Arbed arian, adeiladu cysylltiadau: Foothold Cymru

Mae cymunedau ledled y DU yn wynebu argyfwng costau byw. I lawer o bobl, mae fforddio hanfodion bob dydd yn her gynyddol. “Yn y gorffennol gwyddom am bobl oedd cael a chael yn ymdopi, ond bellach nid yw’r bobl hyn yn ymdopi o gwbl. Mae pethau bach wedi eu gwthio nhw dros y dibyn,” meddai Janice Morgan, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Foothold Cymru.

Wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, mae gan Foothold Cymru weledigaeth glir o Gymru lle mae pobl yn ffynnu, nid goroesi yn unig. Maen nhw’n cyd-weithio gyda chymunedau i ddarganfod atebion i dlodi, ac i helpu pobl i “fyw’n dda” – mae hyn yn cynnwys mynediad at fwyd ffres a chartrefi mwy cyfforddus, sy’n cael eu cynnal yn well. Mae hefyd yn cefnogi pobl i ennill cymwysterau, ac yn cynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith â thâl.

Ers 2018, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi Foothold Cymru gyda grantiau o £1.6 miliwn. Mae Y Fasged Siopa yn gynllun aelodaeth sy’n cynnig pecynnau wythnosol o fwyd iach am bris gostyngol, gan gynnwys cynnyrch wedi’i gynaeafu o’r ardd gymunedol. Mae Back2Basics yn gweithio gyda phobl ifanc i wella eu sgiliau byw'n annibynnol a lleihau ansicrwydd bwyd, drwy fynediad i’r pantri cymunedol, yn ogystal â chymorth gyda choginio, gwaith atgyweirio, rheoli arian, a hunanofal.

Rydym bellach yn cefnogi gwaith Foothold Cymru drwy ein rhaglen flaenllaw Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio. Mae’r rhaglen hon yn gweithio ledled Cymru i sicrhau newid cadarnhaol ym mywydau teuluoedd sy’n gweithio ond sy’n cael eu heffeithio gan dlodi. Dechreuodd Cryfach Gyda’n Gilydd gyda lyfrgell offer cymunedol, ond erbyn hyn mae rhywbeth at ddant pob teulu – o lyfrgelloedd teganau a dillad plant am ddim a chyrsiau DIY, i weithdai atgyweirio a chyfarfodydd cymunedol i helpu pobl i gysylltu â’i gilydd a dysgu awgrymiadau am arbed arian.

Drwy wrando ar yr hyn mae pobl eisiau, a chyd-ddylunio’r ymateb, mae Foothold Cymru wedi datblygu cymorth ymarferol, ar lawr gwlad. Mae wedi helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau ariannol, ac i adeiladu rhwydweithiau cymorth cymheiriaid, gydag effeithiau cadarnhaol ar les ac iechyd meddwl.

Gwrando ar yr erthygl hon

Gallwch wrando ar yr erthygl hon fel recordiad sain, sy’n para 22 munud a 27 eiliad, trwy glicio ar y botwm isod.

Foothold Cymru Welsh

Foothold Cymru mewn rhifau

Tlodi mewn gwaith yn Sir Gaerfyrddin

Un o gynlluniau tyfu Foothold Cymru
Un o gynlluniau tyfu Foothold Cymru

Hefyd yn cael ei hadnabod fel Gardd Cymru, mae Sir Gaerfyrddin yn enwog am ei hamgylchedd naturiol trawiadol a'i threftadaeth leol gyfoethog. Mae’n gartref i sector bwyd ac amaethyddol cryf, a diwydiant twristiaeth sy’n tyfu.

Ond mae tlodi a chaledi wedi cynyddu i deuluoedd sy'n gweithio yn yr ardal. Incwm canolrifol amcangyfrifedig aelwydydd y sir yw £25,365, sef y seithfed isaf yng Nghymru. Mae lefelau tlodi plant lleol yn uwch na chyfartaledd Cymru, gan effeithio ar 31% o blant hyd at 15 mlwydd oed. Cododd nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 27% rhwng 2019/20 a 2021/22.

Pan ymgynghorodd Foothold Cymru â theuluoedd lleol, canfuwyd bod diffyg gofal plant fforddiadwy yn ei gwneud yn anoddach gweithio, neu weithio mwy o oriau. Roedd costau cynyddol tai, bwyd, tanwydd, dillad a nwyddau’r cartref yn fwy nag incwm yn 2018: roedd 22% yn cael trafferth darparu digon o fwyd i’w teuluoedd, gyda 38% yn cael trafferth gwresogi eu cartrefi yn y gaeaf.

Gyda chostau byw yn cynyddu ar y gyfradd gyflymaf ers 40 mlynedd, mae’n anodd fforddio gwyliau, nosweithiau allan neu dripiau ysgol – gyda hyn oll yn cyfrannu at lefelau uwch o straen a phryder.

Mae pobl yn disgrifio “ymdeimlad o fod yn unig”, heb unrhyw systemau cymorth.

Beth sydd ei angen ar deuluoedd sy'n gweithio

Dyma lle daw Foothold Cymru i’r adwy. Mae'r elusen yn mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n darparu ystod o wasanaethau: o gymorth ymarferol, uniongyrchol (er enghraifft mynediad at ddillad a bwyd o safon) i hyfforddiant sgiliau tymor hir. Ar draws y gwasanaethau hyn, mae cyfleoedd i gyfarfod, rhannu profiadau, ac adeiladu rhwydweithiau cymorth.

Mae atebion i’r problemau yn cael eu harwain gan y gymuned. Er mwyn deall effeithiau tlodi mewn gwaith a dod o hyd i atebion, neilltuodd Foothold Cymru flwyddyn i wrando ar bobl a chanfod beth oedd ei angen fwyaf arnynt. Trefnwyd digwyddiadau ymgynghori, cyfwelwyd preswylwyr, a chynhaliwyd arolygon. Drwy weithio ar draws Sir Gaerfyrddin, sefydlodd y grŵp hybiau lleol i sicrhau bod pawb yn cael eu clywed.

Roedd pobl yn croesawu'r cyfle i rannu eu problemau a chwilio am atebion. Wrth ymgynghori, fe wnaeth pobl sylweddoli nad oeddent ar eu pen eu hunain: roedden nhw’n wynebu llawer o’r un problemau, ac yn awyddus i rannu syniadau a strategaethau ymdopi. Daeth y grant Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio â chyfle i wneud rhywfaint o waith mwy hirdymor a manwl.

Roedd llawer o’r teuluoedd yn brin o amser rhydd, felly ni allent ymrwymo i gyfranogiad sylweddol. Ond daeth grŵp craidd o drigolion ynghyd i sefydlu gweithgor i ddatblygu syniadau, a ddaeth wedyn yn grŵp rheoli a llywio ar gyfer gwaith costau byw.

Pwysleisiodd Foothold Cymru eu bod “yno i gasglu atebion gan bobl,” meddai Janice: “gan geisio creu awyrgylch lle’r oedd pobl yn meddwl am y rhaglen fel proses gydweithredol. Doedd neb erioed wedi rhoi syniad gwael at ei gilydd.”

Rydyn ni ar incwm cyfyngedig – yn anffodus, allwn ni ddim fforddio gwario £50 ar ddril y byddwn ni’n ei ddefnyddio ychydig o weithiau!
Defnyddiwr y Sied Offer

Cynnal cartrefi am lai

Foothold Cymru Tool Shed help with using a drill
Help i ddefnyddio dril o Sied Offer Foothold Cymru

Gall fod yn ddrud cynnal a chadw a gwella ein cartrefi a’n gerddi. Mae offer yn unig yn costio llawer. Gallwch brynu teclyn pŵer am £50, ond dim ond am 14 munud yn ystod ei oes y defnyddir y dril cyffrein. Mae torrwr gwrychoedd, y gallech ei ddefnyddio unwaith y flwyddyn yn unig, yn ddrud - p'un a ydych chi’n ei brynu, ei logi, neu’n talu rhywun arall i wneud y gwaith ar eich rhan.

Canfu Foothold Cymru fod y costau hyn yn cael effaith ar allu pobl i gynnal a chadw eu cartrefi, gyda 62% o drigolion yn dweud na allent fforddio i gadw eu cartref mewn cyflwr da.

Er mwyn helpu pobl i wneud mwy o'u cartrefi, sefydlodd yr elusen lyfrgell offer. Y Sied Offer yw llyfrgell benthyca offer gyntaf Sir Gaerfyrddin – mae’n rhad ac am ddim, heb unrhyw ffioedd ymuno na benthyca.

Gall preswylwyr fenthyg offer ar gyfer atgyweirio, garddio, a chrefftau: driliau, sanderi, llifiau trydan, glanhawyr carpedi, peiriannau gwnïo, rhawiau, meinciau gwaith, a mwy. Mae ei stoc yn cynnwys offer llai, fel padiau pen-glin, tâp mesur, a cheblau estyn, felly nid oes angen i ddefnyddwyr wario unrhyw arian ychwanegol i wneud y gwaith yn ddiogel ac yn gywir.

Yn ogystal â llawlyfrau a fideos sy'n dangos sut i ddefnyddio'r offer, mae gan y Sied Offer ganllawiau ar-lein ar gyfer gwneud prosiectau cyflym, syml, gan ddefnyddio offer sydd ar gael o'r llyfrgell, gyda deunyddiau wedi'u hail-bwrpasu lle bo modd.

Daeth y syniad yn boblogaidd yn gyflym iawn. Mae'r Sied Offer eisoes wedi benthyca offer 392 o weithiau i drigolion lleol, gan arbed ychydig o dan £20,000 i breswylwyr. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gweithrediad y llyfrgell yn gyfyngedig am gyfnodau hir ar y tro oherwydd y cyfnodau clo Coronafeirws (COVID-19) amrywiol.

Mae’r llwyddiant wedi ysbrydoli’r grŵp i ddechrau mentrau diwastraff eraill yn ogystal, gan gynnwys ei Storfa Sgrap Dim Gwastraff. Mae’r Storfa yn cynnig deunyddiau crefftio am ddim, a roddwyd yn benodol i’w hailddefnyddio. Mae’r Storfa Ail-baentio Cymunedol bellach yn gwerthu paent o ansawdd uchel wedi’i ailgylchu, am gost isel sy’n lleihau cyllidebau addurno ac yn arbed paent rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

  • Mae llyfrgelloedd offer yn arbed arian ac yn helpu'r amgylchedd. Mae Llyfrgell Offer Caeredin wedi arbed £1.5 miliwn i gartrefi – ac mae’n amcangyfrif, pe bai cwsmer yn prynu eu hoffer yn hytrach na benthyca, y byddai hynny’n cynhyrchu 180 tunnell ychwanegol o CO2.

Sgiliau a gwybodaeth i helpu arian fynd ymhellach

Foothold Cymru Participant sanding
Trwy ddysgu sgiliau DIY, gall pobl gynnal eu tai yn rhatach

Mae cael mynediad at offer rhad ac am ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr - ond mae llawer ohonom hefyd angen help i feithrin y sgiliau a'r hyder i wneud mwy o dasgau o gwmpas y tŷ. Mae gosod silffoedd, trwsio unedau cegin sydd wedi torri neu drwsio tapiau sy'n gollwng i gyd yn gofyn am sgiliau nad ydyn ni efallai wedi'u dysgu wrth dyfu i fyny.

Gall dysgu'r sgiliau hyn arbed ffortiwn. Amcangyfrifir y byddai paentio fflat dwy ystafell wely tua £2,000 ar gyfartaledd, er enghraifft.

Gwrandawodd Foothold Cymru ar breswylwyr ac mae bellach wedi cynnal 120 o weithdai atgyweirio – pob un wedi’i gynllunio i leihau dibyniaeth teuluoedd ar grefftwyr cyflogedig i gwblhau swyddi o amgylch y tŷ.

Yn ogystal ag arbed arian, mae'r gweithdai wedi cynyddu hyder. “Rwy’n fwy tebygol o wneud DIY ac uwchgylchu,” esboniodd un mynychwr gweithdy. “Byddaf hefyd yn teimlo’n fwy hunan ddibynnol gyda thasgau gartref.” Teimlai 81% o bobl eu bod wedi dysgu sgiliau a chael profiadau newydd.

Ac mae croeso i rieni ddod â’u plant i’r gweithdai, sy’n golygu nad yw cost gofal plant – sy’n aml yn rhwystr allweddol i deuluoedd sy’n gweithio – yn atal cyfranogiad.

Ar ôl dysgu na allai pedwar o bob pum preswylydd (82%) fforddio adnewyddu dodrefn sydd wedi gwisgo, maen nhw wedi trefnu 113 o weithdai uwchgylchu. Mewn sesiynau “Crefft a Sgwrsio” wythnosol, gall pobl gyfarfod, gwneud a thrwsio eitemau, yn ogystal â rhannu profiadau. Mae aelodau wedi cynhyrchu incwm trwy werthu creadigaethau, wedi arbed arian trwy ddysgu sut i drwsio ac addasu dillad, ac wedi atgyweirio eitemau a roddwyd ar gyfer y rhaglen cyfnewid dillad.

Mae cyfnewid sgiliau yn cael effaith gadarnhaol ar les. Cyn sefydlu'r grŵp roedd yr aelodau'n ddieithriaid; maen nhw bellach yn ffynhonnell hanfodol o gefnogaeth i'w gilydd, gyda llawer yn cyfarfod y tu allan i'r sesiynau hyd yn oed. Dywedodd 86% o gyfranogwyr y prosiect eu bod yn cysylltu â phobl eraill ac yn gwneud ffrindiau newydd.

I Lucy, aelod Crefft a Sgwrsio, mae dysgu sgiliau newydd ac arbed arian wedi ei helpu i deimlo’n fwy hyderus. Mae hi wedi wynebu ei hymdeimlad o fod ar ei phen ei hun yn ogystal â’i phryderon ariannol. “Oni bai am Cryfach Gyda’n Gilydd a’r Sied Offer fe fydden ni’n eistedd ar loriau concrit a’r merched yn cysgu yn fy ngwely i,” meddai. “Roedd yr arian y gwnaethom ni ei arbed yn golygu y gallem ddechrau gwneud y tŷ yn gartref i ni, ac mae gen i ffrindiau newydd hefyd sydd yn helpu i roi awgrymiadau ar arbed arian o ddydd i ddydd.”

Cyfnewid dillad: arbed arian, lleihau gwastraff

Lansiodd Foothold Cymru y rhaglen gyfnewid dillad a theganau plant mewn ymateb i adborth gan deuluoedd. Mae’n rhoi’r cyfle i deuluoedd lleol gael dillad a theganau sydd wedi eu caru cynt yn rhad ac am ddim, gan leihau pwysau ariannol. Unwaith y bydd plant wedi tyfu'n rhy fawr neu'n barod i ddychwelyd teganau, maen nhw’n cael eu rhoi yn ôl i'r system gyfnewid, eu glanhau a'u hail-fenthyca.

Mae'r gyfnewidfa gwisg ysgol wedi bod yn arbennig o boblogaidd. Yn 2022, canfu’r Gymdeithas Dillad Ysgol bod cost gyfartalog gwisg ysgol uwchradd orfodol yn £95.68 y disgybl. Nid yw teuluoedd sy’n ennill mwy na £7,400 y flwyddyn yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda chostau gwisg ysgol, sy’n golygu bod llawer o deuluoedd sy’n gweithio yn ei chael hi’n anodd eu fforddio.

Mae Foothold Cymru yn cynnig gwisgoedd sylfaenol, ynghyd ag esgidiau, esgidiau ymarfer corff, a bagiau - yn ogystal â bandiau gwallt newydd ac elastigau gwallt. Os nad oes ganddynt y maint neu’r lliw cywir, bydd y gyfnewidfa gwisg ysgol yn galw am roddion, gan gysylltu â’r teulu pan fydd stoc ar gael. Mae rhieni bellach yn dychwelyd gwisgoedd ysgol, a’u cyfnewid am feintiau mwy wrth i'w plant dyfu.

Mae'r gyfnewidfa hefyd yn cyflenwi dillad eraill, ar gyfer babanod newydd-anedig hyd at blant 16 oed, a theganau plant. Gall teuluoedd ofyn am feintiau dillad penodol, a bydd y tîm yn rhoi bag at ei gilydd i'w gasglu neu ei ddanfon. Roedd Melissa (defnyddiwr banc dillad), sy’n byw mewn ardal wledig, yn cael trafferth prynu anrhegion Nadolig i’w phlant – yn enwedig gan y byddai costau cludiant uchel neu daith dair awr i’r dref. Roedd hi wrth ei bodd pan ddanfonodd Foothold Cymru barseli o deganau a dillad iddi – a rhoddodd ei theulu hi y teganau yr oedden nhw wedi tyfu allan ohonynt i’r rhaglen fel y gallai eraill chwarae gyda nhw.

Yn ogystal ag arbed arian, mae’n gwneud synnwyr amgylcheddol: mae Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Kirklees yn amcangyfrif, y bydd pob myfyriwr yn creu 7kg o wastraff gwisg ysgol bob blwyddyn heb fesurau o’r fath. O ystyried ei bod yn cymryd 2,700 litr i gynhyrchu’r cotwm sydd ei angen i wneud un crys-t, mae pob cyfle a gymerir i ailddefnyddio yn hytrach na phrynu o’r newydd yn cael effaith fechan ar adnoddau prin ymhell tu hwnt i’r sir.

Fe wnaeth y gyfnewidfa gwisg ysgol a’r gyfnewidfa teganau esblygu allan o bobl yn cyfaddef mai dyma’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt nawr.
Janice Morgan

Mynediad i fwyd maethlon, a fforddiadwy

Foothold Cymru food parcels
Parseli Y Fasged Siopa yn barod i’w danfon

Gall fod yn anodd cael bwyd ffres, maethlon am bris fforddiadwy – hyd yn oed yn fwy felly mewn ardaloedd gwledig lle mae trafnidiaeth yn ddrud neu’n gyfyngedig. Mae Foothold Cymru yn gwneud hyn yn haws, gyda blychau bwyd fforddiadwy, oergell gymunedol, a thyfu bwyd cymunedol.

Mae Y Fasged Siopa yn danfon cynnyrch bwyd ffres, fforddiadwy i gymunedau anghysbell, gan gynnig cefnogaeth gyson a chynaliadwy ar gyfer ansicrwydd bwyd. Mae’r prosiect yn casglu bwyd sydd dros ben o ansawdd da gan gyflenwyr lleol ac o erddi cymunedol Foothold, gan sicrhau ei fod ar gael mewn mannau casglu penodol mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd, am gost isel. Gall aelodau brynu blwch bwyd â gwerth manwerthu rhwng £25 a £30 am £4 neu £5 yr wythnos, yn dibynnu ar ei faint.

Mae modd danfon pecynnau i aelwydydd nad ydynt yn gallu casglu. Mae 289 o deuluoedd a nodwyd gan ysgolion lleol, gweithwyr cymdeithasol, cynghorau tref a chartrefi gofal wedi elwa. Mae hyn yn golygu bod cyllidebau yn mynd ymhellach ac yn sicrhau mynediad at fwyd amrywiol ac iach i bawb.

Mae oergelloedd cymunedol yn fannau lle gall unrhyw un gael mynediad at fwyd da, rhad ac am ddim a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff. Fel Y Fasged Siopa, mae Oergell Gymunedol Foothold yn gwneud defnydd o nwyddau dros ben o siopau a chyflenwyr lleol. Gall unigolion gyfrannu, gan ei wneud yn weithgaredd adeiladu cymuned ac yn ffordd dda o leihau gwastraff. Mae’n gymorth i tua 250 o drigolion bob mis sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd. Yn ogystal, mae’n gyfleus gan fod gwasanaethau Foothold eraill o dan yr un to yn yr Hwb Cymunedol.

Mae gerddi cymunedol yn mynd â bwyd yn ôl i’w wreiddiau, gan gynnig lleoedd i ddysgu am dyfu a chynhyrchu cynnyrch. Cafodd Gardd Gymunedol Pentref Foothold Cymru yn Llanelli ei hadennill o safle adfeiliedig, a datblygwyd perllan gymunedol gerllaw. Yn ogystal â chyfrannu cynnyrch i’r Fasged Siopa a’r Oergell Gymunedol, mae’r ardd yn cynnal gweithdai ar dyfu a’r amgylchedd, i ddysgu trigolion i dyfu bwyd gartref. Ers 2019, mae 289 o bobl (gwirfoddolwyr a buddiolwyr) wedi cymryd rhan mewn tyfu cymunedol, ac mae 509 o bobl wedi cael mynediad at hyfforddiant a chanllawiau ar baratoi bwyd iach.

Edrych i’r dyfodol

Foothold Cymru growing scheme
Tyfu bwyd mewn gardd gymunedol Foothold Cymru

Drwy fod yn ymatebol a hyblyg, mae Foothold Cymru wedi gwneud gwahaniaethau diriaethol a pharhaol i fywydau pobl. Mae ehangu gwasanaethau - fel ychwanegu llyfrgelloedd dillad mewn ymateb i adborth, neu ddatblygu cyrsiau atgyweirio i ategu'r gwasanaeth benthyca offer rhad ac am ddim - wedi dod yn gryfder allweddol.

Mae hefyd wedi ei gwneud hi'n haws cadw'r gwahanol elfennau i fynd. Mae defnyddwyr gwasanaethau bellach yn gweithredu fel gwirfoddolwyr mewn llawer o’r gwasanaethau gwahanol. Cyfeirir ar y rhain fel “brosiectau bach yn eu rhinwedd eu hunain”, gan Janice. Mae hi’n gweld hyn fel y ffordd ymlaen: “Peidiwch â dylunio prosiectau mawr, mae angen prosiectau bach o fewn ambarél, fel bod gennych chi lawer mwy o siawns o’u cadw nhw i fynd, a’u cadw’n gynaliadwy yn yr hirdymor.”

Mae'r weledigaeth hirdymor hon hefyd yn ganolog i'w mentrau bwyd. Ochr yn ochr â phecynnau bwyd ar gyfer anghenion uniongyrchol, mae'r sefydliad yn adeiladu adnoddau a seilwaith lleol i wneud newidiadau mwy parhaol. Mae’n gweithio i sefydlu hybiau bwyd lleol ar draws y sir, gyda gwasanaethau ychwanegol wedi’u hanelu at leihau ansicrwydd bwyd a meithrin gwytnwch: pethau megis garddio cymunedol, cyfleoedd prynu mewn swmp, a chyngor ar fwyta’n iach.

Mae Foothold Cymru hefyd yn rhannu eu dysgu. Maen yn creu pecyn cymorth ar gyfer grwpiau eraill sydd â diddordeb sefydlu canolfannau bwyd neu gynlluniau dosbarthu.

Mae hyn yn addas i ethos y sefydliad sy'n blaenoriaethu cymuned. Mae'r fenter Crefft a Sgwrsio yn dangos pŵer rhannu a chysylltu ar gyfer newid ymarferol a lles. Mae Foothold bellach am adeiladu ar y llwyddiant gyda chynlluniau ar gyfer ail grŵp yn ardal Rhydaman.

Dolenni

Dysgwch fwy am waith Foothold Cymru ar eu gwefan, neu dilynwch nhw ar Facebook, Instagram, Twitter, neu LinkedIn.

Mae'r cyfweliad hwn yn seiliedig ar gyfweliad, astudiaethau achos, ac ymchwil annibynnol.

Siaradodd Janice Morgan ag Ellen Perry ar 14eg o Hydref, 2022.

Digwyddiad – ymatebion cymunedol i’r argyfwng costau byw

Ar 16 Mawrth 2023, byddwn ni’n cynnal digwyddiad ar-lein am ddim am ymatebion cymunedol i’r argyfwng costau byw, gyda Foothold Cymru’n cymryd rhan. Bydd Dr Steffan Evans o’r Bevan Foundation a David Reilly o’r Poverty Alliance yn ymuno â ni hefyd. Mae tocynnau ar gael o TicketSource.

Wedi’i ddiweddaru diwethaf: Dydd Iau 16 Chwefror, 2023