Mae'r rhaglen hon ar gau.
Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu a dim ond 70 o ddyfarniadau y byddwn yn eu gwneud.
Rydym yn disgwyl llawer o geisiadau, a bydd llawer ohonynt ar gyfer prosiectau gwerth chweil. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd. Yn aml, mae llawer o brosiectau na allwn eu hariannu, hyd yn oed rhai da.
Er mwyn ceisio rheoli’r galw, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i dderbyn hyd at 700 o geisiadau yn unig (neu gau i geisiadau ar Ragfyr 15 2021 os daw hyn yn gynt).
Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan grwpiau sydd:
- heb dderbyn grant gennym o'r blaen
- nad oes ganddynt grant cyfredol gyda ni
- yn sefydliadau neu'n grwpiau llai neu ganolig sydd â throsiant blynyddol o lai na £100,000
- neu yn sefydliadau a all ddangos i ni fod ganddynt gyrhaeddiad sylweddol i gymunedau ac yn gallu ymgysylltu â nifer fawr o bobl i gymryd rhan
- gweithio mewn cymunedau lle mae hanes o lai o gyfleoedd ariannu.
- gweithio mewn ardaloedd lle rydym yn gwybod bod cymunedau'n wynebu amgylchiadau economaidd heriol.
Gall sefydliadau eraill wneud cais ond ystyriwch y ffactorau hyn yn gyntaf cyn ichi gymryd yr amser i ymgeisio.
Noder na allwn ariannu costau cyfalaf drwy'r Rhaglen Jiwbilî Platinwm. Lle mae'r costau'n hanfodol ar gyfer cefnogi gweithgarwch eich prosiect, gallwn ystyried swm bach o gyfalaf (o dan £10,000) fel rhan o'ch cyllideb.
Beth ydym ni'n ei olygu wrth gostau cyfalaf?
Costau cyfalaf yw costau gwaith tir neu adeilad, prynu offer, dodrefn, safleoedd neu eitemau eraill sy'n costio symiau sylweddol ac a fydd yn para am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, mae costau prynu cyfrifiaduron, bws mini neu eiddo newydd i gyd yn gostau cyfalaf. Costau refeniw yw'r holl gostau eraill.
Sicrhewch eich bod yn gwirio pwy all ac na all ymgeisio cyn llenwi ffurflen gais.
Faint o amser fydd yn ei gymryd i cael penderfyniad?
Byddwn yn anelu at ddweud wrthych am benderfyniad ymhen tua deufis fel bod gennych ddigon o amser i baratoi ar gyfer eich prosiect i ddechrau ochr yn ochr â'r Jiwbilî yn Mehefin 2022.
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais
Gofynnwn i ddau berson gwahanol o'ch sefydliad fod yn gysylltiadau ar gyfer y prosiect:
- dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag e os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
- dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am y grant.
Mae’r ddau angen byw yn y DU.
Rydym angen eu:
- henwau
- manylion cyswllt
- cyfeiriadau cartref
- dyddiadau geni.
Mae angen i'r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.
Bydd angen i chi roi gwybod i'r uwch gyswllt eich bod yn cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o'r cais.
Ni all y ddau berson hyn fod:
- yn gysylltiedig drwy waed
yn briod â'i gilydd - mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
- mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
- byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.
Gofynnwn am enw cyfreithiol eich sefydliad - a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw
Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfredol ac yn cyd-fynd ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau adnabod y gofynnwn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd y cais). Efallai na fydd 'enw cyfreithiol' eich sefydliad yr un fath â'ch enw o ddydd i ddydd. Eich enw cyfreithiol yw'r un a ddangosir ar eich dogfen lywodraethol (fel eich cyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm neu erthyglau cymdeithasu).
Gofynnwn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad
Rydym am wybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn gorffen bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych.
Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol oherwydd eich bod yn sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny'n iawn. Gallwn barhau i edrych ar eich cais.
Anfonwch eich datganiad banc atom
Beth rydym angen
Gofynnwn am un datganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf. Er mwyn i ni allu gwirio'r cyfrif rydych am i ni dalu'r grant iddo.
Ni fyddwn yn gallu asesu eich cais os nad oes gennych gyfrif banc a datganiad banc sy'n bodloni ein gofynion isod a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl i chi sefydlu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni
Rydym angen:
- Cyfrif banc sy'n bodloni ein hanghenion yn ein Canllawiau Rheolaethau Ariannol a Llywodraethu Ariannol
- Datganiad banc sy’n bodloni ein hanghenion.
Dylai ddangos:
- logo’r banc
- enw cyfreithiol eich sefydliad
- y cyfeiriad yr anfonir y datganiadau ato
- enw’r banc rhif y cyfrif a’r cod didoli
- y dyddiad y cyhoeddwyd y llythyr/datganiad
Dyma lun o’r math o ddatganiad banc rydyn ni’n chwilio amdano.
Gofynnwn i chi am wybodaeth am ba fath o brosiect yr hoffech ei wneud
A sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf a restrir yn 'Y prosiectau rydym yn eu hariannu'.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
- Byddwch yn anfon eich cais atom - byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad mewn tua dau fis. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwiriadau a wnawn. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnom am eich syniad i helpu gyda'n penderfyniad, efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi neu'n anfon e-bost atoch.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus - byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Unwaith y byddwch wedi cael arian gennym, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.
- Os yw eich cais yn aflwyddiannus - byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi am ein penderfyniad
- Gallwch ddechrau gwario'r arian ar eich prosiect - dylech wario'r arian fel y dywedasoch y byddech yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf).
Efallai y byddwn yn eich cysylltu o bryd i'w gilydd - i weld sut mae pethau'n mynd. - Rhannwch eich stori – rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o'u cadw i gymryd rhan ac ymgysylltu. Bydd eich e-bost am ddyfarniad hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl am sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.
Gofynnwn hefyd i chi ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau.
Os nad ydych yn siŵr am y math o bethau y gofynnwn amdanynt pan fyddwch yn gwneud cais
Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i ddarganfod sut rydym yn defnyddio'r data personol rydych yn ei roi i ni.