Ymchwil ar gyrhaeddiad ac effaith ein cyllid
Yng ngwanwyn 2021 fe gomisiynwyd IFF Research i gynnal ymchwil annibynnol am gyrhaeddiad ac effaith grantiau a wnaed gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Mai a mis Mehefin 2021, gyda deiliaid grant a oedd â grantiau yn dod i ben rhwng Ionawr 2019 a Mehefin 2020. Roedd yn cynnwys arolwg gyda sampl gynrychioliadol o 5,246 o ddeiliaid grantiau a 14 astudiaeth achos ansoddol manwl, a oedd yn cynnwys cyfweliadau â staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr.
Cafodd canlyniadau’r arolwg eu hallosod i gyllid nodweddiadol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Dangosodd hyn fod ein deiliaid grantiau wedi cyrraedd cyfanswm o 5.2 miliwn o fuddiolwyr mewn blwyddyn nodweddiadol yn ystod eu grant, a bod 1.8 miliwn o fuddiolwyr y mis yn defnyddio asedau a chyfleusterau a oedd wedi’u cefnogi drwy ein grantiau.
O ganlyniad i hyn, adroddwyd ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol i fuddiolwyr gan ein deiliaid grant:
- Dywedodd 78% fod iechyd meddwl a lles pobl wedi gwella.
- Dywedodd 77% fod gan bobl fwy o gyswllt cymdeithasol.
- Dywedodd 72% fod hyder, hunan-barch a gwydnwch pobl wedi gwella.
Yn ogystal, adroddwyd am amrywiaeth o ganlyniadau cymunedol:
- Dywedodd 66% fod pobl yn cael cyfleoedd i gymysgu ag eraill sy’n wahanol iddynt.
- Nododd 60% fwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn eu cymuned.
- Dywedodd 42% fod pobl yn mynegi ymdeimlad o berthyn a balchder lleol.
I ddarganfod mwy darllenwch yr adroddiad llawn o ddarganfyddiadau’r ymchwil gan ddeiliad grant.
Gallwch hefyd ddarllen yr astudiaeth achos hon gan ddeiliad grant o Gymru: