Cam-drin domestig

Roedd gwasanaethau cam-drin domestig yn cael trafferth diwallu'r galw cyn y pandemig, gydag un o bob pump o fenywod yn cael eu troi i ffwrdd o lochesi oherwydd diffyg lle. Yn ystod y cyfnod clo bu adroddiadau niferus am gynnydd mawr yn y galw am gefnogaeth gan oroeswyr a chyflawnwyr.

Nid achos cam-drin domestig mo'r cyfnod clo, y cyflawnwyr sy'n gyfrifol o hyd. Ond mae gan dreulio mwy o amser gyda'n gilydd, pwysau ariannol a cholli rheolaeth i gyd y potensial i waethygu ymddygiadau ymosodol a fu'n bodoli eisoes.

Sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ymateb?

Er y gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, mae'n drosedd a brofir amlaf gan fenywod. Mae'r sector menywod a merched wedi ymaddasu ac ymateb yn gyflym i anghenion goroeswyr yn ystod yr argyfwng. Mae arian gan y Loteri Genedlaethol yn cefnogi deiliaid grant i symud i weithio o bell a darparu cefnogaeth ragweithiol a brys, yn ogystal â chefnogi sefydliadau i fodloni'r lefelau uchel o alw a ddisgwylir dros yr hir dymor.

Cymryd camau cynnar i atal niwed

Cysylltu'n rhagweithiol â phobl sydd mewn perygl a gweithio gyda'r sector statudol os bydd angen cymryd camau. Yn Swydd Rhydychen, mae Reducing the Risk of Domestic Abuse yn cysylltu'n ddiogel ac yn rheolaidd â phawb yr aseswyd eu bod yn wynebu risg uchel o gam-drin, i sicrhau eu diogelwch parhaus a chefnogi eu hiechyd meddwl. Maen nhw'n cydweithio'n agos â'r heddlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant mewn achosion pan fydd pryderon.

  • Treialu dulliau syml o ofyn am gymorth. Mae teclyn sgwrs fyw yn rhoi ffordd newydd i Pathway Project yng Nghaerlwytgoed adnabod y rhai y mae angen cymorth arnynt. Bu iddynt gyflwyno blwch sgwrsio gwib ar ddechrau'r cyfnod clo i annog unrhyw un sy'n mynd i'w gwefan i sgwrsio (trwy deipio) gydag aelod o staff. Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, ond awgryma 72 o gysylltiadau yn y 12 diwrnod cyntaf - o'i gymharu ag oddeutu chwech o alwadau y dydd i'w llinell gymorth yn 2018/2019 - fod hyn yn ychwanegiad gwerth chweil. Mae rhai menywod yn ei chael hi'n fwy diogel i ddefnyddio'r dull hwn o gysylltu gan y gall "cael sgwrs ar-lein ymddangos fel eu bod ond yn potsian gyda'r ffôn." Maent yn ymchwilio i ddulliau eraill o hybu eu neges, er enghraifft trwy gynhyrchu eitemau bach a chywair isel sydd â rhif y llinell gymorth wedi'i argraffu arnynt, a all gael eu cludo heb risg.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth i hysbysu pobl bod cefnogaeth ar gael. Mae elusennau wedi bod yn defnyddio'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol genedlaethol #YouAreNotAlone i ddangos sut y gall pobl ofyn am gymorth yn ystod y cyfnod clo. Mae Respect wedi lansio ymgyrch a anelir at gyflawnwyr: #NoExcuseForAbuse. Mae'n fframio cam-drin fel dewis ac yn annog unrhyw un sy'n cael pethau'n anodd yn ystod y pandemig i geisio cymorth yn hytrach nag ymddwyn mewn ffordd ymosodol.

Mynediad mwy diogel i gefnogaeth

Gall camdrinwyr fynnu rheolaeth ar symudiadau pobl eraill a mynediad i'w ffôn, cyfrifiadur neu lechen, felly mae deiliaid grant yn gweithio i ddod o hyd i ddulliau mwy diogel o gefnogi goroeswyr o bell.

  • Dyfeisiau, mynediad i'r we a chredyd ffôn. Mae Angus Women's Aid yn Yr Alban yn rhoi benthyg llechi ac yn talu am fynediad i'r we ar gyfer pobl ifanc sy'n rhan o'u prosiect Arbenigwyr Ifainc. Yn yr un modd, mae Cymorth i Fenywod Abertawe yng Nghymru'n gofyn i bobl roddi ffonau a thalebau ychwanegu credyd i'w dosbarthu i fenywod a phobl ifanc sydd mewn perygl.
  • Technoleg well ar gyfer staff. Uwchraddiodd The Endeavor Project yn Bolton ffonau symudol staff er mwyn iddynt wneud galwadau fideo i gleientiaid ac mae sefydliadau fel Monklands Women's Aid yn Yr Alban wedi uwchraddio eu ffonau a llechi.
  • Ehangu oriau agor. Mae'r galw am gymorth gan Birmingham and Solihull Women's Aid 120% yn uwch na chyn y cyfnod clo, felly maen nhw wedi ehangu eu llinell gymorth o fod yn wasanaeth wythnos waith yn unig i saith niwrnod yr wythnos.
  • Cefnogaeth gan Gymheiriaid ar-lein. Mae grwpiau cefnogi ar-lein newydd yn helpu goroeswyr i deimlo'n llai unig ac wedi'u grymuso'n fwy. Mae un o gyn-ddefnyddiwr y gwasanaeth VIDA, elusen sy'n gweithio gyda menywod ifainc yn Sheffield, yn cydlynu eu grŵp crefftau ac yn postio adnoddau allan sy'n cynnig gweithgareddau therapiwtig a hunanofal i helpu menywod i deimlo'n llai unig.
  • Apwyntiadau wyneb yn wyneb. Mae Thrive Women's Aid ym Mhort Talbot yn rhedeg apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw a galw heibio ar gyfer menywod y mae angen cefnogaeth frys neu hanfodol arnynt na allant gael mynediad i hon o bell.
  • Creu preifatrwydd. Mae Noa Girls yn gweithio gyda menywod ifainc o'r gymuned Iddewig Uniongred yn Llundain. Maent wedi rhoi peiriannau sŵn gwyn i gleientiaid i'w gwneud hi'n anos i bobl eraill glustfeinio ar eu sgyrsiau.
  • Talu costau. Mae cwnsleriaid hyfforddedig Accord Northern Ireland yn gwrando ac yn ymateb i alwyr sydd â phroblemau perthynas cwpl/teulu. Maent yn ad-dalu costau ffôn i sicrhau nad oes neb yn colli allan ar gefnogaeth o ganlyniad i bryderon ynghylch arian.

Cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer menywod Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Rydym yn gwybod bod gan sefydliadau sydd â hanes o gydweithio â grwpiau lleiafrifol fwy o gyfle o ennill eu hymddiriedaeth; yn enwedig pan gânt eu harwain gan bobl o'r cymunedau y maent yn eu cefnogi neu pan fyddant yn gweithio mewn partneriaethau effeithiol â grwpiau llawr gwlad a chymunedol eraill.

  • Gwrando ac ymaddasu i'r hyn sydd ei angen. Yn Stockton-on-Tees, ymgynghorodd The Other Perspective ag arweinwyr cymunedol lleol, a nodwyd bod diffyg gwybodaeth am drais domestig a materion fel rheolaeth trwy orfodaeth ymysg ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bu iddynt glywed hefyd i rwystrau iaith ac ofn cael eu camddeall neu eu hamau olygu bod menywod sy'n profi camdriniaeth yn fwy tebygol o gysylltu â sefydliadau ffoaduriaid bach ac arweinwyr cymunedol yn hytrach nag elusennau cam-drin domestig cenedlaethol neu'r GIG. Wrth ymateb i hyn, bydd gweithiwr prosiect newydd yn creu cysylltiadau â gwasanaethau lleol i greu llwybrau atgyfeirio, ac yn cefnogi goroeswyr mewn ffyrdd ymarferol, gan gynnwys cwblhau gwaith papur a dehongli. Bydd y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo mewn chwe iaith gymunedol.
  • Ffyrdd newydd o gysylltu. Mae Sistah Space yn sefydliad cymunedol a redir gan wirfoddolwyr sy'n cynnig gwasanaethau cam-drin domestig a rhywiol i fenywod o dras Affricanaidd a Charibïaidd. Bydd eu grant bach yn talu am liniaduron a ffonau er mwyn iddynt gynnig gwasanaeth ar-lein i ddarparu cefnogaeth frys yn ystod nosweithiau a phenwythnosau. Maent yn bwriadu helpu rhai o'r bobl dros 60 oed o'r "oes Windrush" y maent yn eu cefnogi i hygyrchu'r "byd rhithwir" am y tro cyntaf; er mwyn iddynt gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt a chysylltu â phobl eraill.
  • Taclo tabwau diwylliannol Yn Derby, bydd Gift Wellness Foundation yn dosbarthu nwyddau mislif i dros 800 o ferched a menywod agored i niwed o gymunedau Pacistanaidd a ffoaduriaid. Mae menywod wedi dweud wrthynt fod pryderon am arian, tabwau diwylliannol a cyfyngiadau ffisegol ar fynd allan yn rhwystrau; yn enwedig i fenywod sy'n ddigartref, yn profi trais domestig neu'n dibynnu ar fanciau bwyd.
  • Cyngor ymarferol a fforddiadwy. Mae Sahara yn cefnogi menywod Indiaidd a Phacistanaidd yn Preston ac fe all ddarparu cefnogaeth yn Wrdweg, Gwjarateg a Phwnjabeg. Mae modd bob amser iddynt ffonio menywod yn ôl fel nad oes rhaid iddynt dalu am alwadau neu ddata.

Diwallu anghenion sylfaenol

  • Diwallu anghenion sylfaenol. Mae'r elusen plant KidsOut newydd dderbyn grant bach i ddarparu talebau archfarchnad i deuluoedd mewn llochesi menywod ar draws Yr Alban.Ariannwyd Belfast and Lisburn Women's Aid i brynu fan er mwyn iddynt gludo nwyddau i fenywod a theuluoedd sydd wedi dianc rhag cam-drin domestig a chaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Iwerddon.

Darparu llety diogel

  • Aros ar agor, yn ddiogel. Mae'r rhan fwyaf o lochesi wedi parhau ar agor trwy gydol y cyfnod clo, gan ddarparu cartref a chefnogaeth ddiogel i'r rhai sydd wedi ffoi rhag camdriniaeth. Maent wedi diwygio mesurau glanhau a diogelwch i ddiogelu trigolion a staff. Mae Calan DVS, un o'r elusennau cam-drin domestig mwyaf yng Nghymru, wedi bod yn gweithio gydag ysgolion lleol i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer staff llochesi.
  • Codi ymwybyddiaeth o drawma. I ehangu capasiti, mae llawer o ddinasoedd wedi trawsnewid ystafelloedd gwesty a gwely a brecwast i ddarparu llety rhyw cymysg i bobl ddigartref. Ond nid yw hyn bob amser yn addas i oroeswyr sy'n agored i niwed neu wedi'u trawmateiddio. Mae Greater Manchester Women’s Support Alliance (GMWSA) wedi recriwtio cydlynydd cefnogi i weithredu cefnogaeth a gyfeirir gan rywedd a thrawma ar gyfer trigolion. Maent hefyd wedi datblygu pecynnau cymorth o gwmpas arferion ymateb i drawma ac ymwybyddiaeth o drais domestig ar gyfer staff yr holl westai, gan gynnwys gweithwyr diogeledd.
  • Gofalu am blant a phobl ifanc. Er mwyn ymateb i gynnydd mewn camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, mae Birmingham and Solihull Women's Aid yn cyflogi ymarferydd gwaith plant i gyflwyno cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein wythnosol ar gyfer plant sy'n byw mewn llochesi. Bydd yr ymarferydd hwn yn helpu lleihau unigedd, cefnogi plant i wneud synnwyr o'u profiadau a chyflwyno gofal therapiwtig, a rhoi ychydig o amser tawel gwerthfawr i famau.

Gweithio gyda chyflawnwyr

  • Cynllunio diogelwch i ymdopi yn ystod y cyfnod clo. Mae Respect yn parhau i redeg ei llinellau cymorth yn ôl y drefn arferol ac wedi creu arweiniad (PDF 231KB) ar sut y gall elusennau a grwpiau barhau i weithio gyda chyflawnwyr yn ystod yr argyfwng. Maent yn argymell bod cefnogaeth o bell yn canolbwyntio ar gynllunio diogelwch, technegau straen a phwyllo, yn hytrach na newid agweddau ac ymddygiad dros yr hir dymor. Nod gwneud hyn yw gwneud cyflawnwyr yn llai tebygol o wylltio, gan ostwng y risg o niwed i'r goroeswr. Hefyd, maent yn amlygu'r angen am siarad â chyflawnwyr am breifatrwydd, yn enwedig os ydynt yn cymryd rhan mewn cefnogaeth dros y ffôn neu'r we ar yr un pryd â byw gyda dioddefwyr a'u plant.

    Wrth ddisodli cefnogaeth wyneb yn wyneb, mae, Calan DVS yng Nghymru wedi bod yn cysylltu'n rhagweithiol â chyflawnwyr i drafod eu sefyllfa a'u hatgoffa am eu cynllunio diogelwch neu ei ddiweddaru, er mwyn helpu cadw nhw ar y trywydd iawn.
  • Ehangu gwasanaethau. Rydym newydd ariannu'r prosiect Drive, sy'n gweithio gyda chyflawnwyr cyfresol a'r rhai sy'n achosi niwed sylweddol. Dros y tair blynedd ddiwethaf mae Drive wedi cydweithio â thros 1,500 o gyflawnwyr mewn wyth ardal yng Nghymru a Lloegr. Gyda'r arian newydd yma, byddant yn ehangu eu gwaith i dair ardal arall, gan gydweithio ag elusennau cam-drin domestig, yr heddlu, gofal cymdeithasol, iechyd a thai. Hyd yma mae eu gwaith wedi gostwng cam-drin corfforol 82%, cam-drin rhywiol 88%, aflonyddu a stelcio 72%, ac ymddygiad eiddigeddus a mynnu rheolaeth 73%.

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu am gam-drin domestig

Mae angen cefnogaeth ar staff, nawr yn fwy nag erioed

Mae gweithio yn y sector hwn yn galed ac mae'r risg o losgi allan yn uchel. Mae hunanynysu a chyfrifoldebau gofalu wedi gwneud pethau'n galetach - nododd SafeLives fod gan draean o wasanaethau (PDF 289KB) (31%) lai o staff. Mae gweithio o bell wedi creu heriau pellach, yn enwedig i staff sydd â phrofiad personol o gamdriniaeth. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd cymryd galwadau ffôn trawmatig yn eu cartrefi eu hunain.

  • Cefnogaeth barhaus gan gymheiriaid. Mae'r Fenter Menywod a Merched yn trefnu galwadau cymunedol wythnosol er mwyn i staff o elusennau cam-drin domestig rannu syniadau a heriau. Mae SafeLives Community yn ofod ar-lein er mwyn i weithwyr cam-drin domestig proffesiynol gysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae wedi gweld cynnydd 50% mewn cyfranogiad ers dechrau'r argyfwng.
  • Blaenoriaethu hunanofal yn y gweithle. Mae tîm eiriolaeth stelcio Changing Pathways wedi'i chael hi'n ddefnyddiol fframio hunanofal fel rhan o'r nod ehangach o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Maent yn dweud, "Rydym yn ceisio gwneud ein gorau glas dros fenywod a merched, ac os ydym eisiau gwneud hynny, mae angen i ni ofalu am ein hunain." Gall sefydliadau hybu dulliau bach o liniaru straen hefyd, megis cymryd saib, myfyrio, neu siarad yn agored â rheolwr neu gydweithiwr ar ôl diwrnod anodd.
  • Cynnal a chynyddu goruchwyliaeth ffurfiol. Mae Ashiana Network yn Llundain wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd i gynyddu goruchwyliaeth ar gyfer eu gweithwyr rheng flaen. Fel rhan o hyn, maent wedi cynnal gweithdai am losgi allan a thrawmateiddio mechnïol (pan gaiff rhywun ei drawmateiddio o ganlyniad i weithio gyda chleientiaid sydd wedi'u trawmateiddio), i gynyddu ymwybyddiaeth staff a gwella'u strategaethau ymdopi.
  • Cyfrannu at ymchwil ar sut mae gwasanaethau cam-drin domestig wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng, megis yr arolygon a gyflawnwyd gan SafeLives. Nod y rhain yw cyfeirio'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag effaith yr argyfwng ar wasanaethau, staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr.

Gall partneriaethau greu llwybrau newydd i ddiogelwch

Mae'r argyfwng wedi dangos ei fod yn bosib i weithio'n greadigol gyda phartneriaid newydd o'r sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector a chyflawni newidiadau y gallent fod wedi cymryd blynyddoedd i'w cyflawni yn y gorffennol. Er enghraifft, mae llawer o lwybrau i ddiogelwch megis ysgolion, darparwyr gofal iechyd, adrannau tai a busnesau lleol wedi bod ar gau, neu heb fod yn rhedeg yn ôl y drefn arferol.

  • Gweithio gyda chwmnïau preifat i greu mannau diogel newydd. Mae'r elusen cam-drin domestig Hestia wedi ffurfio partneriaeth gyda Boots, Superdrug a Morrisons i ddarparu gofod diogel i oroeswyr gael cefnogaeth yn eu fferyllfeydd. Mae Women's Aid wedi gweithio gyda Southeastern a Great Western Railway i gynnig teithio ar y trên am ddim i fenywod sy'n ceisio lloches pell i ffwrdd o'r cyflawnwr. Mae Liverpool Talent Match wedi trefnu cwmni tacsi lleol i fynd â phobl ifanc i'r orsaf heddlu leol os ydynt yn profi argyfwng.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cynghori prif-ffrwd. Mae goroeswyr sydd wedi dioddef cael eu treisio neu ymosodiad rhywiol gan rywun y tu allan i'w haelwyd wedi ofni adlam ac mae Women’s Centre Cornwall wedi codi materion ynglŷn â thrais a chamfanteisio rhywiol sydd heb eu hadrodd yn ystod y cyfnod clo. O ganlyniad i hyn mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi datgan yn gyhoeddus y byddant yn mynd ar ôl y drosedd yn unig ac nid torri rheolau'r cyfnod clo, er mwyn annog dioddefwyr i ddod ymlaen.
  • Gweithio gyda grwpiau a gwirfoddolwyr llawr gwlad newydd. Mae Sisters Uncut, cydweithfa sy'n ymgyrchu dros wasanaethau trais domestig gwell, wedi creu a rhannu adnoddau ar sut y gall grwpiau cymorth cydfuddiannol newydd helpu. Maent wedi darparu rhestr o wasanaethau cam-drin domestig lleol y gallant gyfeirio goroeswyr atynt, yn ogystal â chyngor ar sut i ymateb os bydd rhywun yn datgelu camdriniaeth. Bydd The Pathway Project yn penodi gweithiwr ymgysylltu cymunedol i reoli'r mewnlif newydd o wirfoddolwyr sydd wedi camu i fyny dros wythnosau diweddar.

Mae gan y gymuned ehangach rôl i'w chwarae

Mae cymorth gan y gymuned ehangach yn rhan angenrheidiol o ddileu cam-drin domestig.

  • Mae hyfforddi pobl a sefydliadau fel eiriolwyr cam-drin domestig yn un ffordd o wneud hyn. Gall eiriolwyr ddeall arwyddion, canlyniadau ac achosion camdriniaeth; codi ymwybyddiaeth; nodi pobl sy'n cael eu cam-drin a'u cyfeirio at gymorth arbenigol. Mae Reducing the Risk of Abuse yn defnyddio'r dull cymuned gyfan hwn trwy gefnogi gweithwyr proffesiynol ac aelodau'r gymuned i daclo cam-drin gyda'i gilydd. Maent wedi sefydlu a hyfforddi rhwydwaith mawr o eiriolwyr sy'n gweithredu fel ffynhonnell arbenigedd o fewn eu gwasanaeth, ysgol neu grŵp cymunedol. Dechreuon nhw yn 2005 gyda 19 o eiriolwyr yn Swydd Rhydychen ac erbyn hyn mae ganddynt dros 2,000 o ymgyrchwyr gweithredol ar draws Swydd Buckingham, Gorllewin Berkshire, Milton Keynes, Slough, Bwrdeistref Llundain Havering, Swydd Rhydychen a Torbay. Mewn blynyddoedd diweddar mae'r rhwydwaith hwn wedi ehangu i'r gymuned gyfan, gyda rhaglenni yn eu lle i hyfforddi trinwyr gwallt, landlordiaid a myfyrwyr.
  • Gweithio gyda'r gymuned ehangach. Mae’r elusen cam-drin drin domestig Onus yn cyflwyno eu menter Safe Community ar draws Canolbarth a Dwyrain Antrim yng Ngogledd Iwerddon. Maent yn hyfforddi ac yn grymuso cymunedau i adnabod ac ymateb i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan gam-drin domestig. Maen nhw'n gweithio gyda busnesau, eglwysi, grwpiau cymunedol ac ysgolion i helpu goroeswyr i gyrchu cefnogaeth yn gyflym, yn ddiffwdan ac yn ddiogel. Bydd eu hyfforddiant ar-lein yn helpu pobl i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o gam-drin domestig, deall y llwybrau gwahanol i gefnogaeth, a sut i gyfeirio pobl atynt yn effeithiol.
  • Gweithio gyda phobl ddigartref. Mae pedair elusen: St Mungo’s, Standing Together, Single Homeless Project a Fulfilling Lives in Islington and Camden wedi creu arweiniad i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ddigartref ar sut i nodi a helpu rhywun sy'n cael ei gam-drin. Mae hyn yn cynnwys sut i ymgymryd â gwiriad lles dros y ffôn neu wyneb yn wyneb (o ran cadw pellter diogel a sicrhau y gall y goroeswr siarad am y gamdriniaeth yn ddiogel).

Gall mynd yn ddigidol gynnig mwy o reolaeth i oroeswyr

Mae'r newid i gefnogaeth o bell wedi bod yn angenrheidiol yn aml yn ystod y cyfnod clo. Er gwaetha'r heriau, mae wedi creu buddion hefyd. Mae prosiectau Women and Girls Initiative wedi gweld bod menywod nad ydynt yn barod i gyrchu eu gwasanaethau wyneb yn wyneb wedi ymgysylltu'n well yn rhithwir gan ei fod yn rhoi mwy o reolaeth iddynt dros ble a sut y maent yn cysylltu. Mae angen i ni gymhwyso'r dysgu hwn yn y dyfodol, trwy barhau â, neu ehangu, rhith-ddarpariaeth ar gyfer y menywod hynny sy'n ei chael yn haws ei defnyddio. Ond ni ddylid meddwl y gall disodli darpariaeth wyneb yn wyneb - mae angen y ddau opsiwn.

Cynllunio nawr ar gyfer anghenion y dyfodol

Mae deiliaid grant yn gwybod bod cam-drin domestig wedi cynyddu yn ystod y cyfnod hwn ac maent yn disgwyl ton o oroeswyr sy'n ceisio cefnogaeth wrth i'r cyfyngiadau lacio. Trwy gynyddu darpariaeth nawr a thros y chwe mis nesaf, mae cyfle gennym i baratoi at yr angen a'i ddiwallu. Mae gan wasanaeth cwnsela Action for Children yn Newcastle-upon-Tyne restr aros yn barod. Mae'n debygol na chaiff ei nodi y bydd angen cefnogaeth ar lawer o blant sydd wedi bod yn dystion i gam-drin domestig neu gael eu heffeithio ganddi hyd nes iddynt ddychwelyd i'r ysgol, pan fydd eu llesiant o bosib wedi dirywio'n sylweddol. Mae'r prosiect wedi hurio cwnsler ychwanegol am chwe mis i ymdrin â'r ôl-groniad hwn fel y gellir cefnogi plant pan fydd arnynt ei angen fwyaf

Pethau i'w hystyried wrth ymgeisio am grant

Os ydych yn ymgeisio am grant, dyma rai cwestiynau y mae'n werth i chi eu hystyried:

A fydd eich gwasanaeth yn cydweddu neu'n cystadlu â darpariaeth sydd eisoes yn bodoli?

Gan i'r sector hwn gael ei danariannu'n hanesyddol, gall fod cystadlu dros grantiau. Mae'n bwysig meddwl am gryfderau dull eich sefydliad a sicrhau nad yw'n dyblygu'r hyn y mae eraill eisoes yn ei wneud. Mae ymchwil wedi nod bod sefydliadau bach ac arbenigol yn aml yn y sefyllfa orau i ddeall beth mae ei angen ar fenywod, ond mae elusennau mwy o ran maint yn ychwanegu gwerth gyda'u hymgyrhaeddiad a'u hadnoddau.

Sut fyddwch chi'n adeiladu partneriaeth gref?
Mae partneriaethau'n bwysig, ond rydym yn gwybod y gall fod rhwystrau i wneud iddynt weithio. Ystyriwch y cymysgedd o ddulliau yn ogystal â sut y byddwch yn taclo unrhyw anghydbwysedd pŵer rhwng sefydliadau bach arbenigol ac elusennau mwy o ran maint.

A fydd eich gwasanaeth yn gyfannol ac yn cefnogi groeswyr dros amser?
Yn aml nid yw goroeswyr ond yn delio â chamdriniaeth, mae'n bosib y bydd angen cefnogaeth gyfreithiol, iechyd, ariannol, mewnfudo ac o ran tai arnynt hefyd. Mae eu hanghenion yn newid dros amser a gallant fod yn gymhleth. Sut fyddwch chi'n gwneud eich cefnogaeth yn hawdd ei addasu, ac yn osgoi pennu unrhyw derfynau amser a allai rwystro ailsefydlu?

Sut fyddwch chi'n gwneud eich gwasanaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch?
Mae cael pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o'r problemau y mae goroeswyr yn eu hwynebu'n bwysig i adeiladu gwasanaethau hygyrch a arweinir gan bobl. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod profiadau ac anghenion pobl o oedrannau, rhywedd, rhyw ac ethnigrwydd gwahanol yn cael eu clywed a'u diwallu?

Sut fydd goroeswyr yn cymryd rhan wrth ddylunio gwasanaethau?
Gall rhoi llais i oroeswyr mewn gwasanaethau argyfwng fod yn heriol ond mae'n werth chweil. Dechreuwch drwy rymuso pobl i benderfynu ar eu cynllun cefnogaeth a phenderfynu ar neu arwain gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt.

Sut fyddwch chi'n cefnogi llesiant goroeswyr?
Mae cam-drin domestig yn difetha hyder a hunaniaeth. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid, llesiant a gweithgareddau grŵp fel ioga neu grefftau'n wasanaeth cost isel, ond mae ganddynt rôl i chwarae a gallant weddu i gefnogaeth un i un. Sut fyddwch chi'n grymuso goroeswyr i ddewis neu arwain y gwasanaethau hyn?

Ydych chi wedi ystyried llesiant eich staff a gwirfoddolwyr?
Mae lefelau llosgi allan yn uchel yn y sector hwn, gan arwain at lefelau uchel o salwch neu drosiant staff. Ystyriwch sut rydych yn adolygu llwythi gwaith achos a chofiwch gyllidebu ar gyfer goruchwyliaeth, cefnogaeth gan gymheiriaid a/neu hyfforddiant rheolaidd. Mae SafeLives yn argymell na ddylai fod gan ymgynghorydd trais domestig lwyth achosion sy'n fwy na 65-85 o achosion y flwyddyn.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r hyn rydym yn ei weld ac yn ei glywed gan ein deiliaid grant ar garlam, felly fe fydd pethau yr ydym wedi'u colli, heb sylwi arnynt eto neu efallai, eu camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu her, fel y gallwn barhau i wella a datblygu, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gyrrwch adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn i knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

--

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23 Mehefin 2020