Mwy na dim ond cinio: Y Cinio Mawr

The Big Lunch (c) Huw John

Y Cinio Mawr yw dathliad blynyddol mwyaf y DU ar gyfer cymdogion a'r gymuned. Bob mis Mehefin, mae'n dod â chymaint â 9 miliwn o bobl at ei gilydd am eiliad o hwyl a chysylltiad. Mae’r syniad yn syml – mae pobl yn cysylltu dros frechdanau mewn gerddi blaen, yn rhannu cacen mewn partïon stryd traddodiadol, ac yn dod at ei gilydd i greu cysylltiadau newydd, cael hwyl, a dathlu cymuned.

Ond dim ond y dechrau yw hynny. Mae'r Cinio Mawr yn mynd y tu hwnt i bartïon a byntin, meddai Peter Stewart, Cyfarwyddwr Bwrdd Eden Project, a feddyliodd am y syniad. “Rydyn ni’n ei werthu fel amser i fwynhau, ond mewn gwirionedd y canlyniadau cymdeithasol yw’r rheswm rydyn ni'n ei gefnogi gymaint.”

Mae'r canlyniadau hyn yn cynnwys rhwydweithiau cymdeithasol cryfach, a ddangosir gan y 18 miliwn cyfeillgarwch newydd y mae'r Cinio Mawr wedi helpu i'w meithrin. Maent wedi rhoi safbwynt fwy cadarnhaol i bobl ar eu cymdogaethau; mae pedwar o bob pump o gyfranogwyr yn teimlo ymdeimlad cryfach o falchder cymunedol a pherthyn o ganlyniad i gymryd rhan. Ac mae pobl yn dilyn i fyny ar y teimlad hwnnw - mae'r digwyddiadau wedi codi dros £50 miliwn at achosion cymunedol ac mae dwy ran o dair o gyn-gyfranogwyr yn mynd ymlaen i wella eu cymdogaeth.

Yn yr astudiaeth achos hon, rydym yn edrych ar sut y gall rhywbeth mor fach â phaned a darn o gacen helpu i wella lle rydych chi'n byw ac adeiladu sgiliau, adnoddau a chyfeillgarwch lleol. Byddwn hefyd yn clywed hanesion Claire Johnson ac Emma Knight, dau drefnydd cymunedol y mae eu profiadau yn dangos sut y gall partïon stryd fod yn gam cyntaf i ymdeimlad o gymuned, gan adfer ymddiriedaeth a hyder.

Y Cinio Mawr mewn rhifau

Pam mae cymunedau cysylltiedig yn bwysig

Mae teimlo’n well am eich cymuned yn beth da ynddo’i hun – ond rydym yn gwybod bod manteision eraill iddo. Awgryma ymchwil bod integreiddio cymdeithasol gwell yn gysylltiedig â disgwyliad oes uwch, adferiad cyflymach o broblemau iechyd, a gwell iechyd meddwl. Mae creu cysylltiadau cymunedol cryfach wedi'i gysylltu ag atal iselder, yn enwedig ymhlith plant. Ac ymddengys bod rhwydweithiau cymorth cymdeithasol yn lleihau effaith sefyllfaoedd bywyd bregus, megis salwch hirdymor.

Ac eto, gall y cysylltiadau hynny bylu. Awgryma arolygon bod lefelau ymddiriedaeth gymdeithasol wedi gostwng yn y DU – o tua 60% yn 1959 i 30% yn 2005. Ac mae ymchwil yn dangos bod ymddiriedaeth is yn cyfateb i lefelau is o les cymunedol ac iechyd.

I Lindsey Brummitt, sy’n cyfarwyddo Cymunedau Eden Project, mae’r Cinio Mawr “yn y gofod ataliol hwnnw,” yn helpu (ail)adeiladu’r sylfeini hynny i gymunedau ffynnu. “Allwch chi ddim dweud ei fod yn datrys trosedd cyllyll, ond os ydych chi'n adnabod eich gilydd yn well ac yn edrych allan am eich gilydd, mae'n llai tebygol y bydd rhai o'r pethau anodd hynny sy'n digwydd mewn cymdeithas yn cydio.”

Mae bod yn rhan o'r Cinio Mawr wedi golygu bod gennym ni gymuned. Doedd gennym ni ddim un o’r blaen.
Claire Johnson, trefnydd cymunedol

Estyn allan

Big Lunch organisers Sally, Claire, Amy, Kelly, and Katy

I Claire Johnson, a symudodd i ystâd newydd yn Birmingham, bu'n rhaid creu ysbryd cymunedol o'r newydd. “Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yn yr ardal hon,” meddai. “Wrth i fwy o dai ddechrau ymddangos, a minnau'n gweld mwy o blant o gwmpas yr ardal, sylweddolais nad oedd gen i unrhyw syniad o ble roedden nhw'n dod,” mae'n cofio. “Ydyn nhw ar yr ystâd? Ydy pobl yn cyfarfod?”

Wrth chwilio ar-lein am ffyrdd o gysylltu, darganfu Y Cinio Mawr. “Eisteddais ac ysgrifennais gant o wahoddiadau â llaw.” Daeth 50 o bobl i’w Cinio Mawr cyntaf “dewch a rhannwch”, a gynhaliwyd ar y llain o laswellt yng nghanol yr ystâd. Roedd pawb yn chwilio am yr un peth: roedden nhw eisiau dod i adnabod eu cymdogion, ond heb wybod ble i ddechrau.

Mae'r cinio cyntaf hwnnw wedi arwain at grwpiau mamau a thadau ar gyfer cymorth rhianta, casgliadau rheolaidd ar gyfer banc bwyd, a grŵp Gwarchod Cymdogaeth. “Edrych ar ddiogelwch oedd un o’r pethau cyntaf a ddeilliodd o’n Cinio Mawr cyntaf,” dywed Claire. “Roedd goleuo [ar yr ystâd] yn wael iawn, oherwydd roedden nhw’n dal i adeiladu. Ond roedd yn braf iawn teimlo cysylltiad â phobl eraill ar yr ystâd.” Llwyddodd i drefnu gostyngiad ar glychau drws camera ar gyfer yr ystâd – ac ar ôl lladrad lleol, roedd rhannu lluniau camera gyda’r heddlu yn golygu bod y troseddwyr wedi’u dal.

I Claire, mae'r newid mwyaf yn naws yr ystâd. “Mae bod yn rhan o'r Cinio Mawr wedi golygu bod gennym ni gymuned. Doedd gennym ni ddim un o’r blaen.” Mae gan grŵp Facebook yr ystâd 300 o aelodau, gyda grŵp deilliedig ar gyfer pobl sy'n byw mewn fflatiau, a grŵp WhatsApp cymunedol y mae preswylwyr yn ei ddefnyddio i rannu syniadau ac offer.

Ac mae'r awyrgylch cyfan wedi newid. “Pan mae'r tywydd yn braf, rydyn ni'n mynd â'r plant i lawr i'r grîn, y llain hon o laswellt, ac mae 'na wastad rhywun lawr yna. Ac rydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen at fynd lawr ar y grîn cymaint â’r plant, oherwydd rwy’n cael sgwrsio ag eraill.”

Ailadeiladu ysbryd cymunedol

Emma Knight, Big Lunch community organiser, Neath

Yn 2009, dechreuodd Emma Knight gynnal Cinio Mawr blynyddol ar ei stryd yng Nghastell-nedd, de Cymru. “Roedd yna lawer o broblemau ymddiriedaeth yma,” mae hi'n cofio. “Roedden ni mewn ardal ddifreintiedig, gydag ofn mawr iawn o droseddu.”

Nid felly y bu erioed: roedd un preswylydd hirdymor yn cofio’r “ysbryd cymunedol anhygoel” pan oedd yn tyfu i fyny ar y stryd yn y 1940au a’r 1950au. “Yn nes ymlaen, aeth y cyfan yn ddarnau – roedd llawer o broblemau cyffuriau, llawer o alcoholiaeth, yn yr ardal leol,” eglura Emma. “Caeodd pobl eu drysau a chamu i ffwrdd.”

Roedd cymdogion yn gyndyn o siarad â’i gilydd, ac ar y dechrau roedden nhw’n wyliadwrus o Emma fel newydd-ddyfodiad – er bod ei mam-yng-nghyfraith wedi byw yn y stryd am y rhan fwyaf o’i hoes. Ond fe wnaeth partïon stryd rheolaidd, a drefnwyd gan Emma gyda’i chymdogion gyda chefnogaeth y Cinio Mawr, helpu i newid hynny.

“Rwy'n meddwl yn llythrennol mai'r peth pwysig yw eich bod chi'n gwybod pwy yw'r bobl,” dywed Emma. “Mae ar garreg y drws. Hyd yn oed os nad ydych chi'n gallu symud yn bell, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw agor y drws ffrynt hwnnw. Rydych chi'n gweld y bobl, rydych chi'n gwybod mai nhw yw eich cymdogion.” Dros amser, dechreuodd pobl adnabod teuluoedd a ffrindiau hefyd. “Os oes yna rywun sydd ddim yn gysylltiedig â chartref yn y stryd, byddech chi'n gwybod, byddech chi'n gwneud galwad ffôn - ydych chi'n gwybod bod rhywun newydd gerdded i mewn i'ch tŷ?”

Wrth iddynt ddod i adnabod ei gilydd, roedd cymdogion yn barod i ofyn am help. “Rwy’n meddwl mai dyna'r peth allweddol,” dywed Emma. “Cyn iddyn nhw deimlo’n unig, ac os oedd ganddyn nhw broblem, roedd yn rhaid iddyn nhw ddelio ag e ar eu pen eu hunain. Nawr mae rhwydwaith mawr o bobl.”

Mae hynny'n rhywbeth roedd ei chymydog hŷn yn ei gydnabod, hefyd. “Erbyn iddi farw, dywedodd ei bod yn teimlo fel yr oedd pan oedd hi'n iau,” mae Emma'n cofio. “Roedd hynny’n hyfryd i’w glywed.”

O barti stryd i ganolbwynt cymunedol

Big Lunch street party in Ethel Street, Neath

Roedd Emma a'i chymdogion wrth eu bodd â'r ffordd y rhoddodd y Cinio Mawr reswm iddynt gynnal partïon rheolaidd. “Fe ddewison ni thema wahanol bob blwyddyn. Gan ddibynnu ar ein cyllid, roeddem yn cynnal digwyddiad mawr neu fach. Daeth hyn yn bartïon lluosog bob blwyddyn - gyda phopeth yn cynyddu."

Ac wrth iddo dyfu, trodd y grŵp o gymdogion yn grŵp cymunedol. Gan fod y stryd yn cynnal o leiaf un digwyddiad y mis, penderfynon nhw logi cynhwysydd storio i gadw'r offer, gan gynnwys byrddau a phabell fawr. Ddwy flynedd ar ôl y digwyddiad cyntaf, lansiodd plant y stryd eu grŵp eu hunain ar gyfer digwyddiadau ieuenctid, o deithiau sglefrio iâ i greu eu perfformiadau pantomeim a syrcas eu hunain. Dechreuodd y grŵp logi lleoliadau ar gyfer digwyddiadau mwy uchelgeisiol. Yna, pan gynyddodd y ganolfan gymunedol leol ei phrisiau, fe benderfynon nhw ddatblygu eu rhai eu hunain.

Fe gymeron nhw hen adeilad cymdeithas pensiynwyr, gan ailagor fel canolfan gymunedol newydd. “Roedd yn gynaliadwy yn ariannol o fewn chwe mis,” meddai Emma. “Mae wedi bod yn ffynnu ers hynny.” Ers y pandemig, mae'r ganolfan wedi symud ei ffocws i waith bwyd a newid hinsawdd, gan gynnwys clwb yn dosbarthu bwyd dros ben a chaffi talu-wrth-deimlo. Maen nhw nawr yn bwriadu cymryd drosodd ac adnewyddu hen glwb ieuenctid adfeiliedig, fel y gallan nhw gynnig mwy i bobl ifanc yn eu harddegau.

Mae meddwl yn fawr yn gwneud gwahaniaeth. Mae Emma’n cydnabod bod y ganolfan gymunedol “wedi ei thynnu oddi ar garreg y drws, rhywbeth yr oeddem yn hoff iawn ohono ar y dechrau.” Ond mae wedi cysylltu ei grŵp gyda'r gymuned ehangach. “Mae cenedlaethau wedi dod at ei gilydd, sy’n hyfryd. Mae gennym ni wirfoddolwyr o bedair oed i 94 oed. Mae pawb yn cymryd rhan."

Gwneud hi'n hawdd

Mae'r Cinio Mawr yn cynnig ffordd hawdd i ddechrau, heb bwysau na rhwymedigaethau. “Mae’r mawredd yn dod o’r syniad hwnnw o fod 100% yn gynhwysol,” meddai Peter. “Eisiau i bawb gymryd rhan, ble bynnag yr ydych.” Gallai hynny olygu parti stryd – yn enwedig ym mlwyddyn y Jiwbilî – ond nid oes rhaid iddo fod. “Dim ond dau neu dri o bobl, yn codi cadair ar y funud olaf – rydych chi wedi’ch cynnwys yn y foment honno,” ychwanega Peter.

I Lindsey Brummitt o Eden, mae hyblygrwydd Y Cinio Mawr yn allweddol. “Dydyn ni ddim wedi gosod paramedrau o’i gwmpas. Rydyn ni wedi ei adael yn agored iawn, ac mae hynny'n golygu y gall pobl wneud beth bynnag sy'n gweithio iddyn nhw.” Oherwydd y gallwch ei addasu i weddu i’ch anghenion a’ch diddordebau, mae wedi dod yn “ofod cynhwysol iawn sy’n helpu i adeiladu pontydd mewn ffyrdd nad oeddem erioed wedi meddwl oedd yn bosibl.”

Mae Peter yn ei gymharu â'r hyn sy'n digwydd ar ôl cwymp eira trwm. Mae aflonyddwch yn rhoi rheswm i bobl siarad â'i gilydd, i helpu ei gilydd - fel y gwelsom ar raddfa lawer mwy yn ystod COVID-19. Mae’r Cinio Mawr yn cynnig rheswm cadarnhaol dros estyn allan: yr hyn y mae Lindsey yn ei alw’n “syniad y gallwch chi adeiladu cyfalaf cymdeithasol heb argyfwng i roi hwb iddo.”

Gyda’r cysylltiadau hynny yn eu lle, “mae pobl yn gallu ymdopi’n well â’r hyn sydd i ddod, boed hynny’n newid cymdeithasol, yn bandemig byd-eang, yn newid yn yr hinsawdd. I ni, rydyn ni’n gwybod bod profiad y rhan fwyaf o bobl o rai o’r materion mawr, brawychus hyn yn lleol mewn gwirionedd." Ac ar lefel leol gallant weithredu.

Ond mae’r hud yn digwydd pan fyddwch chi’n cwrdd â phobl eraill fel chi, sy’n wynebu’r un heriau, neu sydd wedi cael rhywbeth oddi ar y ddaear rydych chi wedi bod yn meddwl amdano.
Lindsey Brummitt, Cyfarwyddwr Rhaglen, Cymunedau Eden Project

Y tu hwnt i'r parti stryd: uwchsgilio trefnwyr i wneud mwy yn eu cymunedau

Gwyddom y gall Cinio Mawr roi awydd i bobl wneud mwy yn eu cymunedau. “Roedd llawer o bobl yn dod yn ôl atom ni, i ddweud, 'Beth alla i ei wneud nawr?'” eglura Lindsey. “Sut ydyn ni’n helpu i adeiladu sgiliau a hyder pobl, i wneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, lle maen nhw’n byw?”

Mae ystadegau yn cefnogi'r awydd a'r dyhead hwnnw i wneud hyd yn oed mwy. Er enghraifft, yn 2020, dywedodd pobl sy’n helpu i drefnu Cinio Mawr eu bod yn teimlo’n fwy ysbrydoledig (77%), yn abl (82%) ac yn hyderus (82%) ynghylch cymryd rhan yn eu cymuned.

Mewn ymateb, datblygodd Cymunedau Eden Project ei Wersylloedd Cymunedol, i bobl sy'n dymuno gwneud hyd yn oed mwy i helpu eu cymdogion. Hyd yn hyn, maent wedi cynnal 27 o Wersylloedd, gyda 1,639 o drefnwyr cymunedol yn dysgu sgiliau rheoli prosiectau, ariannu, cyllid a chydlynu digwyddiadau.

Yn rhedeg ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae'r gwersylloedd wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch, ac yn hawdd eu mynychu. Telir costau teithio ar gyfer y gwersylloedd mewn person, tra bod trefnwyr fel Claire wedi gweld y fersiwn ar-lein yn fwy cyfleus: “Roedd yn arfer bod yn benwythnos yn Nyfnaint, a chyda’r ewyllys gorau yn y byd, gyda thri o blant na fyddai’n hynny'n gallu digwydd. Yn ystod Covid, fe wnaethon nhw un noson yr wythnos dros bum wythnos - roedd hynny'n anhygoel."

Boed ar-lein neu wyneb yn wyneb, dysgu gan gyfoedion yw'r elfen hanfodol. “Fe lunion ni raglen gyda theithiau a sgyrsiau a gweithdai, ar draws yr holl sbectrwm o weithgareddau cymunedol,” meddai Lindsey. “Ond mae’r hud yn digwydd pan fyddwch chi’n cwrdd â phobl eraill fel chi, sy’n wynebu’r un heriau, neu sydd wedi cael rhywbeth oddi ar y ddaear rydych chi wedi bod yn meddwl amdano.”

“Mae'n eich llenwi'n llawn egni, yn barod i fynd eto,” cytunodd Emma. “Maen nhw'n rhoi syniadau i ni. Rydych chi'n gweld beth mae pobl yn ei wneud, ledled y wlad, neu ymhellach i ffwrdd mewn rhai achosion. Mae wastad rhywun yna sydd wedi ei wneud, neu sy’n meddwl amdano, y gallwch chi gysylltu â nhw.”

Os oes angen cefnogaeth arnaf gyda rhywbeth, mae'r rhwydwaith yno. Yn yr un modd ag y mae pobl yn ein defnyddio ni yn y gymuned leol, rydyn ni'n defnyddio Eden.
Emma Knight, trefnydd cymunedol

Cefnogaeth barhaol, effaith hirdymor

Mae'r Gwersylloedd Cymunedol yn helpu pobl i droi eu syniadau yn realiti. Canfu dilyniant chwe mis fod 91% o gyfranogwyr y gwersyll wedi mynd ymlaen i wneud mwy yn eu cymunedau, gan arwain at fwy na mil o fentrau newydd. Ar gyfartaledd, cyrhaeddodd y mentrau hyn 237 o bobl, gan ddod â budd anuniongyrchol i 369,000 o bobl ledled y DU. Ar gyfer trefnwyr, mae wedi cael effaith barhaol: chwe mis yn ddiweddarach, llwyddodd 76% i gadw hyder mewn meysydd sgiliau allweddol fel ymgysylltu â'r gymuned, ariannu a chyllid.

Er mwyn cadw'r momentwm i fynd, mae Eden Project hefyd wedi sefydlu rhwydwaith ar gyfer trefnwyr cymunedol, gan ddarparu cyfleoedd parhaus i gysylltu a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae 6,000 o drefnwyr wedi mynychu dros 290 o ddigwyddiadau ers 2018, gyda naw o bob deg yn teimlo’n fwy ysbrydoledig neu gysylltiedig o ganlyniad. Ar gyfartaledd, mae pob aelod yn ennill naw perthynas newydd gyda phobl o'r un anian.

“Os oes angen cefnogaeth arnaf gyda rhywbeth, mae'r rhwydwaith yno,” eglura Emma. Ac mae hi'n nodi paralel pwysig: “Yn yr un modd ag y mae pobl yn ein defnyddio ni yn y gymuned leol, rydyn ni'n defnyddio Eden.”

Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf i fyny i'r cymunedau eu hunain, wrth iddynt ddilyn eu diddordebau a'u blaenoriaethau eu hunain. Y tu ôl i’r niferoedd trawiadol hynny o gyrhaeddiad ac effaith mae straeon twymgalon am gymunedau sydd wedi newid, fel rhai Emma a Claire. Mae eraill yn mynd ymlaen i adeiladu rhwydweithiau cymorth newydd, fel y fenyw o Gaerdydd a ddaeth yn ofalwr i un o'i chymdogion. Mae rhai yn gweithio i ddatblygu eu hardal leol, fel parti stryd Belfast a drodd lôn yn ardd gymunedol a rennir.

I Lindsey, mae’n ymwneud â chefnogi pobl gyda'r “datblygiad araf, cyson hwnnw o syniadau, hyder, sgiliau, sy’n eu galluogi i fynd a gwneud i bethau cadarnhaol ddigwydd.” Mae'n ginio a all arwain at bethau mwy, i gymunedau ledled y DU.

Cysylltiadau

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r Cinio Mawr gyda mwy na £19.4 miliwn ers 2011, gyda grant newydd o £2,396,998 ar gyfer 2022-2024.

Dysgwch fwy am Gymunedau Eden Project a'r Cinio Mawr, neu dilynwch nhw ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Ffynonellau

Daw data o'r Eden Project a gwerthusiadau y maent wedi’u comisiynu gan sefydliad ymchwil annibynnol, fel y crynhoir yn eu Hadolygiad Pedair Blynedd 2021 a’u cyfathrebu mewnol â ni. Daw gwybodaeth arall o gyfweliadau Zoë Anderson â Lindsey Brummitt, Claire Johnson, Emma Knight, a Peter Stewart.

Wedi’i ddiweddaru diwethaf: Dydd Iau 1 Chwefror, 2024