Sut i wneud cais
I wneud cais mae'n rhaid i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol am eich syniad
I drefnu sgwrs cysylltwch â ni naill ai drwy:
- anfon e-bost at pawbaile@cronfagymunedolylg.org.uk, neu
- ein ffonio ni ar 0300 123 0735 (ar agor rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â swyddog ariannu yn eich ardal o fewn pum niwrnod i gysylltu â ni. Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth cyn yr alwad hon. Bydd yn sgwrs anffurfiol fel y gallwn ni ddysgu mwy am eich syniad.
Os ydych chi’n gymwys i wneud cais am y grant, bydd y swyddog ariannu yn anfon ffurflen gais ar-lein atoch chi.
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi gwblhau ffurflen gais ar-lein
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.
Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym ni am eich syniad, fel:
- fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ffurflen gais a'r canllawiau
- fersiwn PDF o'r ffurflen gais.
Pa wybodaeth rydych chi ei hangen i wneud cais
Gallwch weld rhestr lawn o gwestiynau o'r ffurflen gais.
Yn y ffurflen gais byddwn yn gofyn y canlynol i chi:
- beth hoffech chi ei wneud
- sut rydych chi'n cynnwys eich cymuned
- sut y byddwch chi’n cyflawni eich prosiect
- sut y byddwch chi’n ystyried effaith eich prosiect ar yr amgylchedd.
I'ch helpu i wneud cais am grant
Rydym ni’n eich annog i ddefnyddio'r teclyn VCSE StrengthChecker. Gall yr adnodd ar-lein rhad ac am ddim hwn eich helpu i gryfhau'ch sefydliad. Mae'n cynhyrchu adroddiad a fydd yn eich helpu i nodi:
- beth mae eich sefydliad neu eich cymuned yn ei wneud yn dda
- beth sydd ei angen i ddatblygu a gwella. Gallai hyn gynnwys costau ychwanegol am bethau fel hyfforddiant y gallem ni ei ariannu.
Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am eich sefydliad, sy'n cymryd tua 40 munud i'w gwblhau. Dylech gynnwys cydweithwyr eraill i ddod â gwahanol safbwyntiau at ei gilydd o bob rhan o'ch sefydliad. I lenwi'r ffurflen, byddwch angen y canlynol:
- cyfrifon archwiliedig diweddaraf
- cyfrifon rheoli diweddaraf
- strwythur staff
- cyllideb y flwyddyn nesaf
- gwybodaeth codi arian neu gynhyrchu incwm a dadansoddiadau.
Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth am ble y gallech chi ddatblygu neu wella o'r adroddiad i benderfynu a ydych chi’n cael grant.
Os ydych yn ymgeisio i brynu cerbyd
Bydd angen i chi anfon y canlynol atom:
- arfarniad opsiynau sy’n dangos i ni eich bod wedi ystyried gwahanol opsiynau teithio
- manylion am y cerbyd
- cyllideb ar gyfer y cerbyd sy’n para tan i’r grant ddod i ben
- tri dyfynbris i brynu cerbyd
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i chi ei anfon atom, dylech ddarllen ein canllawiau ar brynu cerbyd (PDF 810KB).
Os ydych chi’n gwneud cais am gostau tir, adeiladu neu adnewyddu
Mae angen i chi naill ai:
- fod yn berchen ar y tir neu'r adeilad
- feddu ar brydles na ellir ei derfynu am bum mlynedd
- cael llythyr gan y perchennog yn dweud y bydd y tir neu'r adeilad yn cael ei brydlesu i chi am o leiaf bum mlynedd, neu
- cael llythyr swyddogol gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod yn cael gwneud gwaith ar yr adeilad
Dylech hefyd wirio p’un a fyddwch chi angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith.
Rhaid i chi ddarllen ein canllawiau a rhestr wirio ar gyfer prosiectau tir, adeiladu ac adnewyddu (PDF 671KB). Yn y ffurflen gais, gofynnwn i chi gwblhau ac uwchlwytho'r rhestr wirio.
Os ydych chi’n gwneud cais am grant i'ch helpu i gynllunio gwaith tir neu waith adeiladu
Byddwn yn gofyn i chi:
- sut y bydd eich prosiect yn cyrraedd cam 4 o'r Cynllun Gwaith RIBA
- beth fyddwch chi'n gwario'r arian arno.
Dysgwch ragor am ein grantiau ar gyfer gwaith tir neu adeiladu ar y dudalen yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu.
Gofynnwn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o'ch sefydliad. Rydym ni angen cyfeiriad e-bost gwahanol ar gyfer pob person.
Dylai un person fod yn rhywun y gallwn ni siarad ag ef os oes gennym ni unrhyw gwestiynau am eich prosiect. Dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am yr arian. Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.
Ni all y ddau berson hyn fod yn perthyn. Gall perthyn olygu:
- yn perthyn trwy briodas
- mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
- mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
- yn perthyn drwy bartner hirdymor
- yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
- yn perthyn drwy waed.
Rydym ni’n gofyn am enw cyfreithiol eich sefydliad a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw
Gwiriwch y manylion hyn cyn gwneud cais. Hefyd gwiriwch unrhyw rifau cofrestru os oes gennych chi’r rhain - fel rhif elusen neu rif cwmni. Bydd yn arafu eich cais os nad yw'r manylion hyn yn gywir.
Rydym ni’n gofyn am fanylion am gyfrifon eich sefydliad
Byddwn yn gofyn i chi:
- am fanylion am gyllid eich sefydliad
- uwchlwytho cyfrifon eich sefydliad
- uwchlwytho eich amcangyfrifon 12 mis, os yw'ch sefydliad yn llai na 15 mis oed.
Rydyn ni’n gofyn i chi hefyd ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau.
Os ydych chi’n gwneud cais am gostau tir, adeiladu, cerbyd neu adnewyddu.
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau cyfalaf.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Fel rheol mae'n cymryd o leiaf 15 wythnos o'r amser y byddwch chi’n anfon eich cais atom i gael gwybod p’un a ydych chi’n cael cyllid. Dyma beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais:
- Byddwn yn ystyried eich cais
Rydym ni’n edrych ar eich syniad ac yn cynnal gwiriadau ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Gallwch ddarganfod mwy am y gwiriadau y byddwn ni’n eu cynnal ar eich gwybodaeth. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi’n gwneud cais am gostau tir, adeiladu, cerbyd neu adnewyddu
Byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Gallai hyn gynnwys lluniadau, arolygon, caniatadau a chostau. Byddwn yn gofyn i chi am y rhain pan fyddwn ni eu hangen. Gallwch ddarllen beth fydd ei angen arnoch yn ein: - Byddwn yn ceisio rhoi penderfyniad i chi o fewn 15 wythnos
Os nad ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn dweud pam wrthych chi.
Os ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r newyddion da.
Yna bydd swyddog ariannu yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i dderbyn yr e-bost hwn. Byddant yn egluro'r contract a thelerau’r grant. Byddant hefyd yn esbonio sut y bydd y grant yn cael ei dalu, lle byddwch chi’n cytuno ar ddyddiad cychwyn ar gyfer taliadau. Gallwch ddechrau eich prosiect
Gallwch ddechrau eich prosiect cyn gynted ag y byddwch chi wedi cytuno i'r contract a thelerau'r grant. Mae'n rhaid i chi gychwyn eich prosiect o fewn chwe mis o dderbyn e-bost gyda'ch llythyr cynnig. Dylech wario'r cyllid yn y ffordd y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n ei wario yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf). Efallai y byddwn yn gwirio o bryd i'w gilydd - i weld sut mae pethau'n mynd. Darganfyddwch fwy am sut i reoli eich grant.- Gallwch rannu eich stori
Rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu. Gallwch ddarganfod mwy am sut i hyrwyddo eich prosiect. Bydd eich e-bost dyfarnu hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.
Sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol
I ddarganfod sut rydym ni’n defnyddio eich data personol, gallwch ddarllen ein Datganiad Diogelu Data.