Sut i wneud cais
Cysylltwch â ni am ffurflen gais
- E-bostiwch camaucynaliadwycymru@cronfagymunedolylg.org.uk, neu
- ffoniwch ni ar 0300 123 0735.
I wneud cais am yr arian hwn, rhaid i chi fod:
- wedi derbyn mentora gan raglen fentora Egin, ac
- wedi cwblhau cynllun gweithredu.
Gallwch wneud cais am grant hyd at £15,000. Mae'r arian hwn ar gael gyda diolch i Ariannu Asedau Segur.
Gallwch weld rhestr lawn o gwestiynau o'r ffurflen gais.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
- Ar ôl i chi anfon eich cais atom, byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad mewn tua phedair wythnos
Byddwn yn edrych ar eich syniad ac yn cynnal gwiriadau ar y wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni. Gallwch ddysgu rhagor am y gwiriadau y byddwn yn eu cynnal ar eich gwybodaeth.
Efallai y byddwn yn eich ffonio yn ystod y pedair wythnos hynny, i siarad mwy am eich syniad neu ofyn am fwy o wybodaeth.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r newyddion da. Ar ôl i chi anfon eich cyfriflen banc atom, byddwn yn rhoi'r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod. - Gallwch ddechrau eich prosiect
Byddwch chi'n penderfynu pryd rydych chi am ddechrau eich prosiect, cyn belled â'i fod o fewn tri mis i'r dyddiad pan wnaethom gynnig yr arian. Os nad ydych chi'n siŵr, gallwch siarad â'ch swyddog ariannu amdano. Dylech wario'r arian fel y nodwyd yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf).
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd – i weld sut mae pethau'n mynd. Gofynnir i chi ddarllen a chytuno i'r Telerau ac Amodau. - Rhannwch eich stori
Gallwch ddweud wrth eich cymuned leol, rhannu eich newyddion da ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gysylltu â phapurau newydd lleol. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad i'r wasg ac yn rhannu eich stori hefyd.
Gallwch hefyd lawrlwytho logo i'w ddefnyddio i ddangos bod gennych grant Camau Cynaliadwy Cymru.