Mae'r Rhaglen Wledig (rownd dau) ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a chymunedau sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wledig. Bydd y rhaglen hon yn ariannu partneriaethau sy'n deall y cysylltiad rhwng achosion ac effeithiau tlodi, ac yn cynnig datrysiadau a gwasanaethau sy'n defnyddio dull cydlynol i daclo'r broblem wrth ei gwraidd.
Bydd prosiectau'n canolbwyntio ar helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion sylfaenol neu gyrchu gwasanaethau, nad oes ganddynt amodau byw rhesymol neu a allai fod wedi'u hynysu oddi wrth bobl eraill.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi datblygu eu syniad trwy archwilio ymchwil gyfredol, a byddant wedi ystyried sut fydd eu prosiect yn integreiddio â gweithgareddau a gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Rydym yn gwybod ei fod yn debygol y bydd datrysiadau lluosog, felly mae gennym ddiddordeb mewn cynigion a fydd yn profi dulliau newydd neu'n cyfuno amrywiaeth o syniadau i gyflawni'r effaith fwyaf.
Bydd prosiectau'n cael eu cyflwyno gan bartneriaethau sydd â dymuniad i gydweithio i ddod o hyd i'r dull gorau o helpu pobl a chreu gwahaniaeth pendant sy'n parhau y tu hwnt i gyfnod ein grant. Gall partneriaid gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o dlodi gwledig, mudiadau a gwasanaethau lleol, cyrff statudol, arbenigwyr ac ymchwilwyr.
Bydd eich prosiect yn grymuso pobl i gymryd rôl arweiniol wrth daclo tlodi gwledig trwy fod:
- Wedi'u harwain gan bobl – gan gynnwys yn bwrpasol y bobl a chymunedau a fydd yn elwa o'ch prosiect o ran ei ddyluniad a chyflwyniad
- Yn seiliedig ar gryfderau – gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a phrofiadau'r bobl rydych yn cydweithio â nhw, ac adeiladu arnynt
- Yn gysylltiedig – gan ddatblygu perthnasoedd gwaith da, deall beth mae mudiadau perthnasol eraill yn ei wneud yn yr ardal leol a sut fydd eich prosiect yn cydweddu â gweithgareddau a gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli neu'n ychwanegu gwerth atynt.
Dyma ffilm fer i roi syniad ichi, ond un enghraifft yn unig yw hwn, felly os ydych yn cynllunio prosiect o fath gwahanol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Manteisio i'r eithaf ar ddysgu
Yn ogystal â chefnogi partneriaethau a fydd yn cydweithio'n uniongyrchol â chymunedau lleol yng Nghymru, rydym eisiau gwella gwybodaeth a sgiliau eraill sy'n taclo tlodi gwledig.
Bydd gan bob prosiect gynllun gwerthuso, monitro a lledaenu o'r cychwyn cyntaf a gaiff ei ddefnyddio i wneud unrhyw welliannau a newidiadau angenrheidiol wrth i'r prosiect gael ei gyflwyno.
Bydd prosiectau'n rhannu eu canfyddiadau gwerthuso â'i gilydd, a gyda mudiadau eraill sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth yn yr ardal hon.