Meddwl Ymlaen

Vic Studios

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer Meddwl Ymlaen.

Mae Meddwl Ymlaen yn rhaglen grant gwerth £10 miliwn i alluogi pobl ifanc i arwain er mwyn dychmygu a chreu dyfodol mwy gwydn a meddyliol iach i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae ei ffocws a'i nodau wedi'u cyd-gynllunio gyda'r Tîm Pobl Ifanc yn Arwain, tîm o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Gwyliwch ein fideo Pobl Ifanc yn Arwain - http://www.youtube.com/watch?v=TytqsQRVWJE.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau sy’n cynnwys sefydliadau’r trydydd sector a'r sector cyhoeddus
Maint yr ariannu
Dim uchafswm swm grant
Cyfanswm ar gael
£10 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Mae'r yn rhaglen hon ar gau i geisiadau newydd.

Nodau'r rhaglen

Nodau'r rhaglen yw grymuso pobl ifanc i:

  • greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwydn a meddyliol iach i bobl ifanc yn eu cymuned
  • cynllunio a datblygu dulliau newydd o ymdrin ag iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar atebion, gan ganolbwyntio ar:
    • mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl a amlygwyd ac a waethygwyd gan bandemig COVID-19
    • cynllunio ffyrdd newydd o atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu, a sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn, ble bynnag y byddant yn troi am help
    • cryfhau mynediad hirdymor pobl ifanc at asedau gwydnwch yn eu bywydau a'u cymunedau
    • dod â newidiadau parhaol sy'n cynyddu gallu systemau a/neu gymunedau i feithrin gwydnwch pobl ifanc a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau iechyd meddwl ac adfyd.