Changeworks: Creu Dyfodol Ynni Gwyrdd i’r Alban
Dyfarnwyd bron i £1.5 miliwn i Changeworks gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd i weithio gyda chymunedau yn yr Alban i gefnogi dad-garboneiddio cartrefi a grymuso cymunedau i weithio tuag at ddyfodol gwyrddach.
Mae prosiect yr Highland Energy Community Partnership, sy’n cynnwys Changeworks, gyda chefnogaeth gan Gyngor yr Ucheldir, Prifysgol yr Ucheldir a’r Ynysoedd, a Home Energy Scotland, yn ceisio cynyddu mynediad i ôl-ffitio technolegau ynni gwyrdd domestig, trwy uwchsgilio cymunedau gwledig wrth ddarparu mwy o fynediad i hyfforddiant i weithwyr crefft yn yr ardal.
Nod y prosiect yw cefnogi cymunedau sydd wedi cael trafferth cael mynediad i gefnogaeth a chyngor addas ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni yn hanesyddol.
Dengys ymchwil o Arolwg Cyflwr Tai diweddaraf Llywodraeth yr Alban fod 25% o gartrefi yng nghefn gwlad yr Alban yn dioddef o dlodi tanwydd o gymharu ag 17% yn yr ardaloedd trefol.
Y llynedd, darparodd Changeworks gyngor arbed ynni i 64,000 o aelwydydd ledled yr Alban, gan helpu dros 13,000 o aelwydydd i osod mesurau arbed ynni a thechnolegau adnewyddadwy, a, thrwy ei dîm Cynhesrwydd Fforddiadwy, arbedwyd dros £1 miliwn i’r aelwydydd.
Un ardal o’r Ucheldir sydd wedi elwa ar eu gwaith yw ynys Raasay. Gyda phoblogaeth o ddim ond 179, cafodd ei dewis yn 2022 fel un o chwe ynys yn yr Alban i gael eu cefnogi gan brosiect Ynni Cartref yr Alban, Changeworks, sy’n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gefnogi’r ynysoedd i gyrraedd sero net erbyn 2040.
Canlyniad y gwaith ar Raasay oedd 42 o Adroddiadau Gwella Ynni Cartref, sy’n cynrychioli bron i hanner o’r aelwydydd ar yr ynys, gyda dros 20 eiddo hefyd yn cael eu hadnabod yn addas ar gyfer cefnogaeth bellach trwy’r Highland Council Area Based Scheme (ABS), a dros 12 yn addas ar gyfer eu cyfeirio at y rhaglen Warmer Homes Scotland (WHS).
Dywedodd Josiah Lockhart, Prif Weithredwr Changeworks: “Rydyn ni’n gwybod fod gweithio gyda phartneriaid cymunedol yr ymddiriedir ynddynt yn cynyddu effaith ein gwaith yn sylweddol yn y cymunedau, p’un ai yw hyn yn cynyddu’r ymgysylltiad ym maes effeithlonrwydd ynni, neu’n cefnogi cymunedau i ymgymryd â’r mesurau yn gallen nhw eu gweithredu ar y cyd.
“Rydyn ni’n gwybod fod gan gefn gwlad yr Ucheldir beth o’r stoc tai gwaelaf yn yr Alban, sy’n cael ei waethygu gan anawsterau cael mynediad i’r gadwyn cyflenwi ynni gwyrdd lleol. Mae maint y prosiect hwn yn golygu y gall y dysgu bellach gael ei rannu rhwng cymunedau.
“Gyda chymorth y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau i gefnogi cymunedau yn eu hymdrechion i ostwng allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.”