Pwy all ymgeisio
Rydym yn falch o ddyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i achosion da ledled y DU. Yn gyffredinol, rydym ond yn ariannu mudiadau i redeg prosiectau.
Mae angen i chi fod yn grŵp neu fudiad cyfansoddedig i ymgeisio am arian grant
Ni allwn ariannu pobl unigol.
Rydym ond yn ariannu grwpiau neu fudiadau i redeg prosiectau. Ac rydym yn ariannu llawer o fathau gwahanol o fudiadau.
Os ydych yn grŵp gwirfoddol neu gymunedol (nid mudiad corfforedig) sydd eisiau ymgeisio am arian grant, mae angen i chi gael cyfansoddiad ysgrifenedig (neu ddogfen lywodraethu) sy’n gosod rheolau ar sut mae eich mudiad yn cael ei redeg – mae hyn yn cael ei adnabod fel bod yn ‘gyfansoddedig’.
Beth mae eich mudiad ei angen i ymgeisio
Mae rhai pethau sylfaenol bydd angen i’ch mudiad gael mewn lle cyn i chi ymgeisio i ni am arian grant Loteri Genedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Dogfen lywodraethu, megis cyfansoddiad – Mae hwn yn nodi enw a phwrpas eich mudiad. Dylai hefyd gwmpasu sut y bydd yn gweithio. Felly, pethau fel sut mae pobl yn ymuno, sut y bydd eich pwyllgor yn gweithio, a phryd y byddwch chi'n cael cyfarfodydd. Mae angen eu dogfen lywodraethol eu hunain ar ganghennau mudiadau mwy. Mae gan yr NCVO gyngor ar ysgrifennu cyfansoddiad. Mae GOV.UK hefyd yn darparu gwybodaeth ar sut i ysgrifennu dogfen lywodraethu eich elusen.
- Pwyllgor neu fwrdd ag o leiaf dau aelod sydd ddim yn perthyn (neu dair ar rai rhaglenni ariannu) - Trwy ddim yn perthyn rydym yn golygu pobl nad ydyn nhw'n aelodau o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd, rhieni a phlant, parau priod neu bartneriaid sifil neu bobl sy'n byw yn yr un cyfeiriad.
- Cyfrif banc yn enw eich mudiad (fel yr ysgrifennwyd ar eich cyfansoddiad neu'ch dogfen lywodraethol) - Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod angen o leiaf dau berson sydd ddim yn perthyn i drosglwyddo arian o'r cyfrif.
- Cyfrifon ariannol blynyddol – Rydyn ni eisiau gwybod y dyddiad y mae'ch cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych chi. Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol, gan eich bod yn fudiad newydd (llai na 15 mis oed), byddwn yn dal i edrych ar eich cais.
Lle allwch gael cymorth i sefydlu mudiad
Mae llawer o gymorth a chyngor ar gael i sefydlu mudiad elusennol.
I fudiadau yng Nghymru a Lloegr
Ewch i adran 'Sefydlu elusen' ar wefan NCVO KnowHow.
I fudiadau yn yr Alban
Ewch i adran ‘Sefydlu elusen’ o wefan SCVO. Mae hefyd yn cynnwys dogfennau llywodraethu enghreifftiol gallwch eu defnyddio fel man cychwyn i’ch grŵp eich hun.
I fudiadau yng Ngogledd Iwerddon
Ewch i adran 'Sefydlu cwmni elusennol' y wefan NICVA.
Pa fathau o fudiadau all ymgeisio?
Fel arfer, rydym yn derbyn ceisiadau gan:
- fudiadau gwirfoddol neu gymunedol
- elusennau cofrestredig
- grwpiau neu glybiau cyfansoddedig
- cwmnïau nid er elw neu Cwmnïau Budd Cymunedol
- cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymunedol)
Ond mi all hyn fod yn wahanol, yn ddibynnol ar ba un o’n rhaglenni ariannu rydych yn ymgeisio amdani.
Pwy na allwn dderbyn ceisiadau ganddynt?
Fel arfer, ni allwn dderbyn ceisiadau gan:
- unigolion
- unig fasnachwyr
- cwmnïau cyfyngedig trwy gyfranddaliadau
- mudiadau tu allan y DU
- un mudiad yn ymgeisio ar ran un arall.
Ond mi all hyn fod yn wahanol yn ddibynnol ar ba un o’n rhaglenni rydych yn ymgeisio.
Os nad ydych yn siŵr os allwch ymgeisio
Cysylltwch â ni. Byddwn yn hapus i helpu.