WeMindTheGap

We Mind the Gap

Mae WeMindTheGap yn cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn gwaith nac addysg i ennill sgiliau a phrofiadau newydd sy’n eu helpu i baratoi a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. Ar draws Gogledd Cymru a Manceinion, mae’n rhedeg rhaglen 12 mis sy’n cynnig lleoliadau gwaith gyda thâl ar gyfer cyfranogwyr 18 i 26 mlwydd oed, gyda gofal a chefnogaeth ychwanegol gyffredinol hollgynhwysol i feithrin sgiliau a hyder.

Gyda gwerthoedd teulu wrth ei wraidd, mae tîm WeMindTheGap yn sicrhau fod yr hanfodion ar gael i bob unigolyn ifanc y mae rhai ohonom yn eu cymryd yn ganiataol – unigolyn dibynadwy y gellir troi atynt, lle diogel i fyw, hyder i wneud y mwyaf o gyfleoedd, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i fyw’n annibynnol a llwyddo yn y gweithle. Dechreuodd y prosiect gyda merched ifanc, ond erbyn hyn, mae’n cynnal rhaglen beilot lwyddiannus gyda dynion ifanc.

Awgryma ymchwil annibynnol o 2020 fod WeMindTheGap, am bob £1 a fuddsoddir, yn dychwelyd £3.60 mewn gwerth cymdeithasol o fewn 18 mis. Mae’r astudiaeth achos hwn yn cael golwg fanylach ar y canlyniadau hynny, a sut mae’r elusen yn eu cyflawni hwy. Mae’n gweithio i newid bywydau, gan helpu ei bobl ifanc neu “gappies”, fel y’u gelwir gan yr elusen, i ddatblygu’r gallu a’r hyder i newid dyfodol eu hunain.

Prosiect mewn rhifau

Beth maen nhw’n ei wneud?

WeMindTheGap canoe
Cyfranogwyr WeMindTheGap ar gwrs gweithgareddau awyr agored Outward Bound

Mae rhaglen graidd yr elusen sef WeGrow, yn cynnig 12 mis o ddatblygiad a chefnogaeth. Gan weithio mewn cohortau o ddeg, mae’r bobl ifanc a gefnogir neu’r “gappies” yn profi chwe mis o waith gyda thâl, trwy bump o leoliadau gyda chyflogwyr mewn gwahanol sectorau.

Mae’r profiad gwaith hwnnw yn dod gyda chefnogaeth gyffredinol, hollgynhwysol, sy’n paratoi am fywyd wedi’r rhaglen – ac yn herio. Mae’n cynnig strwythur, rhywun i ddal y cyfranogwyr yn atebol, gweithgaredd corfforol a llawer o ofal.

Mae Serena, cyfranogwraig flaenorol, yn cofio’r cwrs gweithgareddau Awyr Agored Outward Bound am ddwy wythnos a ddechreuodd y rhaglen, gan ddefnyddio anturiaethau yn y gwyllt i feithrin gwydnwch a hyder. Roedd hi’n ei ganfod yn “arswydus”, ac yn anghyfforddus iawn ar brydiau, ond mewn ffordd dda.” Dysgodd “mai’r unig amser a gyflawnais unrhyw fath o dwf parhaol fel unigolyn oedd pan oeddwn wedi mynd y tu hwnt i’m ffiniau o deimlo’n gyfforddus.”

Mae hyfforddwr bywyd gan bob “gappie”, sy’n helpu i ddynodi a mynd i’r afael â rhwystrau i lwyddiant, tra bo’r cohort yn cael ei gefnogi gan arweinydd prosiect a swyddog lles. Mae colegau Addysg Bellach lleol yn cyflwyno sesiynau ar fathemateg a Saesneg, gan weithio tuag at o leiaf gradd C ym mhob pwnc. “Y rhwydwaith hwn, y pentref hwn a adeiladwn, sy’n creu amgylchedd cefnogol er mwyn iddynt dyfu ynddo,” esboniodd Diane Aplin, y Prif Swyddog Gweithredol.

Mae’r gweithdai yn cynnwys cyfuniad o help ymarferol ac yn ysbrydoli. Daw modelau rôl perthynol, gan gynnwys cyn gappies a phobl busnes ifanc, i rannu eu profiadau. Mae arbenigwyr recriwtio yn cynnig cyfleoedd chwarae rôl mewn cyfweliad ac yn rhoi adborth.

“Mae’r 13 wythnos cyntaf yn golygu dysgu pwy ydych chi i bob diben,” dywedodd Diane. “Mae’n golygu lledu gorwelion a meithrin hyder. Yna yn yr ail ran, mae’r pwyslais llawer iawn ar y dyfodol.” Erbyn hynny, mae’r gappies wedi gwneud tri lleoliad gwaith. Mae ganddynt brofiad i lunio CV, gan ddeall amgylcheddau gwaith gwahanol – ac maen nhw’n datblygu uchelgeisiau newydd.

Hyder yw’r prif wahaniaeth mae wedi’i wneud. Cyn WeMindTheGap, roedd gennyf synnwyr gwyrdroëdig iawn o’m galluoedd fy hunan. Ar yr adeg honno, nid oeddwn yn teimlo y gellid fy nghyflogi nac y gallwn gadw swydd – boed os oedd hynny oherwydd fy ngorbryder neu anawsterau iechyd meddwl eraill. Mae mynd trwy WeMindTheGap wedi gwneud i mi sylweddoli nad dyma’r achos o gwbl o bell ffordd.
Serena, cyfranogwraig, WeMindTheGap

Gwneud y dewis

WeMindTheGap table
Gappies yn gweithio ar brosiect

Mae pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at WeMindTheGap, ond eu dewis hwy yw cymryd rhan. “Rydych yn cydnabod fod angen i rywbeth yn eich byd newid,” dywedodd Diane.

Bydd y tîm yn sgwrsio gydag ymgeiswyr neu ddarpar gappies, efallai dros goffi. Yna maen nhw’n eu gwahodd i “ddiwrnod darganfod”, lle mae cyfle i’r ddwy ochr ganfod mwy, a gwneud penderfyniad.

“Rydym yn eglur iawn fod We Grow yn anodd. Mae gennym ni ddisgwyliadau eglur iawn. Nid yw’r rhaglen i bawb.” Gall ac mae’r elusen yn gwneud penderfyniad nad yw rhai ymgeiswyr yn barod eto.

“Bu ebychiadau o syndod o amgylch byrddau rhai asiantaethau,” dywedodd Diane, “Oherwydd bod hynny, yng ngolwg rhai pobl, yn golygu fod rhywun wedi ‘methu’. O ran y byd gwaith, rydym yn credu fod mynd trwy ganolfan asesu a gwneud dewisiadau positif wirioneddol yn rhan fawr o dyfu i fyny, a dod yn rhan o’r byd fel oedolyn.”

Rhoddir adborth ac awgrymiadau clir i bobl ifanc nad ydynt yn cael eu derbyn ar y prosiect. “Os nad ydych wedi gwneud unrhyw beth am ddwy flynedd, mae’n bosibl petaech yn gwneud y [rhaglen] hon gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, sydd yn llawer iawn llai dwys – deg awr yr wythnos am chwe wythnos – y byddech wedyn o bosibl yn gallu ymrwymo i 30 awr o waith cyflogedig gyda ni.” Mae nifer yn dod yn ôl i wneud ail gais llwyddiannus.

Cyflogwyr sydd â meddylfryd cymunedol

Mae partneriaid cyflogi yn rhan allweddol o’r broses. Unwaith eto, mae cymysgedd o drylwyredd a chefnogaeth. “Pan maen nhw’n dod yma, maen nhw’n cael eu trin fel eu bod yn mynd i’r gwaith. Felly fe fyddant yn cael clywed os byddant yn hwyr. Mae’n heriol, ond yn arbennig o werth chweil hefyd,” dywedodd Debbie Owen, rheolwr Adnoddau Dynol Solvay, y partner cyflogi a gwneuthuro.

Cyn pob lleoliad, mae WeMindTheGap yn anfon “portreadau byr” ar bob unigolyn ifanc neu gappie i’r cyflogwr. “Roedd y rhain yn wirioneddol ddefnyddiol i ni, oherwydd y gallen ni addasu a datblygu pethau wedi hynny, gan ddibynnu ar y merched oedd yn dod ar y safle i bob diben.”

Mae’r gwaith yn amrywiol. “Mae’r merched wastad yn mynd i wahanol adrannau,” dywedodd Debbie. “Felly fe fydden nhw’n mynd allan i’r adran gynhyrchu, neu’r warws, ein labordai profi ansawdd, ac mae gennym gyfleuster ymchwil felly fe fyddent yn mynd i helpu yn y labordai yno.”

Mae’n gweithio i’r ddwy ochr: mae’n osgoi rhoi pwysau ar unrhyw un adran, tra bod cyfranogwyr yn cael darlun lawnach o’r gweithle. Mae Debbie yn falch fod Solvay wedi newid safbwyntiau am wneuthuro: roedd rhai gappies yn bryderus, ac yna roeddynt wedi gofyn am ddod yn ôl am ail leoliad.

Budd mawr oedd yr ymgysylltu a gawsom gan ein cyflogeion. Roedd rhai o’n cyflogeion wirioneddol wedi bwrw ati ac ymgysylltu ynddo, gan ymgysylltu hyd yn oed fwy yn y gwaith hefyd, oherwydd eu bod yn teimlo’r gwahaniaeth mawr roeddynt yn ei wneud ym mywydau’r merched ifanc hyn. Ac roedd o’n hyfryd i weld y datblygiad yn y merched dros gyfnod y lleoliad.
Debbie Owen o Solvay, partner cyflogi gyda WeMindTheGap

Newid meddylfryd

WeMindTheGap rainbow run
Gappies yn gweithio ar stondin yn eu digwyddiad Ras Enfys ar gyfer eu hosbis leol

Mae Serena yn cofio faint o ymrwymiad oedd ynghlwm gyda’r rhaglen We Grow. Roedd hi “wirioneddol mewn lle drwg” pan ddechreuodd y rhaglen. “Doeddwn i ddim yn gadael y tŷ. Felly fe fu’r symud “o fod yn gaeth i fy ystafell wely i orfod cyrraedd rhywle pob diwrnod” yn her bwerus a phositif.

Mae nifer o gyfranogwyr yn disgrifio eu hunain fel yn dechrau o le isel, gan sôn am unigrwydd a bod yn ynysig, hunan-barch isel neu iechyd meddwl gwael. Gall y rhain oll gyfyngu ar allu a dewis, felly pa mor dda mae WeMindTheGap yn mynd i’r afael â hyn?

“Dyna’r dull ‘cerdded ochr yn ochr’ cyfan,’ dywedodd Diane. “Dydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth ar ran rhywun, ond ochr yn ochr â hwy – camau bach, gan ddathlu pob un llwyddiant. Felly i’r unigolyn ifanc na all godi o bosibl o’r gwely, mae’n golygu mynd a chael sgwrs ar garreg y drws. Yna mae’n golygu eu perswadio i gerdded at y giât. Y tro nesaf, gallwn gerdded o amgylch y bloc gyda’n gilydd? Felly maen nhw’n gamau bach iawn y gellir eu cyflawni, ond gyda’n gilydd bob tro.”

Mae’n gweithio oherwydd bod y tîm yn cadw at eu haddewidion: os byddant yn dweud y byddant yn galw am wyth, yna dyna beth fydd yn digwydd. Maen nhw hefyd yn arddangos nad ydynt “byth yn disgwyl i’n buddiolwyr wneud unrhyw beth na fydden ni’n ei wneud”. Ar gyfer cwrs gweithgareddau awyr agored Outward Bound, mae Diane yn cofio dringo polyn 12 troedfedd sigledig, gyda Rachel Clacher, sylfaenydd WeMindTheGap . “Mae’n eithaf pwerus iddynt eu gweld yn ei wneud.”

Trwy’r tîm yn cyd-gerdded ochr yn ochr â’r gappie, rydym yn galluogi, nid ydym yn achub. Rwy’n meddwl fod gwahaniaeth hollol eglur,” dywedodd Diane. Maen nhw’n eglur am y gwerthoedd a ddisgwylir i’r ddwy ochr eu dilyn. “Byddai’r holl dîm, petawn yn gadael iddynt, yn achub. Nid yw hynny mor rymus â galluogi. Felly mae cydbwysedd, ac mae hynny’n sgil.”

Mae staff yn defnyddio enghreifftiau o’r gorffennol o sut mae cyfranogwyr wedi camu allan o’u mannau cysurus diogel. “Os gallwch ddringo’r polyn sigledig hwnnw, yna mae gennych y gallu wrth gwrs i gerdded i mewn i leoliad am y tro cyntaf.” Nid yw newid yn digwydd dros nos: “Dyna pam mae dathlu pob buddugoliaeth fach yn bwysig. Os y byddan nhw’n mynd i’w sesiwn cynghori, neu’n dweud wrthych eu bod wedi cymryd eu holl dabledi am yr wythnos hon, yna mae hynny’n fuddugoliaeth enfawr.”

Yr unig amser rwyf wedi cyflawni unrhyw fath o dwf parhaol fel unigolyn oedd pan oeddwn y tu allan i’m man diogel, cysurus.
Dywedodd Serena, cyfranogwraig yn WeMindTheGap

Derbyn newid

Weithiau mae cyfranogwyr yn cael anhawster yn derbyn cefnogaeth. “Mae popeth a wnaed gyda’r wybodaeth am sut y bydd yr unigolyn ifanc gydag anawsterau ymlyniad yn ymddwyn,” dywedodd Diane. “Bydd unigolyn ifanc wedi dioddef trawma neu esgeulustod yn eich gwthio ymaith, fe fyddant yn dadlau’n ffyrnig iawn, yn cwestiynu derbyn gofal – gan eu bod wedi arfer cael eu gwrthod eu hunain, felly maen nhw’n eich gwrthod chi o flaen llaw.”

Yr ateb yw “amsugno a derbyn y cyfan – gan jyst roi mwy o gariad yn ôl.” Weithiau, bydd buddiolwyr yn gofyn i chi pam mae’r tîm dal i ofalu, er gwaethaf cael eu gwrthod fel hyn.

Mae timau cyflwyno yn deall nad yw “ymddygiad yn elyniaethus, ond mai ymateb sydd wedi’i ddysgu ydyw yn unig, oherwydd materion ymlyniad. Gallant fod yn gas ac yn ffiaidd wrthych chi, a’r bore nesaf, rydych yn dweud ‘Croeso nôl.’ Maen nhw’n dweud, ‘beth?’. Mae’n ddrws agored – does neb erioed wedi cael ei rwystro rhag dod yn ôl oherwydd ymddygiad. Mae hynny’n wirioneddol bwysig.

“Dyma’r rheswm pam ein bod yn gweithio’n ddiwyd i ddeall, yn niwrolegol, beth sy’n digwydd yn eu hymennydd,” esbonia Diane. “Rydym yn ceisio rhoi llwybr niwrolegol newydd iddynt, a dealltwriaeth well o’u hunain iddynt. A phwynt sero – y gorffennol yw’r gorffennol, a pheidio â gadael i unrhyw un gael ei ddiffinio gan hynny. Mae dyfodol gennym ni oll.”

Wedi dweud hynny, maen nhw’n gosod terfynau. “Gallwn ymdopi gydag unrhyw beth bron, ond os ydynt yn dechrau effeithio ar y grŵp, ni allwn adael i hynny ddigwydd.” Ers 2014, gofynnwyd i dri chyfranogwr adael – ac mae’r cohort wedi bod yn rhan o’r penderfyniad bob tro. “Rydym yn ceisio gosod gwerthoedd, ac maen nhw bron yn hunanreoleiddio yn ôl y gwerthoedd hynny. Felly os bydd grŵp yn dod atom ac yn dweud, ‘Dydy hi ddim yn bod yn barchus na boneddigaidd,’ rydym yn cydnabod [hynny].”

Yn 2014 – 2019, roedd 80% o’r 109 cyfranogwr ifanc wedi cwblhau’r rhaglen. Roedden nhw wedi cymryd rhan mewn cyfanswm o 453 o leoliadau gwaith cyflogedig mewn 115 o weithleoedd, a 1,650 o sesiynau un i un a 50 o sesiynau grŵp.

Canfod eich llais

WeMindTheGap graduation Diane Aplin
Diane Aplin gyda gappie mewn seremoni raddio

“O’r diwrnod cyntaf, rydym yn sicrhau fod pob cyfranogwr ifanc yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’u cohort, gan gytuno ar y gwerthoedd y byddant yn byw yn eu hôl,” dywedodd Diane. Mae’r prosiect yn llythrennol yn annog cyfranogwyr i “ganfod eu llais”, o weithdai llais a drama i bwysigrwydd derbyn gwrandawiad. Mae cynghori a hyfforddi yn eu helpu i ddysgu sgiliau myfyrio, yn estyn geirfaoedd ac yn meithrin yr hyder i ofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt.

Mae Serena yn ymddiriedolwr dan hyfforddiant ar fwrdd WeMindTheGap ei hunan. “Mae cael safbwyntiau rhywun sydd wedi bod trwy’r rhaglen ar y bwrdd yn wirioneddol werthfawr,” dywedodd. Ac mae’n pwysleisio’r fentoriaeth sydd dan sylw. “Mae gennym rywun i droi ato bob cam o’r ffordd,” dywedodd. “Mae’r gefnogaeth yno heb amheuaeth.”

Ac mae’n barhaus. Pan fydd cyfranogwyr yn cwblhau rhaglen, maen nhw’n dod yn aelodau o raglen alumni WeBelong. Mae hynny’n golygu eu bod yn gallu gofyn am gyngor neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn eu bywydau neu yrfaoedd, ar faterion, gan gynnwys perthnasoedd, gwaith, addysg, tai, rhianta ac iechyd meddwl. “Rydym yn creu teulu, rhwydwaith cefnogi gyda’r cariad a’r gofal hwnnw.” Dywedodd Diane. “[Hyd yn hyn], mae gennym 122 o bobl ifanc a all gysylltu â ni ar unrhyw adeg. Ac rydym yn dathlu eu holl gyflawniadau a buddugoliaethau.”

Dolenni

Rydym wedi cefnogi WeMindTheGap ers 2015. Mae grant y Loteri Genedlaethol o £1.1 miliwn yn helpu i estyn eu cefnogaeth, o tua 40 o bobl ifanc y flwyddyn yn 2019 i oddeutu 160 erbyn 2023. Mae grant Covid-19 o £59k wedi cefnogi mentora ar-lein i bobl ifanc yn Wrecsam a Sir y Fflint – rhaglen beilot lwyddiannus sydd wedi parhau wedi’r cyfnod clo. Canfyddwch fwy am waith WeMindTheGap, neu eu dilyn ar Instagram, Trydar, Facebook neu YouTube.

Mae'r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar gyfweliadau ac ymchwil annibynnol ac astudiaethau achos ar-lein gan WeMindTheGap.

Siaradodd Diane Aplin, Serena, a Debbie Owen gyda Zoë Anderson ar 15 a 21 Gorffennaf a 4 Awst 2021. Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28 Hydref 2021.