Camau Cynaliadwy Cymru Gyrfaoedd Gwyrdd – Canllawiau Cynllun Prosiect Cam 2

Dim ond os ydych wedi cael eich gwahodd i gam 2 Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd y dylech ddefnyddio'r canllawiau hyn.

Cyfeiriwch at ein canllawiau rhaglen i sicrhau bod eich prosiect yn bodloni ein gofynion

Rhaid i chi gyflwyno eich cynllun prosiect gyda'ch ffurflen gais erbyn 5yp ar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2025.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno'ch cais

Os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais, bydd Swyddog Ariannu yn trefnu amser i siarad â chi. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu asesu eich prosiect.

Byddwn yn anfon e-bost atoch yn dweud ein penderfyniad am eich cais wrthych erbyn 31 Mawrth 2025. Os nad ydych yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam yn yr e-bost.​

Beth sy'n digwydd os ydych yn llwyddiannus

Os dyfernir grant i chi, byddwn yn trefnu amser i siarad â chi i'ch tywys drwy'r camau nesaf. Gallwch ddarllen ein canllawiau cyffredinol am yr hyn i'w ddisgwyl wrth reoli eich grant.

Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i weld sut rydym yn defnyddio'r data personol rydych chi'n ei roi i ni. ​

Rydym yn gofyn i chi ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau. Darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Beth i'w gynnwys yn eich cais Cam 2

Your application is made up of:

  • cynllun y prosiect - mae hyn yn dweud wrthym am eich prosiect a sut y byddwch yn ei reoli a’i gyflwyno
  • ffurflen gais – mae hyn yn dweud wrthym am eich sefydliad. Rydym wedi anfon ffurflen gais atoch dros e-bost
  • Cyllideb y prosiect - mae hyn yn dweud wrthym faint fydd eich prosiect yn costio a faint yr hoffech i ni ei ariannu. Dylech ddefnyddio ein templed i greu eich cyllideb prosiect
  • Cynllun gweithredu amgylcheddol - mae hyn yn dweud wrthym sut fydd eich prosiect yn amgylcheddol gynaliadwy. Dysgwch ragor am greu cynllun gweithredu amgylcheddol
  • Cyfrifon blynyddol eich sefydliad (neu amcan 12 mis ar gyfer sefydliadau newydd). Dim ond y sefydliad arweiniol sydd angen darparu eu cyfrifon blynyddol
  • Cytundebau partneriaeth drafft - dogfen gyfreithiol yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau’r sefydliadau rydych chi’n gweithio gyda nhw i gyflwyno’r prosiect. Gallwch ddefnyddio ein templed cytundeb partneriaeth. Os ydych yn llwyddiannus, mae angen i ni gymeradwyo eich cytundeb drafft a’i lofnodi cyn i ni ryddhau unrhyw arian i chi
  • Dogfen lywodraethu – os nad ydych yn elusen.

Os ydych yn bwriadu prynu cerbydau trydan

Dylech gynnwys y manylion a ddisgrifir yn ein canllawiau cerbyd.

Beth i'w gynnwys yn eich cynllun prosiect

Bydd eich cynllun prosiect yn dweud wrthym am y prosiect yr hoffech i ni ei ariannu. Gwnewch y canlynol, os gwelwch yn dda:

  • nodwch rifau tudalen
  • defnyddiwch ffont maint 12
  • defnyddiwch y penawdau a ddarparwn isod a chyfeiriwch at bob pwynt yr ydym wedi’u cynnwys
  • torrwch a gludwch o’ch ffurflen mynegi diddordeb, os yw'r wybodaeth yr un peth
  • atebwch unrhyw adborth a roddwyd i chi yn ystod cam un
  • darparwch ddogfennau ategol hanfodol yn unig - darparwch ddolenni lle cyfeirir at ddogfennau eraill a dywedwch wrthym pa dudalen yr hoffech i ni ei darllen
  • byddwch yn gryno a chyfyngwch eich cynllun i 40 tudalen ar y mwyaf.

Mwy am beth i'w gynnwys

1. Crynodeb o'r Prosiect

Rhowch grynodeb byr o'ch prosiect (300 gair ar y mwyaf). Dylai hyn ddisgrifio beth fydd y prosiect yn ei gyflawni a phwy yw'r partneriaid allweddol.

2. Pa wahaniaeth y bydd y prosiect hwn yn ei wneud

Rhowch y canlyniadau a'r dangosyddion ar gyfer eich prosiect sy'n dangos yr effaith y bydd eich prosiect yn ei chael. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i ysgrifennu eich canlyniadau ar ein tudalen gyngor ychwanegol.

Dylai eich canlyniadau a'ch dangosyddion fodloni’r pedwar canlyniad rhaglen. Dylent hefyd gynnwys cadarnhad y bydd tua hanner y bobl rydych chi'n eu cefnogi yn hunan-nodi eu bod yn fenywod.

Dylech esbonio sut rydych wedi penderfynu ar eich canlyniadau a'ch dangosyddion. Os ydynt wedi newid o'r hyn a ddywedoch chi wrthym yn ystod y cam Mynegi Diddordeb, dywedwch wrthym pam.

Byddwch yn dweud mwy wrthym am eich prosiect yn nes ymlaen yn y cynllun prosiect. Nid oes angen i chi ailadrodd yr hyn a ddywedoch wrthym yma.

3. Pwy fydd yn elwa

Dylech ddweud wrthym:

  • p'un a ydych yn bwriadu gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol (neu'r ddau)
  • o ba ardal fydd y bobl ifanc yn dod (rhaid i hyn fod yn ddwy ardal awdurdod lleol neu ragor)
  • faint o bobl fydd yn elwa o'ch prosiect bob blwyddyn ac yn gyfan gwbl
  • yr ystod oedran – os ydych yn cyfyngu ar yr oedran i lai na 16 -30 oed, dywedwch wrthym pam
  • p'un a ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n iau nag 16 oed ac esbonio pam. Mae hyn yn gymwys ond ni ddylai fod yn ffocws eich prosiect
  • eich gwaith ymgysylltu â phobl ifanc a'u teuluoedd a'r hyn a ddywedon nhw wrthych
  • tystiolaeth arall fel profiad ac ymchwil sy'n dweud wrthych am y materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a'u hanghenion
  • faint o fenywod ifanc rydych chi'n gobeithio eu cefnogi ac unrhyw anghenion penodol sydd ganddyn nhw.


4. Beth sydd ar gael i bobl ifanc

Dywedwch wrthym am y pecyn cymorth cyfan sydd ar gael i bobl ifanc. Dylai gynnwys:

  • unrhyw hyfforddiant a datblygiad sgiliau a gynigir ac a fydd yn cael ei achredu i gael ei gydnabod gan gyflogwyr
  • a fydd profiad gwaith di-dâl yn opsiwn i bobl ifanc ac os felly, pa ystod o leoliadau fydd ar gael ac ar gyfartaledd, am ba mor hir fydd pob person yn gwneud hyn
  • lleoliadau gwaith - yr ystod o swyddi rydych chi'n disgwyl i bobl ifanc allu eu profi ac am ba mor hir y gall person ifanc fod mewn lleoliad gwaith
  • a all lleoliadau gwaith fod yn hyblyg i gyd-fynd â dyheadau'r person ifanc, ac a allant roi cynnig ar fwy nag un lleoliad
  • unrhyw wasanaethau ychwanegol y mae eraill yn eu darparu y gallwch gyfeirio pobl atynt
  • taith y cwsmer (gan gynnwys amserlenni), gan ddechrau gyda sut mae person ifanc yn dysgu am eich gwasanaeth ac yn cysylltu gyntaf, i’r pwynt pan fyddant yn gadael. Dylech ddisgrifio pob cam
  • sut y byddwch yn cefnogi'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol
  • sut y byddwch chi'n cefnogi'r rhai sy'n hunan-nodi eu bod yn fenywod
  • sut y bydd eich prosiect yn gweithio gyda'r rhai sydd eisoes yn cefnogi'r person ifanc. Er enghraifft, eu rhieni, eu gofalwyr a'u gweithwyr cymdeithasol
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn.

5. Cymorth hyfforddwyr swyddi

Dywedwch wrthym am:

  • eich ymrwymiad i sicrhau y bydd gan bob person ifanc fynediad at hyfforddwr swydd neu fentor i gael y cymorth sydd ei angen arnynt
  • eich ymrwymiad i fodloni Safonau Cenedlaethol Hyfforddwyr Swyddi
  • ym mha gamau yn nhaith y cwsmer bydd cymorth hyfforddwr swydd ar gael. Mae'n rhaid i chi ddarparu cefnogaeth cyn cyflogaeth, yn ystod ac ar ôl cyflogaeth.
  • uchafswm nifer y bobl ifanc y bydd pob hyfforddwr swydd yn ei gael ar un adeg a'r amser cyfartalog y bydd yr hyfforddwr swydd yn ei dreulio gyda'r person ifanc
  • pa brofiad a hyfforddiant sydd gan hyfforddwyr swydd neu a fydd ganddynt cyn iddynt ddechrau gweithio gyda phobl ifanc a chyflogwyr
  • a fydd eich hyfforddwyr gwaith yn helpu pobl ifanc i wneud cais am Fynediad i Waith
  • a fydd eich hyfforddwyr swydd yn rhoi cymorth i gyflogwyr – Gallwch gyfeirio at yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn adran 7
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn.

6. Codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd gwyrdd

Dywedwch wrthym am:

  • lefel bresennol yr ymwybyddiaeth o yrfaoedd gwyrdd ymhlith pobl ifanc eich ardal
  • eich uchelgeisiau ar gyfer codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys nifer y bobl ifanc y byddwch yn eu targedu
  • y gweithgareddau y byddwch chi'n eu darparu i godi ymwybyddiaeth
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn.

7. Cefnogi cyflogwyr

Dywedwch wrthym am:

  • unrhyw waith ymgysylltu â chyflogwyr gwyrdd gan gynnwys pryd a sut y digwyddodd hyn a faint o sefydliadau a gymerodd ran
  • beth mae cyflogwyr wedi'i ddweud wrthych a pha gymorth sydd ei angen arnynt
  • yr ystod o gyflogwyr gwyrdd a chyfleoedd gwaith posibl yn yr ardal
  • faint o gyflogwyr rydych chi'n bwriadu gweithio gyda nhw
  • pa gymorth y byddwch yn ei roi i gyflogwyr
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn.

8. Rhannu dysgu a chyflawniadau, codi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion

Dywedwch wrthym am:

  • y negeseuon allweddol rydych chi'n disgwyl eu dweud wrth bobl
  • pwy fyddwch chi'n dweud wrthynt
  • pa bolisïau ac arferion rydych chi'n gobeithio eu hysbysu
  • gweithgareddau y byddwch chi'n eu cyflawni bob blwyddyn
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn.

Yn adran 18, dywedwch wrthym sut y byddwch yn monitro ac yn gwerthuso eich prosiect i hysbysu’r gweithgareddau hyn.

9. Gweithgareddau'r prosiect

Dywedwch wrthym am:

  • gweithgareddau allweddol a fydd yn cael eu cynnal ar gyfer pob blwyddyn o'r prosiect.

10. Pam bod angen y prosiect hwn a pham mae’n cael ei ddylunio fel hyn

Dywedwch wrthym am:

  • ymchwil diweddar a pherthnasol
  • yr hyn rydych wedi'i ddysgu o brosiectau eraill
  • opsiynau cyflawni eraill a ystyriwyd gennych a pham mai dyma'r ffordd orau
  • pwy, pryd a sut y gwnaethoch ymgysylltu ag eraill (cyflogwyr, addysgwyr a gwasanaethau eraill) a'r hyn a ddywedon nhw. Gallwch gyfeirio at yr hyn a ddywedoch wrthym yn adran 3 am bobl ifanc.

11. Ategu darpariaeth arall

Dywedwch wrthym am:

  • gwasanaethau/cynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill (presennol ac yn y dyfodol) a sut mae eich prosiect yn ategu'r rhain ac yn llenwi bwlch
  • sefydliadau eraill y byddwch chi'n cysylltu â nhw a fydd yn hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau eraill ac oddi wrthynt. Mae enghreifftiau o wasanaethau eraill yn cynnwys cyngor gyrfaoedd, gwasanaethau lleoliadau gwaith eraill, darparwyr addysg, gwasanaethau cymorth eraill ar gyfer pobl ifanc a chanolfannau gwaith. Gallwch gyfeirio at yr hyn a ddywedoch yn adran 4
  • sut y byddwch yn gwneud cysylltiadau â chyflogwyr
  • sut y byddwch chi'n monitro gwasanaethau eraill i sicrhau bod eich prosiect, drwy gydol ei oes, yn parhau i ategu.

12. Sefydliad Arweiniol

Dywedwch wrthym am:

13. Partneriaid

Dywedwch wrthym am:

  • pwy fydd yn helpu cyflawni'r prosiect
  • arbenigedd a phrofiad pob partner a sut y bydd hyn yn helpu gyda'r prosiect hwn
  • beth fydd pob partner yn ei wneud, gan gynnwys y sefydliad arweiniol – gallwch gyfeirio at yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn adrannau 4 i 7
  • sut fydd y bartneriaeth yn cael ei rheoli? Gallai hyn gynnwys rhoi gwybod am drefniadau a gwneud taliadau
  • unrhyw sefydliadau eraill sy'n cefnogi'r prosiect ond sy'n cymryd llai o ran.

Mae angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth drafft ar gyfer y sefydliadau hynny a fydd yn helpu rheoli'r prosiect neu’n derbyn rhywfaint o'r grant. Gall hyn fod yn un cytundeb i'r holl bartneriaid neu gytundebau ar wahân. Gallwch ddefnyddio ein templed cytundeb partneriaeth.

Os ydych yn cael grant, mae'n rhaid i ni gymeradwyo'r cytundeb partneriaeth sydd wedi'i lofnodi cyn y gall y prosiect ddechrau.

14. Rheoli prosiect

Dywedwch wrthym am:

  • sut y byddwch yn rheoli'r prosiect ac yn gwneud penderfyniadau. Dylai hyn gynnwys y strwythur rheoli, a'r trefniadau llywodraethu
  • y staff a'r gwirfoddolwyr sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich prosiect. Dylech gynnwys teitlau swydd, faint o oriau y bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y prosiect, a'r cyflog a pha bartner fydd yn eu cyflogi
  • p'un a yw'r swyddi'n newydd neu'n bodoli eisoes (bydd angen recriwtio swyddi newydd yn agored)
  • sut y byddwch yn parhau i gynnwys pobl ifanc wrth ddarparu a gwerthuso'r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen
  • y rheolaethau ariannol y byddwch yn eu rhoi ar waith a sut y telir cyflogau i bobl ifanc.

15. Y Gymraeg ac ieithoedd eraill

Dywedwch wrthym am:

  • sut y bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gallwch naill ai ddweud wrthym yn yr adran hon beth fyddwch chi'n ei wneud neu anfon eich canllaw prosiect dwyieithog atom.
  • unrhyw ieithoedd eraill y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn.

Gallwch gynnwys costau cyfieithu fel rhan o gyllideb eich prosiect.

16. Diogelu

Dywedwch wrthym am:

  • eich polisi a'ch gweithdrefnau ar gyfer cadw pobl ifanc yn ddiogel, gan gynnwys pan fyddant gyda chyflogwyr
  • sut mae staff a gwirfoddolwyr yn cael eu gwirio a'u hyfforddi'n briodol
  • sut y byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau diogelu.

Mae gan wefan NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant

Os ydych yn cael grant bydd angen i chi ddilyn ein polisi ar ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

17. Effaith Amgylcheddol

Hoffem ariannu prosiectau sy'n amgylcheddol gynaliadwy.

Dylech gynnwys cynllun gweithredu amgylcheddol (a elwir weithiau'n gynllun neu bolisi gweithredu hinsawdd, arbedion carbon neu gynaliadwyedd). Byddwn yn gofyn i chi roi adborth ar hyn bob blwyddyn.

Dylai eich cynllun gynnwys sut y bydd eich sefydliad a'ch partneriaid yn:

  • creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a lleihau allyriadau carbon
  • helpu eraill i fod yn amgylcheddol gynaliadwy gan gynnwys gweithredu fel model rôl i bobl ifanc
  • monitro a gwerthuso eich effaith amgylcheddol.

Dysgwch ragor am greu cynllun gweithredu amgylcheddol.

18. Monitro a gwerthuso

Byddwn yn gofyn i chi ddarparu adroddiadau cynnydd bob 3 mis. Byddwn hefyd yn gofyn am adroddiadau gwerthuso blynyddol i'w rhannu gyda gwerthuswr ein rhaglen. Bydd angen i'r adroddiad gwerthuso gynnwys gwybodaeth ansoddol a meintiol, astudiaethau achos a gwersi rydych chi wedi'u dysgu. Byddwch hefyd yn cydweithio â'n gwerthuswr ac yn rhannu canfyddiadau.

Dywedwch wrthym am:

  • eich cynlluniau ar gyfer olrhain cynnydd a mesur yr effaith ar gyfer pob un o ganlyniadau'ch prosiect. Dylai gynnwys sut rydych yn monitro cynnydd pobl ifanc yn ystod y lleoliad ac am o leiaf 6 mis ar ôl hynny. Gallwch gyfeirio at yr hyn a ddywedoch yn adran 2
  • y dull rydych wedi’i gynllunio i werthuso a dysgu, gan esbonio sut y byddwch yn sicrhau bod gwerthuso a dysgu wedi'u hymgorffori yn eich prosiect o'r dechrau
  • pwy fydd yn cyflawni'r gweithgareddau hyn gan gynnwys sut y byddwch yn cynnwys pobl ifanc.

Dysgwch ragor am sut i ddysgu o'ch prosiect yma.

19. Risgiau

Dywedwch wrthym am:

  • risgiau allweddol i'ch prosiect
  • pa gamau y byddwch yn eu rhoi ar waith i'w rheoli
  • sut y byddwch yn parhau i fonitro a rheoli risgiau wrth gyflawni'r prosiect.

20. Ar beth y byddwch chi'n gwario'r arian

Dylech ddefnyddio ein templed i greu cyllideb eich prosiect

Dywedwch wrthym am:

  • sut y cyfrifwyd eich costau, gan gynnwys gorbenion
  • ar beth y mae'r costau'n seiliedig, er enghraifft, yr hyn y mae wedi'i gostio i gyflawni gwaith tebyg o'r blaen
  • a fyddwch yn annog y cyflogwr i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r cyflogau ar gyfer y person ifanc
  • p'un a ydych yn annog pob sefydliad i dalu’r cyflog byw gwirioneddol.
  • manylion ariannu o ffynonellau eraill megis Mynediad i Waith
  • os yw eich costau wedi newid yn sylweddol o'ch mynegiant o ddiddordeb, esboniwch pam.

Dysgwch ragor am gyfrifo'ch gorbenion yma.

Dysgwch ragor am yr hyn y gallwch wneud cais amdano yma.

21. Etifeddiaeth a chynllunio ar gyfer diwedd eich grant

Dywedwch wrthym am:

  • unrhyw weithgareddau a chefnogaeth a fydd yn parhau ar ôl i'r grant ddod i ben. Dylech gynnwys unrhyw gamau sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd. Gall hyn gynnwys defnyddio’r dulliau o'ch prosiect yn ehangach ar draws eich gwaith arall neu annog sefydliadau eraill i ymateb i'ch cyflawniadau trwy newid yr hyn y maent yn ei wneud neu sut maent yn ei wneud.
  • eich dull o gynllunio ar gyfer diwedd eich grant.

Cysylltu â ni

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni drwy: