Mae’r rhaglen Seilwaith Newydd bellach ar gau
Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglen Seilwaith Newydd. Os gwnaethoch gyflwyno cais, efallai y byddwn yn cysylltu â ni i ofyn mwy o gwestiynau. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi a fyddwn yn ariannu eich prosiect erbyn diwedd mis Chwefror 2021.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser
Cysylltwch â ni ar cronfaddigidol@cronfagymunedolylg.org.uk.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio?
- Rydych chi'n anfon eich cais atom – byddwn yn asesu eich cais. Rydym yn disgwyl llawer iawn o alw am y grant hwn, felly bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch pa brosiectau i'w datblygu.
- Byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau cynnar am y ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf orau am bwy all wneud cais.
- Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am ffurflen fer gyda mwy o fanylion am eich sefydliad a chyllideb fanylach. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yn y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chwblhau rhai gwiriadau diogelwch. (Dysgwch fwy am y gwiriadau a wnawn.) Byddwn hefyd yn trefnu sgwrs gyda chi. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid dyfarnu grant.
- Byddwn yn gwneud penderfyniad – bydd panel o'n staff a'n harweinwyr yn gwneud penderfyniad. Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw ein penderfyniad erbyn diwedd mis Chwefror 2021.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Ar ôl i chi gael grant gennym ni, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Bydd gan bob sefydliad a ddewisir grant o hyd at £50,000 ar gael i dalu am eu costau. Gallai hyn dalu costau ychwanegol dros y flwyddyn wrth iddynt wneud newidiadau i'r ffordd y maent yn gweithio, a/neu i dalu costau'r amser a dreulir yn gweithio gyda'r Lab Dylunio. Bydd gan y Lab Dylunio dîm pwrpasol, sy'n gweithio'n llawn amser ar draws yr holl sefydliadau seilwaith, gan gynnig hyfforddiant ac arbenigedd yn ystod y rhaglen.
Beth fydd y Lab Dylunio yn ei gynnig?
Bydd y Lab Dylunio yn cynnig hyfforddiant ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:
- nodi beth i roi'r gorau i'w wneud
- sgiliau a galluoedd newydd
- gwell defnydd o offer a data digidol
- canolbwyntio ar y defnyddiwr
- dylunio cynnwys a sianeli gwahanol ar gyfer dosbarthu cynnwys
- dulliau ar gyfer profi, arbrofi ac ailadrodd
- cymorth i ddod yn fwy ymatebol ac yn gallu addasu'n barhaus
- defnyddio data yn fwy effeithiol
- segmentu defnyddwyr yn well
- archwiliadau gwasanaeth
- adeiladu partneriaethau.
Faint o arian sydd ar gael?
Byddwn yn dyfarnu hyd at £50,000 i bob un o'r sefydliadau seilwaith. Disgwyliwn ariannu tua 8 i 10 sefydliad.