Siediau dynion

Mae siediau dynion yn cynnig cyfle i bobl gysylltu â'i gilydd wrth wneud a thrwsio pethau. Mae dros 600 o siediau ar draws y DU lle mae dynion (yn bennaf) yn adeiladu eitemau cartref a gardd fel blychau adar, silffoedd a theganau plant, yn atgyweirio electroneg, neu’n creu addurniadau a gwaith celf.

Maent yn arbennig o boblogaidd ymysg dynion hŷn, a all fod mewn mwy o berygl o unigrwydd, a gallant fod yn llai tebygol o ymuno â grwpiau cymdeithasol eraill. Trwy greu lle ar gyfer sgwrsio anffurfiol, gall siediau helpu dynion i fod yn agored.

Rydym ni wedi edrych ar siediau dynion o bob rhan o'r DU i ddod o hyd i saith peth allweddol a allai fod o gymorth i chi os ydych chi'n ystyried agor un yn eich cymuned.

Rydym hefyd yn rhannu tystiolaeth o'u heffaith ar y rhai sy'n eu defnyddio. Daw hyn o ganlyniadau saith arolwg o aelodau siediau, a gynhaliwyd gan: Armagh Men’s Shed (38 o gyfranogwyr); Men’s Sheds Cymru (44); Scottish Men’s Sheds Association (62); siediau Action Mental Health yn Downpatrick, Antrim, ac Enniskillen (103); siediau dynion Age UK Swydd Gaer (119); a rhwydwaith Age Scotland o 101 o siediau (133). Gallai hyn fod yn ddefnyddiol wrth lunio blaenoriaethau eich sied fel ei fod yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Gwrando ar yr erthygl hon

Gallwch wrando ar yr erthygl hon fel recordiad sain, sy’n para 28 munud a 8 eiliad, trwy glicio ar y botwm isod.

Siediau dynion

Rwy’n mwynhau’r cwmni’n fawr ac yn hoffi dysgu sgiliau a phethau newydd roeddwn i’n meddwl nad oeddwn yn gallu eu gwneud.
Aelod o Sied Dynion Armagh

1. Sgiliau, pwrpas, a dewis: cynnig y gweithgareddau cywir

Downpatrick Men's Club
Mae siediau dynion yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau

Mae siedwyr (“shedders” yn Saesneg), fel y gelwir cyfranogwyr weithiau, yn hoffi gwneud rhywbeth sy'n teimlo'n gynhyrchiol. Fel y gwelsom o’n rhaglen Ageing Better, mae’n bosibl bod dynion yn “llai tebygol o gymdeithasu er mwyn cymdeithasu a byddai’n well ganddynt gael rheswm arall dros fynd allan a chwrdd â phobl eraill”.

Dyma ffyrdd o sicrhau eich bod yn cynnig y gweithgareddau cywir ar gyfer eich siedwyr:

  • Cymerwch syniadau ac awgrymiadau. Ledled y DU, mae siediau’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, o waith coed ac adnewyddu adeiladau cymunedol i ddosbarthiadau TG, adeiladu setiau trên model a chanu mewn côr. Drwy wrando ar siedwyr, gallwch wneud eich sied yn bwrpasol, gyda dynion yn dewis yr hyn y maent am weithio arno yn hytrach na dilyn glasbrint.
  • Cynigiwch hyblygrwydd. A fyddai’n well gan rywun gymryd rhan mewn sesiwn gwaith coed a drefnwyd ymlaen llaw, neu drwsio eu cadair eu hunain sydd wedi torri? Ydyn nhw'n hoffi gweithio ar rywbeth sydd o fudd i'r gymuned, neu rywbeth ar gyfer eu cartref eu hunain? Pan fydd siedwyr yn dilyn eu diddordebau eu hunain, mae'n cynyddu ymgysylltiad, ac yn rhoi perchnogaeth iddynt.
  • Ystyriwch weithgareddau pwrpasol, yn seiliedig ar sgiliau. Pan gyfwelodd Age Scotland ag aelodau ei sied dynion, eu tri phrif reswm dros ymuno oedd dysgu sgiliau newydd, rhoi eu sgiliau ar waith, a helpu'r gymuned. Mae tystiolaeth yn cadarnhau bod siediau yn eu helpu i wneud hyn: dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr (rhwng 75%–97%) i’r arolygon a restrir uchod eu bod wedi dysgu sgiliau newydd. Yn siediau Downpatrick, Antrim, ac Enniskillen, fe wnaeth llawer ohonynt “ail-ennyn sgiliau a diddordebau” mewn gwaith coed a gwehyddu basgedi, tra bod eraill wedi mwynhau dysgu sgiliau TG y gallent eu defnyddio gartref.
  • Rhowch gyfle i bobl roi yn ôl. Yn enwedig i ddynion hŷn, mae defnyddio gwybodaeth a sgiliau yn wych ar gyfer meithrin hunan-barch ac ymdeimlad newydd o bwrpas ar ôl ymddeol.
Mae’n rhyfeddol sut y byddem ni’n dweud wrth ein gilydd amdanom ein hunain a’n bywyd cartref na fyddem byth yn dweud wrth neb arall.
Aelod o Sied Dynion Armagh

2. Cefnogol ac ymlaciol: cael yr amgylchedd yn iawn

Mae gan y siediau dynion mwyaf poblogaidd awyrgylch hamddenol, cyfforddus a chyfarwydd. Rydym wedi clywed, i rai dynion, ei bod yn haws bod yn agored am faterion personol yn yr amgylchedd hwn nag y byddai mewn lleoliadau eraill fel meddygon teulu neu grwpiau cymorth.

Gallai’r awgrymiadau canlynol eich helpu i greu awyrgylch anffurfiol a chynhwysol:

  • Gadewch i'r siedwyr ddewis eu cyflymder eu hunain mewn unrhyw sesiwn benodol. Canfu Sied Dynion Llandudno fod ei haelodau o “ddwy farn: y rhai sy’n dymuno eistedd o gwmpas, yfed coffi a sgwrsio, a’r rhai sy’n dymuno bod yn fwy ymarferol a gwneud pethau. Nid yw’r rhain yn annibynnol o’i gilydd, gallwch gynnwys y ddau ohonynt neu un yn unig.”
  • Cadwch y sesiynau’n hamddenol. Mae llawer o siediau'n codi arian drwy werthu'r eitemau y maen nhw’n eu creu, ond mae risgiau i hynny – yn enwedig os mai dyma unig ffynhonnell incwm y sied neu'r brif ffynhonnell incwm. Gall yr angen i wneud gwerthiannau wneud i'r gweithgareddau deimlo'n faich neu’n rhwymedigaeth i rai siedwyr, neu hyd yn oed achosi straen. Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn ceisio gwneud mwy nag y gallant ei wneud.
  • Gwnewch y lle’n gyfforddus. Mae seddi yn ei gwneud yn haws i siedwyr ymlacio a sgwrsio â phobl wrth iddynt weithio, gan gynnig awgrymiadau a sgwrs gyfeillgar. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl â chyflyrau iechyd neu broblemau symudedd sy'n amrywio, sy'n golygu bod gwaith ymarferol yn bosibl ar rai diwrnodau ac ar ddiwrnodau eraill mae angen iddynt arafu rhywfaint. Fe wnaethom gefnogi Sied Dynion Bethesda i gyflwyno seddi sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, fel bod pawb yn gallu cymryd rhan.
  • Cadwch hi'n glyd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cadw'n gynnes yn arbennig o bwysig i bobl dros 65 oed, neu sydd â chyflyrau meddygol. 18°C yw'r tymheredd isaf a argymhellir. Yn ystod argyfwng costau byw y gaeaf, canfu Wee County Men's Shed yn Clackmannanshire fod aelodau hŷn yn aros yn hirach yn y Sied, er mwyn osgoi rhoi'r gwres ymlaen gartref. Dyfarnwyd grant £6,000 gennym i helpu'r grŵp i ehangu ei oriau agor a chadw'r lle yn gynnes.
  • Sicrhewch fod y lle yn hygyrch. Mae pobl lawer yn fwy tebygol o fynychu gweithgareddau yn agos i'w cartrefi. Ac mae lleoli'r sied yng nghanol y gymuned yn ei gwneud yn fwy hygyrch a hawdd ei chyrraedd, yn enwedig i'r rhai y mae gweithgarwch corfforol yn anodd iddynt.
  • A all pawb gael mynediad i'ch lleoliad? Gallai hyn olygu mynediad heb risiau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai â symudedd cyfyngedig, neu well cymorth i bobl â dementia. Dyfarnwyd £10,000 gennym i wneud Barnsley Men's Shed yn ddementia-gyfeillgar. Derbyniodd y gwirfoddolwyr hyfforddiant, gosodwyd arwyddion clir, ac aildrefnwyd y lle gwaith i greu ardal dawel. Mewn partneriaeth â’r She Shed leol, sefydlodd y grŵp sesiynau rhyw cymysg dementia-gyfeillgar wythnosol.
Y bobl sy’n gwneud y lle…y peth pwysicaf yw’r tegell.
Aelod o Sied Dynion Armagh

3. Gwneud ffrindiau, gwneud cysylltiadau

Portstewart Men's Shed
Mae siediau dynion yn gallu helpu dynion i gysylltu â’i gilydd

Mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ynysig yn gymdeithasol na menywod. Trwy gynnig cysylltiad a lle i siarad, gall siediau helpu mynd i'r afael â hyn. I lawer, nid yr hyn y maent yn ei greu neu'n ei drwsio yw'r budd pwysicaf, ond y perthnasoedd y maent yn eu meithrin â siedwyr eraill.

Yn siediau Action Mental Health, dywedodd 100% o 103 o ymatebwyr eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd, gyda chyfartaledd o 13 ffrind newydd yr un.

Dyma rai syniadau y gallech chi roi cynnig arnynt er mwyn helpu eich aelodau i feithrin cyfeillgarwch ymddiriedus, cefnogol sy’n ymestyn y tu hwnt i’r gweithdy:

  • Anogwch ddynion i ddod yn ôl trwy gynnig rhaglen amrywiol, barhaus o weithgareddau a phrosiectau, wedi'u llywio gan yr hyn y maent yn ei fwynhau ac yn gofyn amdano. A pheidiwch â gorfodi sgyrsiau. Mae cyfranogwyr yn fwy tebygol o feithrin perthnasoedd wrth adeiladu cynhwysydd planhigion ar gyfer ffenestr ysgol leol neu ail-glustogi cadair freichiau, yn hytrach nag “eistedd o gwmpas yn yfed coffi,” fel y dywedodd un cyfranogwr.
  • Rhowch sylw i ddynion hŷn. Gwyddom fod dynion hŷn mewn mwy o berygl o ynysrwydd cymdeithasol – ac y gall siediau helpu mynd i’r afael â hyn. Er enghraifft, gallech ystyried sesiynau aml-genhedlaeth – cyfle i ddynion ddysgu eu sgiliau i bobl iau (neu i'r gwrthwyneb), a theimlo bod eu gwybodaeth a'u profiad yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Byddwch yn ymwybodol o gyfrifoldebau gofalu. Mae amser mewn sied yn rhoi seibiant prin i rai cyfranogwyr. Fel y dywedodd un, “Roedd angen i mi gwrdd â phobl eraill i gymdeithasu a chael cwmnïaeth gan mai fi yw gofalwr fy ngwraig a does gen i ddim llawer o amser i fi fy hun.” Mae hyn yn golygu bod amser yn werthfawr ac efallai bod ganddyn nhw syniadau penodol am sut hoffen nhw ddefnyddio hynny yn y sied.
  • Dewch o hyd i ffyrdd o gysylltu eich sied â'r hyn sy'n digwydd yn lleol. Mae ymchwil yn awgrymu bod cysylltedd cymdeithasol yn helpu gwella lles a lleihau effaith sefyllfaoedd bywyd heriol. Rydym wedi gweld siedwyr yn dod i adnabod ac yn cyfrannu at ganolfannau cymunedol lleol, ysgolion, grwpiau, a chenedlaethau iau trwy weithgareddau sy'n eu cysylltu â'i gilydd. Ym mhob sied a arolygwyd, roedd o leiaf hanner yr aelodau yn teimlo mwy o ymdeimlad o berthyn neu fod yn rhan fwy gweithredol o'u cymuned. Yn Armagh, mae 97% o’r aelodau’n teimlo’n fwy cysylltiedig â’r gymuned o ganlyniad i gymryd rhan – a esbonnir gan y cydweithio gyda saith ysgol a 17 o eglwysi ac elusennau.
Dwi wedi gwneud tua 22 o ffrindiau newydd na fyddwn byth wedi cwrdd â nhw oni bai am y sied dynion.
Ymatebydd arolwg Age Scotland

4. Recriwtio siedwyr

Mae yna lawer o ffyrdd i ledaenu'r gair am eich sied.

  • Hyrwyddwch eich sied mewn mannau lle mae dynion lleol yn mynd. Gallai hynny olygu ysgolion, lleoliadau chwaraeon, tafarndai, clybiau gweithwyr, barbwyr, neu eglwysi, temlau, a mosgiau. Gallwch hefyd farchnata eich sied i deuluoedd aelodau potensial: efallai y bydd angen anogaeth ar rai tadau, gwŷr neu frodyr i ymuno.
  • Hysbysebwch eich sied yn eich mannau lleol – mannau lle mae pobl yn dod ar draws ei gilydd yn naturiol, fel archfarchnadoedd, neuaddau pentref, a meddygfeydd. Mae stondinau mewn digwyddiadau lleol yn ffordd dda arall o rannu gwybodaeth.
  • Cynhaliwch ddiwrnodau agored. Anogwch bobl i ymweld â'r sied a dysgu beth sydd ar gael. Mae sesiynau wedi'u targedu yn ffordd dda o gyrraedd grwpiau penodol o ddynion. Canfu Church Crookham and Fleet Men’s Shed fod darpar aelodau weithiau'n cael eu dychryn gan y torfeydd o bobl yn ei dyddiau agored. Roedd y Sied hon yn gwybod bod yna boblogaeth gyn-filwrol leol sylweddol, ac roedd am gynnwys mwy o gyn-filwyr. Mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac Armed Forces Connect, defnyddiodd grant bach gan y Loteri Genedlaethol i gynnal diwrnodau agored ar gyfer cyn-filwyr yn unig.
  • A all eich sied helpu'r gymuned ehangach? Gallai siedwyr adeiladu blychau planhigion ar gyfer canolfan gymunedol, neu baentio ffensys ar gyfer ysgol leol – gyda'r fantais ddwbl o ledaenu'r gair a dangos cefnogaeth ymarferol i sefydliadau lleol eraill.
  • Trefnwch sesiynau i gyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd. Mae’n bosibl na fydd dynion yn eu 50au a’u 60au cynnar yn gallu mynychu gweithgareddau yn ystod yr wythnos yn ystod oriau gwaith – ond gallai’r un sesiynau fod yn ddeniadol i ddynion sydd wedi ymddeol.

5. Siediau dynion yn unig a rhyw cymysg

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mannau i ddynion yn unig yn fuddiol ac yn ddymunol. Gall stereoteipiau a stigma barhau i wneud i ddynion deimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu gwendidau, yn enwedig o flaen menywod. Mewn astudiaeth o grwpiau cymorth cymheiriaid Mind ar gyfer dynion, adlewyrchodd grwpiau ffocws fod “pobl yn mynd yn swil – nid ydynt eisiau siarad am broblemau, yn enwedig o flaen menywod”, gan esbonio “pe bai menywod yno, mae'n debyg y byddai’n rhaid i chi berfformio eto.”

Gall llefydd i ddynion yn unig ei gwneud hi'n haws siarad am iechyd corfforol a meddyliol. Galwodd Jason Schroeder, a sefydlodd y sied gyntaf yn yr Alban yn 2009, siediau yn “lle cymdeithasol i ddynion ymlacio yn eu cwmni eu hunain. Nid oes rhaid iddynt wylio’r hyn y maen nhw’n ei ddweud, gallant dynnu coes a chael hwyl. Gallant siarad am brostadau a phob math o faterion iechyd nad ydynt byth yn mynd i siarad amdanynt o flaen menywod.”

A gall mannau i ddynion yn unig fod yn arbennig o bwysig i ddynion o gymunedau, lle mae menywod a dynion yn llai tebygol o gymdeithasu gyda'i gilydd.

Wedi dweud hynny, gall siediau fod yn rhai cymysg hefyd – er y gallai gymryd amser i bawb addasu. Pan ymunodd Ceri Alderton â Dunoon Men’s Shed, “roedd y bois yn arfer ymddiheuro am regi o fy mlaen i,” meddai wrth bapur y Scotsman, “ond dydyn nhw ddim yn gwneud hynny mwyach.”

Mae hi'n nodi y gallai fod gan wahanol lefydd farn llai derbyniol; mewn sied arall, “dywedodd un dyn os daw menyw yma, dwi’n gadael.” Ac mae hi'n pwysleisio bod y sied wedi'i bwriadu'n bennaf fel rhwydwaith cymorth i ddynion.

Dyma bethau i'w hystyried am siediau dynion yn unig a rhyw cymysg:

  • Y gyfraith ar fannau un rhyw. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dim ond os yw’n “fodd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon” y gall sefydliadau gwirfoddol gyfyngu eu gwasanaethau i un rhyw. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar wasanaethau un rhyw a'r Ddeddf Cydraddoldeb.
  • Hyd yn oed os yw sied ar gyfer dynion yn unig, gall gynnwys menywod mewn amrywiol ffyrdd o hyd, megis cyfeirio dynion i ymuno, neu gymryd rolau ymddiriedolwr neu arwain. Mae rhai siediau yn trefnu sesiynau rhyw cymysg, sy'n agored i bawb. Mae gan eraill grwpiau siediau merched, sy'n cyfarfod ar wahân i'r dynion, ond efallai eu bod yn rhannu lleoliad, yn cael eu rhedeg gan yr un sefydliad, ac weithiau'n gweithio ar brosiectau gyda'i gilydd.
  • Hyd yn hyn, ychydig o dystiolaeth sydd ar gael ynghylch aelodau sied trawsryweddol ac anneuaidd. Os yw eich sied yn cynnwys pobl drawsryweddol ac anneuaidd, meddyliwch sut y byddwch yn eu cefnogi, a gwnewch yn siŵr bod pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn cael eu derbyn.

6. Hybu gwell iechyd

Downpatrick Men's Club
Mae gweithgareddau’n cefnogi gwell iechyd

Mae siediau yn cefnogi lles. Er enghraifft, yn Men's Sheds Cymru, dywedodd 89% (39) o 44 o ymatebwyr eu bod yn “teimlo'n well” ers ymuno.

Mae rhai yn defnyddio Graddfa Lles Meddyliol Warwick-Caeredin i fesur newidiadau mewn lles cyn ac ar ôl bod yn rhan o sied am chwe mis neu fwy. Canfu Age UK Cheshire fod gan bob un o’r 119 o ddynion a arolygwyd les gwell ar ôl chwe mis, tra bod rhwng 47% a 55% yn cytuno’n gryfach â datganiadau am deimlo’n “ymlaciedig”, “defnyddiol”, a “hapus”.

Gall siediau dynion hefyd helpu pobl i fyw bywydau mwy iach yn gorfforol - trwy fwy o weithgarwch a thrwy annog aelodau i gymryd mwy o ofal dros eu hiechyd.

Er enghraifft, helpodd siediau 48% o gyfranogwyr yn yr Alban i ddelio â materion iechyd presennol, tra bod rhai eraill wedi cael eu cymell i wella eu deiet (8%), byw bywyd mwy iach (5%), yfed llai o alcohol (8%) a gadael y tŷ yn amlach.

Dyma ffyrdd y gallai eich sied helpu gwella iechyd corfforol aelodau:

  • Gall mynychu yn unig arwain at gynnydd mewn gweithgarwch corfforol. Canfu Age Scotland fod cymaint ag 85% (113 o 133) o siedwyr yn “fwy egnïol o ganlyniad i fod yn rhan o’r sied”. Canfu astudiaeth arall yn yr Alban gyfraddau gwelliant is, gyda 32% (20 o 62) yn fwy egnïol. Mae'r gwahaniaeth yn rhannol adlewyrchu'r gwahanol fethodolegau a lefelau gweithgarwch corfforol yn y siediau, ond canfu'r ddwy astudiaeth fod cynnydd mewn gweithgarwch yn deillio o dreulio amser 'ar eich traed' ar weithgareddau'r sied ac o gerdded yn rheolaidd i'r sied ei hun.
  • Cefnogi'r lefel gywir o weithgarwch corfforol. O ystyried y garfan oedran a lefel y cyflyrau iechyd hirdymor ymhlith cyfranogwyr (weithiau un o bob pedwar), mae risg y bydd cymryd rhan yn gadael rhai â llai o egni ar gyfer pethau eraill. Canfu Age UK Cheshire mai cael egni i’w sbario oedd y gwelliant lleiaf cyffredin ac roedd gan bron i un o bob pump lai o egni nag o’r blaen (18% neu 22 o 119 o ymatebwyr). Ond roedd y duedd yn dal i fod yn gadarnhaol ar y cyfan, gydag 82% (97) yn dweud bod ganddynt fwy neu'r un faint o egni.
  • Gall yr awyrgylch hamddenol wneud y sied yn lle da i geisio neu gynnig cyngor iechyd. Gallech wahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i rannu cyngor ar faterion fel hylendid deintyddol, diabetes, a phwysedd gwaed uchel. Gallwch gynnig sgyrsiau manwl am gyflyrau iechyd sy’n benodol i ddynion, fel canser y prostad a chanser y ceilliau. Cynhaliodd Sied Dynion Armagh sgyrsiau iechyd ar bynciau gan gynnwys canser y coluddyn, dementia, colli clyw. Roedd hefyd yn cynnig cwrs ymwybyddiaeth iechyd chwe wythnos, gan gynnwys profion pwysedd gwaed a phwysau.
  • Gallai fod yn haws cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i siediau sefydledig sydd wedi cael amser i adeiladu eu haelodaeth a rhwydwaith o gysylltiadau. Gallai siediau llai gynnig cymorth llai ffurfiol, gyda chanlyniadau cadarnhaol yn dod yn bennaf o gynnydd mewn gweithgarwch corfforol a chyswllt cymdeithasol.
  • Yn ogystal â gwahodd siaradwyr, gallech gynnig cyfeirio at wasanaethau eraill, neu ymuno â chynllun rhagnodi cymdeithasol lleol. Gall hyd yn oed gosod posteri helpu codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd cyffredin.
  • Sicrhewch fod dynion yn cael eu hannog i geisio gofal iechyd priodol os oes ei angen arnynt. Mae UKMSA yn darparu rhestr o sefydliadau ac adnoddau a all helpu gydag iechyd corfforol a meddyliol.
Mae dod i’r Sied yn gwneud i chi deimlo’n well, mae’n gwneud i chi eisiau gwneud pethau, mae gennych chi fwy o egni a chymhelliant i wneud pethau. Ac mae hynny'n rhan o ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd, ceisio gwneud ychydig mwy o ymarfer corff.
Cyfranogwr sied, yr Alban

7. Iechyd a diogelwch

Mae diogelwch yn hanfodol mewn unrhyw weithdy neu sied. Gallai rhai gweithgareddau gynnwys offer risg uchel fel offer pŵer. Dylai fod gan y lleoliad fesurau diogelwch tân a chymorth cyntaf. A dylid cymryd diogelu o ddifrif, yn enwedig wrth weithio gyda siedwyr sy’n agored i niwed a allai fod angen gofal ychwanegol, neu fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Dyma ffyrdd o wneud eich sied yn amgylchedd gweithio diogel.

  • Cytunwch ar bolisi iechyd a diogelwch, yn amlinellu beth fyddwch chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel. Mae UK Men’s Shed Association (UKMSA) yn cynnig templedi y gallwch eu defnyddio i adeiladu un eich hun. Dylai'r polisi gael ei arddangos yn glir, yn ddelfrydol ar y safle ac ar-lein. Mae gan UKMSA hefyd dempledi ar gyfer asesu risg, sy'n eich helpu i nodi peryglon posibl a'r rhagofalon y dylech eu cymryd i'w hatal. Dylid diweddaru'r asesiad risg yn rheolaidd.
  • Cynnig hyfforddiant iechyd a diogelwch sylfaenol i aelodau. Rydym wedi dyfarnu grantiau i lawer o siediau i dalu costau diogelwch a hyfforddiant offer. Mae rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i siedwyr yn ddefnyddiol: sied pawb yw hi, felly mae diogelwch yn gyfrifoldeb i bawb. Mae UKMSA yn awgrymu gofyn i bob siediwr gytuno i reolau diogelwch sylfaenol, megis “Peidiwch â siarad â rhywun sy’n defnyddio peiriant”, “mae arwynebau clir yn fwy diogel”, a “gofynnwch am help os ydych chi’n codi rhywbeth”. Dylai'r cyfnod sefydlu ar gyfer aelodau newydd gynnwys hyfforddiant diogelwch.
  • Dylai fod gennych swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig a goruchwylwyr diogelwch ar y safle, yn enwedig pan fydd gweithgareddau'n peri risg uwch o anafiadau. Gallech hyfforddi siedwyr i gymryd y rolau hyn – gan roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd.
  • Sicrhewch fod pawb yn gwybod am y risgiau i gadw llygad amdanynt. Mae gan UKMSA ddyluniadau ar gyfer posteri diogelwch y gallwch eu hargraffu a'u harddangos. Dylai fod gan bosteri ffontiau mawr, clir, a dylent fod ar gael yn yr ieithoedd y mae siedwyr yn eu siarad.
  • Cadw'r adeilad yn ddiogel. Sicrhewch fod gennych ganllawiau ac offer diogelwch tân, arwyddion a mannau ymgynnull wedi'u neilltuo. Darparwch offer amddiffynnol personol priodol, fel gogls a menig. Gwiriwch lefelau llwch yn rheolaidd, a gwnewch yn siŵr bod gan weithdai systemau awyru addas ac echdynnu llwch.
  • Cael polisi clir ar ddiogelu. Mae hyn yn amddiffyn pobl a all fod angen gofal neu gymorth ychwanegol (efallai oherwydd anabledd, oedran, neu salwch), neu a all fod yn fwy agored i gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae UKMSA yn cynnig templedi polisi diogelu, gydag argymhellion ar gyfer atal, gwiriadau a gweithdrefnau adrodd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant digonol, fel diogelu eiddo, rhwymedigaethau i bobl, codi arian neu ddigwyddiadau, amddiffyn ymddiriedolwyr ac arian parod a gedwir ar y safle.

8. Adnoddau

Mae mudiad siediau dynion wedi bodoli ers yr 1990au, felly mae digon o ganllawiau ar gael.

Eisiau dysgu rhagor neu rannu eich stori?

Os oes gennych chi syniadau gwych o'ch profiad eich hun, ystyriwch eu rhannu â ni drwy anfon e-bost at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darllen pellach, mae ein hadroddiad ar Ragnodi Cymdeithasol yn amlygu sut y gall gweithgareddau cymunedol eraill fel siediau dynion helpu gwella lles.

Wedi’i ddiweddaru diwethaf: Dydd Llun 11 Rhagfyr, 2023