Ymgysylltu pobl â gweithredu hinsawdd
Gall newid hinsawdd deimlo mor enfawr a gorlethol bod pobl yn meddwl nad yw gweithredu lleol yn ddigon i wneud gwahaniaeth. Ond mae llawer y gall unigolion a chymunedau ei wneud, ac mae llawer i'w ennill – ac nid dim ond o ran lleihau allyriadau carbon neu gynyddu bioamrywiaeth. Mae gweithredu gyda’ch cymdogion yn helpu adeiladu cymuned a chryfhau balchder lleol a gall hefyd gyflwyno llu o fanteision iechyd a lles.
Yma rydym wedi nodi’r gwersi a ddysgwyd gan ein deiliaid grant sydd wedi llwyddo i ysgogi eu cymuned i weithredu, cynyddu ymgysylltiad ac ysgogi pobl leol i fyw a gweithio'n fwy cynaliadwy.
Gwrando ar yr erthygl hon
Gallwch wrando ar yr erthygl hon fel recordiad sain, sy’n para 22 munud a 13 eiliad, trwy glicio ar y botwm isod.
1. Hwyluso pethau
Os yw gweithredu hinsawdd yn teimlo fel gwaith caled neu’n dasg ddiddiolch, mae pobl yn llai tebygol o gymryd rhan neu aros. Gwnewch bethau'n hawdd iddyn nhw, o'r cychwyn cyntaf.
- Rhannwch bethau yn gamau clir, concrit, cyraeddadwy. Er enghraifft, rhowch gyngor ar beth, sut a ble y gellir ailgylchu deunyddiau gwahanol yn lleol, yn enwedig os yw'n rhywbeth nad yw'n cael ei gymryd i ffwrdd fel arfer gyda chasgliadau sbwriel cartref. Yng Nghaeredin, mae Networking Key Services (NKS) a Edinburgh Lothian Regional Equality Council (ELREC) yn cynnig cymorth wedi'i dargedu a meithrin gallu ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae cyngor wedi'i deilwra i waith a bywydau pobl, megis gweithdai rheoli gwastraff ar gyfer staff arlwyo mewn bwytai Asiaidd, cymorth gyda garddio bwytadwy a chompostio, a thaith i ganolfan ailgylchu leol fel rhan o waith ar sut i fynd i'r afael â gwahanol fathau o wastraff.
- Cael gwared ar rwystrau ymarferol. Os hoffech annog pobl i godi sbwriel, darparwch gipwyr a bagiau am ddim. Mae Tamworth Volunteer Litter Pickers yn darparu pecynnau sbwriel, gan gynnwys sticeri ar gyfer bagiau fel nad yw staff biniau'r cyngor yn camgymryd casgliadau sbwriel am wastraff cartref sydd wedi cael ei ollwng.
- Anogwch fenthyca yn hytrach na phrynu. Mae llyfrgelloedd offer, gwisg a theganau yn ffordd gadarnhaol o helpu pobl i leihau gwastraff. Mae eitemau sy’n cael eu benthyca fwyaf gan Totnes Share Shed yn cynnwys pethau rydyn ni i gyd eu hangen o bryd i’w gilydd, fel driliau pŵer, strimwyr a glanhawyr carpedi. Pan fyddant yn cael eu prynu o'r newydd, dim ond am ychydig funudau o'u hoes y caiff y rhain eu defnyddio fel arfer. Mae benthyca nid yn unig yn cynyddu pa mor aml y defnyddir offer, ond hefyd yn lleihau pryniant diangen ac yn arbed arian i bobl. Mewn dwy flynedd defnyddiodd dros 1,700 o bobl wasanaeth rhannu symudol Totnes, gan osgoi hyd at 3,200 o bryniannau a fyddai wedi costio dros £200,000 i aelodau.
- Helpu pobl i ennill sgiliau newydd i atgyweirio, addasu ac ailddefnyddio deunydd a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Er enghraifft, mae gweithdai am uwchgylchu hen ddodrefn yn annog mwy o bobl i gadw rywbeth neu brynu rhywbeth ail-law. Mae gweithdai atgyweirio tecstilau yn galluogi teuluoedd i droi dillad nad ydynt eu heisiau neu sydd wedi cael eu rhwygo yn rhywbeth hardd, gan leihau gwastraff eto.
- Dechreuwch gyda'r bobl sydd fwyaf parod a chymhellol, oherwydd efallai mai'r cyfan sydd ei angen arnynt yw hwb i wneud mwy. Mae'n anochel y bydd newid meddwl pobl amheus yn cymryd mwy o amser, ond mae'n haws pan fydd gennych grŵp o bobl i helpu a hanes o wneud i newid cadarnhaol ddigwydd.
- Rhannwch syniadau ymarferol am yr hyn sy'n digwydd yn eich cymdogaeth. Mae defnyddio enghreifftiau lleol yn ei gwneud yn haws i bobl weld sut y gallent gymryd rhan. Mae hefyd yn annog ymdeimlad o gymuned a gall feithrin gwytnwch: mae pobl yn fwy tebygol o ddal ati pan fyddant yn teimlo cysylltiad cadarnhaol â’u cymdogion.
Newidiadau bach, gwahaniaeth mawr
Mae lleihau eich ôl-troed carbon yn haws ar ôl i chi gael gwybodaeth ymarferol. Mae Meddygon Gwyrdd Groundwork yn darparu awgrymiadau syml i leihau'r defnydd o ynni gartref. Yn ogystal â rhoi cyngor un-wrth-un am ddim, mae eu fideos byr yn rhoi cymorth ymarferol, gan esbonio sut i addasu tymheredd dŵr poeth, gosod offer atal drafftiau, a gosod gwresogyddion storio.
Mae'r prosiect wedi cefnogi dros 60,000 o gartrefi i leihau eu defnydd o ynni ac arbed tua £5 miliwn y flwyddyn ar filiau ynni.
Lleihau'r defnydd o ynni
Yng Nghymru, disodlodd Hwb Torfaen dros 40 o ffitiadau golau, gan roi LED ynni is yn eu lle. Amcangyfrifir mai’r arbediad blynyddol yw £2,019 a 5.1 tunnell o CO2.
Mae'r gwelliant syml hwn wedi arwain at newid ymddygiad. Oherwydd bod y goleuadau newydd yn llawer mwy disglair, nid yw defnyddwyr yn eu troi ymlaen i gyd. Mae wedi helpu i greu meddylfryd newydd: “Mae gennym bellach bolisi amgylcheddol, mae gennym ddau berson ifanc sydd bellach yn 'hyrwyddwyr hinsawdd' ac mae dod yn garbon niwtral yn flaenllaw yn ein meddyliau, mae'r grant hwn wedi newid diwylliant ein sefydliad.”
2. Ymgysylltu pobl â gweithredu hinsawdd
Mae pobl yn fwy parod i newid eu hymddygiad neu gymryd camau ar adegau penodol yn eu bywydau, neu mewn ymateb i newidiadau mewn cymdeithas.
- Mae pobl yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad a’u harferion yn ystod cyfnodau o drawsnewid, megis symud tŷ neu yn ystod newid ehangach mewn polisi a strategaeth. Felly mae'r newidiadau hyn yn gyfle i ymgorffori ffyrdd mwy ecogyfeillgar o weithio a byw. Pan gynhaliwyd cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 COP26 yn Glasgow, trefnodd Climate Action Fife ddigwyddiadau cyfranogiad torfol ar draws Fife ac ymgyrchoedd i gyd-fynd â’r gynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys yr ymgyrch “Big Five for Fife”, lle addawodd pobl i wneud newidiadau dyddiol cyraeddadwy, gyda chyngor a chefnogaeth ar sut i wneud iddynt bara. Mae’r grŵp yn amcangyfrif bod addewid y Big Five a’i gynllun ymgysylltu â’r hinsawdd wedi arwain at arbedion o 76 tunnell gyfatebol o garbon deuocsid, gydag arbediad oes o 228 tunnell.
- Gall adborth ar unwaith fod yn effeithiol wrth ysgogi pobl i weithredu. Yn Wiltshire, defnyddiodd Great Green Bedwyn amerâu gwres isgoch i ddangos i bobl y gwres oedd yn cael ei golli o'u cartrefi. Aeth 15 o bobl ymlaen i wella eu hinswleiddio a'u gallu i atal drafftiau, a gosododd rhai bwmp gwres. Ac rydym wedi gweld bod pobl yn ymateb i ymyriadau llai, fel monitorau ynni cartref: mae gweld y darlleniad yn saethu i fyny pan fyddwch chi'n rhoi'r tegell ymlaen yn eich annog i fod yn fwy gofalus ynghylch ei or-lenwi neu ei ferwi mor aml.
- Pwysleisiwch y cysylltiad rhwng gwaith amgylcheddol a phethau sydd eisoes yn bwysig i bobl. Helpodd Irwell Valley Sustainable Communities drigolion Salford i atal llifogydd yn eu cartrefi mewn ymateb i'r llifogydd yn Afon Irwell. Ysbrydolodd hyn brosiectau cynaliadwyedd pellach, gan gynnwys gerddi cymunedol, creu gwlyptiroedd, ac addysg llythrennedd carbon.
3. Gwneud pethau’n apelgar
Mae newid ymddygiad yn gofyn am ymdrech, felly mae'n helpu os ydych chi'n ei wneud yn ddeniadol. Os ydych chi'n cyflwyno gweithredu hinsawdd fel dewis apelgar, mae pobl yn fwy tebygol o gymryd rhan. Mae yna ffyrdd syml o wneud hyn:
- Pwysleisiwch y pethau cadarnhaol. Gall cyflwyno buddion cymdeithas werdd gynaliadwy fod yn fwy effeithiol na geiriad negyddol am aberthau a chyfrifoldeb. Nid yw hynny'n golygu na ddylech annog pobl i wneud dewisiadau gwahanol - ond mae'n helpu i bwysleisio'r manteision personol, cymdeithasol ac amgylcheddol, i helpu gwrthbwyso unrhyw anghyfleustra.
- Pwysleisiwch yr arian i'w arbed. Mae torri costau yn gymhelliant ac nid oes rhaid iddo fod yn anodd. Gellir lleihau biliau ynni drwy droi’r thermostat i lawr un radd, biliau dŵr drwy osod dyfeisiau arbed dŵr syml, a chostau tanwydd drwy feicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Nghymru, mae 303 o deuluoedd sy’n gweithio wedi arbed £426 y teulu y flwyddyn ar gyfartaledd drwy ddefnyddio llyfrgelloedd offer/teganau/gwisg ysgol, gwneud gwelliannau i’r cartref eu hunain, a chael awgrymiadau arbed arian ymarferol gan eraill yn y gymuned.
- Gwobrau a chydnabyddiaeth. Pan fyddwch yn cydnabod ymdrechion pobl, gall hyn eu hysgogi i wneud mwy. Rhowch gynnig ar wobrau bach ar gyfer y codwyr sbwriel mwyaf gweithgar, neu wobrau i bobl neu fusnesau sy'n cyflawni'r gostyngiadau mwyaf yn y defnydd o ynni. Mae straeon yn y wasg leol yn amlygu enghreifftiau ysbrydoledig o gymorth hefyd.
- Ond byddwch yn ofalus gyda chymhellion tymor byr. Gall gwobrau untro fod yn ddechrau da, ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod yr ymddygiad newydd yn dod i ben pan nad yw'r cymhelliant yno mwyach. Gall gwobrau tymor hirach fel gostwng biliau ynni yn barhaol, gwneud ffrindiau newydd, neu ddysgu sgiliau newydd fod yn fwy effeithiol wrth gefnogi newid ymddygiad parhaol.
4. Cydnabod awydd pobl i gysylltu a chael ymdeimlad o berthyn
Gall fframio gweithredu fel rhywbeth y gallwch ei wneud gyda'ch gilydd fod yn ysgogol iawn, gyda'r fantais ychwanegol nad yw pobl eisiau siomi eu ffrindiau neu eu cymdogion.
- Pwysleisiwch fanteision lles gweithredu. Mae’r 2 Minute Foundation yn annog pobl i dreulio dim ond dau funud yn codi sbwriel. Trwy ei gwneud yn syml i weithredu maen nhw wedi cynnull dros 80,000 o drigolion, gyda llawer yn dweud bod cymryd rhan wedi cryfhau eu hymdeimlad personol o bwrpas, gobaith ac optimistiaeth. I rai, mae’r gweithredu syml, cynnil hwn wedi helpu iddynt deimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymuned ac yn llai ynysig neu unig.
- Gall modelu rôl fod yn effeithiol. Gall hyrwyddwyr gwyrdd ddangos cyfranogiad ar lawr gwlad, tra gall arbenigwyr allanol gynnig cyngor wedi'i deilwra. Cofiwch fod personoliaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch chi'n ceisio bywiogi ac ysgogi eraill. P'un a ydych yn penodi rhywun o fewn y gymuned, neu'n chwilio am ymgynghorydd allanol, mae'n bwysig paru'r person â'r rôl.
- Mae pobl yn hoffi cyswllt wyneb yn wyneb, a help i oresgyn unrhyw rwystrau cychwynnol. Er enghraifft, mae pobl yn hapus i ddefnyddio technoleg a all arbed ynni ac arbed arian, ond yn aml yn cael eu digalonni gan gostau ymlaen llaw offer a gosod. Mae Leeds Handyman yn helpu pobl hŷn ac oedolion bregus gydag effeithlonrwydd tanwydd, trwy asesu cartrefi a gosod offer addas, fel thermostatau diwifr a switshis clyfar.
- Mae cyfranogiad pobl uwch yn y sefydliad yn helpu ysgogi eraill. Os yw arweinyddiaeth sefydliad yn buddsoddi’n amlwg mewn gweithredu hinsawdd, mae'n annog pawb arall i ymuno. Yn y Gronfa, rydym wedi gosod targedau a gynlluniwyd i'n helpu i gyrraedd sero net gweithredol erbyn 2030. Mae pob cyfarwyddiaeth yn ymrwymo i gamau amgylcheddol yn eu cynlluniau busnes, ac mae 68 o gydweithwyr wedi cael hyfforddiant mewn llythrennedd carbon. Rydym yn annog staff i sicrhau mai trafnidiaeth gyhoeddus yw eu dewis cyntaf ar gyfer teithio i’r gwaith. Caniateir teithiau awyren o fewn Prydain Fawr (ac eithrio ynysoedd yr Alban) fel eithriadau yn unig, gan dorri allyriadau CO2 82% rhwng 2019/20 a 2022/23. Yn yr un cyfnod, rydym wedi haneru allyriadau ar gyfer teithio a llety dros nos, ac wedi lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi 85%.
5. Cydnabod a rhannu'r cyd-fuddiannau
Mae llawer o weithredu ar yr hinsawdd yn cynnig manteision ychwanegol i unigolion a chymunedau, a chyfeirir at y rhain yn aml fel cyd-fuddiannau. Drwy bwysleisio'r rhain, efallai y byddwch yn ymgysylltu â phobl a allai fod yn llai hawdd eu cymell gan y manteision amgylcheddol yn unig.
- Dangos yr holl bethau cadarnhaol. Gall rhandir cymunedol gael llawer o fanteision amgylcheddol - ond gellir ei hyrwyddo hefyd fel cyfle i gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau garddio, a gwella iechyd a lles. Mae Y Fasged Siopa, sy'n casglu ac yn dosbarthu bwyd dros ben, yn rhoi cynhwysion iach, o ansawdd da i bobl sydd ei angen, gan arbed £912 y flwyddyn ar gyfartaledd i deuluoedd ar gostau cartref a dargyfeirio tua 18 tunnell o fwyd o safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.
- Gall cyfrifo a rhannu buddion ariannol helpu dylanwadu ar arweinwyr o fusnesau a grwpiau cymunedol. Pan gynyddodd prisiau ynni yn ystod argyfwng costau byw 2022/23, edrychodd lawer o sefydliadau at ynni gwyrdd i helpu diogelu eu hadeiladau ar gyfer y dyfodol rhag biliau cynyddol. Yn Carrickfergus, gosododd Band Pres CWA baneli solar ar ei neuadd gymunedol, gan leihau ei ddefnydd o ynni a gwneud y lleoliad yn fwy deniadol i grwpiau eraill ei ddefnyddio. Mae’r Band hefyd yn defnyddio’r paneli i hybu ymwybyddiaeth hinsawdd, gan gynnwys noson wybodaeth ynni solar gyda bwyd a darlith, a gwaith gyda chlybiau eco ysgolion lleol.
6. Bod yn gynhwysol
Mae pobl eisiau gweld eraill tebyg iddyn nhw fel rhan o fudiad, a gweld bod eraill yn cydnabod ac eisiau mynd i’r afael â phryderon penodol eu cymuned.
- Cymerwch gamau gweithredol i ymgysylltu â grŵp amrywiol o bobl. Mae addasiadau ymarferol fel recriwtio cynrychiolwyr cymunedol i rolau cyflogedig - a thalu’r cyflog byw, targedu gwaith allgymorth gyda chymunedau nad ydych yn eu cyrraedd a sicrhau bod lleoliadau dan do ac awyr agored yn hygyrch i bobl ag anableddau yn ffyrdd pwysig o wneud prosiectau amgylcheddol yn fwy cynhwysol.
- Cynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol wrth wneud penderfyniadau. Gall technegau cydgynhyrchu ac arweinyddiaeth sy’n amlwg yn amrywiol helpu gwneud gweithgareddau’n ddeniadol ac yn berthnasol i amrywiaeth ehangach o bobl.
- Rhowch broffil a llwyfan i'r gwaith sydd eisoes yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r rhagdybiaeth eang bod gweithredu amgylcheddol yn anghymesur o wyn a dosbarth canol. Mae ein hadroddiad ar gydgynhyrchu yn esbonio manteision dod â phobl a rhanddeiliaid ynghyd i greu a darparu gwasanaethau.
Adrodd stori newid: gwnewch hi'n ddiriaethol i'ch cynulleidfa
Mae Forest Recycling Project Llundain yn arbed paent dros ben o safleoedd tirlenwi, gan ei ailwerthu am gost isel. Mae'n darparu paent wedi'i adennill am ddim i breswylwyr cymdeithasau tai newydd, gan eu helpu i arbed arian ar gostau ailaddurno a lleihau gwastraff. Mae'r prosiect yn cymryd gofal i dawelu meddyliau cwsmeriaid nad yw'r dull hwn yn golygu ansawdd gwael.
Drwy leihau'r galw am baent newydd, amcangyfrifir bod y prosiect wedi arbed bron i 1.5 miliwn kg o allyriadau CO2.
Cydnabod a chefnogi'r gwaith sydd eisoes yn digwydd
Ym Mryste, mae'r Black and Green Ambassadors yn mentora arweinwyr gweithredu hinsawdd o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill.
Trefnodd y Llysgennad Asia Yousif weithdy i bobl o Swdan, Pacistan, Somalia, India, Eritrea a Sri Lanka i bigo a choginio gyda llysiau organig a thrafod cynaliadwyedd. Canfu fod llawer o arferion diwylliannol eisoes yn gynaliadwy, heb i bobl eu cydnabod felly.
Mae'r prosiect wedi creu cyfleoedd i leisiau amrywiol ddod yn rhan fwy o weithredu ar yr hinsawdd. Gwahoddwyd Black and Green Ambassadors i siarad yng nghynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn 2021 COP26. “Mae wedi ein rhoi ni yn yr ystafell gyda llunwyr polisi,” esboniodd y llysgennad Roy Kareem, wrth siarad â Maer Bryste, yng Nghynulliad Dinasyddion Hinsawdd Bryste, ac Wythnos Gweithredu ar yr Hinsawdd Llundain.
Darllenwch adroddiad blwyddyn gyntaf Black and Green ac adroddiad y Genhedlaeth Nesaf am ragor o wybodaeth am eu gwaith.
7. Dangos y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud
Mae enillion cyflym, newid gweladwy a chydnabyddiaeth o'r hyn y mae pobl wedi'i gyflawni yn gymhellion da oherwydd eu bod yn ddiriaethol a choncrit, ac yn adrodd stori newid cadarnhaol a thwymgalon.
- Gall gweld newid mewn mannau cymunedol, neu bobl leol eraill yn cymryd rhan weithredol, fod yn ysbrydoledig. Mae'n dangos y gall pobl fel chi wneud gwahaniaeth. Bydd gwelliannau cyhoeddus fel gerddi cymunedol, rhandiroedd a llwybrau beicio a cherdded bob amser yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Trefnodd Manchester Climate Change Agency weithgareddau gwyrddu trefol yn Chwarter Gogleddol prysur y ddinas, gan gynnwys planhigion ar y stryd a diwrnod garddio ar lawr uchaf maes parcio aml-lawr. Ac fe wnaeth y grŵp ymgysylltu â chefnogwyr pêl-droed Manchester City ac United mewn tair wythnos o heriau bwyd cynaliadwy. Dri mis ar ôl yr her, mae 70% o gyfranogwyr yn bwyta llai o gig, 83% yn gwastraffu llai o fwyd, ac mae cyfranogwr cyffredin yn arbed £17.47 ar eu siop wythnosol.
- Mae gwelliannau amgylcheddol weithiau'n anniriaethol: dewch o hyd i ffyrdd o'u gwneud yn ddiriaethol. Ym Mryste, mae Bristol Green Capital Partnership wedi defnyddio Ôl-Troed Carbon Cymunedol i ddangos pa weithgareddau sy'n gyfrifol am allyriadau, a faint o garbon y maent yn ei gynhyrchu. Trefnir y data yn ôl tai, trafnidiaeth, bwyd a diet, nwyddau a gwasanaethau, a rheoli gwastraff. Felly gall grwpiau cymunedol weld lle mae angen newid fwyaf, a pha gamau effeithiol y gellir eu cymryd ar lefel unigol neu gymunedol.
- Ceisiwch osgoi jargon a defnyddiwch iaith y gall pawb ei deall. Mae dogfen geirfa y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn helpu egluro termau a ddefnyddir yn gyffredin, a gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth y Cyfryngau, rydym wedi llunio pecyn cymorth cynhwysfawr i helpu cyfathrebu am weithredu hinsawdd yn effeithiol.
8. Parhau lefel yr egni
Gall prosiectau â therfyn amser ac unigolion brwdfrydig fod yn wych am ysgogi ymgysylltiad. Ond beth sy'n digwydd pan ddaw'r cyllid i ben, neu pan fydd y person yn symud ymlaen? Meddyliwch sut y byddwch yn cadw momentwm i fynd dros amser.
- Rhowch ymdeimlad o berchnogaeth i'ch rhwydweithiau i'w gwneud yn gryfach ac yn fwy parhaol. Gallai prosiectau gwyrddu – sy’n dod o hyd i ffyrdd o ychwanegu planhigion at gymdogaeth drefol, megis blychau ffenestri neu blannu fertigol – ofyn i wirfoddolwyr helpu gyda phlannu a dyfrio. Mae hyn yn annog balchder cymunedol, tra'n mynd i'r afael â'r angen am waith cynnal a chadw parhaus.
- Dewch o hyd i ffyrdd hwyliog o fesur cynnydd – bydd hyn yn cynnal egni a diddordeb. Mae'n galonogol gweld beth rydych chi wedi'i gyflawni, yn enwedig os yw'n cael ei wneud mewn ffordd ddifyr. Gosododd Footprints Women’s Centre baneli solar, bylbiau golau ynni effeithlon, inswleiddio waliau ceudod, a synwyryddion symudiad ar gyfer goleuadau i leihau eu hôl troed carbon. Yna gosododd y Ganolfan system storio ynni batri, i storio ynni dros ben o baneli solar, gyda sgrin ddigidol – sy'n dangos yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu, a'r arian a'r CO2 sy'n cael ei arbed. Mae’r sgrin yn cael ei harddangos yng nghyntedd y Ganolfan, lle mae wedi dod yn destun sgwrs fawr i bawb sy’n dod i mewn: mae staff yn ei defnyddio i godi ymwybyddiaeth ac eirioli dros gynaliadwyedd gydag ymwelwyr.
- Defnyddiwch gystadleuaeth iach i annog ac atgyfnerthu newid. Gallech annog pobl i olrhain faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi mewn saith diwrnod, yna gweld a allant wneud yn well yr wythnos nesaf.
- Gosodwch dargedau i gadw momentwm, rhannu eich nodau a chael hwyl. Fe allech chi gael tabl cynghrair o weithredu gwyrdd, i weld ble rydych chi'n gwneud y gorau, a lle gallech chi wneud yn well. Anogwch y gymuned i gymryd rhan mewn digwyddiadau garddio, a gweld pwy all orffen eu blwch ffenestr neu eu cynhwysydd planhigion yn gyntaf. Mae'n ffordd o wneud y broses yn gyflymach, ac i gael pobl i fuddsoddi yn y canlyniadau.
Eisiau dysgu rhagor neu rannu eich stori?
I gael rhagor o fanylion am sut mae ein helusennau a’n cymunedau wedi ymgysylltu pobl â gweithredu hinsawdd, darllenwch ein hadroddiad Gweithredu Cymunedol i’r Amgylchedd. Ac archwiliwch ein hawgrymiadau eraill ar greu cynllun gweithredu amgylcheddol a lleihau ôl-troed carbon digwyddiadau cymunedol.
Os ydych chi wedi cael llwyddiant wrth ysgogi trigolion yn eich cymuned, ystyriwch rannu eich awgrymiadau a'ch profiadau gyda ni drwy anfon e-bost at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk.