Amrywiaeth ar y Bwrdd

UK Planetary Boundaries

Yn ôl y Comisiwn Elusennau, gall cael bwrdd amrywiol “atgyfnerthu gwytnwch elusen a rhoi’r cyfle gorau iddi gyflawni ei dibenion yn y dyfodol”. Ond yn 2017, roedd dau draean o ymddiriedolwyr elusennau’n ddynion ac roedd 92% ohonynt yn wyn, yn hŷn, ac wedi'u haddysgu i lefel uwch na'r cyfartaledd.

Yma, byddwn ni’n edrych ar y rhesymau y mae hynny'n bwysig i bob un ohonom, ac yn rhannu ffyrdd y gall elusennau wneud eu harweinyddiaeth yn fwy amrywiol a chynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gwrando ar yr erthygl hon

Gallwch wrando ar yr erthygl hon fel recordiad sain, sy’n para 13 munud a 39 eiliad, trwy glicio ar y botwm isod.

Amrywiaeth ar y Bwrdd

1. Pam bod hyn yn bwysig

Yn ogystal ag ystyriaethau sylfaenol o degwch a chydraddoldeb, mae amrywiaeth ar fwrdd hefyd yn gysylltiedig â pherfformiad cadarnhaol. Mae perygl bod bwrdd nad yw'n amrywiol yn colli cyfleoedd a sgiliau gwerthfawr a safbwyntiau amrywiol. Gall hyn gael effaith ar eich hygrededd, gwanhau perthnasoedd â buddiolwyr posibl a'i gwneud yn anoddach cyrraedd rhai rhannau o'r gymuned. Gall hefyd ei gwneud yn anoddach deall yn llawn yr hyn y mae defnyddwyr eich gwasanaeth ei eisiau a sut y gallwch eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Scottish Ethnic Minority Deaf Club

Yn ei ymateb i’r gwaith ymchwil yn 2017, nododd y Comisiwn Elusennau fod byrddau, heb amrywiaeth, mewn mwy o berygl o ddeinameg nad yw’n ddefnyddiol, megis “meddwl fel grŵp, anfodlonrwydd i herio cydweithwyr, a hunanfodlonrwydd o ran gweledigaeth”.

Gall hyn effeithio ar gyfleoedd am gyllid. Dywedodd 44% o elusennau wrth Getting on Board, elusen recriwtio ymddiriedolwyr ac amrywiaeth, fod cyllidwyr yn gofyn mwy o gwestiynau am gyfansoddiad eu byrddau. Nid yw hynny'n golygu bod grantiau'n cael eu dyfarnu ar sail amrywiaeth bwrdd – ond gall fod yn ffactor wrth asesu pa mor dda y mae eich grŵp yn cynrychioli'r gymuned yr ydych yn bwriadu ei chefnogi.

2. Byrddau cynrychioliadol

Efallai y bydd gan grŵp sy'n gweithio mewn cymunedau dosbarth gweithiol fwrdd gyda phobl o wahanol oedrannau, ethnigrwydd a rhywedd – ond os ydyn nhw i gyd wedi cael eu haddysgu yn y brifysgol ac o gefndiroedd mwy cyfoethog, efallai y bydd angen iddyn nhw wneud gwaith er mwyn adlewyrchu eu cymuned yn well. Canfu Getting on Board nad yw bron i 60% o fyrddau elusennau yn gynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu cefnogi.

Gan edrych ar eich diwylliant mewnol eich hun, gallai’r cwestiynau hyn helpu nodi bylchau posibl:

  • A yw eich bwrdd yn cynrychioli’r bobl yr ydych yn ceisio eu cefnogi? A oes ganddo ddiwylliant cynhwysol a fydd yn croesawu ac yn cefnogi aelodau amrywiol?
  • A yw buddiolwyr yn cael eu cefnogi i ddod yn aelodau bwrdd? A allwch chi wneud mwy i alluogi a chefnogi hyn?
  • Pa mor aml mae eich sefydliad yn cael hyfforddiant ar amrywiaeth? Yn ogystal ag ymwybyddiaeth gyffredinol, gallech geisio hyfforddiant ar feysydd penodol, megis cymhwysedd diwylliannol, gwrth-hiliaeth, neu ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth. A ydych yn neilltuo amser i adlewyrchu ar eich cynnydd a gwneud cynlluniau gweithredu diriaethol?
  • A oes gan eich bwrdd bolisi tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI)?
  • At bwy arall y gall aelodau’r bwrdd droi am arweiniad, cymorth a heriau?
  • A fyddai clywed safbwyntiau eraill yn eich helpu i weld a gwneud pethau'n wahanol?
  • Ystyriwch gael ffrind beirniadol ar gyfer mewnbwn gonest, adeiladol.

3. Sicrhau bod recriwtio yn hygyrch ac yn deg

Grŵp Cynghori Pobl Ifanc yn Arwain y Gronfa

Wrth ymchwilio i’r cyfnod 2017–2020, canfu Reach Volunteering fod dull mwy agored o recriwtio wedi cynyddu amrywiaeth ymgeiswyr bwrdd – ond nid oedd hyn i raddau helaeth. Roedd ymgeiswyr gwyn yn dal i fod bron ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu penodi nag ymgeiswyr Du neu Asiaidd, ac roedd y bobl 55–64 oed 80% yn fwy tebygol o gael eu penodi i rôl ymddiriedolwr na phobl ifanc 18–34 oed.

Mewn achos 55% o elusennau, canfu Getting on Board fod dros hanner yr ymddiriedolwyr wedi'u cysylltu'n bersonol ag aelodau eraill y bwrdd cyn ymuno. Fel y dywedodd Reach, “mae’r ymgeiswyr yno, y broblem yw sut mae elusennau’n recriwtio.”

Dyma ffyrdd i fynd i'r afael â hyn:

  • Canolbwyntiwch ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl, nid y math o berson a fyddai'n cyd-fynd ag aelodau eraill y bwrdd. Dylai penodiadau newydd gynnig rhywbeth gwahanol sy’n symud y bwrdd a’r sefydliad ymlaen – nid mwy o’r un peth. Yn lle meddwl, “sut byddai’r ymgeisydd hwn yn cyd-fynd â’r bwrdd presennol?” gofynnwch eich hun, “pa safbwyntiau newydd all yr ymgeisydd hwn eu cynnig?”
  • Hysbysebwch y rôl yn gyhoeddus ac yn eang. Mae defnyddio byrddau swyddi a phlatfformau ar-lein yn rhoi mynediad i chi at gronfa ehangach a mwy amrywiol o ymgeiswyr. Ar hyn o bryd mae dros 90% o elusennau yn recriwtio'r rhan fwyaf o'u hymddiriedolwyr trwy argymhellion neu rwydweithiau presennol. Dim ond 10% o rolau ymddiriedolwyr sy'n cael eu hysbysebu.
  • Ysgrifennwch hysbyseb apelgar. Dyma’ch cyfle i ysbrydoli pobl, i’w denu i ymuno â’ch bwrdd, yn hytrach na rhestru gweithgareddau llywodraethu, sgiliau, a chymwysterau.
  • Os ydych chi'n gweithio gydag asiantaeth recriwtio, byddwch yn glir eich bod chi eisiau proses recriwtio deg, hygyrch. Mae asiantaethau recriwtio fel y Grŵp Arweinyddiaeth Ddu yn cefnogi sefydliadau i amrywiaethu eu recriwtio.
  • Tynnwch yr holl rwystrau diangen tuag at ymgeisio. Gofynnwch eich hun a oes wir angen addysg lefel gradd. Sicrhewch bod profiadau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â bod yn aelod o fwrdd yn cael eu gwerthfawrogi: gallwch ddysgu pethau fel prosesau llywodraethu elusennau, ond nid profiad personol. Ystyriwch a yw patrymau gwaith presennol yn ei gwneud yn anoddach cymryd rhan: a yw presenoldeb wyneb yn wyneb yn hanfodol? Pryd, a pha mor aml, y mae angen i ymddiriedolwyr fod ar gael? A allwch chi fod yn fwy hyblyg?
  • A allwch chi wneud allgymorth ar gyfer y rôl? Er enghraifft, os ydych chi'n chwilio am ymddiriedolwyr ifanc, ydych chi wedi cysylltu â grwpiau ieuenctid neu golegau lleol?
  • Pwy fydd ar y panel recriwtio? Gall panel amrywiol wneud i ymgeiswyr deimlo'n fwy cyfforddus, a dod â safbwyntiau gwahanol i asesu.
  • Gallwch hysbysebu rolau ar fyrddau elusennau yn y llefydd canlynol:

4. Ystyried y darlun ehangach

Nid yw amrywiaeth yn golygu bodloni cwotâu, ond y gwerth gwirioneddol a ddaw yn sgil gwahanol gefndiroedd a phrofiadau. Gall targedau amrywiaeth fod yn ffordd o sicrhau bod cymysgedd o bobl yn arwain y sefydliad, ond mae'n hanfodol ystyried y darlun ehangach, er mwyn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a'r safbwyntiau sydd gan wahanol bobl.

  • Nid yw ymgeiswyr eisiau teimlo fel penodiadau tocenistaidd. Dylech recriwtio’n amrywiol oherwydd eich bod yn gwerthfawrogi gwahaniaeth a’r mewnwelediadau a’r profiad a ddaw yn sgil hyn i’ch sefydliad.
  • Parhewch i gefnogi aelodau presennol y bwrdd hefyd, mae pob ymddiriedolwr yn elwa o gefnogaeth i ddatblygu a gwella'n barhaus.
  • Cynlluniwch broses ymgynefino drylwyr. Peidiwch â rhagdybio beth fydd aelodau bwrdd newydd yn ei wybod neu beidio. Mae rhaglen ymgynefino gynhwysfawr, sy'n cynnwys lle i ofyn cwestiynau a dysgu o fewn y rôl, yn helpu sicrhau chwarae teg i bob penodiad newydd.
  • Peidiwch â recriwtio ar gyfer amrywiaeth yn unig. Chwiliwch am ymgeiswyr amrywiol sydd â'r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a'r rhwydweithiau i helpu'ch sefydliad i ffynnu.
  • Efallai y bydd gan eich ardal grwpiau sy'n arbenigo mewn darparu hyfforddiant ar fanteision a chyfleoedd amrywiaeth. Gall cyrff seilwaith fel Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol (CVSs), neu ymgynghorwyr a hyfforddwyr sy'n arbenigo mewn amrywiaeth, fod yn fan cychwyn da.
    Gall y grwpiau hyn hefyd helpu pobl i hyfforddi ar gyfer rolau ymddiriedolwyr, neu ddod o hyd i gyfleoedd yn lleol. Felly gallant gynnig y manteision deuol o'ch helpu i ddeall y gwerth y gall bwrdd amrywiol ei gynnig, a mynediad at ymgeiswyr gwybodus a medrus.

5. Adnoddau

Mae amrywiaeth o sefydliadau yn arbenigo mewn cyngor ar brosesau arwain ar gyfer grwpiau sector gwirfoddol a chymunedol. Dyma rai o'r canllawiau y maent yn eu cynnig:

Dod o hyd i ymgeiswyr amrywiol sy’n angerddol dros y rôl

Wrth chwilio am ymddiriedolwyr newydd, dechreuodd Girls Friendly Society gydag archwiliad sgiliau. Unwaith yr adeiladwyd proffil o’r bobl yr oedden nhw eisiau eu denu, hysbysebodd yr elusen y rôl yn eang. Anogwyd defnyddwyr gwasanaeth i rannu'r ddolen i'r hysbyseb, a chynhaliwyd digwyddiadau i bobl ddysgu rhagor.

Roedd y cyfweliadau’n fyr, er mwyn osgoi ffafrio’r rhai â phrofiad proffesiynol hirach. Roedd slotiau cyfweld hyblyg yn ei gwneud yn haws i bobl fynychu o amgylch eu patrymau gwaith neu gyfrifoldebau gofalu.

O ganlyniad, ymgeisiodd mwy na 45 o fenywod, a llwyddodd Girls Friendly Society i benodi wyth ymddiriedolwr (gan gynnwys tri o dan 30 oed) a thri chadeirydd pwyllgor. Roedd ymgeiswyr hefyd lawer yn fwy amrywiol (o ran ethnigrwydd, tueddfryd rhywiol, ac anabledd) nag yn y rowndiau recriwtio blaenorol.

“Pe baem ni wedi recriwtio trwy dap ar yr ysgwydd, ni fyddem wedi cael y math hwn o amrywiaeth, ac ni fyddem wedi cael y math hwn o angerdd,” dywedodd y Prif Weithredwr. “Roedd y broses ei hun yn denu pobl a oedd yn deall i ble rydyn ni’n mynd, ac roedden nhw eisiau bod yn rhan o hynny.”

Gyda diolch i Anj Handa a Penny Wilson o Getting on Board am rannu canfyddiadau ymchwil ac awgrymiadau sydd i'w gweld yn y darn hwn. Os oes gennych chi ragor o syniadau neu enghreifftiau ymarferol ar gyfer sut i amrywio byrddau elusennau, ystyriwch eu rhannu â ni trwy anfon e-bost at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk.

Wedi’i ddiweddaru diwethaf: Dydd Llun 8 Ionawr, 2024