Trawsgrifiad o grynodeb fideo byr Cronfa’r Deyrnas Unedig

Gwyliwch ein crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig


Trawsgrifiad

Dyma grynodeb fideo yn rhannu gwybodaeth am Gronfa’r Deyrnas Unedig, rhaglen ariannu sy'n cael ei chynnig gan Bortffolio’r Deyrnas Unedig yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Nod y cyflwyniad hwn yw rhoi gwybodaeth i chi i'ch helpu i benderfynu os yw'r rhaglen yn addas ar gyfer eich gwaith, neu ddarparu gwybodaeth am feini prawf a nodau’r rhaglen, awgrymiadau, manylion am yr hyn nad ydym yn edrych i'w ariannu, enghreifftiau o'r mathau o brosiectau, rydym yn edrych i’w hariannu, a rhestr wirio o bethau, i’w hystyried cyn gwneud cais.

Yn ogystal â'r wybodaeth hon, rydym yn eich annog yn gryf i ddarllen pob adran ar wefan Cronfa’r Deyrnas Unedig.

Mae'r rhestr wirio hon yn dangos rhai o'r pethau pwysig y dylech eu hystyried cyn gwneud cais.

Os gallwch chi ateb Ie i’r holl gwestiynau hyn, gallai Cronfa’r Deyrnas Unedig fod yn addas ar gyfer eich gwaith.

Mae'n bwysig nodi bod ein prosesau asesu yn gystadleuol, felly ni allwn warantu llwyddiant ar unrhyw gam o'r broses.

Byddwn yn dangos y rhestr wirio hon eto ar ddiwedd y cyflwyniad.

Y pethau y dylech eu hystyried yw:

  • A yw eich sefydliad yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon?
  • A yw eich prosiect yn bodloni'r holl feini prawf?
  • A yw eich prosiect yn bodloni un nod yn dda?
  • A fydd eich prosiect o fudd i gymunedau ar draws y Deyrnas Unedig?
  • Allwch chi ddangos tystiolaeth o effaith?
  • Ydych chi am wneud y newidiadau hirhoedlog i systemau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl?

Byddwn yn manylu mwy ar y rhain ar y sleidiau canlynol.

Mae'r sleid hon yn rhoi gwybodaeth am amseru a symiau. Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig grantiau rhwng £500,000 a £5 miliwn ac rydym yn disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau y flwyddyn.

Hyd y grantiau sydd ar gael yw 2-10 mlynedd, ac rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o brosiectau fod yn 3-5 mlynedd o hyd.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, rhaglen dreigl agored yw Cronfa’r Deyrnas Unedig.

Mae'r sleidiau nesaf yn rhoi gwybodaeth am feini prawf y rhaglen, y mae’n rhaid i bob prosiect eu bodloni.

Y cyntaf yw buddio cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig.

Gallwn ariannu prosiectau sy'n dangos hyn mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, gweithio ar draws y Deyrnas Unedig gyfan neu ar draws mwy nag un wlad neu'r Deyrnas Unedig, neu brosiectau sy’n seiliedig ar lefydd sy’n gallu dangos sut y byddant yn rhannu dysgu a allai fod o fudd i eraill. Neu gallai gydweithio rhwng gwledydd neu rannu dysgu gyda phobl mewn gwledydd eraill lle efallai y bydd o ddiddordeb ac o ddefnydd iddynt.

Rhif dau; cynyddu effaith.

Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n gallu dangos tystiolaeth o effaith ac sydd â chynlluniau i gynyddu’r effaith honno ymhellach.

Gallai hyn fod trwy weithio mewn lleoliadau newydd, gweithio gyda gwahanol gymunedau, neu wneud mwy gyda phobl neu gymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd.

Neu gallai fod trwy ddatblygu seilwaith gwell.

Y trydydd maen prawf yw cefnogi pobl sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.

Rydym yn edrych i dargedu ein harian lle mae ei angen fwyaf ac mae gennym ffocws cryf ar degwch.

Felly, rydym yn edrych ar sut y gellir gwneud pethau’n decach ar gyfer y grwpiau hyn.

A'r olaf, newidiadau i systemau a gwasanaethau.

Rydym am gefnogi prosiectau uchelgeisiol sy’n gallu gwneud newidiadau sylweddol i'r systemau a'r gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl bob dydd.

Rydym yn galw hyn yn newid systemau ac rydym yn golygu newidiadau mawr a pharhaol i'r ffordd y mae sefydliadau neu sectorau'n gweithio gyda'i gilydd.

Mae hyn yn cynnwys newid rheolau, arferion, a sut mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae hefyd yn cynnwys yr adnoddau sydd ganddynt, pwy sydd â phŵer, a'r hyn mae pawb yn ei feddwl sy'n bwysig.

Gall prosiectau wneud hyn ochr yn ochr â darparu gwasanaeth, ond nid ydym yn edrych i ariannu prosiectau sydd ond yn ceisio darparu gwasanaeth.

Mae'r sleidiau nesaf yn rhoi gwybodaeth am amcanion y rhaglen, ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o brosiectau ar draws y nodau hyn.

Rydym yn credu y bydd y prosiectau cryfaf yn bodloni un o'r amcanion hyn yn gryf.

Nod un yw gwella perthnasoedd rhwng pobl â phrofiadau bywyd gwahanol, oherwydd gwyddom fod gan gysylltiad ar draws ffiniau cymdeithasol fanteision cymdeithasol enfawr a dwfn.

Gallai hyn olygu dod â phobl at ei gilydd o wahanol gefndiroedd, cenedlaethau neu lefydd.

Nod dau yw helpu pobl mewn cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd cyfarfod wyneb yn wyneb, i wneud cysylltiadau ystyrlon ar-lein.

Hoffem annog cysylltiad lle mae rhwystrau i wneud hyn wyneb yn wyneb.

Mae enghreifftiau yma yn cynnwys oherwydd iechyd corfforol a meddwl, cysylltiadau trafnidiaeth gwael, neu oherwydd eu bod yn byw ymhell o bobl eraill sydd â hunaniaeth neu brofiad cyffredin.

Rydym yn ymwybodol o dlodi digidol yma, a byddem yn annog prosiectau i ddweud wrthym sut y maent yn bwriadu mynd i'r afael â hyn.

Nod tri yw helpu pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau.

Er enghraifft amlinellu ffyrdd i gymunedau ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Nod pedwar yw helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau penodol newid y systemau sy’n effeithio arnynt gan roi llais iddyn nhw a gweithredu arno.

A nod pump yw helpu mwy o sefydliadau i esblygu a gwrando ar blant a phobl ifanc, trwy wreiddio arferion llais ieuenctid gwych i sefydliadau ddefnyddio'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud i wella eu cymunedau a'r systemau a'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.

Dyma rai awgrymiadau am y meini prawf a'r nodau.

Yn gyntaf, nid oes angen i brosiectau fodloni’r holl amcanion.

Rydych yn fwy tebygol o gael eich ariannu os ydych chi’n bodloni un nod yn dda.

Yn yr un modd, rydym yn annhebygol o ariannu prosiectau sydd eisiau gwneud ychydig o bopeth.

Byddwn ond yn eich ariannu i gynyddu effaith y pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud.

Dylech allu dangos effaith y pethau hynny, ac mae'n ddefnyddiol i gadarnhau'r hyn yr ydym yn ei olygu trwy gymunedau.

Rydyn ni'n golygu pobl sy'n rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad, neu bobl sy'n byw yn yr un lle.

Rydym bob amser yn ei gweld hi'n ddefnyddiol esbonio yr hyn nad ydym yn edrych i'w ariannu.

Felly nid ydym yn chwilio am brosiectau sy'n newydd sbon nad ydynt yn cael effaith y gallant ei dangos neu nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau ar gyfer cynyddu effaith.

Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gallu dangos eu heffaith ac sydd â chynlluniau ar gyfer cynyddu'r effaith honno ymhellach.

Nid ydym yn chwilio am brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau yn unig.

Rydyn ni eisiau gweld cynlluniau sydd hefyd yn newid systemau.

Nid ydym yn chwilio am brosiectau sydd ond yn cynllunio i symud gweithgareddau presennol ar-lein.

Y nod am gysylltiad ar-lein yw cefnogi’r rheiny sy'n profi rhwystrau i gysylltiad all-lein ac nid ydym yn chwilio am brosiectau sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain i wneud newidiadau.

Rydym yn teimlo bod y meini prawf yn cael eu dangos orau pan fydd sefydliadau’n gweithio gydag eraill.

Dyma rai pethau eraill rydym yn chwilio amdano mewn prosiectau.

Casglu dysgu i ddangos eich effaith.

Rydym yn chwilio am brosiectau i ddangos bod dysgu yn flaenoriaeth ac i ystyried sut y byddent yn rhannu dysgu yn ystyrlon, er enghraifft, ei rannu gyda'r rheiny y gallai eu helpu'r mwyaf, yn hytrach na'i ddarlledu i bawb.

Cydweithio a gweithio gyda phartneriaid; byddwn ni eisiau gwybod sut rydych chi'n cynllunio i gydweithio â sefydliadau eraill neu ar draws sectorau, a sut y byddwch yn sicrhau bod y sefydliadau neu gymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw yn bartneriaid cyfartal, hyd yn oed os ydynt yn llai neu’n llai profiadol.

A, cael effaith gadarnhaol ar gymunedau pobl yn yr amgylchedd naturiol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn ariannwr amgylcheddol gynaliadwy ac yn chwilio am sefydliadau i rannu ein hymrwymiad i hyn drwy ystyried yr effaith y bydd eich prosiect a'ch gwaith yn ei chael.

Roeddem yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol i roi enghreifftiau sy'n dod â'r meini prawf a’r nodau yn fyw.

Rydym wedi rhoi pedair enghraifft i ddangos y mathau o brosiectau sy'n bodloni meini prawf a syniadau'r rhaglen.

Mae Prosiect A yn ehangu ei waith mewn un lle, gan adeiladu ar dystiolaeth o effaith hyd yn hyn.

Gan weithio mewn partneriaeth draws-sector, bydd y prosiect yn dod â thrigolion at ei gilydd gydag arweinwyr cymunedol i adnabod a gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

Bydd yn dangos budd ledled y DU drwy rannu dysgu gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i'w galluogi i archwilio'r gwaith yn eu cyd-destunau eu hunain.

Mae Prosiect B yn adeiladu ar waith mewn tri lleoliad yng Nghymru a Lloegr, ac yn ehangu i ardal arall yn yr Alban.

Mae'r prosiect yn annog cysylltiadau rhwng unigolion, grwpiau lleol a'r cyrff statudol i leihau unigrwydd cymdeithasol.

Ei nod yw creu newid system drwy adeiladu seilwaith i gynnig rhwydwaith cymorth ar gyfer cymunedau sy’n agored i niwed.

Mae Prosiect C yn gwneud gwaith hanfodol i gefnogi pobl ifanc sydd wedi profi trawma.

Drwy adeiladu ar eu cryfderau, fel y gallant newid y systemau yr oeddent ynddynt unwaith.

Bydd cyllid yn eu galluogi i greu adnodd arferion gorau, a fyddai'n cael ei rannu wedyn gyda sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Sefydliad cymunedol creadigol yw Prosiect D a arweinir gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a dulliau ymgysylltiad arloesol a gynlluniwyd i gefnogi ac ehangu lleisiau pobl ifanc ymylol rhwng 8 a 25 oed.

A dyma'r rhestr wirio eto i’ch atgoffa, os gallwch chi ateb Ie i'r holl gwestiynau hyn, gallai Cronfa’r Deyrnas Unedig fod yn addas ar gyfer eich gwaith.

Y pethau y dylech eu hystyried yw.

A yw eich sefydliad yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon?

  • A yw eich prosiect yn bodloni'r holl feini prawf?
  • A yw eich prosiect yn bodloni un nod yn dda?
  • A fydd eich prosiect o fudd i gymunedau ledled y DU?
  • A allwch chi ddangos tystiolaeth o effaith?
  • Ydych chi'n edrych i wneud newidiadau hirhoedlog i systemau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl?

Yn olaf, dyma ychydig o wybodaeth am y camau nesaf y gallwch eu cymryd.

Os ydych chi'n teimlo bod eich prosiect yn addas ar gyfer y rhaglen, gallwch ddod o hyd i ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan.

Mae'r ffurflen hon yn gofyn tri phrif gwestiwn.

  • Beth ydych chi eisiau ei wneud a pham?
  • Sut mae eich prosiect yn bodloni ein blaenoriaethau ariannu?
  • Beth ydych chi'n gobeithio ei ddysgu a pha effaith fydd eich dysgu'n ei chael?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Gallwch gysylltu â'n tîm cyngor dros y ffôn ar 0345 4 10 20 30 neu drwy e-bost general.enquiries@tnlcommunityfund.org.uk

Diolch am wylio'r fideo wybodaeth hon am Gronfa’r Deyrnas Unedig.