Drwy Cefnogi Syniadau Gwych, gallwn roi grantiau i sefydliadau sy'n cefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy'n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.
Rydym yma i helpu ac eisiau siarad â chi am eich syniadau i gefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy'n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.
Byddwn yn chwilio i asesu:
• Sut mae'ch sefydliad yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a amlinellwyd gennym uchod?
• Beth fyddai'r arian y gofynnwyd amdano yn ei gwmpasu?
• Os yw'n weithgaredd newydd/ychwanegol, disgrifiwch beth fyddai'r gweithgaredd yn ei olygu, pwy fydd yn ei helpu a pham rydych chi'n meddwl y bydd yn cefnogi'r gymuned.
• Pa gyfnod o amser fyddai'r arian yn ei gwmpasu?
• Faint o arian rydych chi'n gofyn amdano? Sylwch na allwn ddarparu arian anghyfyngedig felly rhowch gyllideb inni gyda'r eitemau prif gostau y bydd ein harian yn talu amdanynt.
Caiff y grantiau eu dyfarnu am hyd at bum mlynedd a gallwn ariannu gweithgareddau prosiect, costau gweithredu a chostau datblygu sefydliadol.
Mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed eich syniadau. Os ydynt yn fawr neu'n fach, dywedwch wrthym am y pethau rydych yn credu bydd yn gwella'ch cymuned.
Ein blaenoriaethau ariannu
Rydym am ariannu prosiectau sy'n:
- Arloesol – Efallai yr hoffech brofi dulliau newydd sy'n mynd i'r afael â mater newydd neu fater sy'n dod i'r amlwg neu ddulliau newydd sy'n anelu at sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl a'r cymunedau rydych yn eu cefnogi.
- Galluogi sefydliadau i weithio mewn ffyrdd newydd, gan gynnwys dod yn fwy galluog yn ddigidol, galluogi cyd-gymorth, ac adeiladu a chryfhau'r seilwaith dinesig cymdeithasol a all feithrin gweithredu cymunedol.
- Galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial drwy weithio i fynd i'r afael â materion cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i geisiadau fodloni o leiaf un o nodau'r rhaglen uchod.
Beth rydym eisiau ei weld
Eich bod wedi datblygu'ch syniad gan gynnwys y gymuned a fydd yn elwa
Rydym eisiau gweld eich bod wedi siarad â phobl ac wedi gwrando ar yr hyn y maent yn dweud.
Eich bod yn deall y gweithgareddau a gwasanaethau cyfredol sy'n gwneud gwaith tebyg
Ydych chi wedi siarad â grwpiau eraill? Beth allwch chi ddysgu ganddynt, a sut gallwch chi gyfrannu at y gwaith maen nhw'n gwneud eisoes?
Eich bod yn ymrwymedig at amrywiaeth a chynhwysiant a gwneud cymunedau’n amgylcheddol gynaliadwy
Byddwn eisiau gwybod am eich polisïau cydraddoldeb ac amgylcheddol os bydd gennym ddiddordeb yn eich syniad.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar ein egwyddorion cydraddoldeb a polisi amgylcheddol.
Eich bod yn cael eich arwain gan y gymuned, yn seiliedig ar gryfderau ac yn gysylltiedig
Trwy ein holl raglenni ariannu, mae diddordeb gennym mewn sefydliadau sydd:
- yn cael eu harwain gan y gymuned - cynnwys y gymuned rydych yn gweithio gyda nhw mewn modd ystyrlon yn natblygiad a chyflwyniad eich gweithgaredd
- yn seiliedig ar gryfderau - gwneud y mwyaf o'r sgiliau sydd eisoes yn bodoli mewn cymunedau
- yn gysylltiedig - deall beth mae sefydliadau perthnasol eraill yn gwneud a datblygu perthnasoedd gwaith da.
Cysylltwch â ni os oes gennych syniad drwy ffonio 0300 1230735 neu e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.