Telerau ac Amodau Safonol ar gyfer Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd

Yn y telerau ac amodau hyn, cyfeirir at Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel “ni”, a chyfeirir at y sefydliad y dyfernir grant iddo fel “chi”. Rydym yn cyfeirio at y prosiect, digwyddiad neu weithgaredd a ddisgrifir yn eich cais, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, fel “y prosiect”.

1. Drwy dderbyn y grant hwn, rydych yn cytuno i:

1.1 ddal y grant ar ymddiriedolaeth i ni a'i ddefnyddio ar gyfer eich prosiect yn unig;

1.2 defnyddio’r grant dim ond ar gyfer costau a godir ar ôl dyddiad llythyr cynnig eich grant a dim ond yn ystod tymor y prosiect fel y cytunwyd arno gyda ni;

1.3 dechrau eich prosiect a thynnu rhandaliad cyntaf y grant i lawr o fewn chwe mis o lofnodi’r llythyr cynnig grant, oni bai y cytunir yn wahanol gyda ni;

1.4 rhoi unrhyw wybodaeth ac adroddiadau i ni yn brydlon gan gynnwys gwybodaeth fonitro berthnasol sydd ei hangen arnom am y prosiect a’i heffaith ar eich cymuned, yn ystod y prosiect ac ar ôl y prosiect;

1.5 gweithio gydag unrhyw drydydd parti y gallwn gontractio ag ef neu ei benodi er budd y prosiect a/neu’r rhaglen ariannu hon;

1.6 cael ein caniatâd ysgrifenedig cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’ch prosiect neu i statws, perchnogaeth neu gyfansoddiad eich sefydliad;

1.7 rhoi gwybod i ni yn brydlon am unrhyw faterion neu oedi sylweddol gyda’ch prosiect neu am unrhyw dwyll, amhriodoldeb arall, camreoli neu gamddefnydd mewn perthynas â’r grant neu unrhyw hawliad cyfreithiol a/neu ymchwiliad a wnaed neu a fygythiwyd yn eich erbyn chi, unrhyw aelod o’ch corff llywodraethu, neu unrhyw fudiad, gweithiwr neu wirfoddolwr sy'n gweithio ar y prosiect;

1.8 gweithredu’n gyfreithlon wrth gyflawni eich prosiect, yn unol ag arferion gorau a chanllawiau gan eich rheolyddion, a dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym mewn perthynas â’r rhaglen neu ddefnydd y grant;

1.9 hyrwyddo cyfle cyfartal yn unol â'r gyfraith ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni;

1.10 os yw’r grant ar gyfer cyflog swydd newydd, hysbysebu’r swydd wag yn allanol oni bai y cytunir yn wahanol gyda ni, a chynnal proses recriwtio deg ac agored yn unol â’r gyfraith ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym;

1.11 cydnabod cyllid gan ddefnyddio'r logo yn unol â'r canllawiau perthnasol ar gyfer cydnabod eich grant

1.12 dal y grant mewn cyfrif neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y DU, sydd yn enw cyfreithiol y sefydliad sy’n ymgeisio am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol; cadw at ein canllawiau yma

reolaethau ariannol a threfniadau bancio, gan sicrhau nad oes gan yr un unigolyn gyfrifoldeb llwyr am unrhyw drafodiad unigol o’r awdurdodiad i’r adolygiad a’r cwblhad, a bod y cyfrif yn cael ei reoli gan o leiaf ddau unigolyn awdurdodedig nad ydynt yn perthyn i’w gilydd yn eich sefydliad;

1.14 trin y grant fel cronfeydd cyfyngedig yn eich cyfrifon blynyddol gan ddefnyddio’r cyfeirnod “Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol” ac enw’r rhaglen “Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd” ac os yw’n ofynnol gennym ni, agorwch gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar wahân ar gyfer pob grant gennym ni yn unig er mwyn derbyn a gweinyddu'r grant hwnnw;

1.15 dychwelyd ar unwaith unrhyw ran o’r grant nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich prosiect neu sydd heb ei wario erbyn diwedd y prosiect, fel y cytunwyd gyda ni;

1.16 cydymffurfio â’n polisi diogelu ar gyfer deiliaid grant

1.17 cael polisi a gweithdrefn(au) chwythu’r chwiban ysgrifenedig priodol ar waith, sicrhau bod y polisi a/neu weithdrefnau’n cael cyhoeddusrwydd yn fewnol a sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi ar eu hegwyddorion a’u gweithrediad, adolygu a diweddaru eich polisi a gweithdrefnau chwythu’r chwiban o leiaf bob dwy flynedd;

1.18 cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol gan gynnwys Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU 2018 (“UK GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 a, lle bo’n briodol, byddwch yn cael caniatâd eich buddiolwyr i’n galluogi i dderbyn a phrosesu eu Data Personol mewn cysylltiad â'r prosiect ac i ni gysylltu â nhw;

1.19 cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr am eich prosiect yn ystod y prosiect ac am saith mlynedd wedi hynny a darparu copïau o’r cofnodion hynny a thystiolaeth o wariant y grant i ni ar gais megis derbynebau papur neu electronig gwreiddiol, anfonebau, a chyfriflenni banc;

1.20 efallai y byddwn yn comisiynu ymchwil a/neu werthusiad o'ch cyllid. Rydych yn cadarnhau y byddwch yn cydweithredu ag unrhyw weithgareddau sy'n ymwneud ag ymchwil neu werthuso yr ydym yn eu cyflawni ac yn cadarnhau ymhellach y gallwn ddefnyddio unrhyw ran o'ch cais a/neu wybodaeth prosiect at ddibenion ymchwil neu werthuso;

1.21 caniatáu i ni a/neu’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gael mynediad rhesymol i leoliadau a systemau perthnasol i archwilio’r cofnodion prosiect a grant. Rydych yn cytuno y gall fod angen i chi rannu Data Personol perthnasol (fel y’i diffinnir yn GDPR y DU) gyda ni er mwyn cyflawni eich rhwymedigaethau o dan y cymal hwn. Byddwch yn onest ynghylch eich rhwymedigaethau o dan y cymal hwn gyda’ch buddiolwyr (Testunau Data (fel y’u diffinnir yn GDPR y DU)) ac yn sicrhau bod gennych sail gyfreithlon i rannu unrhyw Ddata Personol perthnasol gyda ni er mwyn cydymffurfio â’r cymal hwn;

1.22 rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch prosiect gan gynnwys eich enw a delweddau o weithgareddau'r prosiect. Drwy hyn rydych yn rhoi trwydded i ni heb freindal i ailgynhyrchu a chyhoeddi unrhyw wybodaeth am brosiect a roddwch i ni, a hynny mewn unrhyw fformat. Byddwch yn rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn darparu'r wybodaeth os nad oes gennych ganiatâd iddi gael ei defnyddio at y dibenion hyn; ac

1.23 os yw eich prosiect yn cael ei gyflawni yng Nghymru, galluogi pobl i ymgysylltu yn Gymraeg a Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog.

Os defnyddir unrhyw ran o’r grant i brynu nwyddau neu wasanaethau, neu i brynu neu ddatblygu eiddo deallusol, sy’n costio mwy na £10,000 byddwch yn:

2. cynnal proses dendro cystadleuol ar gyfer y nwyddau a/neu wasanaethau ac yn cydymffurfio â rheolau caffael y DU a’r UE os yw’n berthnasol i chi;

2.1 defnyddio asedau a brynwyd neu a wellwyd gan ddefnyddio’r grant ar gyfer y prosiect yn unig a’u cadw’n ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi’u hyswirio’n ddigonol am oes y prosiect ac unrhyw gyfnod monitro asedau dilynol a nodir yn y canllawiau perthnasol;

2.2 diogelu unrhyw hawliau eiddo deallusol a brynwyd neu a ddatblygwyd gan ddefnyddio’r grant a pheidio ag ecsbloetio’r hawliau hyn yn fasnachol heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw; a

2.3 cael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ar gyfer unrhyw warediad o asedau a brynwyd, a ddatblygwyd neu a ychwanegwyd gan ddefnyddio’r grant ac, os oes angen, talu cyfran o’r elw o warediad o’r fath i ni.

3. Os yw rhan o'ch Grant er mwyn prynu neu wella cerbydau neu offer, bydd yr amodau canlynol yn berthnasol:

3.1. Rhaid i chi roi tystiolaeth i ni bod y cerbydau neu'r offer yn eiddo dilys i chi;

3.2. Rhaid i chi gadw'r cerbydau neu'r offer am gyfnod y prosiect (y “Cyfnod Grant”) a'u defnyddio ar gyfer y prosiect yn unig;

3.3. Ni ddylech werthu neu waredu’r cerbydau neu’r offer yn ystod y Cyfnod Grant heb gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf ac os oes angen, rhaid i chi dalu cyfran o’r enillion o unrhyw warediad i ni; a

3.4. Rhaid i chi gadw'r cerbydau neu'r offer yn ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi'u hyswirio'n ddigonol am gyfnod y Grant.

4. Rydych yn cydnabod bod gennym yr hawl i atal neu derfynu’r grant a/neu ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu’r cyfan neu unrhyw ran o’r grant a/neu osod amodau ychwanegol yn y sefyllfaoedd canlynol. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd:

4.1 Rydych yn defnyddio’r grant mewn unrhyw ffordd heblaw’r hyn a gymeradwyir gennym ni neu’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn, neu unrhyw amodau ychwanegol a nodir yn ein cynnig grant i chi.

4.2 Rydych yn methu â gwneud cynnydd da gyda'ch prosiect neu'n annhebygol yn ein barn ni o gwblhau'r prosiect neu gyflawni'r effeithiau y cytunwyd arnynt gyda ni.

4.3 Mae gennych arian cyfatebol ar gyfer y prosiect wedi'i dynnu'n ôl neu rydych yn derbyn neu'n methu â datgan unrhyw gyllid dyblyg ar gyfer yr un costau prosiect ag a ariennir gan y grant.

4.4 Rydych yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni, naill ai ar gais neu ar ôl dyfarnu’r grant, yn ymddwyn yn anonest, neu os ydych chi neu unrhyw un sy’n ymwneud â’r prosiect neu eich sefydliad yn destun ymchwiliad gennym ni, corff rheoleiddio neu’r heddlu.

4.5 Rydych yn gwneud neu'n methu â gwneud unrhyw beth sy'n dwyn anfri arnom, neu yr ydym yn ystyried am unrhyw reswm sy'n rhoi arian cyhoeddus mewn perygl, neu rydym yn terfynu neu'n atal unrhyw grant arall yr ydym wedi'i roi i chi.

4.6 Rydych yn ymrwymo i, neu yn ein barn ni, yn debygol o ymgymryd â gweinyddiaeth, ymddatod, derbynyddiaeth, diddymiad neu, yn yr Alban, yn cael ystâd eich sefydliad wedi’i secwestru.

4.7 Rydych yn derbyn unrhyw arian grant yn anghywir naill ai o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys lle rydych yn cael eich talu mewn camgymeriad cyn i chi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn a llythyr cynnig grant . Bydd unrhyw swm sy'n ddyledus o dan y paragraff hwn 4.7, yn dod yn ddyledus ar unwaith. Os byddwch yn methu ag ad-dalu’r swm dyledus ar unwaith, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, bydd modd adennill y swm yn ddiannod fel dyled sifil.

5. Rydych yn cydnabod:

5.1 drwy dderbyn y grant hwn:

5.1.1 eich bod yn cadarnhau bod y wybodaeth yn eich cais wedi’i hawdurdodi gan gorff llywodraethu eich sefydliad;

5.1.2 bod eich sefydliad yn gallu cyflawni'r prosiect a ddisgrifir yn eich cais; a

5.1.3 nid yw'r grant yn ystyriaeth ar gyfer unrhyw gyflenwad trethadwy at ddibenion TAW;

5.2 mae’r grant at eich defnydd chi yn unig ac ni chewch rannu na throsglwyddo’r grant (neu unrhyw ran ohono) i unrhyw un arall oni bai ein bod yn cymeradwyo hynny. Os byddwn yn cytuno i chi rannu neu drosglwyddo’r grant , chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich partneriaid ac eraill sy’n derbyn y grant yn derbyn ac yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn ac yn dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni. Os byddant yn methu â gwneud hynny, gallwn arfer ein hawliau yng nghymal 5, gan gynnwys terfynu’r grant a mynnu ad-daliad. Mae'n rhaid i chi ymrwymo i gytundeb cyfreithiol, gydag unrhyw un yr ydych yn rhannu'r grant ag ef a darparu copi i ni ar gais;

5.3 os defnyddir unrhyw ran o’r grant i brynu neu adeiladu, adnewyddu, ehangu neu newid adeiladau neu dir neu i brynu neu wella cerbydau neu offer, rhaid i chi gydymffurfio â’n hamodau grant cyfalaf ychwanegol;

5.4 ni fyddwn yn cynyddu'r grant os byddwch yn gwario mwy na'r gyllideb y cytunwyd arni ar eich prosiect ac ni allwn warantu'r grant cyn belled â bod Reclaim Fund Limited yn sicrhau bod digon o arian ar gael ac yn talu'r rhain i ni;

5.5 daw’r grant o gronfeydd cyhoeddus ac ni fyddwch yn ei ddefnyddio mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 (neu ddarpariaethau cyfreithiol cyfatebol ar gyfer Gogledd Iwerddon) a rheoliadau cysylltiedig fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd. Os bernir bod y grant yn gymhorthdal anghyfreithlon, byddwch yn ad-dalu'r swm cyfan ar unwaith. Os ydych yn pryderu am y rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau, byddwch yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol;

5.6 nid ydym yn atebol am unrhyw gostau neu oblygiadau a geir gennych chi neu drydydd partïon sy’n codi naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r prosiect, nac o beidio â thalu neu dynnu’n ôl y grant , ac eithrio i’r graddau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith; a

5.7 bydd y telerau ac amodau hyn yn parhau i fod yn berthnasol am (i) un flwyddyn ar ôl talu'r rhandaliad grant diwethaf; neu (ii) nes bod y prosiect wedi'i gwblhau; neu (iii) cyhyd ag y bydd arian y grant yn parhau heb ei wario, pa un bynnag sydd hiraf. Bydd cymalau 1.4, 1.6. 1.11, 1.12, 1.13, 1.14, 1.15, 1.18, 1.19, 1.20, 1.21, 1.22, 2.2, 2.3, 2.4, 4.4 5.3, 5.5, 5.6 a 5.7 yn goroesi terfyniad neu ddiwedd y telerau ac amodau hyn.