Defnyddio adnoddau Deallusrwydd Artiffisial mewn ceisiadau grant
Ein datganiad ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn ceisiadau grant
Ein safbwynt
Mae adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gynyddol wreiddio yn ein bywydau. Mae adnoddau fel ChatGPT, Gemini, Copilot a Claude yn newid y ffordd y mae pobl yn gweithio trwy arbed amser a gwella hygyrchedd. Rydym yn deall y bydd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn awyddus i ganfod ffyrdd o ddefnyddio’r adnoddau hyn yn eu gwaith eu hunain.
Ein safbwynt ni ar ddefnyddio AI:
Cewch ddefnyddio AI i’ch helpu i ysgrifennu ceisiadau grant. Ni fyddwn yn gwrthod cais oherwydd bod AI wedi cael ei ddefnyddio.
Gall adnoddau AI eich cefnogi os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os ydych yn newydd i ysgrifennu ceisiadau grant. Mae llawer o’n cwsmeriaid yn canfod fod defnyddio AI yn eu helpu nhw i ysgrifennu eu ceisiadau yn gyflymach a gyda llai o ymdrech.
Defnyddio AI yn ofalus
Mae AI yn gallu bod yn fan cychwyn defnyddiol ond yn aml nid yw’r hyn y mae’n ei gynhyrchu i chi mor gadarn ac yr ymddengys.
Nid yw ceisiadau a gefnogir gan AI yn dweud stori unigryw eich cymuned chi a sut rydych chi am eu cefnogi. Mae bod yn rhy gyffredinol yn gallu rhoi eich cais dan anfantais.
Awgrymiadau am sut i ddefnyddio AI
Dechreuwch gyda’r gymuned
Mae adnoddau AI yn aml yn cynhyrchu cynnwys generig neu’n cynnwys geiriau ffasiynol nad ydynt yn cyfleu eich safbwynt unigryw neu lais eich cymuned.
- Gwnewch ef yn bersonol trwy olygu’r cynnwys a gynhyrchwyd gan AI i adlewyrchu eich profiadau a’ch sgiliau eich hun, a’r hyn y mae’r gymuned wedi dweud wrthych y maen nhw ei angen neu’n gobeithio amdano.
- Dangoswch yr effaith ar y gymuned, cynhwyswch fewnwelediadau o’ch cymuned, megis adborth o ymgynghoriad neu ddata, i esbonio pam fod eich prosiect o bwys a sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.
Byddwch yn benodol
Mae’r Gronfa yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n darparu gwybodaeth glir a manwl.
- Disgrifiwch beth fyddwch yn ei wneud, a sut, pam a ble yn eich cais.
- Mae’r Gronfa am ddeall pa mor unigryw yw eich prosiect felly defnyddiwch enghreifftiau byw o’ch cymuned a manylion o’ch gwaith i greu argraff.
Cynlluniwch a chostiwch eich cyllideb yn ofalus
Mae ceisiadau yn cael eu hasesu ar gynllunio cyllideb a gwerth am arian.
- Gwnewch yn siŵr fod eich cyllideb yn cyd-fynd â’ch gweithgareddau prosiect ac yn cefnogi eich nodau.
- Peidiwch â dibynnu ar gyllidebau a gynhyrchwyd gan AI heb eu hadolygu. Sicrhewch eu bod yn ffitio eich cynlluniau ac yn bodloni rheolau ariannu’r rhaglen.
- Cadarnhewch fod yr holl gostau yn gymwys, yn rhesymol ac yn cynnig gwerth da am arian.
Risgiau wrth ddefnyddio AI
Cadwch lygad am wallau
Gall AI gynhyrchu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol weithiau.
- I sicrhau cywirdeb defnyddiwch ffynonellau dibynadwy ar gyfer data ac ymchwil.
- Gwiriwch gynnwys o ffynhonnell AI a’i addasu gyda’ch arbenigedd a’ch profiad chi.
Efallai na fydd eich data yn breifat
Mae adnoddau AI, yn enwedig y rhai am ddim, yn gallu storio’r data rydych yn ei fewnbynnu. Gallai hyn beryglu cyfrinachedd.
- Os ydych yn mewnbynnu data eich sefydliad i mewn i adnoddau AI, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Pan ddefnyddir data personol, cyfeiriwch at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am arweiniad ar AI a diogelu data.
Mae AI yn cael effaith amgylcheddo
lMae adnoddau AI yn defnyddio llawer iawn o ynni a dŵr ffres i bweru eu canolfannau data. Mae hyn yn creu effaith amgylcheddol sylweddol. Mae amcangyfrifon yn awgrymu fod ChatGPT yn defnyddio rhwng 50 a 90 gwaith yn fwy o ynni i bob ymholiad na chwiliad confensiynol.
Meddyliwch wrth ddefnyddio AI, a defnyddiwch AI dim ond pan fydd yn amlwg yn eich helpu i ymgeisio neu pan fydd yn gwella safon eich cais yn sylweddol.
Mae’r datganiad hwn yn esbonio ein dull ni o helpu cymunedau i lywio’r dechnoleg newydd hon ar hyn o bryd. Wrth i dechnoleg esblygu, efallai y byddwn yn diweddaru ein safbwynt ac yn diweddaru’r dudalen hon.
This statement explains our current approach to helping communities navigate this new technology. As technology evolves, we may update our position and will keep this page up to date.