Mae'r rhaglen hon ar gau. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd dal yn cael eu cwblhau yn gallu cael eu cyflwyno mwyach.
Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu
Disgwyliwn roi tua 400 i 500 o grantiau drwy'r rhaglen hon. Rydym yn disgwyl llawer o geisiadau am brosiectau gwerth chweil. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ac efallai y bydd llawer o brosiectau na allwn eu hariannu.
Rydym yn awyddus i ariannu cymysgedd o gymunedau a lleoedd a byddwn yn ceisio lledaenu'r arian ledled y DU, ac amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu darparu ar draws y prosiectau.
Os ydych yn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni'r hyn rydym yn chwilio amdano. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pwy all a phwy na all wneud cais cyn llenwi'r ffurflen gais.
Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.
Gallwch wneud cais os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ond ni ddylai'r prosiect ddyblygu gwaith rydym eisoes yn eich ariannu i'w wneud. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fod wedi derbyn arian gennym o'r blaen, ac rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi grwpiau nad ydynt wedi cael arian gennym o'r blaen.
Faint o amser fydd yn ei gymryd i gael penderfyniad?
Byddwn yn ceisio rhoi penderfyniad i chi o fewn uchafswm o 12 wythnos.
Disgwyliwn i'r rhan fwyaf o'r arian gefnogi gweithgareddau sy'n digwydd ar ôl cynhadledd COP26 (sy'n rhedeg o 1 i 12 Tachwedd 2021).
Ni allwn dderbyn ceisiadau am weithgareddau sy’n digwydd yn ystod COP26 rhagor, gan na fyddem yn gallu rhoi penderfyniad i chi mewn amser.
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.
Pa wybodaeth rydych chi ei hangen i wneud cais
Gofynnwn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o'ch sefydliad.
Mae angen i'r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.
- Dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
- Dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am yr arian.
Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.
Bydd angen i chi roi gwybod i'r uwch gyswllt eich bod yn cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o'r cais.
Ni all y ddau berson hyn fod:
- yn perthyn drwy waed
- yn briod â’i gilydd
- mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
- mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
- yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.
Rydym yn gofyn am enw cyfreithiol eich sefydliad - a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw
Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfoes ac yn cyd-fynd ag unrhyw ddogfennau gwybodaeth neu hunaniaeth y gofynnwn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd rhan y cais).
Gofynnwn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad
Rydym am wybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych chi.
Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol oherwydd eich bod yn sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny'n iawn. Gallwn barhau i edrych ar eich cais.
Anfonwch eich datganiad banc atom
Beth rydym angen
Gofynnwn am un datganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf. Er mwyn i ni allu gwirio'r cyfrif rydych am i ni dalu'r grant iddo.
Ni fyddwn yn gallu asesu eich cais os nad oes gennych gyfrif banc a datganiad banc sy'n bodloni ein gofynion isod a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl i chi sefydlu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni
Rydym angen:
- Cyfrif banc sy'n bodloni ein hanghenion yn ein Canllawiau Rheolaethau Ariannol a Llywodraethu Ariannol
- Datganiad banc sy’n bodloni ein hanghenion.
Dylai ddangos:
- logo’r banc
- enw cyfreithiol eich sefydliad
- y cyfeiriad yr anfonir y datganiadau ato
- enw’r banc rhif y cyfrif a’r cod didoli
- y dyddiad y cyhoeddwyd y llythyr/datganiad
Dyma lun o’r math o ddatganiad banc rydyn ni’n chwilio amdano.
Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth am eich prosiect
A sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r blaenoriaethau sy’n cael eu rhestru yn Y prosiectau rydym yn eu hariannu
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio
- Rydych chi’n anfon eich cais atom - byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad ymhen tua 12 wythnos. Yn ystod y 12 wythnos hyn, rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwiriadau a wnawn. Efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi o fewn y 12 wythnos hynny, i siarad ychydig mwy am eich syniad neu i ofyn am ragor o wybodaeth.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus - byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r newyddion da. Gallwch ddechrau eich prosiect cyn gynted ag y cewch yr e-bost hwn, os dymunwch. A byddwn yn rhoi'r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod (neu'n gynt, os yw'n bosibl).
- Byddwn yn cysylltu â phawb a wnaeth gais gyda mwy o wybodaeth am Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed a ffyrdd eraill o gymryd rhan.
- Gallwch ddechrau gwario'r grant ar eich prosiect - dylech wario'r grant yn y ffordd y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n ei wario yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf). Efallai y byddwn yn galw am sgwrs o bryd i'w gilydd - i weld sut mae pethau'n mynd. Dysgwch fwy am reoli eich grant
- Rhannwch stori eich prosiect – rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i hyrwyddo eich grant. Bydd eich e-bost dyfarnu hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.
Rydyn ni’n gofyn i chi hefyd ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau
Darllenwch y telerau ac amodau.
Os ydych yn gwneud cais am grant ar gyfer gweithgareddau yn ystod cyfnod COP26, cysylltwch â ni ar caisprydeinig@cronfagymunedolylg.org.uk i drafod eich cais.
Os nad ydych chi’n siŵr am y math o bethau rydym yn gofyn amdanynt pan fyddwch yn ymgeisio
Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i ddarganfod sut rydym yn defnyddio'r data personol y byddwch chi’n ei roi i ni.