Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni yn agor i geisiadau
Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni yn agor i geisiadau, gan sicrhau bod £20 miliwn ar gael i brosiectau partneriaeth fel rhan o'n hymrwymiad 10 mlynedd o £100 miliwn i ysbrydoli mwy o bobl i weithredu ar yr hinsawdd mewn cymunedau ledled y DU.
Wedi'i ddisgrifio fel y bygythiad mwyaf i'r amgylchedd naturiol a chymdeithasau y mae'r byd erioed wedi'i brofi, gall yr argyfwng hinsawdd deimlo'n rhy fawr, yn rhy frawychus ac yn rhy gymhleth i'w hystyried hyd yn oed. Mae ymchwil yn dweud wrthym fod 80% o oedolion y DU yn poeni am effaith newid hinsawdd ar eu cymuned leol, ac mae dau draean (64%) yn credu yng ngrym gweithredu unigol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar newid hinsawdd mewn cymunedau.*
Rydym yn gwybod bod newid hinsawdd yn bwysig i gymunedau, felly mae'n bwysig i ni. Credwn, gan y bydd yn effeithio ar bawb yn y pen draw, fod angen i'n hymateb gynnwys pawb. Mae cefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy yn un o bedwar nod allweddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei strategaeth 2030, 'Cymuned yw’r man cychwyn'.
Ers 2019, mae £78.6 miliwn wedi cefnogi 550 o brosiectau ledled y DU. Nawr, rydym yn sicrhau bod £20 miliwn arall ar gael drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni gyfer prosiectau partneriaeth uchelgeisiol sy'n cysylltu gweithredu hinsawdd â bywydau a diddordebau bob dydd cymunedau lleol i ysbrydoli mwy o bobl i weithredu.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n sicrhau bod y rhai sydd â’r risg mwyaf o’u bywydau yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, yn ogystal â phobl sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu yn cael eu cefnogi i leisio eu barn.
Yr hyn rydym eisiau ei gyflawni
Wrth ddylunio'r thema ariannu newydd hon, gwnaethom gysylltu ag arbenigwyr y sector a oedd yn rhannu ein cyffro am y cyfle i ganolbwyntio ar bartneriaethau, dulliau a themâu annisgwyl ac anarferol a sut mae gan yr arian hwn botensial i gyrraedd pobl a chymunedau nad yw eraill wedi gallu eu cyrraedd.
Gan feddwl ymlaen at yr hyn y gallai'r arian hwn ei gyflawni, tynnodd aelodau’r sector sylw at yr angen am straeon annisgwyl i helpu catalyddu, cynnwys mwy o bobl yn y sgwrs, a normaleiddio gweithredu ar y cyd. Sut beth fyddai sicrhau fod pawb yn clywed rhywbeth ysgogol am weithredu hinsawdd o leiaf unwaith y dydd?
Rydym yn gwybod bod angen llais pawb arnom i wneud newid sylweddol yn yr hinsawdd. Mae hyn yn golygu ymgysylltu â chronfa lawer ehangach o bobl, sy’n fwy cynrychioliadol o'n cymdeithas yn ei chyfanrwydd - ac yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli’n flaenorol.
Yn bwysicaf oll, hoffem weld prosiectau'n helpu cymunedau i drosi geiriau yn gamau ymarferol i greu dyfodol gwell i bawb.
Pwy ddylai ymgeisio
Rydym yn annog ceisiadau gan bartneriaethau nad ydynt yn cael eu harwain gan sefydliadau sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd/amgylchedd. Rydym yn dal eisiau gweld partneriaethau ag arbenigedd hinsawdd yn cael eu cynnwys ond rydym yn awyddus i weld grwpiau sy'n meddwl yn wahanol am sut i fynd ati i weithredu ar newid hinsawdd i greu newid mentrus a chyffrous. Hoffem weld newid sylweddol o ran ymgysylltiad y cyhoedd â'r mater. Po fwyaf uchelgeisiol, gorau oll!
Rydym yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol lle credwn y gall ein harian gael yr effaith fwyaf ac rydym yn disgwyl i bob partneriaeth sy'n gwneud cais fod yn gweithio mewn un neu'r ddau faes.
Yn gyntaf, cysylltu gweithredu hinsawdd â bywydau a diddordebau bob dydd cymunedau lleol. Gallai hyn olygu prosiectau nad ydynt yn dechrau gyda'r hinsawdd fel y canolbwynt ac yn hytrach yn canolbwyntio ar ddiddordebau a gweithgareddau cymunedau lleol. Gallai hyn fod drwy gysylltu â chelf a cherddoriaeth, iechyd a lles neu hyd yn oed y clwb pêl-droed lleol!
Cydweithiodd Climate Outreach â Pledgeball, elusen yn y DU, i ysbrydoli cefnogwyr pêl-droed i gael sgyrsiau a gweithredu ar newid hinsawdd. Mae'r bartneriaeth yn newid perthynas cefnogwyr pêl-droed gyda gweithredu hinsawdd, drwy eu hannog i ymrwymo i addewidion ffordd o fyw carbon isel - fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd gêm, a chamau gweithredu ehangach fel gosod paneli solar.
Mae hyn yn creu cystadleuaeth lle mae timau'n addo ar y cyd i arbed y mwyaf o allyriadau i ennill gêm, gan greu 'cynghrair' o ymrwymiadau, cymell gweithredu hinsawdd a chreu casgliad gweladwy o bobl yn gweithredu.
Nesaf, hoffem weld partneriaethau sy'n dylanwadu ar gymunedau ar lefel ranbarthol neu genedlaethol. Fel cysylltu grwpiau ledled y DU ar ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. Neu helpu cymunedau i ddylanwadu ar y bobl sy'n llunio polisïau sy'n effeithio arnyn nhw. Gallai hyn fod mewn un wlad, neu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Mae Local Storytelling Exchange yn ysbrydoli gweithredu drwy amlygu straeon pobl a busnesau bob dydd sy’n cymryd camau cadarnhaol ar gyfer yr hinsawdd am ddyfodol gwell. Er bod straeon newyddion mawr yn tueddu tynnu sylw at fygythiad newid hinsawdd, mae'r Local Storytelling Exchange yn gweithio mewn lleoliadau allweddol ledled y DU i rannu straeon ar draws y cyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys trwy fap digidol ac mewn digwyddiadau all-lein i ddangos "dyma sut mae'r trawsnewid yn edrych" gan bobl fel ein ffrindiau, ein teulu a'n cydweithwyr ledled y DU.
A allai eich prosiect fod yn addas? Ewch i'r dudalen Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni ar gyfer meini prawf llawn y rhaglen ac i weld sut i ymgeisio neu i gofrestru ar gyfer gweminar am ddim.
Prosiectau rydym wedi'u hariannu:
Os ydych yn ystyried ymgeisio i'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni, mae'r prosiectau canlynol yn cynnig ysbrydoliaeth o'r hyn yr ydym wedi'i ariannu yn y gorffennol.
Sylwch fod y rhain wedi'u hariannu o dan thema wahanol drwy'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ond yn rhoi blas o'r uchelgais yr hoffem ei weld gan grwpiau llwyddiannus.
Mae Climate Action Leeds (CAL) yn ddull cydweithredu uchelgeisiol pum mlynedd, ledled y ddinas a ddarperir gan bartneriaeth o Voluntary Action Leeds, Our Future Leeds, Together for Peace, Leeds Tidal, CAG Consultants a Leeds Community Foundation. Pwrpas cyfunol CAL yw helpu llunio dinas sy'n ddi-garbon, yn gyfeillgar i fyd natur a theg yn gymdeithasol erbyn y 2030au.
Mae ei gylch blynyddol o ddigwyddiadau allweddol, a gynlluniwyd i gynnwys ystod amrywiol o gyfranwyr, yn cynnwys gwasanaethau hinsawdd ddwywaith y flwyddyn sy'n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas – pob un â ffocws pendant ar ymgysylltu â grwpiau/cymunedau penodol mewn gwahanol agweddau ar weithredu hinsawdd. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys un â ffocws ieuenctid, un arall fel rhan o benwythnos gwyrdd gydag un o'r hybiau cymunedol a gwasanaeth teuluol gyda thema gelfyddydol. Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu rhagor.
Nod partneriaeth rhwng tri sefydliad yng Nghaeredin, Communities Reduce, Reuse, Recycle, yw meithrin gallu mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig i gyfrannu at y targed lleol o drosglwyddo i sero net erbyn 2030 a tharged Llywodraeth yr Alban erbyn 2045.
Gan ganolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd, bydd y grant £700,000 yn cefnogi Edinburgh and Lothians Regional Equality Council (ELREC), Networking Key Services, a Strengthening Communities for Race Equality Scotland (Score Scotland) i herio arferion gwastraff a defnydd anghynaliadwy ledled y ddinas. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni llythrennedd carbon yn benodol ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n ystyried amrywiaeth o ddiwylliannau a phrofiadau, gweithdai rheoli gwastraff ar gyfer bwytai Asiaidd, ailgyfeirio bwyd dros ben i deuluoedd trwy oergelloedd a phrydau bwyd cymunedol, a gweithdai bwyd a ryseitiau gan ddefnyddio bwyd dros ben a llysiau tymhorol lleol.
Mae Cumbria Action for Sustainability yn brosiect pum mlynedd uchelgeisiol a gyd-ddyluniwyd gan 11 partner a'r gymuned leol i wneud Cumbria di-garbon erbyn 2037. Gan weithio gyda grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu, parciau cenedlaethol, busnesau a'r gymuned ffermio, mae'r prosiect hwn ar draws y sir yn edrych ar drafnidiaeth, gwastraff, adeiladau a defnydd tir i leihau allyriadau mewn bywyd bob dydd ledled Cumbria.
Mae dwy Gynhadledd Hinsawdd Ieuenctid llwyddiannus wedi cyrraedd mwy na 500 o blant ysgol ledled y sir, ac mae mwy na 1,000 o bobl wedi cwblhau hyfforddiant llythrennedd carbon. Mae'r prosiect bellach yn cael ei gydnabod fel sefydliad Llythrennedd Carbon Platinwm gan y Climate Literacy Trust, un o ddim ond wyth sefydliad yn y DU sydd wedi'u hachredu ar y lefel hon.
Dim ond os yw eich prosiect yn bodloni'r holl feini prawf y dylech chi ymgeisio ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni. Os yw eich prosiect yn addas, gallwch ymgeisio ar ein gwefan.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, mae gennym ni ddwy gweminar am ddim ym mis Mai. Gallwch gofrestru i fynychu un. Bydd recordiad o weminar mis Mawrth sydd wedi gwerthu allan hefyd yn dod yn fuan i'r dudalen we dros yr wythnosau nesaf.
Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd.
*Mae'r Mynegai Ymchwil Cymunedol yn arolwg blynyddol o dros 8,000 o bobl ledled y DU sy'n darganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymuned leol, a beth yw eu huchelgeisiau a'u blaenoriaethau ar gyfer eu cymuned yn yr hirdymor ac yn y flwyddyn i ddod. Cynhaliwyd yr ymchwil ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan Savanta rhwng 6 Hydref a 13 Tachwedd 2023. Cafodd oedolion eu pwysoli i gynrychioli oedolion y DU yn ôl rhywedd, oedran, rhanbarth, gradd gymdeithasol ac ethnigrwydd.