![](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/Foothold-Cymru-Helping-Working-Families-Tablet.png?auto=compress%2Cformat&crop=faces%2Cedge&fit=fill&w=1280&s=bc79ea843237c1186d43cd6d11a6c200)
Dysgu o grantiau Helpu Teuluoedd sy'n Gweithio yng Nghymru
Beth sydd nesaf?
Yma gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio a’r hyn rydym wedi’i ddysgu ohoni. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad crynodeb sy’n rhoi trosolwg o’r hyn a ddysgwyd, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad llawn, mwy manwl (Saesneg yn unig) sy’n rhannu mewnwelediadau manwl o’r rhaglen.
Mae ein dysgu hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae cymunedau'n ymateb i'r argyfwng costau byw. Gallwch ddysgu rhagor am sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau trwy'r argyfwng costau byw ar ein gwefan. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am grant yng Nghymru drwy fynd i dudalen Cymru.