Atal camfanteisio troseddol: Gweithredu dros Blant

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn droseddau “a gyflawnir gan bobl sydd wedi gweithio gyda'i gilydd am gyfnod estynedig o amser i gynllunio, cydlynu [a’u] cynnal”. Yn ôl Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefol y Swyddfa Gartref, dyma un o brif fygythiadau diogelwch cenedlaethol y DU, oherwydd mae’n effeithio ar fwy o bobl yn amlach nag unrhyw fygythiad arall, ac yn arwain at fwy o farwolaethau na’r holl fygythiadau eraill gyda’i gilydd. Mae hefyd yn costio tua £37 biliwn i’r DU bob blwyddyn.

Gall troseddau difrifol a chyfundrefnol gynnwys delio cyffuriau, gwyngalchu arian, seiberdroseddu, defnyddio arfau, trais, a masnachu pobl. Mae hefyd yn aml yn cynnwys camfanteisio troseddol ar blant a phobl ifanc. Mae polisi’r Llywodraeth yn cydnabod hyn, a’i nod yw trin pobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol fel dioddefwyr camfanteisio yn hytrach na’u labelu fel troseddwyr neu gyflawnwyr.

I bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa hon, mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i atal camfanteisio. Trwy arian y Loteri Genedlaethol, mae Gweithredu dros Blant yn cynnal Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCEIS), sy’n cefnogi plant a phobl ifanc 11-18 oed sydd mewn perygl o droseddu difrifol a chyfundrefnol, neu sy’n cael eu gorfodi i wneud hynny. Mae'r prosiect yn helpu i'w cyfeirio oddi wrth lwybrau a allai fel arall eu harwain at droseddu gyrfaol.

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio cefndir y prosiect, sut y mae wedi ehangu drwy gymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sut mae’n adnabod ac yn cefnogi pobl ifanc, ei ddefnydd o fentoriaid cymheiriaid a phrofiad byw i ddarparu modelau rôl y gellir uniaethu â nhw, a’i nodau polisi ehangach ar gyfer y dyfodol.

Y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol mewn rhifau

Mae prosiect SOCEIS yn gweithredu mewn pum lleoliad ledled y DU: Glasgow, Caeredin, Dundee, Newcastle a Chaerdydd. Dechreuodd y prosiect yn Glasgow yn 2012, a chafodd ei gefnogi gan grant £460,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2018. Yn 2019, derbyniwyd grant £4.6 miliwn pellach ganddynt er mwyn ehangu i’r lleoliadau eraill. Daw’r ffigurau yn y blychau isod o Glasgow yn unig, gan fod y prosiect mewn cyfnod cynharach yn y lleoliadau eraill. Daw’r data o ddadansoddiad enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad heb ei gyhoeddi, a gynhaliwyd gan Research Scotland.

Dechreuad ac ehangu

“Dechreuodd SOCEIS fel trafodaeth rhwng Gweithredu dros Blant a Heddlu’r Alban,” meddai Prif Weithredwr Gweithredu dros Blant, Paul Carberry. “Gwelodd yr heddlu bod carfan o bobl ifanc nad oedd y gwasanaethau’n llwyddo eu cyfeirio oddi wrth droseddu cyfundrefnol, a’i bod yn anodd iawn eu tynnu oddi wrth hynny unwaith iddo ddechrau. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn adnabod y bobl ifanc, ond nid oeddent yn ymgysylltu â gwasanaethau statudol.”

Mewn ymateb i hyn, cynhaliodd Gweithredu dros Blant brosiect peilot bach gyda grŵp o bobl ifanc yn Glasgow yr oeddent yn gwybod eu bod yn ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol. “Yr hyn a ddysgon ni’n gyflym gyda’n dealltwriaeth o gamfanteisio troseddol oedd,” eglura Paul, “er mwyn hyd yn oed ddechrau mynd i’r afael ag anghenion y garfan honno, roedd angen iddyn nhw ymddiried ynom ni, ac felly roedd angen staff a oedd yn deall yr ardal leol, y problemau, a phwy oedd y troseddwyr cyfundrefnol.”

Er mwyn meithrin yr ymddiriedaeth honno, dechreuodd y sefydliad weithio trwy fentoriaid cymheiriaid gyda phrofiad bywyd perthnasol o droseddu. “Nôl yn 2012, roedd hynny’n beth eithaf radical i’w wneud,” meddai Paul. “Mae ymgorffori profiadau byw wedi dod yn fwy normal, ond ar y pryd roedd yn gam mawr i Heddlu’r Alban rannu gwybodaeth sensitif am droseddu cyfundrefnol gyda sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol, sy’n cyflogi pobl sydd â hanes o droseddu.”

Tyfodd a datblygodd y prosiect yn Glasgow yn sgil y dull hwn, gan arwain at ehangu i Gaeredin, Dundee, Newcastle a Chaerdydd.

“Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu trwy weithio mewn gwahanol lefydd yw ei bod hi'n bosibl nad yw gwasanaethau mewn ardal benodol yn sylweddoli graddfa’r broblem leol gyda throseddau cyfundrefnol,” esboniodd y Rheolwr Cenedlaethol Sharon MacIver. “Ond ar ôl y flwyddyn gyntaf – unwaith y mae pobl wir yn dechrau canolbwyntio arno a gweld faint ohono sydd wedi’i guddio – maen nhw’n dod yn ymwybodol o faint o niwed a wneir i bobl ifanc.”

Rhan fawr o hyn yw helpu gwasanaethau lleol i adnabod troseddu a thrais fel arwyddion rhybudd o gamfanteisio, yn hytrach na throseddoldeb yn unig. “Un o’r prif bethau a ddysgwyd, ar gyfer asiantaethau a chymunedau, oedd yr ymwybyddiaeth honno o beth yw camfanteisio,” meddai Sharon.

“Mae'n heriol, oherwydd os ydych chi'n ymwneud â throseddau cyfundrefnol a'ch bod yn cael eich camfanteisio, rydych chi'n ddioddefwr ac hefyd yn cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon. Mae’n rhaid i ni drafod hynny er mwyn helpu gwasanaethau i ddeall nad plant drwg yn unig yw pobl ifanc yn y sefyllfa honno – yn aml y dewis sydd ganddyn nhw yw naill ai gwerthu cyffuriau, er enghraifft, neu weld eu hunain neu eu teuluoedd yn cael eu niweidio.”

Ar ben hyn, mae Gweithredu dros Blant wedi canfod gwahaniaethau amlwg yn y gwahanol ddinasoedd lle mae’r prosiect yn gweithredu. “Wrth edrych ar draws ein gwahanol safleoedd, gwelwn fod rhai yn cael eu dominyddu gan grwpiau troseddu teuluol, ac roedd hynny’n golygu bod gennym ni ddealltwriaeth glir o bwy oedd yn camfanteisio pobl ifanc,” meddai Sharon.

“Ond mae eraill yn hollol wahanol; rydym wedi gweld llawer o weithgarwch llinellau cyffuriau mewn rhai mannau, sy'n arwain at olygfa wasgaredig gyda gwerthwyr a gweithgarwch amrywiol ar draws dinas. Mae hynny'n ei gwneud hi'n llawer anoddach adnabod pwy sydd y tu ôl i'r camfanteisio. Mewn mannau eraill, dechreuon ni weld llawer o ddwyn, ond lefelau is o drais ochr yn ochr â hynny. Fodd bynnag, mae hynny wedi cynyddu’n ddiweddar oherwydd gweithgarwch gangiau – mae cydnabod bod problem gangiau wedi ein helpu ni a’n gwasanaethau partner i ddeall y sefyllfa droseddu leol yn y lleoliadau hynny.”

Cefnogaeth gychwynnol i bobl ifanc

Cynigir cymorth SOCEIS trwy gyfuniad o sesiynau un-i-un dwys, sesiynau grŵp, dulliau lleihau risg, mentora cymheiriaid, addysg, hyfforddiant, cyfleoedd cyflogaeth, a gweithgareddau dargyfeiriol. Mae'r ffocws ar feithrin perthnasoedd gyda chyfranogwyr i'w symud tuag at lwybrau cadarnhaol, nad ydynt yn droseddol.

Mae'r broses hon yn dechrau drwy adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio arnynt neu a allai elwa o'r gwasanaeth fel arall. Mae hyn yn golygu bod partneriaethau yn hynod bwysig, gan fod gan wasanaethau lleol wybodaeth fanwl am gymunedau ac unigolion yn eu hardaloedd.

“Ni allai’r gwasanaeth weithredu heb gefnogaeth ein partneriaid,” meddai Sharon. Yn bennaf, gwasanaethau heddlu, gwaith cymdeithasol a chyfiawnder ieuenctid yw’r rhain, a fydd yn adnabod pobl ifanc sy’n agored i niwed a allai arwain at gamfanteisio, neu sydd eisoes yn cael eu camfanteisio arnynt.

Mae partneriaid yn rhoi cefndir a manylion i Gweithredu dros Blant am y bobl ifanc y maent yn eu cyfeirio, gan gynnwys eu ffactorau bregusrwydd penodol, ac mae’r sefydliad yna’n adeiladu cynllun ymyrraeth am y wybodaeth honno.

“Bydd y cynllun yn ddwys, gyda chefnogaeth mentoriaid cymheiriaid ar y cyd â gweithwyr allweddol ac ymarferwyr proffesiynol,” eglurodd Sharon. “Bydd hyn yn cynnwys gwaith un wrth un wedi’i dargedu at fynd i’r afael â ffactorau bregusrwydd penodol y person ifanc, cymorth teuluol, gweithgareddau dargyfeiriol i’w hymgysylltu, a chyfleoedd addysg neu hyfforddiant.”

Mae staff y prosiect yn monitro cynnydd pob person ifanc dros gyfnod o flwyddyn (ar gyfartaledd), ac yn chwilio am arwyddion o newidiadau cadarnhaol parhaus. “Mae hyn yn bwysig, gan nad yw camfanteisio’n rhywbeth untro,” meddai Sharon. “Mae’n broses o feithrin perthynas amhriodol, felly rydym yn ymgymryd â phroses i ddadwneud y meithrin perthynas amhriodol hwnnw. Felly hyd yn oed ar ôl i berson ifanc symud i ffwrdd o droseddau difrifol a chyfundrefnol, rydym yn hoffi cael cyfnod y tu hwnt i hynny lle rydym yn fodlon nad oes unrhyw gamfanteisio bellach.”

Drwy gydol y broses, anghenion pob person ifanc sy'n arwain y cymorth. “Dyna un o’n manteision unigryw,” meddai Sharon. “Rydyn ni'n ddyfalbarhaus, ond nid ydym yn orlethol – rydyn ni'n gwybod y gallai rhai pobl ifanc gymryd tri mis i gyrraedd y man cychwyn, ac rydyn ni'n gwybod y rhesymau dros hynny. Rydyn ni’n gwybod y bydd adegau pan fyddan nhw’n gwrthod ymgysylltu, ac adegau pan fyddan nhw wir ein hangen ni.”

Am y rheswm hwn, mae ymyrraeth yn dechrau'n araf. Gallai ymgysylltu cychwynnol, er enghraifft, gynnwys adnabod bod teulu person ifanc yn byw mewn tlodi, felly gallai staff eu helpu i gael grantiau neu drefnu a mynychu apwyntiadau meddygol. “Mae hynny’n golygu ein bod ni mewn cysylltiad â’r rhiant neu ofalwr, felly rydyn ni’n gwybod beth sy’n digwydd o ddydd i ddydd, ond heb wneud i’r person ifanc deimlo ei fod wedi mynd o ddim cysylltiad â gwasanaethau i weld rhywun bum gwaith yr wythnos,” meddai Sharon.

“Wrth i’r berthynas ddatblygu, efallai y byddwn yn eu gweld bedair neu bum gwaith mewn un wythnos, ond dim ond unwaith yr wythnos nesaf. Gall pethau fod yn eithaf anhrefnus – un wythnos efallai eu bod wedi cael eu harestio felly mae angen i ni fynd i orsaf yr heddlu i’w cefnogi, neu wythnos arall efallai y byddant wedi dod yn ddigartref felly mae angen i ni eu helpu i ddod o hyd i denantiaeth newydd.”

Yn ystod y cam hwn, mae cymorth teuluol hefyd yn allweddol. “Mae tensiwn rhwng rhieni sydd eisiau cadw eu plant yn ddiogel, a phobl ifanc sy'n teimlo bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i fynd allan a 'gweithio' trwy werthu cyffuriau, er enghraifft,” eglura Sharon. “Rydyn ni’n ceisio cydbwyso’r berthynas honno, fel arall mae risg y gallai’r rhieni deimlo na all y person ifanc fyw yng nghartref y teulu mwyach, ac unwaith y bydd hynny’n digwydd mae’r risg ar gyfer popeth arall yn cynyddu’n sylweddol.”

Rydyn ni'n ddyfalbarhaus, ond nid ydym yn orlethol; rydyn ni’n gwybod y bydd adegau lle mae pobl ifanc yn gwrthod ymgysylltu, ac adegau pan fyddan nhw wir ein hangen ni
Sharon MacIver, Rheolwr Cenedlaethol SOCEIS

Newid bywydau

Dros amser, mae’r dulliau cymorth cychwynnol hyn yn arwain at berthynas sefydledig rhwng staff SOCEIS a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi. Mae gan bob person ifanc weithiwr allweddol dynodedig neu fentor cymheiriaid sy'n monitro eu cynnydd ac yn asesu eu hanghenion newidiol. Efallai y byddan nhw'n cyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos am goffi a siarad am yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo, neu efallai y bydd angen iddyn nhw siarad am bethau nad ydyn nhw'n gysylltiedig er mwyn dianc rhagddo am ychydig.

“Dyna lle mae ein staff yn arbennig o fedrus – yn cydnabod beth sydd angen digwydd a phryd,” meddai Sharon. “Weithiau mae angen i ni ddarparu man diogel, ac ar adegau eraill efallai y bydd person ifanc yn barod i ddechrau prosesu rhywfaint o’u trawma trwy siarad amdano. Yn aml, mae’r trawma hwnnw’n eithaf arwyddocaol – efallai eu bod wedi gweld pethau erchyll yn digwydd i bobl eraill neu ffrindiau, neu efallai eu bod wedi cael eu bygwth â’r pethau hynny eu hunain.”

Mae'r cyfarfodydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i staff nodi ffactorau risg. “Mae llawer o’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cario arfau er eu diogelwch eu hunain, yn gwisgo festiau atal trywanu oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel mewn rhai ardaloedd, yn gwisgo haenau ychwanegol o ddillad i guddio cyffuriau, neu’n cario bagiau gwag er mwyn dwyn o siopau,” esbonia Sharon.

“Mae sylwi a deall y pethau hyn yn allweddol. Er enghraifft, efallai y bydd person ifanc yn gwrthod cyfarfod mewn rhan benodol o’r ddinas, sy’n dynodi problem gyda theithio rhwng y cartref a’r ardal honno. Mae hyn yn cael ei rannu ymhlith gweithwyr proffesiynol, fel y gallwn eu hamddiffyn a’u cefnogi’n well.”

Dros amser, mae staff SOCEIS yn chwilio am arwyddion bod pethau'n dod yn fwy sefydlog ym mywydau pobl ifanc. “Rydym yn edrych ar y ffactorau bregusrwydd pan maen nhw’n cael eu cyfeirio a'r rhesymau eu bod yn cael eu camfanteisio arnynt,” meddai Sharon. “Ac yna, ar hyd y daith, rydyn ni’n edrych am arwyddion bod y ffactorau bregusrwydd hynny’n lleihau a’u bod nhw’n meithrin mwy o wytnwch.”

Y nod allweddol yw gostyngiad mewn troseddu, ond, fel yr eglura Sharon, mae llawer o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn gallu osgoi cael eu dal gan yr heddlu. Am y rheswm hwnnw, mae staff hefyd yn edrych ar ymddygiad yn y cartref, perthnasoedd teuluol, ac ymgysylltu â gwasanaethau, sy’n gallu newid yn eithaf dramatig.

Mae staff yn edrych i weld bod y newidiadau hyn yn cael eu cynnal dros gyfnod o amser, i wneud yn siŵr nad yw pobl ifanc mewn perygl o barhau i gael eu camfanteisio arnynt. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddant yn cael eu cyfeirio at gymorth cyflogadwyedd, darparwyr addysg, clybiau bocsio, a gwasanaethau eraill sy'n cyd-fynd â'u nodau a'u diddordebau.

“Mae lefelau gobaith ac optimistiaeth hefyd yn arwyddion enfawr i ni,” meddai Sharon. “Yn aml, pan fydd pobl ifanc yn dechrau gweithio gyda ni am y tro cyntaf, maen nhw’n teimlo nad oes gobaith am ddyfodol cadarnhaol ac nad oes unrhyw ffordd allan o droseddu cyfundrefnol unwaith y byddan nhw ynddo. Pan welwn ni’r newid meddylfryd hwnnw, ac efallai eu bod nhw’n dechrau mynd yn ôl i’r ysgol neu’r coleg, neu’n dod o hyd i weithgareddau sy’n bodloni eu hanghenion a’u dyheadau mewn ffordd wahanol, mae’n newid rhyfeddol.”

Cefnogaeth gan fentoriaid cymheiriaid

Drwy gydol y broses gyfan hon, mae mentoriaid cymheiriaid – pobl sydd â phrofiad byw o droseddau difrifol a chyfundrefnol – yn rhan allweddol o’r cymorth a gynigir. “Mae cymaint o’n pobl ifanc yn dweud wrthym yr oedd eu model rôl yn arfer bod yn aelod o gang, ond nawr nhw yw eu mentor cymheiriaid,” meddai Sharon.

“Gall mentoriaid ddangos i bobl ifanc ei bod hi'n bosib mynd o droseddu i gael swydd, arian, dillad moethus – a hynny i gyd yn gyfreithlon. Mae ymdeimlad o falchder y tu ôl i'r hyn na all rhywun nad yw wedi bod drwyddo eu hunain ei gynnig mewn gwirionedd.”

Adlewyrchir hyn yn y ffordd y mae mentoriaid cymheiriaid yn gweithio, gan ddefnyddio profiadau cyffredin i feithrin perthynas â phobl ifanc. “I mi, mae’n ymwneud â dod o hyd i dir cyffredin,” eglurodd y mentor cymheiriaid Sam. “Dwi'n agored iawn ynglŷn â rhannu fy mhrofiad byw, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny - efallai nad fy mhrofiad i yw eu profiad nhw. Felly mae hefyd yn ymwneud â dod o hyd i ddiddordeb cyffredin a meithrin y berthynas.”

Mae hwn yn gam pwysig tuag at ennill ymddiriedaeth pobl ifanc. “Ar ôl i chi wneud hynny, rydych chi'n gallu siarad yn agored iawn â phobl ifanc am y peryglon a'r canlyniadau o fod ynghlwm â throseddu,” meddai Sam.

“Mae hynny'n bwysig oherwydd nid yw llawer o'r bechgyn hyn yn meddwl eu bod yn gwneud unrhyw beth o'i le. Felly mae'n ymwneud â'u gwneud yn ymwybodol eu bod yn ddioddefwyr camfanteisio, a rhoi dealltwriaeth iddynt y gallant wneud rhywbeth cadarnhaol yn eu bywydau - eu cyflwyno i weithgareddau, eu hannog i wneud pêl-droed neu focsio er enghraifft.”

Fodd bynnag, mae angen cydbwysedd gofalus wrth ddewis mentoriaid – mae angen i’w gwybodaeth a’u profiad fod yn berthnasol, ond mae angen cryn dipyn o bellter arnynt o’u hymgysylltiad eu hunain â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

“Rydym yn chwilio am bobl sy'n deall y dirwedd leol, ond nad ydynt yn dal i gymryd rhan weithredol ynddi,” eglura Sharon. “Rydym yn cydnabod y gallant fod yn dal i adfer eu hunain, felly rydym yn ofalus i beidio â'u hamlygu i bethau a allai wneud iddynt ailwaelu. Ond mae hynny’n gofyn am lawer o ofal, gan ein bod yn gwybod eu bod yn mynd i weld a chlywed am sefyllfaoedd sy’n peri straen yn ddyddiol.”

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod mentoriaid cymheiriaid yn cael eu cefnogi’n agos gan reolwyr, ond hefyd yn ymddiried ynddynt i gefnogi pobl ifanc fel y maent yn meddwl sydd orau. “Rydyn ni’n cael llawer o ryddid gan ein rheolwyr,” meddai’r mentor cymheiriaid Josh. “Ond maen nhw bob amser yn helpu ac yn rhoi cyngor i ni hefyd, sy'n wych oherwydd gall pethau fod yn eithaf dwys. Mae angen yr anogaeth a’r ysbrydoliaeth yna i ddal ati.”

Ynghyd â’r cyfuniad hwn o ryddid a chefnogaeth, un o agweddau pwysicaf rôl y mentor cymheiriaid yw gwirionedd. “Y camgymeriad mwyaf y mae llawer o weithwyr proffesiynol a’r heddlu yn ei wneud yw eu bod yn meddwl bod pobl ifanc sy'n ymwneud â throseddau yn dwp,” meddai Sam. “A dweud y gwir, maen nhw'n glyfar iawn, iawn - mae'n rhaid iddyn nhw allu darllen pobl i oroesi mewn diwylliant hollol ddidostur. Felly maen nhw'n gallu gweld os nad ydych chi'n dweud y gwir, ac mae'n rhaid i chi olygu a chredu'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthyn nhw.”

“I lawer o’r bobl ifanc, mae’n fater diwylliannol,” ychwanega Josh, gan ailadrodd pwysigrwydd cael mentoriaid cymheiriaid y gall pobl ifanc uniaethu â nhw. “Unrhyw un sy’n dod i mewn gyda chefndir addysg neu acen wahanol, maen nhw’n gweld fel rhywbeth hollol wahanol iddyn nhw. Gall hynny fod y ffordd y maen nhw'n teimlo am y gwasanaethau cymdeithasol."

Nid yw llawer o'r bechgyn hyn yn meddwl eu bod yn gwneud unrhyw beth o'i le, felly mae'n ymwneud â'u gwneud yn ymwybodol eu bod yn ddioddefwyr camfanteisio, a rhoi dealltwriaeth iddynt y gallant wneud rhywbeth cadarnhaol yn eu bywydau
Sam, mentor cymheiriaid SOCEIS

I'r dyfodol

Mae Gweithredu dros Blant yn gweld SOCEIS fel prosiect ymyrraeth gynnar, yn bennaf. Yn ymarferol, fodd bynnag, bu'n anodd rhoi'r math hwn o wasanaeth ar waith mewn rhai o feysydd y prosiect.

“Yn ddelfrydol, hoffem gael model lle rydym yn cynnal sesiynau ymyrraeth gynnar mewn ysgolion, er enghraifft, lle mae staff wedi nodi grŵp a allai fod mewn perygl o gael eu camfanteisio arnynt,” eglura Sharon. “Efallai eu bod yn ysmygu canabis, yn gwerthu cyffuriau i’w cyfoedion, yn osgoi mynd i’r ysgol - mae'r rhain i gyd yn ffactorau bregusrwydd y gwyddom sy’n gallu eu harwain at gael eu camfanteisio arnynt.

“Ond, hyd yn oed o wybod hynny, mewn un o’n lleoliadau, cymerodd ddwy flynedd cyn i ni allu dechrau ar unrhyw waith ymyrraeth gynnar, ac mewn un arall nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd bod cymaint o bobl ifanc mewn perygl ac rydym yn gweithio i’w cadw’n ddiogel ac yn fyw. Mae hynny'n broblem oherwydd rydyn ni'n defnyddio ein holl adnoddau i ddelio â'r hyn sy'n dod drwodd, yn hytrach nag adnabod a mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol.”

Mae datrys y broblem hon a symud tuag at fodel ymyrraeth gynnar ym mhob un o feysydd y prosiect yn un o nodau hirdymor Gweithredu dros Blant ar gyfer SOCEIS, ynghyd â newid ehangach i’r systemau y mae’r prosiect yn gweithio ynddynt. “Gan fod y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw mor aml yn droseddwyr ac yn ddioddefwyr, maen nhw’n dod i gysylltiad â dwy system,” eglura Sharon.

“O fewn y system gyfiawnder a’r systemau diogelu, mae elfennau sy’n cefnogi ac yn amddiffyn pobl ifanc, ond dydyn nhw ddim mor gydgysylltiedig ag y dylen nhw fod, ac maen nhw’n anghyson ar draws y DU.”

Yn y dyfodol, nod y sefydliad yw dylanwadu ar bolisi i ddechrau newid hyn, gan ddefnyddio tystiolaeth gan SOCEIS i adeiladu’r achos. “Rydyn ni’n gweithio ar draws awdurdodaethau gwahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, felly byddwn ni’n defnyddio dulliau gwahanol,” meddai Sharon. “Ond yn y bôn, yr hyn yr hoffem ei ddatblygu yw ymateb cydgysylltiedig i gamfanteisio’n droseddol ar blant sy’n dod â’r hyn sydd wedi’i rannu rhwng dwy system ar hyn o bryd ynghyd, gyda ffocws ar gyflawni canlyniadau gwell i bobl ifanc.”

Links

Dysgwch ragor am waith Action for Children o gadw pobl ifanc yn ddiogel, neu dilynwch y sefydliad ar Facebook, Twitter, Instagram a YouTube.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am drais ieuenctid difrifol, darllenwch ein hadroddiad am ffyrdd o fynd i’r afael ag ef a’i atal, gan gynnwys mewnwelediadau ac enghreifftiau o’r sector gwirfoddol a chymunedol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr effaith a’r gwahaniaeth a wneir gan ein cyllid, darllenwch ein hastudiaethau achos eraill.