Camau Cynaliadwy Cymru - Cymorth Mentora
Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd. Mae'r dudalen hon yn rhoi crynodeb o'r rhaglen.
Nod y rhaglen hon yw helpu cymunedau i gyfrannu at ddyfodol llewyrchus, carbon isel i Gymru.
Derbyniodd Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (CYD Cymru) £2.2 miliwn. Maent yn darparu cymorth mentora i grwpiau cymunedol ledled Cymru i weithredu ar newid hinsawdd.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a ariennir ewch i wefan CYD Cymru.
- Ardal
- Cymru
- Yn addas ar gyfer
- Sefydliadau gwirfoddol neu sefydliadau sector cyhoeddus sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol
- Terfyn amser ymgeisio
-
Mae'r rhaglen hon bellach ar gau
Ynghylch Camau Cynaliadwy Cymru
Mae pedair rhaglen Camau Cynaliadwy Cymru. Cefnogir y rhaglenni hyn gydag arian o’r Cynllun Asedau Segur. Mae'r rhaglenni'n cefnogi ymrwymiad Cymru i:
- creu dyfodol cynaliadwy
- cyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd eisiau gweithredu ar newid hinsawdd.
Mae rhaglenni eraill Camau Cynaliadwy Cymru yn cynnwys:
Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin
Nod y rhaglen hon yw helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn eu cefnogi i weithredu ar newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae'n agored i grwpiau sy'n derbyn cefnogaeth gan Gamau Cynaliadwy Cymru - Gwasanaeth Mentora Egin. Gallwch ddysgu rhagor am Grantiau Egin ar ein gwefan.
Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd
Mae’r rhaglen hon bellach ar gau. Bydd y rhaglen yn cefnogi partneriaethau sy'n helpu pobl ifanc i gael mynediad at yrfaoedd sy’n:
- lleihau allyriadau carbon
- adfer byd natur
- ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol.
Gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen Gyrfaoedd Gwyrdd ar ein gwefan.
Os hoffech ymgeisio, rhaid i chi anfon ffurflen mynegi diddordeb atom erbyn 5pm, 30 Ebrill 2024.
Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Gweithredu
Mae'r rhaglen hon bellach ar gau. Gwnaethom ddyfarnu 13 o grantiau, yn amrywio o £10,001 i £350,000. Gwnaethom ariannu prosiectau sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd mewn cymunedau. Yn ogystal â phrosiectau sy'n helpu pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen Grantiau Gweithredu ar ein gwefan.