom erbyn 12pm ar Ddydd Iau 24 Tachwedd 2022.

Sut i ymgeisio?
  1. Lawrlwythwch gopi o nodiadau canllaw’r rhaglen. Argymhellwn eich bod yn darllen y ddogfen canllaw i’ch helpu i ddeall nodau a blaenoriaethau Taclo Digartrefedd - Gwledig. Gallwch lawrlwytho pdf o'r ddogfen o'r linc yma, ond gadewch i ni wybod os oes angen fformat gwahanol arnoch trwy e-bostio digartrefedd@cronfagymunedolylg.org.uk, ffoniwch 0300 123 0735 neu anfonwch neges destun at 18001 plws 0300 123 0735
  2. Cwblhewch y ffurflen yma. Dilynwch y linc yma i’r ffurflen sydd yn office forms, cysylltwch â ni os oes angen fformat gwahanol arnoch. Gallwch newid iaith y ffurflen i’r Gymraeg trwy ddewis o’r opsiynau disgyn-i-lawr ar ben y dudalen. Er efallai na fydd syniad eglur gennych o’r hyn yr hoffech ei wneud yn syth, byddwn yn eich cysylltu â sefydliadau eraill yn yr ardal(oedd) awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o bartneriaeth i ddatblygu cynllun i daclo digartrefedd. Mae angen eich caniatâd arnom cyn i ni allu rhannu eich manylion cyswllt â sefydliadau eraill. Mae cydweithio’n hanfodol ar gyfer y rhaglen hon

    .
  3. Fel partneriaeth, cwblhewch Ffurflen Mynegi Diddordeb.

    Y terfyn amser i ddanfon ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb oedd 3pm ar Ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022. Mae'r rhaglen nawr wedi cau i geisiadau.

    1. Bydd y ffurflen Mynegi Diddordeb yn gofyn am fanylion eich partneriaeth arfaethedig, a’r heriau lleol, gwledig yr hoffech fynd i’r afael â nhw. Er na fyddwn yn disgwyl i chi fod wedi ymgysylltu’n helaeth â’r bobl y mae’r rhaglen wedi’i dylunio i’w helpu cyn i chi anfon y ffurflen atom, byddwn yn disgwyl i chi amlinellu sut rydych chi’n cynnig gweithio â phobl sy’n ddigartref ac mewn llety dros dro (gweler diffiniad llawn digartrefedd yn y tab blaenoriaethau rhaglen) a’ch partneriaid i gyd-ddylunio’ch syniad prosiect.
    2. Byddwch chi hefyd yn gallu defnyddio’r ffurflen Mynegi Diddordeb i wneud cais am grant datblygu hyd at £50,000 i’ch cynorthwyo i ddatblygu cais llawn, os oes angen hynny arnoch. Os ydych chi’n meddwl bydd angen grant datblygu arnoch, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch trwy anfon e-bost at digartrefedd@cronfagymunedolylg.org.uk, ffoniwch 0300 123 0735 neu anfonwch neges destun at 18001 plws 0300 123 0735
    3. Noder: Os gwnaeth eich partneriaeth dderbyn grant datblygu yn ystod rownd gyntaf y rhaglen Taclo Digartrefedd, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o newid arwyddocaol i ni i fod yn gymwys am grant datblygu pellach.
    4. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb i wneud penderfyniad p'un ai y byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Pan fyddwn yn asesu eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth leol sydd gennym am eich ardal. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut gall eich partneriaeth daclo digartrefedd a llenwi bylchau yn eich cymuned.
    5. Rydym yn anelu i roi gwybod i chi am benderfyniad o fewn pedair wythnos o dderbyn eich ffurflen mynegi diddordeb. Os nad yw’n llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.
  4. Os ydych yn cael eich gwahodd i barhau, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch ac yn eich gofyn i ddatblygu cynllun prosiect cynhwysfawr ar gyfer eich prosiect arfaethedig. Byddwn yn rhoi pum mis i chi wneud hyn. Os dyfernir grant datblygu i chi, bydd angen i chi wario'r cyfan o fewn y pum mis.
    1. Byddwn yn cynnig adborth ac awgrymiadau ar gyfer cwblhau eich cynllun prosiect.
    2. Y dyddiad ar gyfer cyflwyno eich cais llawn fydd 5pm ar Ddydd Iau 24 Tachwedd 2022.
    3. Mae'r broses ymgeisio yn parhau i fod yn gystadleuol yng ngham dau ac mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu pob cynnig prosiect a gyflwynir. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni yn eich cynllun prosiect i benderfynu a ydym yn dyfarnu grant llawn i chi. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn ystod y broses asesu cam dau i egluro materion a gofyn am wybodaeth bellach.
    4. Rydym yn anelu i roi gwybod i chi am ein penderfyniad terfynol ym mis Chwefror 2023. Os nad ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.
Pwy all ymgeisio

Mae’r rhaglen ar agor i’r awdurdodau lleol yng Nghymru nad oeddent yn llwyddiannus yn rownd gyntaf y rhaglen Taclo Digartrefedd. Byddwn ni ond yn derbyn ceisiadau sy’n gweithio o fewn un neu’n fwy o’r ardaloedd awdurdod lleol hyn:

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Powys

Mae ein hymchwil yn dangos bod angen i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i gydlynu eu dull, cau bylchau a sicrhau eu bod yn manteisio ar gyfleoedd i atal a thaclo digartrefedd. Byddwn ni ond yn derbyn ceisiadau gan bartneriaethau amlsector, aml-sefydliadol. Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, byddem ni’n disgwyl i’r mathau canlynol o sefydliadau gymryd rhan fel partneriaid:

  • Sefydliadau trydydd sector lleol sefydledig gyda phrofiad o ddarparu gwasanaethau digartrefedd
  • Gwasanaethau iechyd
  • Awdurdodau lleol o’r ardaloedd uchod
  • Y sector rhentu preifat
  • Cymdeithasau tai
  • Sefydliadau trydydd sector gydag arbenigedd perthnasol
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Yr Heddlu
  • Sefydliadau Diogel
  • Sefydliadau lleiafrifoedd ethnig
  • Sefydliadau LHDT+
  • Mentrau cymdeithasol gydag arbenigedd perthnasol
  • Gwasanaethau iechyd meddwl
  • Sefydliadau crefyddol / lleoedd addoli
  • Sefydliadau Academaidd neu Ymchwil

Dylai Partneriaethau a cheisiadau gynnwys un neu’n fwy o ardaloedd awdurdod lleol a rhaid iddynt gael eu harwain gan sefydliad trydydd sector sydd mewn sefyllfa dda. Mae angen i'r partneriaethau gynnwys yr awdurdod/awdurdodau lleol sy'n cwmpasu'r ardal.

Byddwn ni ond yn derbyn un ffurflen Mynegi Diddordeb ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n dymuno gweithio ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol. Mae hyn oherwydd rydym am i sefydliadau lleol weithio gyda’i gilydd i ddatblygu datrysiadau yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd am gyllid.

Cyd-ddylunio gyda'r rhai fydd yn elwa

Rydym eisiau i ymgeiswyr weithio gyda'r rhai a fyddai'n elwa o'u prosiect i nodi, cynllunio a darparu gweithgareddau sydd o bwys iddynt. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i ymgynghori ac yn grymuso'r unigolion hynny trwy roi llais cyfartal iddynt yn y broses. Er na fyddwn yn disgwyl i chi fod wedi ymgysylltu'n helaeth â buddiolwyr yn ystod y cam Mynegi Diddordeb , byddwn yn disgwyl i chi amlinellu sut rydych chi'n cynnig gweithio gyda buddiolwyr a'ch partneriaid i gyd-ddylunio'ch syniad prosiect os cewch eich gwahodd i gwblhau cais llawn.

Dim ond prosiectau wedi’u cyd-ddylunio yr hoffem eu hariannu. Mae gan ymgeiswyr y rhyddid i ymdrin â’n blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen hon ym mha bynnag ffordd y maen nhw’n ei weld mwyaf priodol trwy’r gweithgareddau cyd-gynhyrchu. Er hynny, mae ein hymchwil ac ymgynghoriad wedi amlygu meysydd cyffredin yr ydym yn eu disgwyl i gael eu trafod yn eich cais, ac oherwydd maint y prosiectau yr ydym yn disgwyl eu hariannu, rydym yn disgwyl y bydd nifer o feysydd ffocws o fewn eich cynigion.

Blaenoriaethau Rhaglen

Beth yw Digartrefedd?

Rydym wedi diffinio digartrefedd fel 'peidio â chael cartref’. Mae rhywun sy'n ddigartref yn rhywun a allai fod yn:

  • cysgu allan
  • aros gyda ffrindiau neu deulu
  • aros mewn hostel, lloches nos neu Wely a Brecwast.
  • sgwatio (oherwydd nad oes gan rywun hawl cyfreithiol i aros)
  • dan risg o drais neu gam-drin yn y cartref
  • byw mewn amgylchiadau gwael sy'n effeithio ar iechyd
  • byw ar wahân o deulu gan nad oes lle i fyw gyda’i gilydd.

Mae achosion digartrefedd yn amrywiol ac yn unigryw i bob unigolyn, ond gallant gynnwys:

  • nid yw rhieni bellach yn barod i ddarparu llety
  • bod yn destun patrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheoli, gorfodaeth, bygythiol, diraddiol a threisgar, gan gynnwys trais rhywiol gan bartner, aelod o'r teulu neu ofalwr yn eu cartref presennol (cam-drin domestig)
  • chwalfa perthynas lle nad oes gan un ohonynt lety arall
  • tlodi
  • anghydraddoldeb
  • cyflenwad tai a fforddiadwyedd
  • diweithdra.

Bydd Taclo Digartrefedd: Gwledig yn dyfarnu grantiau i brosiectau strategol sy’n gweithredu ar draws un neu’n fwy o ardaloedd awdurdod lleol o’r wyth awdurdod lleol blaenoriaeth. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn ceisio ail-ddylunio gwasanaethau i wneud digartrefedd yn brin, yn fyr dymor ac yn anghylchol. Byddant yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu darparu gan bartneriaethau aml-asiantaeth.

Pwy fydd yn elwa o'r arian?

Rydym yn awgrymu y dylai pawb sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fod yn gymwys i elwa o’r prosiectau a gefnogir gan y fenter hon, ac y dylent dderbyn cefnogaeth am gyhyd ag y bo angen hynny arnynt, boed ydynt ar y rhestr angen blaenoriaeth ai peidio.

Rydym yn cydnabod y bydd gan rai pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref un neu ragor o nodweddion a fydd yn eu rhoi mewn mwy o berygl. Rydym yn disgwyl i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu i ystyried sut y byddant yn mynd i’r afael ag unrhyw anghenion cefnogaeth ychwanegol a allai fod ganddynt. Mae’r tabl hwn, nad yw’n gynhwysfawr, yn amlygu rhai o’r nodweddion a all arwain at angen unigolion am gefnogaeth ychwanegol.

Cyn-filwyr a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog

Pobl sy’n gadael gofal

Pobl sy’n gadael Sefydliadau Diogel

Teuluoedd

Pobl o leiafrif ethnig

Pobl sy’n hunan-nodi fel LHDT+

Pobl sy’n gaeth ac yn camddefnyddio sylweddau

Heriau iechyd meddwl

Ffoaduriaid

Ceiswyr lloches

Pobl sy’n gadael yr ysbyty

Pobl wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig

Pobl wedi’u heffeithio gan drais rhywiol

Pobl wedi’u heffeithio gan gam-fanteisio rhywiol

Gofalwyr ifanc

Pobl nad ydynt wedi’u hadnabod fel angen blaenoriaethol

Pobl sy’n ffoi rhag priodasau gorfodol

Pobl ifanc

Menywod sy’n feichiog

Dioddefwyr troseddau ar sail anrhydedd

Pobl hŷn

Pobl sy’n colli eu cartref trwy ddamwain neu drychineb naturiol

Pobl anabl

Pobl wedi’u heffeithio gan amgylchiadau economaidd anodd

Pobl sengl sy’n ddigartref

Pobl ag anableddau dysgu

Pobl â ffordd o fyw di-drefn

Pobl sy’n cael eu gwneud yn ddigartref ar sail gylchol

Taclo digartrefedd gwledig

Mae digartrefedd gwledig llawer yn llai gweladwy na digartrefedd mewn ardaloedd trefol Cymru, yn enwedig o ran cysgu allan. Mae tystiolaeth anecdotaidd sy’n awgrymu bod pobl yn llai tebygol o ymddangos yn ddigartref mewn ardaloedd gwledig. Oherwydd nad yw’r data a gasglwn am ddigartrefedd o reidrwydd yn gywir, mae’n golygu nad ydym yn gwybod pa mor eang yw digartrefedd yng nghefn gwlad Cymru. Byddem yn croesawu ceisiadau sy’n ystyried dulliau arloesol i adnabod digartrefedd mewn lleoliadau gwledig a’i daclo.

Blaenoriaethau

Hoffem ariannu prosiectau sy’n bodloni’r holl amcanion canlynol. Dylai eich cais egluro sut fydd eich partneriaeth yn:

  • Dod â phobl sydd wedi'u heffeithio gan ddigartrefedd ynghyd â sefydliadau'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus, a'r sector rhentu preifat, i gyd-ddylunio prosiectau sy'n ailgynllunio gwasanaethau i atal a thaclo digartrefedd, gan ei wneud yn brin, yn fyr dymor ac yn anghylchol.
  • Darparu cefnogaeth barhaus sy’n canolbwyntio ar y person, yn ychwanegol i’r ddarpariaeth gyfredol. Dylai hyn gydnabod bod digartrefedd yn aml ond yn un o sawl her a wynebir gan y rhai hynny sy’n ei brofi. Dylai ymdrin â’r heriau eraill yn eu bywydau a’u helpu i’w goresgyn.
  • Datblygu a darparu gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd i leihau’r nifer o bobl sy’n ddigartref yn y dyfodol.
  • Lleihau'r gwahaniaethu a'r rhagfarn a gyfeirir tuag at bobl ddigartref trwy annog empathi a dealltwriaeth trwy ddull sy'n seiliedig ar drawma o fewn gwasanaethau'r sector cyhoeddus, trydydd sector a'r gymuned ehangach .
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn ar ddulliau effeithiol tuag at wneud digartrefedd yn brin, yn fyr ac yn anghylchol a all lywio'r broses o gyflawni prosiectau yn ogystal â llunwyr polisi a chomisiynwyr gwasanaeth eraill.

Dylai eich cynllun prosiect hefyd ystyried y meysydd canlynol:

Arloesedd gwasanaeth

Gyda'r gwasanaethau presennol yn canolbwyntio ar ymateb i ddigartrefedd yn hytrach na'i atal, hoffem ariannu prosiectau sy’n rhoi’r pwyslais ar atal. Mae ein hymchwil amlygu bod gormod o gyfleoedd i adnabod ac atal digartrefedd yn cael eu colli, fel ymadawyr carchar yn cael eu rhyddhau i'r strydoedd; cleifion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty pan mae’n wyddys eu bod yn ddigartref; ymadawyr gofal sy'n gadael gofal awdurdod lleol heb gartref parhaol. Mae gwasanaethau’n aml yn rhy ddigyswllt i atal hyn rhag digwydd, a hoffem ddefnyddio ein cyllid i wella cydweithrediad rhwng sefydliadau sy’n cefnogi pobl ddigartref.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2015 yn gorfodi awdurdodau lleol i gynnig cefnogaeth i bobl sydd 56 diwrnod i ffwrdd o fod yn ddigartref i atal hynny rhag digwydd. Byddem yn croesawu mentrau sy'n edrych y tu hwnt i hyn i gymryd agwedd hyd yn oed yn fwy ataliol.

Cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Yn aml, dim ond un o sawl amgylchiad unigol yw digartrefedd a all effeithio ar bobl, gyda'r naill yn aml yn cyfrannu at y llall. Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys iechyd corfforol gwael; problemau iechyd meddwl; problemau alcohol a chyffuriau; profedigaeth; profiad o'r system ofal; profiad o'r system cyfiawnder troseddol; cam-drin domestig; tlodi; anghydraddoldeb; diweithdra; neu ddiffyg sgiliau bywyd ymarferol.

Disgwyliwn i'r prosiectau yr ydym yn eu hariannu weithio gydag unigolion i roi'r gefnogaeth ehangach sydd ei hangen arnynt i feithrin eu lles ac atal digartrefedd rhag ailddigwydd cyhyd ag y mae ei hangen arnynt.

Cefnogi tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat

Oherwydd bod angen mwy am dai cymdeithasol na’r rhai sydd ar gael, mae'r sector rhentu preifat wedi chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi awdurdodau lleol i fodloni gofynion Deddf Tai (Cymru) 2015. Mae ein hymchwil yn dangos bod landlordiaid preifat weithiau'n amharod i gynnig tenantiaethau i'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu'n profi digartrefedd yn barod, gan eu bod yn poeni am y potensial ar gyfer ôl-ddyledion rhent, a’r heriau lluosog y gallai rhai darpar denantiaid eu hwynebu. Rydym ni am i'r prosiectau rydym ni'n eu hariannu gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar denantiaid y sector rhent preifat, tra hefyd yn cefnogi landlordiaid i ddeall y materion yn well a chyfeirio tenantiaid at y gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnyn nhw.

Amgylcheddau a hysbyswyd gan drawma

Mae effaith hirdymor profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) ar iechyd, lles a chyfleoedd bywyd bellach wedi'i ddogfennu'n dda. Mae llawer o bobl sy'n ddigartref wedi bod yn agored iddynt ac mae rhai o'r ymddygiadau a'r arferion y maen nhw wedi’u dysgu o ganlyniad i hynny wedi arwain at droi allan, neu eu gwahardd o wasanaethau a ddyluniwyd i'w helpu. Mae dull cosbol yn cosbi defnyddwyr gwasanaeth am ‘ymddygiad gwael’ ymddangosiadol. Mae sicrhau bod gwasanaethau ar y rheng flaen yn cynnig dull a hysbyswyd gan drawma yn galluogi staff i ddeall pam bod ymddygiadau heriol yn codi, ac i weithio’n fwy adeiladol a chreadigol i ymdrin â nhw. Mae hyn yn helpu cynyddu gwytnwch, cymhelliant a boddhad swydd staff. Hoffem i brosiectau yr ydym yn eu hariannu fod yn seiliedig o amgylch dull a hysbyswyd gan drawma.

Lleihau gwahaniaethu a rhagfarn

Yn anffodus, mae pobl sy’n ddigartref yn profi rhagfarn. Gall hyn ddigwydd yn y gymuned ehangach a’r gwasanaethau y maen nhw’n troi atynt am gymorth. Rydym am i'r prosiectau sy'n derbyn arian wreiddio darpariaeth gwasanaethau priodol yn y gymuned mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r rhagfarn a'r stigma hwn.

Ar beth y gallwch chi wario’r arian?

Grantiau datblygu

Mae grant datblygu o hyd at £50,000 ar gael i bob ffurflen Mynegi Diddordeb a gyflwynir. Dylai hwn gael ei wario o fewn pum mis o gael ei ddyfarnu, a chyn cyflwyno cais llawn. Mae grantiau datblygu ar gyfer costau refeniw yn unig.

Credwn efallai y bydd angen grantiau datblygu er mwyn darparu adnoddau ar gyfer y gwaith dwys o greu’r cysylltiadau rhwng y gwasanaethau statudol a thrydydd sector, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn dyluniad prosiectau a datblygu cynllun prosiectau.

Grantiau prosiect llawn

Bydd grantiau prosiect yn para rhwng pump a saith mlynedd oherwydd credwn y gallai grantiau mwy hirdymor hyrwyddo ail-ddyluniad gwasanaethau a bod yn fwy addas at anghenion cefnogaeth mwy hirdymor y bobl y mae’r prosiect yn bwriadu eu helpu. Rydym yn disgwyl i’r rhain fod yn grantiau refeniw yn bennaf. Gall prosiectau hefyd ofyn i ni gytuno ar rai costau cyfalaf.

Uchafswm maint y grant ar gyfer ceisiadau yw £1.5 miliwn.

O ystyried graddfa a chwmpas tebygol y prosiectau aml-bartner yr ydym yn gobeithio eu hariannu, mae’n annhebygol y byddwn yn gallu ariannu’r holl brosiectau sy’n ymgeisio am grant trwy’r rhaglen hon.

Gwerthuso a dysgu

Rydym am i bob prosiect yr ydym yn ei ariannu gomisiynu gwerthusiad prosiect y gallant ei ddefnyddio i:

  • ymgorffori gwersi a ddysgwyd trwy gydol oes y prosiect
  • llywio gwaith comisiynwyr a llunwyr polisi eraill ym maes tai a digartrefedd
  • ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i wneud digartrefedd yn brin, yn fyr dymor ac yn anghylchol.

Mae ein hymchwil ein hunain wedi dangos bod angen gwell tystiolaeth i helpu llywio'r broses o ddyrannu arian cyhoeddus i daclo digartrefedd er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl. Hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu ychwanegu at y dystiolaeth am yr hyn sy’n effeithio fwyaf ar atal digartrefedd trwy werthuso eu dull a rhannu’r dysgu ohono.

Dylai ymgeiswyr ystyried cynnwys sefydliad ymchwil neu unigolyn priodol fel rhan o'u partneriaeth i sicrhau bod gwerthuso a dysgu yn rhan annatod o'u syniad prosiect o'r cychwyn cyntaf.

Drwy gydol y grant, byddwn ni’n dod â phrosiectau, y bobl sy’n elwa ohonynt a chynrychiolwyr sefydliadau perthnasol eraill ynghyd i rannu’r dysgu o brosiectau’n ehangach. Byddwn ni’n darparu canllawiau gwerthuso i gefnogi’r prosiectau hynny a wahoddir i gyflwyno cais llawn, er mwyn cynorthwyo gyda’u cynlluniau gwerthuso.


Ni allwn ariannu:

  • alcohol
  • gweithgareddau gwneud elw/codi arian
  • TAW adferadwy
  • gweithgareddau statudol
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • talu rhywun arall i ysgrifennu'ch cais.