Mae’r rhaglen hon ar gau i geisiadau newydd
Os yw’n anodd neu’n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein
Gallwch gysylltu â ni os oes anghenion cyfathrebu gennych neu os yw’n anodd i chi gwblhau’r ffurflen. Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad, megis:
- fersiwn PDF o’r ffurflen gais
- fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r ffurflen gais a’r canllawiau.
Os oes angen cymorth arnoch
Gallwch chi:
- ein ffonio ar 0345 4 10 20 30 - mae’r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-5pm
- anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
- gwirio os yw cronfa wahanol yn fwy addas ar gyfer eich prosiect.
Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Sut i ymgeisio
Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'sut i ymgeisio' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):
Beth sy’n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich cais
Byddwn ni’n edrych ar eich syniad. Wrth i ni weithio ar eich cais, byddwn ni’n cynnal gwiriadau diogelwch. Gallwch ddysgu rhagor am y gwiriadau a wnawn.
Byddwn ni’n rhoi hyd at 95 o geisiadau ar y rhestr fer ac yn dewis trawsdoriad cytbwys ledled y DU.
Os byddwn ni’n rhoi eich cais ar y rhestr fer, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ymgyrch gyhoeddus. Byddwch chi’n gweithio ag ITV, UTV neu’r Sunday Mail yn Yr Alban i hyrwyddo eich prosiect. Yna, bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros eu hoff brosiectau. Bydd y pleidleisiau’n cau ar ddiwedd mis Mai 2023.
Bydd ITV, UTV a’r Sunday Mail yn cyhoeddi’r canlyniadau a bydd hyd at 57 o enillwyr ledled y DU. Mae pob enillydd yn derbyn grant hyd at £70,000. Byddwn ni’n cynnig grant hyd at £10,000 i hyd at 38 o sefydliadau eraill. Os ydych chi’n derbyn grant, bydd 12 mis gennych i’w wario.
Beth sy’n digwydd a phryd
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cam cyntaf oedd hanner dydd ar Ddydd Gwener 7 Hydref 2022.
Dyma’r dyddiadau pwysig os gwnaethoch chi ymgeisio:
- Erbyn Dydd Gwener 21 Hydref 2022: byddwn ni’n dweud wrthych os ydym wedi rhoi eich cais ar y rhestr fer ac yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect os oes ei hangen arnom.
- Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022: y dyddiad cau i anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol am eich prosiect y gofynnir amdani.
- Dydd Gwener 13 Ionawr 2023: byddwn ni’n dweud wrthych os yw eich prosiect ar ein rhestr fer.
- Ionawr - Chwefror 2023: rydym ni’n darparu cefnogaeth a hyfforddiant am ddim ynghylch bod ar y teledu neu yn y papur newydd.
- Chwefror – Ebrill 2023: rydych chi’n gweithio â phartner i greu ymgyrch gyhoeddus.
- Mae ITV neu UTV yn ffilmio prosiectau ar y rhestr fer yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a rhannau o’r Alban.
- mae’r Sunday Mail yn gweithio ar erthyglau papur newydd a fideos ar-lein gyda phrosiectau eraill ar y rhestr fer yn Yr Alban.
- Mai 2023: mae eich ymgyrch am gefnogaeth ar waith ar yr un adeg â’r bleidlais gyhoeddus
- Mai neu Fehefin 2023: Mae ITV, UTV a’r Sunday Mail yn cyhoeddi’r enillwyr.
Sut fyddwn ni’n eich helpu i baratoi ar gyfer y bleidlais gyhoeddus
Os yw eich prosiect yn cael ei roi ar y rhestr fer, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ymgyrch cyfryngau i gael pleidleisiau cyhoeddus. Byddwn ni’n cynnig cymorth a hyfforddiant am ddim i’ch helpu i greu eich ymgyrch a pharatoi ar gyfer y bleidlais. Dylech fod ar gael i roi amser i’ch ymgyrch rhwng mis Ionawr a mis Mai 2023.
Os yw eich prosiect yn:
Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon
- byddwn ni’n ymweld â’r prosiectau ar y rhestr fer i greu ffilm fer a fydd yn cael ei dangos ar newyddion lleol ITV neu UTV
- bydd y tri phrosiect ym mhob un o’r ardaloedd newyddion rhanbarthol ITV ac UTV gyda’r mwyaf o bleidleisiau yn cael hyd at £70,000.
Rhannau o’r Alban sy’n derbyn ITV Border – megis Dumfries a Galloway neu Ororau’r Alban
Yn eich cais, byddwn ni’n gofyn i chi ddewis rhwng cynnal eich ymgyrch gydag ITV Border neu’r Sunday Mail
- os ydych chi’n dewis ITV Border, byddwn ni’n ymweld â phrosiectau ar y rhestr fer i greu ffilm fer a fydd yn cael ei dangos ar newyddion lleol ITV Border
- os fyddwch chi’n dewis y Sunday Mail, bydd y papur newydd yn cynnwys erthyglau a fideos ar-lein ar gyfer prosiectau ar y rhestr fer, gyda manylion pleidleisio
- bydd y tri phrosiect gyda’r mwyaf o bleidleisiau yn cael hyd at £70,000.
Unrhyw ran arall o’r Alban
- Bydd y Sunday Mail yn cynnwys straeon newyddion a fideos ar-lein ar gyfer pob prosiect ar y rhestr fer, gyda manylion pleidleisio
- bydd y naw prosiect gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau yn cael hyd at £70,000
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgeisio
Yn eich cais, dylech ddweud wrthym am y gwaith y byddwch yn ei wneud gyda’r cyllid hwn, a sut fydd hyn yn cefnogi eich cymuned.
Rydym ni’n gofyn i chi am wybodaeth am ba fath o brosiect yr hoffech ei wneud
Rydym ni’n gofyn i chi sut fydd eich prosiect yn bodloni’r meini prawf a restrir yn 'yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu'.
Gallwch ddweud hyn wrthym yn ysgrifenedig trwy ateb y cwestiynau yn y ffurflen gais, neu gallech greu fideo’n ateb y cwestiynau. Gall y fideo fod hyd at chwe munud o hyd.
Nid oes rhaid i’ch fideo gael ei greu’n broffesiynol ac ni fyddwn ni’n ei ddarlledu’n gyhoeddus. Er enghraifft, gallech recordio eich hun yn siarad am y prosiect gan ddefnyddio camera eich ffôn clyfar os yw hyn yn haws i chi nag ysgrifennu.
Rydym ni’n gofyn i chi pa un o’n partneriaid sy’n berthnasol i’ch ardal
Gallai hyn fod yn ardal newyddion ITV rhanbarthol, UTV, neu’r Sunday Mail yn Yr Alban.
- Os nad ydych chi’n sicr, gwiriwch ein canllawiau ar ddewis y rhanbarth ITV neu bartner cyfryngau cywir.
Rydym ni’n gofyn i ddau berson gwahanol o’ch sefydliad i fod yn gysylltiadau i ni ar gyfer y prosiect:
- dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
- dylai’r person arall fod yn uwch aelod o’ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol dros y cyllid.
Mae’n rhaid i’r ddau ohonynt fyw yn y DU.
Mae angen y canlynol arnom:
- eu henwau
- eu manylion cyswllt
- eu cyfeiriadau cartref
- eu dyddiadau geni.
Mae’n rhaid i’r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.
Bydd angen i chi roi gwybod i’r uwch gyswllt eich bod chi’n cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o’r cais.
Ni all y ddau berson hyn fod:
- yn perthyn i’w gilydd trwy waed
- mewn partneriaeth sifil â’i gilydd
- mewn perthynas hirdymor â’i gilydd
- yn byw yn yr un cyfeiriad.
Rydym ni’n gofyn am enw cyfreithiol a chyfeiriad eich sefydliad, a pha fath o sefydliad ydyw
Sicrhewch fod y rhain yn gyfredol ac yn cyfateb ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau hunaniaeth y gofynnwn amdanynt. Mae’n bosibl nad yw ‘enw cyfreithiol’ eich sefydliad yr un peth â’ch enw o ddydd i ddydd. Eich enw cyfreithiol yw’r un sy’n cael ei ddangos ar eich dogfen lywodraethu (fel eich cyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm neu erthyglau cymdeithasu).
Rydym ni’n gofyn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad
Byddwn ni’n gofyn i chi anfon eich cyfrifon diweddaraf atom. Byddwn ni eisiau gwybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych.
Os nad oes cyfrifon blynyddol gennych oherwydd eich bod chi’n sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny’n iawn. Byddwn ni’n dal i edrych ar eich cais.
Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi ddarllen a chytuno i’n telerau ac amodau
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau.
Os nad ydych chi’n sicr am y math o bethau yr ydym ni’n gofyn amdanynt pan fyddwch chi’n ymgeisio
Anfonwch e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffoniwch 0345 4 10 20 30.
Darllenwch ein Datganiad Diogelu Data i ddysgu sut rydym ni’n defnyddio’r data personol a roddwch i ni.
Bydd angen rhai manylion pellach arnom os byddwn ni’n mynd â’ch cais ymhellach
Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn Dydd Gwener 21 Hydref 2022.
Yna byddwn ni’n gofyn am ragor o fanylion am eich syniad prosiect
Ni fydd angen i chi gwblhau ffurflen gais arall, ond byddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn unrhyw gwestiynau eraill sydd gennym am eich prosiect. Byddwn ni hefyd yn gofyn am ddadansoddiad cyllideb mwy manwl.
Byddwn ni’n gofyn am fanylion banc eich sefydliad a chyfriflen banc o’r tri mis diwethaf
Dim ond os oes gennych chi gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU y gallwn ni barhau â’ch cais.
Mae’n rhaid i’ch cyfrif hefyd:
- gael ei amddiffyn gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
- fod yn enw cyfreithiol eich sefydliad
- gael ei reoli gan o leiaf dau berson digyswllt.
Mae angen i chi:
- gael cyfrif banc sy’n bodloni ein rheolaethau ariannol a chanllawiau llywodraethu ariannol.
- rhoi cyfriflen banc i ni sy’n dangos:
- enw’r banc
- logo’r banc
- enw cyfreithiol eich sefydliad
- y cyfeiriad yr anfonir y cyfriflenni ato
- rhif y cyfrif a’r cod didoli
- dyddiad y gyfriflen.
Byddwn ni’n gofyn am eich cyfriflen banc fel ffeil ddigidol neu lun. Dyma lun o’r math o gyfriflen banc yr ydym yn chwilio amdano (PDF, 325 KB).
Os ydych wedi agor cyfrif banc newydd o fewn y tri mis diwethaf
Gallwch roi llythyr croeso gan y banc i ni yn hytrach na chyfriflen. Mae’n rhaid i’r llythyr ddangos dyddiad agor y cyfrif a holl fanylion y cyfrif.
Os na allwch chi roi cyfriflen banc i ni
Gallwn dderbyn rhestr o drafodion, os yw’n cynnwys popeth yr ydym ni’n disgwyl ei weld ar gyfriflen banc.
Mae angen i chi anfon y manylion hyn atom erbyn Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022.
Os oes angen cymorth arnoch
Gallwch chi:
- ein ffonio ar 0345 4 10 20 30 - mae’r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-5pm
- anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
- gwirio os yw cronfa wahanol yn fwy addas ar gyfer eich prosiect.