Arferion Gwneud Grantiau
Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella ein harfer o wneud grantiau - boed hynny yn y gwahanol ffyrdd y gallwn symud pŵer i gymunedau drwy wneud Grantiau Cyfranogol, sicrhau bod lleisiau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hystyried drwy ein harferion Pobl Ifanc Yn Arwain, annog ein deiliaid grant i fabwysiadu dulliau sy'n ymwybodol o'r hinsawdd yn eu prosiectau, neu asesu ein grantiau yn seiliedig ar y wybodaeth fwyaf perthnasol am dechnoleg , data a digidol.
Dyma lle rydym yn rhannu'r hyn rydym yn ei archwilio, yr adnoddau rydym yn eu creu a'r mewnwelediadau rydym yn eu casglu o brofi dulliau gweithredu newydd yn ymarferol.
Byddwn yn ychwanegu adnoddau a deunyddiau i’r dudalen hon wrth i ni barhau i wrando a dysgu o’r sector am yr hyn sy’n gweithio orau iddyn nhw.