Lle i anadlu: sut rydym ni’n helpu cymunedau i ddefnyddio, creu a gwella mannau awyr agored
Bwyd a ffitrwydd
- Mae mannau awyr agored yn allweddol i gymunedau iach. Mae ymchwil yn dangos, er enghraifft, y gall tyfu ffrwythau a llysiau mewn 10% o fannau gwyrdd trefol ddarparu pum dogn y dydd i 15% o’r boblogaeth. Mae ein cyllid wedi helpu’r rhwydwaith Incredible Edible i dyfu bwyd ar draws 16,000m2 o dir ledled y wlad, trwy 144 o grwpiau lleol.
- Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles trwy bresgripsiynu cymdeithasol. Mae perllan gymunedol Urban Biodiversity yn Newquay yn helpu’r rhai hynny ag anghenion iechyd hirdymor trwy weithgareddau ymarferol fel plannu, cynaeafu a gwaith cynnal a chadw. Trwy’r prosiect, lleihaodd 19% o gyfranogwyr eu defnydd o feddyginiaeth a lleihaodd 33% eu defnydd o wasanaethau’r meddyg teulu.
Rydym wedi ariannu 3,409 o brosiectau rhandir a gerddi cymunedol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan helpu cymunedau i dyfu bwyd a thyfu’n agosach at ei gilydd
Buddsoddiad deallus
- Mae mannau awyr agored yn cynnig gwerth am arian; mae’r Parks Alliance wedi canfod am bob £1 a fuddsoddir mewn parciau, mae dychweliad o £7 mewn buddion lles ac amgylcheddol. Disgwylir i’r prosiect Connswater Community Greenway yn Belfast, a greodd ‘barc unionlin’ 9km gyda choridorau bywyd gwyllt, gwelliannau i’r dyfrffyrdd, llwybrau cerdded a seiclo, ddychwelyd hyd at £6 ar gyfer pob £1 a fuddsoddir trwy hybu gwerth tir, iechyd, twristiaeth a hinsawdd.
- Mae gan fuddsoddiad awyr agored fuddion o ran cyflogaeth hefyd. Er enghraifft, ym Mhontypridd, helpodd ein cefnogaeth i Bartneriaeth Adfywio Ynysybwl gymryd rheolaeth dros bwll nofio awyr agored lleol, a’i wella. Yr haf canlynol, daeth 19 o bobl leol yn achubwyr bywyd ar y safle, naill ai trwy gyflogaeth neu hyfforddiant gwirfoddol.
Rydym wedi cefnogi cymunedau i gysylltu yn yr awyr agored trwy 2,171 o brosiectau sy’n ymwneud â pharciau a mannau gwyrdd
Mynediad i bawb
- Mae mynediad cyfartal i fannau awyr agored yn hanfodol. Mae dementia yn costio mwy i economi’r DU na chlefyd y galon a chanser wedi’u cyfuno; gallai rhywbeth mor syml â threulio amser yn yr awyr agored helpu pobl â dementia i gynnal a gwella eu hiechyd cyffredinol, ond maen nhw’n wynebu rhwystrau mynediad. Gwnaethom ariannu Dementia Adventure i gynnal dros 900 o sesiynau gweithgarwch awyr agored, o gerdded mewn coetiroedd i arddio ac ymweliadau fferm, i dros 2,500 o bobl â dementia a 582 o ofalwyr.
- Efallai bydd rhai cymunedau’n teimlo’n llai cyfforddus neu fel nad ydynt wedi’u croesawu cymaint ag eraill mewn mannau awyr agored. Gwnaethom ariannu Students and Refugees Together yn Plymouth i gynnal grwpiau cerdded i ffoaduriaid, gan helpu’r rhai hynny sy’n newydd i’r ardal gysylltu â natur leol, teimlo’n fwy cyfforddus yn eu hamgylchoedd a chyfarfod â phobl newydd i feithrin eu hymdeimlad o gymuned.
Rydym wedi helpu cymunedau i archwilio natur trwy gaffael, defnyddio a gwella hygyrchedd 833 o goetiroedd a 428 o lynnoedd/dyfrffyrdd