Digwyddiadau Covid-19
Rydym yn lansio cyfres o sesiynau polisi ar lein dros frecwast, gan drafod amrywiaeth o bynciau a materion sy’n berthnasol i’r sefyllfa bresennol. Rydym eisiau dod a’r sector ynghyd i rannu dysgu, mewnwelediad ac arfer da.
Digwyddiadau ar y gweill
- 11 Feb, 9:30 - 11:00 Effaith pandemig COVID-19 ar gymuendau gwledig
- 25ain Chwefror, 9:30 - 11:00: Digwyddiad Rhithiol: COVID-19 a'r effaith ar les staff a gwirfoddolwyr
- 8 Mawrth, 9:30-11:30 Digwyddiad rhithiol - Digwyddiad Dysgu Menywod a Merched y Gogledd Ddwyrain a Cumbria
- 24 Mawrth, 9:30-13:15 Cynhadledd Communities Can
Mae pandemig COVID-19 wedi ein gorfodi ni oll i newid y ffordd yr ydym yn gweithio. Mae nifer o sefydliadau wedi addasu digwyddiadau i allu gwasanaethu eu cymunedau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Yn ystod yr amser heriol yma, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisiau rhoi sicrwydd i elusennau a sefydliadau cymunedol ein bod yma i’w cefnogi.
Bydd y sesiynau y byddwn yn eu cynnal yn cael eu harwain gan ein harbenigwyr yn y meysydd yma a bydd yn rhoi lle inni gyd feddwl am y cwestiynau bach a mawr sy’n wynebu’r sector yn awr ac ar ôl y pandemig. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwrando ac yn dysgu o’n cymunedau.
Rydym eisiau rhoi’r cyfle i sefydliadau a grwpiau i siarad gyda’i gilydd am bynciau perthnasol ac i drafod effaith byr dymor a hir dymor COVID-19.
11 Feb, 9:30 - 11:00 Effaith pandemig COVID-19 ar gymuendau gwledig
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi effeithio cymunedau o bob maint yn y DU, gyda phob un yn wynebu ei heriau ei hun. Mae profiad cymunedau gwledig a'i phoblogaethau gwasgaredig wedi cael profiad gwahanol iawn o'u cymharu â threfi a dinasoedd adeiledig ac mae'r heriau cymhleth sy'n gysylltiedig â chymunedau gwledig yn aml yn cael eu hanwybyddu.
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywyd cymunedol gwledig gydag unigedd yn dod yn fwy o bryder wrth i drafnidiaeth gymunedol, neuaddau pentref a thafarndai sy'n eiddo i'r gymuned gael eu dileu gan y pandemig. Mae'r ymdeimlad o gymuned wedi'i dynnu allan o lawer o bentrefi a threfi.
Dan gadeiryddiaeth Ruth Bates, Cyfarwyddwr Cymru o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd y sesiwn hon yn archwilio gwersi gan rai o'n deiliaid grantiau ar sut yr oeddent yn addasu i ddarparu gwasanaethau i'w cymunedau ac yn caniatáu iddynt barhau i ffynnu.
25ain Chwefror, 9:30 - 11:00: Digwyddiad Rhithiol: COVID-19 a'r effaith ar les staff a gwirfoddolwyr
Mae pandemig y coronafeirws (Covid-19) wedi cael effaith ddofn ar y sector gwirfoddol a chymunedol, yn enwedig ar iechyd meddwl a lles staff a gwirfoddolwyr.
Ynghyd â chyfuniad o bwysau cynyddol oherwydd llwythi gwaith, mae effaith negyddol gweithio o gartref gan adael llawer o staff yn teimlo'n ynysig ac yn methu diffinio ffiniau clir rhwng gwaith a chartref, a phryder, straen a blinder yn her barhaol i lawer o sefydliadau a'u staff.
Dan gadeiryddiaeth Helen Whyman, Pennaeth Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwch yn clywed gan sefydliadau am yr heriau y mae staff wedi'u hwynebu, sut y maent wedi addasu a sut y gallwn ddefnyddio'r dysgu hyn i gefnogi lles gweithluoedd yn ystod ac ar ôl y pandemig.
8 Mawrth, 9:30-11:30 Digwyddiad rhithiol - Digwyddiad Dysgu Menywod a Merched y Gogledd Ddwyrain a Cumbria
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnal digwyddiad dysgu ar-lein i Fenywod a Merched ar 8 Mawrth 2021, Diwrnod Rhyngwladol y Merched, a fydd yn dwyn ynghyd comisiynwyr, arianwyr, llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau o bob rhan o ranbarth y Gogledd Ddwyrain a Cumbria (ac yn genedlaethol) i gychwyn deialog a chydweithredu - cam cyntaf uchelgais hirdymor i gydweithio i ddatblygu trefniadau ariannu mwy cydlynol a darparu gwasanaethau effeithiol i fenywod a merched.
Sut rydym yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'n gilydd i sicrhau'r canlyniadau gorau i fenywod a merched yn y Gogledd Ddwyrain a Cumbria?
Beth ydym am fod yn wahanol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o fenywod a merched yn y Gogledd Ddwyrain a Cumbria?
Mae'r digwyddiad hwn yn ymateb i adborth a dysgu gan 62 o ddeiliaid grantiau'r gronfa Menywod a Merched ledled y wlad.
Mae ein partner effaith a dysgu DMSS yn cyd-gynhyrchu'r digwyddiad hwn gyda ni, ochr yn ochr â Grŵp Cynllunio Gogledd Ddwyrain a Cumbria gan gynnwys gwasanaethau gan y sector Menywod a Merched ac mewn ymgynghoriad ag arianwyr a chomisiynwyr.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i:
- Rannu dysgu ar arfer da a dulliau gweithredu effeithiol, gan gynnwys dysgu o Fenter Menywod a Merched £48.5 miliwn Cronfa'r Loteri Genedlaethol a gwrando ar leisiau Menywod a Merched
- Trafod ac archwilio atebion i rai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu'r sector, o weithio mewn partneriaeth, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chynwysoldeb, gyda Chyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn Lloegr, arianwyr cenedlaethol a darparwyr gwasanaethau menywod a merched lleol.
- Deall yn well flaenoriaethau – a heriau a wynebir gan ferched a menywod, ymddiriedolaethau a sefydliadau, comisiynwyr, llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau
- Cysylltu â chydweithwyr perthnasol a meithrin cydberthnasau
- Sbarduno syniadau ar gyfer cydweithio newydd a newid systemau
24 Mawrth, 9:30-13:15 Cynhadledd Communities Can
Flwyddyn yn ddiweddarach ers i effeithiau cyntaf y pandemig gael eu teimlo yn y DU, fe'ch gwahoddir i ymuno â ni am ddiwrnod o drafodaeth sy'n ysgogi'r meddwl. Byddwn yn dwyn ynghyd dysg a mewnwelediadau a gafwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, prosiectau rydym wedi'u hariannu ac arweinwyr sector i archwilio sut y gallwn barhau i gefnogi cymunedau yn y ffordd orau bosibl wrth i'r pandemig barhau, ond hefyd yn ceisio ailadeiladu'n gryfach wrth i ni edrych tuag at ddyfodol mwy disglair ar ôl pandemig.
Bydd pob sesiwn yn rhoi cyfle i ddeiliaid grantiau, arweinwyr meddwl a chyd-sefydliadau ariannu rannu lleisiau'r rhai sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ar lawr gwlad. Cewch gyfle i rannu eich meddyliau a'ch cwestiynau i gymryd rhan yn y drafodaeth ar sut i gael y gorau o weithgareddau'r dyfodol a fydd yn helpu i greu cymunedau cryf a gwydn.
Gwyliwch recordiadau fideo o ddigwyddiadau blaenorol:
- Covid-19 and its impact on the disabled community (Fideo YouTube)
- Lock down loneliness and the voluntary and charity sectors response (Fideo YouTube)
- Co-production for the charity sector (Fideo YouTube).
(Fideo YouTube)
Am wybodaeth bellach am y data a sut rydym ni’n defnyddio'r data yma ewch i: www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
Os nad ydych eisiau cofrestru gydag Eventbrite, ond eich bod dal i fod eisiau mynychu, cysylltwch â public.affairs@tnlcommunityfund.org.uk.
Nodwch os gwelwch yn dda: Rydym yn defnyddio Eventbrite i gofrestru mynychwyr i’r webinar yma. Os ydych yn hapus i gofrestru yn y ffordd yma bydd angen i chi dderbyn Telerau Gwasanaeth Eventbrite. Os nad ydych eisiau cofrestru drwy ddefnyddio Eventbrite ond eisiau mynychu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.
Mae’r sesiynau yma yn debygol o fod yn boblogaidd, felly gofynnwn i ddim ond un unigolyn o bob prosiect gofrestru ar gyfer pob digwyddiad.