Ein hymrwymiad
Ein Cynllun Amgylcheddol:
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai ‘Cymuned yw’r man cychwyn’. Gwyddom fod cymunedau'n hapusach ac yn iachach pan fyddant yn byw mewn amgylchedd o ansawdd uchel a bod nifer cynyddol o bobl a chymunedau ledled y DU yn pryderu am eu hamgylchedd.
Felly, un o’n pedwar nod cymunedol - lle byddwn yn canolbwyntio ein harian, ein dysgu a'n hymdrechion – yw cefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.
Ym mis Medi 2023 fe wnaethom lansio Cynllun Amgylchedd newydd. Mae'r cynllun hwn yn cael ei arwain gan weledigaeth a ddatblygwyd drwy ein sgyrsiau fel rhan o'n proses Adnewyddu Strategol, ac mae'n cyd-fynd ag amserlen ein strategaeth hyd at 2030.
Mae ein nodau ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol yn cynnwys:
- Bod yn ariannwr amgylcheddol o'r radd flaenaf: gan gefnogi prosiectau effeithiol sy'n diogelu ac yn gwella'r amgylchedd mewn ffyrdd sy'n bwysig i gymunedau lleol. Dysgwch ragor am ein hariannu hinsawdd.
- Gwella effaith amgylcheddol y sector gwirfoddol a chymunedol: byddwn yn gwneud hyn trwy arwain y ffordd yn ein harferion ariannu, cefnogi ac ysbrydoli ein hymgeiswyr a'n deiliaid grant i weithredu i amddiffyn a gwella'r amgylchedd, a defnyddio ein safle fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU trwy ddechrau cynnwys gofynion amgylcheddol yn ein holl ariannu.
Rydym yn darparu arweiniad ac ysbrydoliaeth i ddeiliaid grant ar sut i leihau eu hôl troed amgylcheddol ac enghreifftiau da o weithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned, trwy'r Hwb Hinsawdd hwn.
- Arwain y ffordd wrth reoli ein heffaith amgylcheddol: gwneud yr hyn yr ydym yn ei ddweud, a gweithio tuag at sero net, rhannu ein harferion ar hyd y ffordd i ysbrydoli eraill.
Mae ein hymrwymiad i leihau ein heffaith carbon wedi'i ardystio gan Planet Mark.
- Dangos dylanwad ac arweinyddiaeth: dod â rhanddeiliaid at ei gilydd, gan arddangos y rôl y mae cymunedau yn ei chwarae wrth wella ein hamgylchedd. Byddwn hefyd yn rhannu ein gwybodaeth, ein tystiolaeth a'n dysgu, er mwyn ehangu'r effaith amgylcheddol gadarnhaol rydym yn anelu at ei chael.